- Area:
- DU gyfan
- Release date:
- 21 12 2012
Mae Cadeirydd y Gronfa Loteri Fawr, Peter Ainsworth, wedi cyhoeddi'r penodiadau cyntaf heddiw i dîm nodedig o ymddiriedolwyr ar gyfer ei 'Hymddiriedolaeth Ysbryd 2012' newydd yn ogystal â £5 miliwn ychwanegol ar unwaith ar gyfer prosiectau sy'n paratoi ar gyfer gwaith yr Ymddiriedolaeth ei hun.
Mae cyhoeddiad Ysbryd 2012 heddiw yn adeiladu ar y penderfyniad gan y Gronfa Loteri Fawr ym mis Medi i fuddsoddi £40 miliwn mewn creu treftadaeth yn sgil Gemau 2012.
Meddai Peter Ainsworth: "Mae'n bleser gennyf gyhoeddi sefydlu 'Ymddiriedolaeth Ysbryd 2012' y bydd y Gronfa Loteri Fawr yn ei gwaddoli gyda hyd at £40 miliwn o arian achosion da. Gobeithiwn ddenu o leiaf cymaint â hynny o ffynonellau eraill."
"Mae'n newyddion gwych hefyd y gallwn gyhoeddi'r pum unigolyn ardderchog a mawr eu bri sydd wedi cytuno i weithio fel Ymddiriedolwyr yn y camau cynnar heddiw hefyd, gan olygu y gallwn roi dechrau deg i'r Ymddiriedolaeth Ysbryd 2012 trwy sefydlu strategaeth hir dymor ar ei chyfer, a chreu tîm a fydd yn cyflawni pethau sylweddol yn y dyfodol."
Yr ymddiriedolwyr yn y camau cynnar:
- Y Farwnes Sue Campbell - Cadeirydd Chwaraeon y DU a'r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid, y person ar flaen y gad gyda'r newidiadau a wnaeth chwaraeon Prydain yn fwy llwyddiannus nag erioed o'r blaen yng Ngemau 2012.
- John Gartside, OBE - cyn aelod bwrdd y Gronfa Loteri Fawr, Ymddiriedolwr Sefydlu Sefydliad Tim Parry Jonathan Ball dros Heddwch (y Ganolfan Heddwch) ac yn Ymddiriedolwr Sefydliad Elusennol Warrington Wolves. Mae John yn dod â'i gyfoeth o brofiad o weithio ym myd addysg, iechyd, elusennau a dyfarnu grantiau i'r ymddiriedolaeth.
- Y Farwnes Tanni Grey-Thompson - yn enillydd 11 medel aur, ac yn gyflwynydd yn y Senedd ac ar y teledu, bydd y Farwnes Grey Thompson yn dod â'i phrofiad Paralympaidd a gwleidyddol sylweddol i'r ymddiriedolaeth.
- Syr Nicholas Kenyon - Rheolwr Gyfarwyddwr Canolfan y Barbican ac, fel aelod o Fwrdd yr Olympiad Diwylliannol, person a helpodd i wneud 2012 yn fythgofiadwy o ran rhagoriaeth gelfyddydol yn ogystal â sgiliau chwaraeon.
- Dugald Mackie - yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth Etifeddiaeth y DU ar hyn o bryd, y corff a ariannodd dros 100 o brosiectau celf, chwaraeon ac addysg ar draws y DU fel rhan o'r dathliadau ar gyfer Llundain 2012 ac sy'n helpu prosiectau i ddatblygu etifeddiaeth yn sgil y Gemau.
Parhaodd Mr Ainsworth: "Bydd y grŵp terfynol o Ymddiriedolwyr yn cynnwys cynrychiolaeth o bob cwr o'r DU. Byddwn yn sicrhau bod cysylltiadau effeithiol yn cael eu creu rhwng gwaith sy'n gysylltiedig â Llundain 2012 a'r ymdrechion gwych sydd eisoes ar waith i greu a chynnal gweithgareddau cymunedol yn ystod y paratoadau ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2014 yn Glasgow."
