- Area:
- DU gyfan
- Programme:
- Release date:
- 23 4 2013
Dyddiad darlledu: The Secret Millions, 8pm Nos Sul 28 Ebrill, Channel 4

Mae'r arbenigwr ffasiwn a steil, Gok Wan, wedi bod yn helpu i gefnogi pobl ifanc ddifreintiedig yn Llundain i ddatblygu sgiliau cyflogaeth trwy gynllun newydd. Os yw'n llwyddiannus gallai'r prosiect peilot sydd i'w ddangos ar The Secret Millions ar Channel 4 weld buddsoddiad o £2 miliwn o arian Loteri i'w ehangu.
Ymunodd Gok â Kids Company i helpu i dyfu menter hyfforddiant sgiliau swyddi peilot i wyth o bobl ifanc yn Llundain. Mae wedi bod yn gweithio gyda Kids Company a oedd wedi datblygu prosiect pythefnos a rhoi'r dasg iddo fe o ysbrydoli pobl ifanc i ddylunio a lansio cynnyrch newydd y gellir ei werthu ar y stryd fawr.
Yr hyn nad yw'r bobl ifanc dan sylw yn ei wybod yw bod y prosiect yr oeddent yn rhan ohono yn cael ei asesu'n gyfrinachol gan y Gronfa Loteri Fawr. Os ydynt yn llwyddiannus, byddant yn helpu Kids Company i sicrhau £2 miliwn i ehangu eu prosiect yn Llundain i helpu 115 o bobl ifanc dros ddwy flynedd.
Mae'r prosiect yn ymddangos ym mhennod olaf y gyfres deledu newydd sbon, The Secret Millions a ddarlledir am 8pm ar nos Sul 28 Ebrill. Mae'r gyfres yn gweld y Gronfa Loteri Fawr yn ymuno â Channel 4 i amlygu syniadau radical ar gyfer mynd i'r afael â rhai o'r problemau mawr ym Mhrydain. Mae'r prosiectau'n cael eu hasesu'n gyfrinachol gan y Gronfa Loteri Fawr ac, os ydynt yn llwyddiannus gallant wireddu eu syniadau gyda chyfran o gronfa ariannu werth £10 miliwn The Secret Millions, y swm mwyaf erioed i gael ei ddosbarthu ar gyfres Channel 4.
Yn ystod y cyfnod peilot, bydd y bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn derbyn hyfforddiant arbenigol gyda'r nod o roi'r sgiliau angenrheidiol iddynt i ddatblygu cynnyrch o'r dechrau i'r diwedd yn ogystal â dysgu sut i ddal gafael ar swydd a goresgyn eu sefyllfaoedd heriol eu hunain ar yr un pryd. Gweithiodd Gok yn agos gyda Camila Batamanghelidjh, Prif Weithredwr Kids Company, gyda Gok fel cyfarwyddwr artistig a Camila yn monitro ymddygiad a chyflwr meddyliol pob unigolyn er mwyn i agweddau ar yr hyfforddiant gael eu haddasu i'w helpu i gyflawni'r canlyniadau gorau.
Meddai Delaney a gymerodd ran yn y prosiect peilot: “Cyn mynd ar y cwrs hwn, bob tro y meddyliais am wneud unrhyw beth, bennais i lan yn meddwl 'Alla i ddim'. Ar ôl y cwrs roeddwn yn gallu dweud 'Gallaf' a dysgais mai'r unig beth oedd yn rhwystro fi oedd fi fy hun. Dyma'r peth gorau dw i erioed wedi'i wneud yn fy mywyd.”
Meddai Lori-Jane a gymerodd ran hefyd: “Roeddwn yn dwlu ar weithio gyda Gok, mwynheais mas draw. Teimlais fy mod wedi dysgu llawer o'r profiad hefyd ac mae wedi fy helpu'n wirioneddol i dyfu i fyny. Rwyf wedi bod yn defnyddio'r arwyddair 'Torri'r Cylch' bob diwrnod ers hynny.
Meddai Mike Theoudolou, Aelod Pwyllgor y Gronfa Loteri Fawr: "Roedd yn ysbrydoliaeth i weld y bobl ifanc yn gwerthu crysau-t ar y stryd fawr yr oedden nhw wedi'u dylunio eu hunain. Roedd yn anodd iawn rhyngweithio â nhw heb ddatgelu pam yr oeddwn i yno, ond gwnaeth eu sgiliau gwerthu a dylunio argraff fawr arnaf.”
Meddai Camila Batmanghelidjh, Prif Weithredwr Kids Company : “I rai pobl ifanc, mae eu plentyndod wedi ymwneud â goroesi, gan iddynt ddelio ag effeithiau cael eu cam-drin. Fel oedolion ifanc, gall yr effaith ddilynol olygu digalondid ac anobaith. Er mwyn iddynt gyflawni, mae angen pecyn gofal sydd wedi cael ei ystyried yn ofalus, y gobeithiwn ei gyflawni trwy ein cais i'r Gronfa Loteri Fawr."
Meddai Golygydd Comisiynu Rhaglenni Dogfen Channel 4, Emma Cooper: “Mae wedi bod yn wych i wylio doniau Channel 4 yn cefnogi'r achosion syfrdanol hyn. Gyda'r hinsawdd ariannol anodd mae'r prosiectau hyn yn gwneud gwir wahaniaeth i bobl mewn ffyrdd hynod o flaengar. Rydym yn falch o fod yn cymryd rhan, ac mae'r gyfres hon yn amlygu pa mor bwysig y mae i gefnogi syniadau ar gyfer mentrau cymdeithasol llwyddiannus a chynaliadwy.”
Yn ystod y gyfres, mae pum prosiect yn gweithio gyda thîm brwdfrydig a phrofiadol o arbenigwyr Channel 4 – Gok Wan, Katie Piper, Jimmy Doherty, Dave Fishwick a George Clarke. www.channel4.com/secretmillions Gwylio eto ar 4oD.
Mae'r gyfres 5 x 60m wedi'i chynhyrchu gan RDF Television (un o gwmnïau Zodiak Media) a Twenty Twenty (un o gwmnïau Shed Media). Y cynhyrchwyr gweithredol yw Tayte Simpson (RDF Television) a Meredith Chambers (Twenty Twenty).
Channel 4 ar gyfer The Secret Millions: Cécile Quinney: 020 7306 1095 neu cquinney@channel4.co.uk
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 020 7211 1888
Cyswllt cyfryngau y tu allan i oriau: 07867 500 572
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Gofyn cwestiwn i'r Gronfa Loteri Fawr yma: http://ask.biglotteryfund.org.uk/cymorth/wales/
Dilynwch y Gronfa Loteri Fawr ar Twitter: www.twitter.com/LoteriFawrCymru #CLF
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/BigLotteryFundWales
Nodiadau i Olygyddion
Ynglŷn â'r £10 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr
Fel rhan o'r Gronfa Loteri Fawr yn darparu'r £10 miliwn, rhoddwyd cyfle i'r cyhoedd leisio eu barn am ba faterion yr oeddent eisiau iddynt gael eu hariannu. Wrth lansio cais am farn yn 2011, gofynnodd Channel 4 a'r Gronfa Loteri Fawr i bobl sut y byddent yn gwario'r £10 miliwn o arian Loteri yn yr hinsawdd bresennol - trwy channel4.com/thebigdecision a thrwy gomisiynu Arolwg Ipsos-Mori o 2000 o bobl ar draws y DU. Helpodd y canlyniadau i'r Gronfa Loteri Fawr adnabod pum elusen a oedd wedi dyfeisio prosiectau cyffrous ac arloesol.
Ynglŷn â'r Gronfa Loteri Fawr
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf arian achosion da y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am ddyrannu 40% o'r arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r rhai mwyaf anghenus, ac wedi bod yn dosbarthu grantiau ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac achosion elusennol ar draws y DU. Ers iddi ddod i fodolaeth yn 2004 mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu bron £6bn.
- Sefydlwyd y Gronfa’n swyddogol gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £29 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Dyma'r tro cyntaf i'r Gronfa Loteri Fawr ofyn i'r cyhoedd helpu i ddylunio a datblygu rhaglen grantiau, o ddewis themâu'r rhaglen i'r mathau o brosiectau a buddiolwyr y maen nhw eisiau iddynt gael eu hariannu.
Ynglŷn â Kids Company
Wedi'i sefydlu ym 1996 gan Camila Batmanghelidjh, mae Kids Company (elusen gofrestredig rh. 1068298) yn darparu cefnogaeth ymarferol, emosiynol ac addysgol i blant a phobl ifanc fregus. Mae llawer o'r 36,000 maen nhw'n eu cefnogi wedi profi trawma ac esgeulustod lluosog ac yn byw mewn tlodi difrifol. Mae eu gwaith yn dod â gobaith i unigolion hynod o ddewr, a thrwy gefnogaeth ddi-ben-draw, maen nhw'n eu helpu i fyw bywydau gwobrwyol ac ystyrlon.
Mae gwasanaethau Kids Company yn cael eu cyflwyno ar draws chwe chanolfan a 40 o ysgolion mewn cymunedau difreintiedig. Maen nhw'n darparu gofal cynhwysfawr ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi profi trawma difrifol, yn byw ar ymylon cymdeithas ac wedi'u cuddio rhag gwasanaethau statudol. Mae gwaith Kids Company yn amrywio o ddarparu dillad a bwyd i gefnogaeth therapiwtig, addysg, hyfforddiant a sicrhau cyflogaeth yn y dyfodol.
- Mae 87% o ddefnyddwyr Kids Company yn wynebu anawsterau emosiynol ac iechyd meddwl
- mae 83% wedi profi trawma
- mae gan 82% broblemau gyda cham-drin sylweddau
(Gaskell, 2008, Queen Mary, University of London).
Yn 2007 cipiodd Kids Company Wobr Hawliau Dynol Liberty and JUSTICE. Yn 2010 fe'i dewiswyd fel 'Eiriolwr Tlodi Plant' gan y prosiect End Child Poverty ar gyfer eu llwyddiant wrth alluogi plant i gyflawni eu potensial llawn.
Tags