Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Saliwt CLF i Arwyr yr Ail Ryfel Byd

Area:
DU gyfan
Programme:
Arwyr yn Ôl
Release date:
1 4 2009

Gall cyn filwyr yr Ail Ryfel Byd ledled y wlad gofrestru heddiw ar gyfer cynllun ariannu gwerth sawl miliwn o bunnoedd a fydd yn darparu cefnogaeth y Loteri ar gyfer teithiau coffaol i’r mannau lle bu brwydro.

Cyhoeddodd Cronfa Loteri Fawr heddiw agoriad y fenter ariannu, Arwyr yn Ôl 2, gan addo arian ar gyfer cyn filwyr, gwragedd, gweddwon a gofalwyr sydd am goffáu digwyddiadau drwy gydol 2009 a 2010.

Meddai Syr Clive Booth, Cadeirydd Cronfa Loteri Fawr: “Aberthwyd cymaint gan y genhedlaeth o ddynion a menywod a wasanaethodd y wlad hon yn ystod yr Ail Ryfel Byd, i amddiffyn y rhyddid yr ydym yn ei fwynhau heddiw.  Wrth iddynt heneiddio, daw pererindod i’r mannau lle bu brwydro yn fwy teimladwy a gwerthfawr i’n cyn filwyr.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw am ariannu Arwyr yn Ôl 2 yn adeiladu ar gefnogaeth flaenorol y Gronfa i’n cyn filwyr. Rydym yn falch i ni fedru cyfrannu at ddigwyddiadau yn nodi 60 mlwyddiant y digwyddiadau a arweiniodd at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd – gan gynnwys cynorthwyo 39,000 o gyn filwyr a’u gofalwyr i deithio tramor i ymweld gyda’r safleoedd lle bu brwydro.

“Dyma’r rheswm fy mod yn falch iawn o gyhoeddi lansiad Arwyr yn Ôl 2,  sy’n gyfle arall i ariannu teithiau i’r cyn filwyr a hoffai ein cefnogaeth i fynychu digwyddiadau coffáu ledled y byd.  Yn y modd hwn, gobeithiwn wneud ein rhan ar ran y genedl er mwyn anrhydeddu gwasanaeth ac aberth cymaint o’n cyn filwyr.”

Mae’r Gronfa wedi agor llinell gymorth Arwyr yn Ôl 2 er mwyn i’r cyn filwyr gael mwy o wybodaeth: Llinell Gymorth Arwyr yn Ôl 2, 0845 00 00 121. Mae cannoedd eisoes wedi mynegi diddordeb.

Meddai Pat White, Cadeirydd Cenedlaethol Cymdeithas Italy Star: “Rydym yn falch iawn bod Cronfa Loteri Fawr yn rhoi cyfle arall i fwy o’n cyn filwyr, rhai ohonynt am y tro cyntaf, i ddychwelyd i’r ardaloedd lle bu brwydro, a chladdu eu hunllefau.”

Aeth Pat White yn ei blaen: “Y tro cyntaf i mi fynd i mewn i fynwent rhyfel y Gymanwlad, roeddwn yn teimlo fel pe bawn yn mynd i fyd gwahanol, mor dawel a heddychlon: when you walk in peaceful lanes so green, remember them and think what might have been. Rydym yn eu cofio.”

Mae Cronfa Loteri Fawr eisoes wedi cefnogi cyn filwyr drwy raglen grantiau bychain Arian i Bawb, gan roi dros £178,000 i gefnogi teithiau coffaol eleni.

Wedi’i lansio i nodi 60 mlwyddiant hanesyddol D-DAY yn 2004, dyfarnodd cynllun blaenorol Arwyr yn Ôl CLF £16.6 miliwn i dros 39 mil o gyn filwyr, gwragedd, gweddwon a gofalwyr, er mwyn ariannu teithiau coffaol i faes y gad, mynwentydd a mannau arwyddocaol eraill yr Ail Ryfel Byd.

