- Area:
- DU gyfan
- Programme:
- Release date:
- 19 3 2013
Dydd Sul yma, bydd gwylwyr Channel 4 yn darganfod p'un a yw'r ffermwyr. a chyflwynydd teledu enwog, Jimmy Doherty, wedi llwyddo i sicrhau £2 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr i ddatblygu fferm sy'n cynnig egwyl fer am ddim i bobl anabl a'u teuluoedd.
Mae'r prosiect yn ymddangos yn ail bennod y gyfres deledu newydd sbon, The Secret Millions a ddarlledir am 8pm ar ddydd Sul 24 Mawrth. Mae'r gyfres yn gweld y Gronfa Loteri Fawr yn ymuno â Channel 4 i amlygu syniadau radical ar gyfer mynd i'r afael â rhai o'r problemau mawr ym Mhrydain. Mae'r prosiectau'n cael eu hasesu'n gyfrinachol gan y Gronfa Loteri Fawr ac, os ydynt yn llwyddiannus gallant wireddu eu syniadau gyda chyfran o gronfa ariannu werth £10 miliwn The Secret Millions, y swm mwyaf erioed i gael ei ddosbarthu ar gyfres Channel 4.
Yn y bennod hon mae Jimmy yn helpu i brofi ffordd newydd o roi egwyl y mae ei hangen yn fawr i deuluoedd sy'n cynnwys person anabl. Yn dod ynghyd gydag Ymddiriedolaeth Papworth, mae Jimmy yn cynnig ei fferm ei hun i deuluoedd y mae angen seibiant arnynt, gan ddysgu sgiliau newydd iddynt a gwerthu eu hufen iâ gyda'i gilydd er mwyn iddynt gael amser aur gyda'i gilydd heb y straen o'u gweithdrefn ofalu bob dydd.
Mae Jimmy yn gwirfoddoli yn un o glybiau ieuenctid Ymddiriedolaeth Papworth, sy'n cynnig gweithgareddau i bobl anabl yn eu harddegau. Mae'r clybiau ieuenctid yn golygu y gall rhieni gael ychydig oriau ar eu pennau eu hunain bob wythnos. Pan fydd e yno, bydd yn chwilio am deuluoedd a allai elwa o aros ar ei fferm.
Un o'r bobl ifanc y mae Jimmy yn ei ddewis i gymryd rhan yn y treial yw Luke, sy'n 19 oed ac yn dod o Peterborough. Mae gan Luke Syndrom Down a daeth e i aros ar y fferm gyda'i rieni.
Meddai ei fam, Jane: “Bydd profiad y fferm yn aros gyda ni am byth. Pan fydd gennych amser i feddwl am bethau, rydych yn cael mwy o bersbectif ar eich bywyd ac yn ystyried sut y dylech chi fod yn treulio mwy o amser gyda'ch gilydd gartref a gwneud pethau gwahanol. Jest mwynhau bod gyda'ch gilydd a chael hwyl."
Ond yr hyn nad oedd y teulu'n ei wybod oedd bod llawer yn y fantol. Os gall Jimmy brofi bod y treial yn gweithio, gallai helpu i ddarbwyllo'r Gronfa Loteri Fawr i roi £2 miliwn i Ymddiriedolaeth Papworth i drawsnewid fferm o'r 16eg ganrif yng nghefn gwlad Cymru i leoliad hygyrch lle gall yr elusen gynnig seibiannau byr. Wrth i'r prosiect ddatblygu, mae Jimmy yn dechrau edrych ar anableddau mewn ffordd gwbl wahanol. Ond ydyn nhw wedi gwneud digon i sicrhau'r ariannu?
Mae'r rhaglen yn rhan o gyfres ddogfen pum rhan sy'n dilyn pum o bersonoliaethau Channel 4 wrth iddynt weithio gydag elusennau ar y rheng flaen i ddatblygu prosiectau newydd, tra'n ceisio helpu i sicrhau hyd at £2 miliwn o arian gan y Gronfa Loteri Fawr.
Meddai Adrian Bagg, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Papworth: “Yn Ymddiriedolaeth Papworth, deallwn yr effaith a achosir gan anableddau. Gall fod yn anodd cael amser o safon a di-staen fel teulu.
“Mae Secret Millions wedi rhoi'r cyfle i ni gynnig seibiannau byr gyda gwahaniaeth i deuluoedd yr oedd arnynt eu hangen. Roedd yn brofiad gwych ar gyfer y bobl dan sylw ac fel wnaeth wahaniaeth gwirioneddol; rydym yn gobeithio y bydd modd i ni gynnig seibiannau a ariennir i fwy o deuluoedd ar draws y DU."