Yn y cyfamser, gall y Gronfa Loteri Fawr gyhoeddi ei bod yn fodlon mewn egwyddor, yn ogystal â'r arian y bydd yn ei ryddhau i waddoli'r Ymddiriedolaeth newydd, i ddarparu o leiaf £5 miliwn ychwanegol ar unwaith i gefnogi gweithgareddau cymunedol o bwys cenedlaethol sy'n ymgorffori ysbryd 2012. Bydd y buddsoddiadau hyn yn cynnal momentwm hanfodol ac yn adeiladu ar lwyddiannau presennol wrth i'r Ymddiriedolaeth sefydlu ei hun.
Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn cynnal trafodaethau gyda nifer o fudiadau ynglŷn â sut y gellir cynnal y momentwm hwn.
- Join In - yr elusen a sefydlwyd i galfaneiddio arbenigedd a brwdfrydedd budd-ddeiliaid Gemau 2012 yn ystod 2013.
- Get Set - y rhaglen addysg am Lundain 2012 mewn ysgolion a cholegau ar draws y wlad i adeiladu ar a rhannu dyheadau'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd i greu newid cymdeithasol cadarnhaol.
- Sustrans - yr elusen gludiant genedlaethol, ynglŷn â sut y gallwn adeiladu ar gyffro'r tîm beicio Team GB i drefnu digwyddiad cymryd rhan torfol ar gyfer beicwyr fel cydnabyddiaeth o gwblhau dros 80 o rwydweithiau beicio a cherdded a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr.
- Britain’s Personal Best - menter a ysbrydolir gan 2012 sydd â'r nod o greu digwyddiad cenedlaethol eiconig newydd y gall pawb yn y DU gymryd rhan ynddo.
Yn amodol ar dderbyn cynigion o safon briodol, mae'r Gronfa Loteri Fawr yn gobeithio cyhoeddi mwy o wybodaeth am sut y bydd yn cefnogi'r syniadau hyn yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd, ac mae'n awyddus i glywed gan eraill am sut y gallant helpu i gyflwyno etifeddiaeth ar gyfer 2012.
Mwy o Wybodaeth
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 020 7211 1888
Cyswllt cyfryngau y tu allan i oriau: 07867 500 572
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Gofyn cwestiwn i'r Gronfa Loteri Fawr yma: http://ask.biglotteryfund.org.uk/cymorth/wales/
Dilynwch y Gronfa ar Twitter: www.twitter.com/LoteriFawrCymru #BIGlf
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/BigLotteryWales
Nodiadau i Olygyddion
- Ar 23 Medi cyhoeddodd y Gronfa Loteri Fawr y byddai'n sefydlu ymddiriedolaeth i gyflwyno etifeddiaeth Olympaidd a Pharalympaidd mewn cymunedau ar draws y DU.
- Mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi addo y bydd yr holl arian y mae'n ei dderbyn o werthu'r Pentref Olympaidd, sy'n debygol o fod rhwng £30 a £40 miliwn, yn cael ei ymrwymo i ymddiriedolaeth â phedwar amcan llywodraethu.
- Yn gyntaf dylai helpu gwirfoddolwyr sy'n ymwneud â'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd i gynnal eu hymrwymiad a'u hegni er budd eu cymunedau lleol.
- Yn ail, dylai'r Ymddiriedolaeth helpu i ysbrydoli cymunedau i feddwl am sut y gallant adeiladu ar y gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd sydd, trwy ddigwyddiadau megis Ras Gyfnewid y Ffagl a'r Olympiad Diwylliannol, wedi mynd y tu hwnt i Chwaraeon ac estyn allan i'r DU gyfan.
- Yn drydydd, dylai adeiladu ar y newid sylweddol mewn canfyddiadau a grëwyd gan y Gemau Paralympaidd i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o'r problemau sy'n wynebu pobl ag anableddau.
- Yn olaf, mae angen i'r ymddiriedolaeth ddarparu ffynhonnell ffocws a chefnogaeth hir dymor i gludo'r ysbryd DU Gyfan o gymryd rhan trwodd i Glasgow 2014 a'r digwyddiadau gwych a fydd yn nodi'r deng mlynedd i ddod.