Arwyr yn Ôl oedd canolbwynt rhaglen Aduno Cyn Filwyr, yn cynnwys Cofio’r Ffrynt Cartref, a ddyfarnodd £19.2 miliwn i gefnogi digwyddiadau a gweithgareddau grŵp yn y DU i gofio’r rhai a gyfrannodd tuag at yr ymdrechion rhyfel ar y ffrynt cartref, ac Eu Gorffennol Eich Dyfodol, cynllun £9.6 miliwn cyfredol yn ariannu rhaglen addysg ac ysgolion ledled y DU i roi cyfle i bobl ifanc ddysgu am brofiadau rhyfel cyn filwyr yn uniongyrchol.

Gwybodaeth Bellach

Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Tu hwnt i oriau swyddfa: 07760 171 431
Llinell Gymorth Arwyr yn Ôl 2: 0845 00 00 121
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030
Llinell Destun: 0845 6021 659

Ceir manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grantiau Cronfa Loteri Fawr ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i olygyddion

  • Yng Nghymru, mae Cronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron i £1 miliwn yr wythnos o arian achosion da'r Loteri, sydd yn golygu, o’i gyfuno gyda dosbarthwyr eraill y Loteri, bod mwyafrif bobl Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect wedi’i ariannu gan y Loteri.
  • Mae Cronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr achosion da’r Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y DU ers ei ddechreuad ym Mehefin 2004. Cafodd ei sefydlu gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers cychwyn y Loteri Genedlaethol yn 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad, codwyd dros £22 biliwn ac fe ddosbarthwyd dros 300,500 o grantiau i’r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
  • Arwyr yn Ôl. Cynllun £17 miliwn a ddarparodd arian i gyn filwyr Ail Ryfel Byd, eu gwragedd, gweddwon a lle bo angen, eu gofalwyr cyfredol, i ymweld gyda’r mannau tramor lle bu’r cyn filwyr yn brwydro. Drwy gysylltu gyda gweithgareddau a ariannwyd drwy gynllun Eu Gorffennol Eich Dyfodol, mae Arwyr yn Ôl hefyd yn cynorthwyo i roi gwell dealltwriaeth i bobl ifanc am ymdrechion ac aberth cyn filwyr.
  • Darparodd Cofio’r Ffrynt Cartref grantiau rhwng £500 a £20,000 ar gyfer prosiectau rhanbarthol a lleol ledled y DU yn 2004-2005 yn coffáu digwyddiadau’r Ail Ryfel Byd a chyfraniad gwahanol grwpiau mewn cymdeithas.  Ariannodd y cynllun ystod eang iawn o brosiectau gan gynnwys dyddiau cymunedol arbennig; aduniadau ac arddangosfeydd; cofnodion o brofiadau’r rhai a oroesodd y Rhyfel; dramâu a darnau o gelfyddyd greadigol. Hefyd, ariannodd y cynllun nifer o grantiau cenedlaethol i sefydliadau megis y TUC i ariannu ystod o weithgareddau coffaol.
  • Eu Gorffennol Eich Dyfodol - cynllun addysg ac ysgolion cyfredol ledled y DU yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu am brofiadau rhyfel cyn filwyr yn uniongyrchol. Mae Cronfa Loteri Fawr yn gweithio’n agos gyda’r Imperial War Museum a’r sector amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau ledled y DU er mwyn cynorthwyo pobl ifanc i ymchwilio a dysgu am swyddogaethau a phrofiadau personol y lluoedd arfog a phobl gyffredin. Mae cystadlaethau wedi galluogi ysgolion i gymryd rhan mewn ymweliadau Ail Ryfel Byd gyda chyn filwyr. Mae gan yr Imperial War Museum wefan (www.theirpast-yourfuture.org.uk) gydag ystod o adnoddau at ddefnydd ysgolion a manylion prosiectau a gyflawnwyd gan amgueddfeydd ledled y DU.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Cyn-filwyr

Themâu

  • Cymunedau Cryfach

Categori

  • Adfywio
ADBORTH