Meddai Mike Theoudolou, un o Aelodau Pwyllgor y Gronfa Loteri Fawr, a gymerodd ran yn y broses ffilmio: “Roedd yn ysbrydoliaeth i weld y gwahaniaeth yr oedd ychydig o oriau'n unig ar Fferm Jimmy wedi'u gwneud i'r bobl ifanc a'u teuluoedd. Rwy'n siŵr eu bod mor gyffrous ag yr wyf innau i weld eu prosiect ar Channel 4, a gobeithiwn y bydd syndod sy'n newid bywyd ar ddiwedd y broses."
Meddai Golygydd Comisiynu Rhaglenni Dogfen Channel 4, Emma Cooper: “Mae wedi bod yn wych i wylio doniau Channel 4 yn cefnogi'r achosion syfrdanol hyn. Gyda'r hinsawdd ariannol anodd mae'r prosiectau hyn yn gwneud gwir wahaniaeth i bobl mewn ffyrdd hynod o flaengar. Rydym yn falch o fod yn cymryd rhan, ac mae'r gyfres hon yn amlygu pa mor bwysig y mae i gefnogi syniadau ar gyfer mentrau cymdeithasol llwyddiannus a chynaliadwy.”
Yn ystod y gyfres, bydd pum prosiect yn gweithio gyda thîm brwdfrydig a phrofiadol o arbenigwyr Channel 4 - Gok Wan, Katie Piper, Jimmy Doherty, Dave Fishwick a George Clarke. www.channel4.com/secretmillions
Mae'r gyfres 5 x 60m wedi'i chynhyrchu gan RDF Television (un o gwmnïau Zodiak Media) a Twenty Twenty (un o gwmnïau Shed Media). Y cynhyrchwyr gweithredol yw Tayte Simpson (RDF Television) a Meredith Chambers (Twenty Twenty).
Channel 4 ar gyfer The Secret Millions: Cécile Quinney: 020 7306 1095 neu cquinney@channel4.co.uk
Ymddiriedolaeth Papworth: Helen Sampson 01480 357259 neu helen.sampson@papworth.org.uk
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 020 7211 1888
Cyswllt cyfryngau y tu allan i oriau: 07867 500 572
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Gofyn cwestiwn i'r Gronfa Loteri Fawr yma: http://ask.biglotteryfund.org.uk/cymorth/wales/
Dilynwch y Gronfa Loteri Fawr ar Twitter: www.twitter.com/LoteriFawrCymru #CLF
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/BigLotteryFundWales
Nodiadau i Olygyddion
Ynglŷn â'r £10 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr
Fel rhan o'r Gronfa Loteri Fawr yn darparu'r £10 miliwn, rhoddwyd cyfle i'r cyhoedd leisio eu barn am ba faterion yr oeddent eisiau iddynt gael eu hariannu. Wrth lansio cais am farn yn 2011, gofynnodd Channel 4 a'r Gronfa Loteri Fawr i bobl sut y byddent yn gwario'r £10 miliwn o arian Loteri yn yr hinsawdd bresennol - trwy channel4.com/thebigdecision a thrwy gomisiynu Arolwg Ipsos-Mori o 2000 o bobl ar draws y DU. Helpodd y canlyniadau i'r Gronfa Loteri Fawr adnabod pum elusen a oedd wedi dyfeisio prosiectau cyffrous ac arloesol.
Ynglŷn â'r Gronfa Loteri Fawr
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf arian achosion da y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am ddyrannu 40% o'r arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r rhai mwyaf anghenus, ac wedi bod yn dosbarthu grantiau ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac achosion elusennol ar draws y DU. Ers iddi ddod i fodolaeth yn 2004 mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu bron £6bn.
- Sefydlwyd y Gronfa’n swyddogol gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £29 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Dyma'r tro cyntaf i'r Gronfa Loteri Fawr ofyn i'r cyhoedd helpu i ddylunio a datblygu rhaglen grantiau, o ddewis themâu'r rhaglen i'r mathau o brosiectau a buddiolwyr y maen nhw eisiau iddynt gael eu hariannu.
Ynglŷn ag Ymddiriedolaeth Papworth
Mae Ymddiriedolaeth Papworth wedi bod yn gweithio gyda phobl anabl ers bron 100 mlynedd, a gwyddwn y gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth parhaol i fywydau pobl. Mae ein gwasanaethau hanfodol yn cefnogi pobl i ddysgu sgiliau newydd, byw mor annibynnol â phosib mewn aelwydydd addas a chwilio am waith.
Rydym yn helpu pobl o bob oedran a chydag unrhyw fath o anabledd, nam neu salwch tymor hir. Mae llawer o bobl yn dod i'n canolfannau, caffis a chlybiau ieuenctid neu rydym yn eu cefnogi nhw yn eu cartrefi a'u cymunedau.
Gallwch ffonio ni am gefnogaeth neu wybodaeth ar 0800 952 5000. I gael mwy o wybodaeth neu i gymryd rhan, ewch i www.papworth.org.uk neu cliciwch Hoffi yn www.facebook.com/papworthtrust.
Tags