Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Loteri yn rhoi gobaith am ddyfodol gwell i blant tramor

Area:
Gwledydd y tu allan i'r DU
DU gyfan
Programme:

Release date:
5 11 2007
Bydd plant ag anableddau yn Nicaragwa, Canolbarth America, yn cael cyfle i gofrestru mewn ysgolion cynradd prif ffrwd o ganlyniad i fuddsoddiad gwerth bron i £500,000 gan y Gronfa Loteri Fawr.

Mae’r dyfarniad yn un o dri grant, gwerth cyfanswm o £1.5 miliwn, i sefydliadau yn y DU sy’n cefnogi cymunedau tramor sydd ar y cyrion, drwy raglen Ryngwladol  y Gronfa Loteri Fawr.

Er bod Nicaragwa yn mwynhau fframwaith cyfreithiol a pholisïau addysg sy’n hyrwyddo addysg gynhwysol i blant ag anableddau, 4.5% yn unig yw’r gyfradd cofrestru yn yr ysgol, yn rhannol yn sgil y ffaith bod y plant yn wynebu agweddau o dosturi neu gamwahaniaethu yn yr ysgol ac o fewn y gymdeithas ehangach, sy’n effeithio ar eu hurddas a’u hunan barch.

Bydd CODA International Training, yn Llundain, yn defnyddio’r grant o £498,311 i wella cynhwysiad plant ag anableddau mewn ysgolion prif ffrwd, drwy hyfforddi athrawon a theuluoedd fel bod ganddynt sgiliau angenrheidiol i gynorthwyo plant ag anableddau i fynychu a chyfranogi’n llawn ym mywyd yr ysgol. Hefyd darperir hyfforddiant a chefnogaeth i deuluoedd, athrawon a grwpiau cymdeithasau sifil, i sicrhau a gweithredu hawliau i bobl ag anabledd, tra bydd ymgyrchoedd yn y cyfryngau a’r gymuned hefyd yn sicrhau bod llywodraethau yn fwy ymwybodol o anghenion a hawliau plant ag anableddau.

Meddai Samira Yussuf, Cyfarwyddwr CODA International: “Ni allwn ddisgrifio ein brwdfrydedd o dderbyn y grant hwn a chyfrannu tuag at y gwaith o wella bywydau plant ag anableddau a’u teuluoedd yn Nicaragwa.”

Bydd y prosiect yn cael ei weithredu gan bobl ag anableddau a bydd yn ymdrech ar y cyd rhwng CODA International a’r Asociación Nicaragüense de Integración Comunitaria (ASNIC), sefydliad o Nicaragwa a ffurfiwyd gan blant ag anableddau a’u teuluoedd i weithio ar faterion megis addysg gynhwysol, lleihau tlodi a hawliau dynol.

Bydd grant o £499,983 i Concern Worldwide (UK) yn Llundain yn cynorthwyo rhai o’r plant tlotaf, nad ydynt yn mynychu ysgol, yn ardal Shariatput o Fangladesh i gael mynediad at addysg a pharhau a’u addysg.

Bydd y grant yn hyrwyddo pwysigrwydd addysg ar gyfer bob plentyn ac yn cynnwys plant yn rheolaeth yr ysgolion drwy ffurfio Pwyllgorau Rhieni ac Athrawon a Rheolaeth Ysgol ymroddedig. Drwy hyfforddi athrawon am well dulliau dysgu ac annog awyrgylch mwy addas i blant gyda mesurau syml, ymarferol, bydd y grant yn cefnogi cynhwysiant plant ag anableddau.

Yn olaf, bydd Project Hope UK, yn Middlesex, yn defnyddio £494,729 yn ardal Nagan Raya, Talaith Aceh, Indonesia, a effeithiwyd gan y Tsunami, i wella mynediad at wasanaethau iechyd i famau a phlant ac i hyrwyddo ymddygiad iach ar lefel gymunedol.

Bydd yr arian o gymorth i gynyddu’r nifer o weithwyr gofal iechyd cymwys a chodi safon y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu drwy’r Gorsafoedd Iechyd Integredig, gan wella gwasanaethau megis brechiadau, monitro twf, cyngor ar faeth ac ymgynghoriadau cyn geni. Bydd hefyd yn cryfhau darpariaeth gofal mamol sydd yn cael ei gynnig ar hyn o bryd gan Fydwragedd Pentrefi a’r Gweithwyr Genedigaeth Traddodiadol.

Meddai Cadeirydd Cronfa Loteri Fawr, Syr Clive Booth: “Mae dyfarniadau heddiw yn enghreifftiau gwych o’r modd y mae buddiannau arian achosion da'r Loteri yn cyrraedd at rhai o’r cymunedau dan fwyaf o anfantais ledled y byd. Mae gan Cronfa Loteri Fawr draddodiad hir o gefnogi elusennau yn y DU sy’n gweithio dramor, ac mae gweithio gyda’r sefydliadau hyn wedi’n galluogi i adnabod yr anghenion tymor hir ar gyfer eu hariannu, gan sicrhau bod arian y Loteri yn dod â buddiannau parhaol.”

Bydd y £72 miliwn sydd ar gael drwy Raglen Ryngwladol Cronfa Loteri Fawr yn dosbarthu grantiau drwy wahanol ffrydiau ariannu. Bydd £60 miliwn yn cael ei rannu gan y Rhaglen Cymunedau Rhyngwladol, a’r rhaglenni Strategol Rhyngwladol a Grantiau Bychain Rhyngwladol. Mae £12 miliwn wedi’i glustnodi ar gyfer ariannu prosiectau a fydd yn cyflawni newidiadau cynaliadwy tymor hir i gymunedau a effeithiwyd gan y tsunami. Ceir mwy o wybodaeth ar wefan Cronfa Loteri Fawr www.cronfaloterifawr.org.uk

Gwybodaeth pellach

Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Tu hwnt i oriau swyddfa: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Llinell Destun: 0845 6021 659
Ceir manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grantiau Cronfa Loteri Fawr ar y wefan www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae Cronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron i £2 miliwn o arian achosion da'r Loteri bob 24 awr, sy’n golygu, gyda dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y mwyafrif o bobl ledled y DG o fewn rhai milltiroedd i brosiect sy’n cael ei ariannu gan y Loteri.
  • Mae Cronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da'r Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i brosiectau iechyd, addysg, yr amgylchedd ac elusennol ledled y DG ers ei gychwyn ym Mehefin 2004. Sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers cychwyn y Loteri Genedlaethol yn 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei wario gan y cyhoedd wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn wedi ei godi bellach ac mae dros 280,000 o grantiau wedi’u dosbarthu ledled meysydd y celfyddydau, chwaraeon, etifeddiaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Iechyd a lles
  • Ariannu rhyngwladol
ADBORTH