- Area:
- Cymru
- Programme:
- Arian i Bawb Cymru
- Release date:
- 2 4 2013
P'un a yw'n brosiect i ddarparu cyrsiau marchogaeth i helpu datblygu sgiliau neu gymeriad pobl ifanc ddifreintiedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr neu sefydlu sinema gymunedol yng nghefn gwlad Sir Benfro, mae ystod o grwpiau'n rhannu bron £330,000 gan raglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr heddiw.
At ei gilydd bydd 83 o brosiectau cymunedol ledled Cymru'n rhannu'r £328,774 a ddyfarnwyd o dan rownd ddiweddaraf y rhaglen grantiau bach, Arian i Bawb (rhestr lawn y dyfarniadau ar ddiwedd y datganiad. Cysylltwch â Ben Payne i gael disgrifiadau prosiect llawn).
Diolch i'w dyfarniad o £4,960 bydd CBC Liberty Horses ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn defnyddio'r grant i ddarparu sgiliau marchogaeth i bobl ifanc ddifreintiedig, gan eu galluogi i ddatblygu eu sgiliau a'u cymeriad. Bydd y grŵp yn defnyddio sgiliau marchogaeth naturiol i feithrin datblygiad y sgiliau y gellir eu trosglwyddo i'w bywydau bob dydd. Bydd y cyrsiau'n dysgu: gofal ceffylau, trin ceffylau a marchogaeth, cyfathrebu, gwaith tîm a datrys problemau yn ogystal â chynyddu lles yn gyffredinol trwy addysg awyr agored. Bydd y sawl sy'n cymryd rhan yn ymwneud â phrosiectau gwasanaeth cymunedol am ddwy awr o'r cwrs hyfforddi diwrnod cyfan. Bydd y prosiectau hyn yn cynnwys gweithgareddau megis garddio i drigolion oedrannus yn y gymuned leol.
Mae'r grŵp SHADE (Self Help Against Depression) yn Rhisga yn un o dri phrosiect i rannu mwy na £4,300 a ddyfarnwyd i brosiectau ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Gyda'u dyfarniad o £530, bydd SHADE yn rhedeg y prosiect Alternative Therapies Instead of Medication trwy recriwtio mwy o aelodau a helpu mwy o bobl i ymdopi ag iselder. Yn ogystal â chynyddu eu cyhoeddusrwydd i ddenu rhagor o aelodau, bydd y prosiect yn darparu therapïau amgen gan gynnwys adweitheg a thylino sy'n helpu gydag ymlacio ac yn ennyn ymdeimlad o lonydd i helpu aelodau i ymdopi â'u pryderon.
Bydd pobl ifanc yng ngogledd Cymru hefyd yn gallu gwella'u sgiliau a'u hyder diolch i'r dyfarniadau diweddaraf. Bydd grant o £5,000 yn galluogi Gofal Dydd Ysgol Llandrillo-yn-Rhos yn Rhos, Conwy, i ddatblygu ardal chwarae awyr agored i blant sy'n mynychu gofal dydd, gan roi cyfle iddynt fforio'r awyr agored trwy chwarae creadigol.
Mewn un o bum prosiect i rannu bron £17,000 a ddyfarnwyd yn Sir y Fflint, bydd Saltney Small Steps Playgroup a Playgroup Plus yn prynu cyfarpar chwarae dan do ac awyr agored a chelfi gyda'r £5,000 a ddyfarnwyd iddynt, gan eu galluogi i gynyddu eu horiau agor ac ehangu nifer y plant sy'n dod i'r grŵp. Bydd y grant yn ariannu teganau, gemau, Wii, Xbox, 2 set deledu, peiriant DVD, unedau storio, gwresogydd dŵr, deunyddiau crefftau a chelfi. Ac yn gweithio ar draws Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam, bydd Save The Family Limited yn Neuadd Northop yn rhedeg y prosiect Young People - Give Back project gyda'r £5,000 a ddyfarnwyd iddynt. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar alluogi pobl ifanc ddifreintiedig/wedi'u dadrithio i fynd yn fwy actif a chymryd rhan yn fwy yn eu cymuned.
A gwylio'r sgrîn arian fydd yr atyniad mewn cymuned yn Sir Benfro diolch i'r £3,965 a ddyfarnwyd i Gymdeithas Gymunedol South Ridgeway. Bydd y grŵp yn gwario'r arian ar sefydlu sinema gymunedol ym Maenorbŷr a'r cylch. Byddant yn prynu cyfarpar taflunio a fydd yn eu galluogi i ddangos ffilmiau yn eu canolfan gymunedol. Byddant yn trefnu nosweithiau ffilmiau rheolaidd sy'n agored i'r gymuned gyfan, gan gynnwys pentrefi Lydstep, Jameston, Newtown ac ardaloedd anghysbell eraill, ac yn darparu cludiant ar gyfer trigolion oedrannus ac anabl. Byddant hefyd yn cynnal clwb sinema bore dydd Sadwrn i blant, ac yn cynnal dangosiadau arbennig ar gyfer trigolion y ddau gartref i oedolion ag anableddau dysgu yn yr ardal.
