- Area:
- DU gyfan
- Programme:
- Release date:
- 14 12 2012
Mae elusen addysg wedi derbyn ychydig dros £265,000 gan y Gronfa Loteri Fawr heddiw i ddarparu mynediad i addysg ar gyfer plant tlawd a difreintiedig yn nwyrain Wganda.
Mae Africa Educational Trust (AET) yn un o bedwar o brosiectau sy'n rhannu mwy na £1.6 miliwn gan raglen Cymunedau Rhyngwladol y Gronfa Loteri Fawr, sy'n cefnogi prosiectau yn mynd i'r afael ag achosion tlodi ac amddifadedd ynghyd â'r effaith y maen nhw'n ei chael ar fywydau pobl.
Bydd y prosiect, sydd wedi'i leoli yn Mbale yn nwyrain Wganda, yn creu buddion ar gyfer hyd at 300 o blant bregus ar y stryd sydd wedi ffoi rhag gwrthdaro, tlodi a chwalfa deuluol, ac ar gyfer tua 12,000 o blant ysgol tlawd sy'n mynychu ysgolion cynradd gorlawn a chydag adnoddau prin. Ers i Lywodraeth Wganda gyflwyno addysg gynradd am ddim ym 1997, mae nifer y plant wedi cynyddu'n fawr ond ni welwyd cynnydd cyfatebol yn y gyllideb, gan adael yr ysgolion yn hynod o orlawn a chydag adnoddau prin iawn. Bydd yr ariannu'n galluogi'r prosiect i redeg cyrsiau 'paratoi ar gyfer yr ysgol' a gweithgareddau hamdden difyr ar gyfer plant, a bydd hefyd yn darparu cefnogaeth seicogymdeithasol a 'phecynnau dechrau'r ysgol' ar gyfer plant ar y stryd.
Bydd y prosiect hefyd yn darparu hyfforddiant ar gyfer athrawon, pwyllgorau rheoli ysgolion a chymdeithasau rhieni ac athrawon mewn wyth ysgol gynradd i helpu athrawon i ddeilio â phlant stryd heriol a meintiau dosbarth mawr, ac i ddefnyddio adnoddau'n effeithiol. Bydd yn sefydlu llyfrgelloedd ysgol ac yn darparu adnoddau ysgol hanfodol eraill gan ddibynnu ar anghenion penodol yr ysgol unigol. Bydd pwyllgorau cynyddu ymwybyddiaeth yn cael eu rhedeg hefyd, gan gynnwys pwyllgorau amddiffyn plant, gorsafoedd radio lleol a'r heddlu, a chan hyrwyddo cefnogaeth well ar gyfer plant ar y stryd a phlant bregus.
Meddai Lesley Waller, Cydlynydd y Rhaglen AET: "Mae nifer mawr a chynyddol o blant stryd yn Mbale, Wganda, oherwydd tlodi, trychinebau amgylcheddol - megis llaidlithriadau - a gwrthdaro sy'n dinistrio gallu teuluoedd cyffredin i amddiffyn eu plant.
"Ar y stryd, mae plant yn wynebu peryglon lluosog, o gamdriniaeth gorfforol a rhywiol i ecsbloetio economaidd ac aflonyddu gan yr heddlu. Mae dychwelyd i'r ysgol yn ffordd effeithiol o gael y plant yn ôl i fywyd diogel a normal. Gyda chefnogaeth gan y Gronfa Loteri Fawr, bydd AET a'i bartneriaid yn Wganda yn gallu rhoi'r cyfle hwn iddynt, yn ogystal â gweithio ar yr hyn sy'n eu cymell i fynd ar y stryd a'r problemau y maen nhw'n eu profi pan fyddant yno."
Mudiad arall sy'n derbyn ariannu y mis hwn yw APT Action on Poverty, a fydd yn defnyddio eu grant o ychydig o dan £500,000 i weithio mewn pedwar ardal o Dalaith Orllewinol Kenya, er mwyn gwella bywydau pobl sy'n byw gyda HIV ac AIDS a'u mynediad i fwyd. Bydd yn gweithio hefyd i gynyddu ymwybyddiaeth o faterion HIV, mynd i'r afael â gwahaniaethu a helpu pobl i gynyddu eu hyder a chymryd rhan yn gynyddol yn eu cymuned. Bydd y prosiect yn galluogi o leiaf 7,000 o oedolion a 13,000 o blant amddifaid a bregus i gael digon o fwyd trwy gydol y flwyddyn. Bydd deiet cytbwys yn helpu i wella'u hiechyd a lleihau'r cyfle y byddant yn dioddef o heintiau gan olygu y byddai angen cyffuriau gwrthfirysol.
Dyfarnwyd ychydig o dan £352,000 i Gronfa Cymorth Rhyngwladol Gatholig Yr Alban hefyd i weithio gyda chymunedau mewn 13 o bentrefi yn Nhalaith Stung Treng, Cambodia. Bydd y prosiect yn helpu'r cymunedau i ddiogelu a chydnabod eu hawliau cyfreithiol i dir ac adnoddau naturiol. Bydd hyn yn helpu i gynyddu eu diogelwch bwyd ac incwm cartref, gwella'u hiechyd, a'u gwneud yn llai agored i effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Yn olaf, dyfarnwyd ychydig o dan £500,000 i Practical Action i weithiau gyda chymunedau ffermio ym Manicaland, Simbabwe i'w helpu i gryfhau eu bywoliaeth a chynyddu eu hincwm. Bydd yn gwneud hyn trwy wella cynhyrchu amaethyddol a galluogi ffermwyr i ymwneud â marchnadoedd ar delerau gwell. Bydd yn gweithio'n uniongyrchol â ffermwyr graddfa fach i ffurfio a chryfhau grwpiau marchnata ffermwyr, gwella cadwynau cyflenwi ac adfer cysylltiadau â marchnadoedd.
Meddai Peter Ainsworth, Cadeirydd DU y Gronfa Loteri Fawr: “Mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r rownd derfynol o ariannu Cymunedau Rhyngwladol eleni. Bydd y pedwar prosiect sy'n cael eu hariannu heddiw yn llythrennol yn achub bywydau a, gobeithio, yn helpu rhai o bobl fwyaf bregus y byd i gael blwyddyn newydd sy'n llawer mwy hapus ac iach. Bydd gwaith ysbrydoliaethus y mudiadau hyn yn darparu mynediad hanfodol ar gyfer cymunedau difreintiedig i wasanaethau addysg ac iechyd, a'r cyfle i wella'u hincwm, eu bywoliaethau a'u dyfodol. Rydym yn falch iawn o fedru cefnogi nhw."
Mwy o Wybodaeth
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 020 7211 1888
Cyswllt cyfryngau y tu allan i oriau: 07867 500 572
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Gofyn cwestiwn i'r Gronfa Loteri Fawr yma: http://ask.biglotteryfund.org.uk/cymorth/wales/
Dilynwch y Gronfa ar Twitter: www.twitter.com/LoteriFawrCymru #CLF
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/BigLotteryWales
Nodiadau i Olygyddion
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf arian achosion da y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am ddyrannu 40% o'r arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r rhai mwyaf anghenus, ac wedi bod yn dosbarthu grantiau ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac achosion elusennol ar draws y DU. Ers iddi ddod i fodolaeth yn 2005 mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu bron £6 biliwn.
- Sefydlwyd y Gronfa’n swyddogol gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £29 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags