Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Fferm seibiant C4 yn bwrw 'mlaen gyda dyfarniad Secret Millions o £2m

Area:
DU gyfan
Programme:

Release date:
25 3 2013

Mae'r elusen Ymddiriedolaeth Papworth yn dathlu ar ôl i'r ffermwyr. a chyflwynydd teledu Jimmy Doherty eu helpu i sicrhau £2 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr i ddatblygu fferm sy'n cynnig egwyl fer am ddim i bobl anabl a'u teuluoedd.

Bydd yr ariannu'n galluogi Ymddiriedolaeth Papworth y mae ei phencadlys yng Nghaergrawnt i adnewyddu Fferm Ceri o'r 16eg ganrif mewn rhan brydferth o ganolbarth Cymru a dechrau croesawu teuluoedd o ran olaf yr haf eleni.

Gwnaed y penderfyniad ym mhennod y gyfres deledu newydd sbon, The Secret Millions, a ddarlledwyd neithiwr. Mae'r gyfres yn gweld y Gronfa Loteri Fawr yn ymuno â Channel 4 i amlygu syniadau radical ar gyfer mynd i'r afael â rhai o'r problemau mawr ym Mhrydain. Mae'r prosiectau'n cael eu hasesu'n gyfrinachol gan y Gronfa Loteri Fawr ac, os ydynt yn llwyddiannus gallant wireddu eu syniadau gyda chyfran o gronfa ariannu werth £10 miliwn The Secret Millions, y swm mwyaf erioed i gael ei ddosbarthu ar gyfres Channel 4.

Yn y bennod hon, helpodd Jimmy i brofi dull newydd o roi saib y mae ei angen yn fawr ar deuluoedd sy'n cynnwys person anabl. Yn dod ynghyd gydag Ymddiriedolaeth Papworth, cynigiodd Jimmy ei fferm ei hun i deuluoedd y mae angen seibiant arnynt, gan ddysgu sgiliau newydd iddynt a chynnig amser aur heb y straen o'u gweithdrefn ofalu bob dydd.

Cymerodd Luke, sy'n 19 oed ac yn hanu o Peterborough ran yn y ffilmio gyda'i rieni Chris a Jane. Mae gan Luke syndrom Down ac roedd yn eithaf swil pan ddechreuodd y prosiect, ond ers i'r ffilmio ddod i ben mae wedi mynd yn llawer mwy annibynnol, gan gymryd rhan mewn drama amatur yn lleol ac yn anelu at rôl mewn Eastenders un dydd.

Meddai ei dad, Chris: “Credais fod Luke yn mynd i'w chael hi'n anodd ond fe ymgynefinodd â phopeth. Roeddwn wedi fy syfrdanu. Credaf i'r profiad ar y fferm brofi i ni y gall Luke wneud pethau nad oeddem yn credu y gallai eu gwneud, ac efallai yr oeddem weithiau yn ei ddal yn ôl ychydig. Dywedodd hynny wrthym y gallem adael iddo fynd rhai camau ymhellach. Felly rwy'n credu yr oedd mynd ar y fferm yn werth chweil er mwyn yr hwb 'na i'w hyder."

Meddai Adrian Bagg, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Papworth: "Dyma newyddion gwych. Bydd modd i bobl anabl a'u teuluoedd ymgeisio bellach i gael seibiannau byr wedi'u hariannu diolch i'r Gronfa Loteri Fawr.

"Yn Ymddiriedolaeth Papworth gwyddwn y gall fod yn anodd i bobl anabl a'u teuluoedd gael amser da a heb straen gyda'i gilydd. Roedd y prosiect peilot a ddangoswyd yn The Secret Millions yn brofiad anhygoel ar gyfer y teuluoedd dan sylw. Erbyn hyn bydd modd i Ymddiriedolaeth Papworth gynnig y profiad fferm hwnnw i bobl anabl o unrhyw oedran, o ble bynnag yn y DU y maent yn dod.

Meddai Mike Theoudolou, Aelod Pwyllgor y Gronfa Loteri Fawr: “Roedd yn ysbrydoliaeth i weld y gwahaniaeth yr oedd ychydig o oriau'n unig ar Fferm Jimmy wedi'u gwneud i'r bobl ifanc a'u teuluoedd. Mae'n brosiect gwych ac mae'r Gronfa Loteri Fawr wrth ei bodd â medru ariannu cyrchfan seibiant brydferth a pharhaol yng nghefn gwlad Cymru."

