Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Y Gronfa Loteri Fawr yn arwain y ffordd ar gyfer ymchwil cymdeithasol a meddygol

Area:
DU gyfan
Programme:
Ymchwil
Release date:
29 10 2007
Bydd rhaglen Ymchwil y Gronfa Loteri Fawr yn agor i dderbyn ceisiadau heddiw, a bydd hyd at £25 miliwn ar gael ar gyfer prosiectau ymchwil cymdeithasol a meddygol o ansawdd uchel.

Gall sefydliadau trydydd sector ymgeisio am grantiau am hyd at bum mlynedd gan y rhaglen, a fydd yn cael ei weinyddu gan Momenta a’i chefnogi gan Third Sector First.

Bydd grantiau rhwng £10,000 a £500,000 ar gael, gyda hyd at £1 miliwn ar gyfer prosiectau eithriadol. Gall ymgeiswyr sydd angen cefnogaeth ychwanegol ymgeisio am grantiau datblygu o hyd at £10,000 er mwyn helpu i ddatblygu eu cynnig ymchwil.

Dywedodd Prif Weithredwr y Gronfa Loteri Fawr, Stephen Dunmore: “Mae’r rhaglen Ymchwil yn rhaglen wedi’i harwain gan alw a fydd yn dyfarnu grantiau i elusennau a sefydliadau sector gwirfoddol sy’n ymgymryd ag ymchwil o ansawdd uchel ym meysydd iechyd a lles cymdeithasol. Yn y pendraw bydd lledaenu canfyddiadau’r ymchwil hwn yn arwain at ddatblygu gwell gwasanaethau ac ymyriadau ar gyfer pobl, gan wella bywydau ar draws y DU.”

Anogir sefydliadau sector gwirfoddol a chymunedol i gysylltu â phrifysgolion a’r gymuned ymchwil ehangach, serch hynny nid yw prifysgolion eu hunain yn gymwys i ymgeisio am arian. Elfen allweddol o’r rhaglen yw y bydd buddiolwyr a defnyddwyr yn gysylltiedig wrth osod yr agenda, ymgymryd â’r ymchwil, ei reoli a'i ledaenu.

Rhaid i'r prosiectau a ariannir gyflwyno’r ddau ganlyniad a ganlyn:

  • Gwell dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â themâu a chanlyniadau y Gronfa Loteri Fawr yn y DU
  • Gwell cyfranogiad a gwybodaeth y trydydd sector wrth ddatblygu'r ymchwil, mynd i'r afael ag ef a'i ddefnyddio

O leiaf un o’r canlyniadau a ganlyn:

  • Lledaenu ymchwil wedi’i arwain gan y trydydd sector yn well
  • Cyfranogiad cynyddol y buddiolwyr a defnyddwyr mewn ystod o rolau ymchwil
  • Gwell partneriaethau rhwng y trydydd sector a’r gymuned ymchwil

Mae Momenta wedi datblygu proses ymgeisio ar-lein a gellir cael mynediad ati yn www.bigresearchprogramme.org.uk. Bydd ymgeiswyr cofrestredig yn gallu cael mynediad at gyngor a chefnogaeth ar gysyniadaeth, cynllun a rheoli ymchwil gan Third Sector First.  Am wybodaeth bellach ffoniwch 08450 711 068 neu anfonwch e-bost at researchprogramme@aeat.co.uk

Yn ddiweddar mae’r Gronfa Loteri Fawr wedi penodi SHM i werthuso effaith y rhaglenni grantiau ymchwil etifeddiaeth ar draws y DU. Defnyddir canfyddiadau’r gwerthusiad i hysbysu cyflwyno’r rhaglen Ymchwil newydd a bydd yn cael ei rannu gyda deiliaid grantiau ac ariannwyr ymchwil eraill. Cyhoeddir yr adroddiad terfynol ym mis Chwefror 2008.

Gwybodaeth pellach

Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr: 020 7211 1888
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07867 500 572
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030 Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £2 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob 24 awr ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws y DU bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 280,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
  • Nod y rhaglen Ymchwil yw ariannu ymchwil meddygol a chymdeithasol o ansawdd uchel sy’n cefnogi themâu a chanlyniadau’r Gronfa Loteri Fawr.
  • Bydd y rhaglen Ymchwil yn dosbarthu grantiau yn uniongyrchol i elusennau a sefydliadau'r sector gwirfoddol. Mae’n bosibl na fydd gan lawer o’r sefydliadau hyn y gallu i ymgymryd ag ymchwil ar eu pennau eu hunain, mae'r Gronfa Loteri Fawr eisiau hyrwyddo partneriaethau rhwng y sector gwirfoddol a'r gymuned ymchwil.
  • Cyflwynir y rhaglen hon gan Momenta ar ran y Gronfa Loteri Fawr. Mae Momenta yn gweithio i'r sector Cyhoeddus er mwyn troi polisi yn arfer drwy gynnig ystod o wasanaethau rheoli rhaglenni. Mae ei raglenni yn cyrraedd busnesau, sefydliadau sector cyhoeddus, budd-ddeiliaid Trydydd Sector a’r cyhoedd yn gyffredinol. Mae Momenta yn cynnal seminarau cyn-ymgeisio. Mynnwch le drwy anfon e-bost at researchprogramme@aeat.co.uk
  • Mae Third Sector First yn gydweithrediad rhwng arbenigwyr o fewn maes ymchwil a pholisi cymdeithasol, yn gweithio'n bennaf yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Mae Third Sector First wedi llunio llyfryn arweiniad i'r rhaglen Ymchwil, ‘Designing and managing research’, a gellir ei ddadlwytho o wefan y rhaglen www.bigresearchprogramme.org.uk Bydd cyfres o weithdai cyngor a chefnogaeth ymchwil yn dechrau ym mis Ionawr 2008.

Tags

Themâu

  • Ariannu gwell
ADBORTH