Meddai Golygydd Comisiynu Rhaglenni Dogfen Channel 4, Emma Cooper: “Mae wedi bod yn wych i wylio doniau Channel 4 yn cefnogi'r achosion syfrdanol hyn. Gyda'r hinsawdd ariannol anodd mae'r prosiectau hyn yn gwneud gwir wahaniaeth i bobl mewn ffyrdd hynod o flaengar. Rydym yn falch o fod yn cymryd rhan, ac mae'r gyfres hon yn amlygu pa mor bwysig y mae i gefnogi syniadau ar gyfer mentrau cymdeithasol llwyddiannus a chynaliadwy.”

Yn ystod y gyfres, bydd pum prosiect yn gweithio gyda thîm brwdfrydig a phrofiadol o arbenigwyr Channel 4 - Gok Wan, Katie Piper, Jimmy Doherty, Dave Fishwick a George Clarke. www.channel4.com/secretmillions

Mae'r gyfres 5 x 60m wedi'i chynhyrchu gan RDF Television (un o gwmnïau Zodiak Media) a Twenty Twenty (un o gwmnïau Shed Media). Y cynhyrchwyr gweithredol yw Tayte Simpson (RDF Television) a Meredith Chambers (Twenty Twenty).

Channel 4 ar gyfer The Secret Millions: Cécile Quinney: 020 7306 1095 neu cquinney@channel4.co.uk
Ymddiriedolaeth Papworth: Helen Sampson 01480 357259 neu helen.sampson@papworth.org.uk
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 020 7211 1888
Cyswllt cyfryngau y tu allan i oriau: 07867 500 572
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Gofyn cwestiwn i'r Gronfa Loteri Fawr yma: http://ask.biglotteryfund.org.uk/cymorth/wales/
Dilynwch y Gronfa Loteri Fawr ar Twitter: www.twitter.com/LoteriFawrCymru #CLF
Dilynwch y Secret Millions ar Twitter yn #secretmillions
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/BigLotteryFundWales

Nodiadau i Olygyddion

Ynglŷn â'r £10 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr

Fel rhan o'r Gronfa Loteri Fawr yn darparu'r £10 miliwn, rhoddwyd cyfle i'r cyhoedd leisio eu barn am ba faterion yr oeddent eisiau iddynt gael eu hariannu. Wrth lansio cais am farn yn 2011, gofynnodd Channel 4 a'r Gronfa Loteri Fawr i bobl sut y byddent yn gwario'r £10 miliwn o arian Loteri yn yr hinsawdd bresennol - trwy channel4.com/thebigdecision a thrwy gomisiynu Arolwg Ipsos-Mori o 2000 o bobl ar draws y DU. Helpodd y canlyniadau i'r Gronfa Loteri Fawr adnabod pum elusen a oedd wedi dyfeisio prosiectau cyffrous ac arloesol.

Ynglŷn â'r Gronfa Loteri Fawr

Mae’r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf arian achosion da y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am ddyrannu 40% o'r arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol.

Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r rhai mwyaf anghenus, ac wedi bod yn dosbarthu grantiau ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac achosion elusennol ar draws y DU. Ers iddi ddod i fodolaeth yn 2004 mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu bron £6bn.

Sefydlwyd y Gronfa’n swyddogol gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.

Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £29 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Dyma'r tro cyntaf i'r Gronfa Loteri Fawr ofyn i'r cyhoedd helpu i ddylunio a datblygu rhaglen grantiau, o ddewis themâu'r rhaglen i'r mathau o brosiectau a buddiolwyr y maen nhw eisiau iddynt gael eu hariannu.

Ynglŷn ag Ymddiriedolaeth Papworth

Mae Ymddiriedolaeth Papworth wedi bod yn gweithio gyda phobl anabl ers bron 100 mlynedd, a gwyddwn y gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth parhaol i fywydau pobl. Mae ein gwasanaethau hanfodol yn cefnogi pobl i ddysgu sgiliau newydd, byw mor annibynnol â phosib mewn aelwydydd addas a chwilio am waith.
Rydym yn helpu pobl o bob oedran a chydag unrhyw fath o anabledd, nam neu salwch tymor hir. Mae llawer o bobl yn dod i'n canolfannau, caffis a chlybiau ieuenctid neu rydym yn eu cefnogi nhw yn eu cartrefi a'u cymunedau.
Gallwch ffonio ni am gefnogaeth neu wybodaeth ar 0800 952 5000. I gael mwy o wybodaeth am Fferm Ceri, ewch i www.papworth.org.uk/kerryfarm neu cliciwch Hoffi yn www.facebook.com/papworthtrust.



Tags

Buddiolwyr

  • Pobl ag Anableddau
  • Teuluoedd

Themâu

  • Iechyd a lles
  • Adnabod a diwallu angen

Categori

  • Cynnwys y cyhoedd
ADBORTH