Meddai Gareth Williams, Rheolwr Rhaglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Mae Arian i Bawb yn cael effaith gadarnhaol ledled Cymru. Mae'r arian yn helpu sefydlu grwpiau, cymdeithasau a chlybiau, gan hyrwyddo dysgu, cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli a helpu adeiladu cymunedau cryfach.”
Mae'r ffurflen gais ar gael yn Gymraeg a Saesneg a gellir ei lawrlwytho o www.arianibawb.org.uk neu dros y ffôn ar 0845 4 10 20 30.
Rhestr lawn y dyfarniadau
|
Mudiad
|
Lleoliad
|
Dyfarniad
|
|
Mudiad
|
Lleoliad
|
Dyfarniad
|
|
Beaumaris Kids Club
|
Ynys Môn
|
£4,897
|
|
Sustainable Gwynedd Gynaladwy Cyf
|
Gwynedd
|
£4,997
|
|
Top Glass
|
Blaenau Gwent
|
£830
|
|
Melin Keep Fit for Fun Club
|
Castell-nedd Port Talbot
|
£3,560
|
|
BRFM Ltd
|
Blaenau Gwent
|
£5,000
|
|
Solas Cymru Ltd
|
Casnewydd
|
£4,218
|
|
Technicraft Club
|
Blaenau Gwent
|
£5,000
|
|
Village Enterprise Wales Limited
|
Casnewydd
|
£5,000
|
|
Broadlands Residents Association
|
Pen-y-bont ar Ogwr
|
£4,288
|
|
Pill Youth Forum
|
Casnewydd
|
£4,885
|
|
Liberty Horses CIC
|
Pen-y-bont ar Ogwr
|
£4,960
|
|
Cymdeithas Adlerian Cymru
|
Sir Benfro
|
£4,525
|
|
1st Ystrad Mynach Scout and Guide Hall Management Committee
|
Caerffili
|
£1,349
|
|
South Ridgeway Community Association
|
Sir Benfro
|
£3,695
|
|
St John's Catholic Church
|
Caerffili
|
£2,424
|
|
Over 50s Wednesday Club
|
Sir Benfro
|
£5,000
|
|
Shade
|
Caerffili
|
£530
|
|
The Funhouse, Prendergast Kids Club
|
Sir Benfro
|
£1,930
|
|
Fresh Ideals Community Interest Company
|
Caerdydd
|
£4,723
|
|
Forden Leighton & Trelystan Allotment Society
|
Powys
|
£4,882
|
|
St John Lloyd R C Primary School
|
Caerdydd
|
£5,000
|
|
Dyfi FEI Cluster Group
|
Powys
|
£5,000
|
|
Cardiff and District NHS Retirement Fellowship
|
Caerdydd
|
£3,818
|
|
Oldford Tenants & Residents Association
|
Powys
|
£3,732
|
|
The Mentor Ring Ltd
|
Caerdydd
|
£4,970
|
|
South Montgomeryshire Volunteer Bureau Limited
|
Powys
|
£4,650
|
|
Cardiff Metropolitan University
|
Caerdydd
|
£5,000
|
|
Ysgol Maes-Y-Dderwen
|
Powys
|
£5,000
|
|
St Clears Senior Citizens
|
Sir Gâr
|
£5,000
|
|
Trecastle Young Farmers Club
|
Powys
|
£5,000
|
|
West Wales Country Gardeners
|
Sir Gâr
|
£4,800
|
|
Merched Y Wawr Llandeilo
|
Powys
|
£1,200
|
|
Cylch Meithrin Trelech
|
Sir Gâr
|
£4,950
|
|
Cylch Arch Yr Enfys Rhaeadr
|
Powys
|
£4,529
|
|
Gorslas OAP
|
Sir Gâr
|
£2,500
|
|
Rhondda 50+ Forum
|
Rhondda Cynon Taf
|
£1,035
|
|
Drefach & District O.A.P Association
|
Sir Gâr
|
£3,690
|
|
Tylorstown Welfare Hall Limited
|
Rhondda Cynon Taf
|
£5,000
|
|
Pantyffynnon Ward Action Group
|
Sir Gâr
|
£3,830
|
|
Bryn Ivor Residents Association
|
Rhondda Cynon Taf
|
£4,600
|
|
Mynydd y Garreg Senior Citizens Social Club
|
Sir Gâr
|
£2,383
|
|
Y Pant Comprehensive School
|
Rhondda Cynon Taf
|
£5,000
|
|
Llandybie Pensioners Association
|
Sir Gâr
|
£4,122
|
|
Tir Coed
|
Rhondda Cynon Taf
|
£4,996
|
|
Pontyates Miners Welfare Association
|
Sir Gâr
|
£4,997
|
|
Clydach Disabled Friends Social Club
|
Abertawe
|
£4,620
|
|
Clwb 60+ Club Llangynin
|
Sir Gâr
|
£3,740
|
|
Service User Recovery Focused Funding- SURFF
|
Abertawe
|
£4,500
|
|
Crugybar Village Hall
|
Sir Gâr
|
£4,650
|
|
Three Crosses Communication & Carers Support Group
|
Abertawe
|
£1,033
|
|
Llys Owen Social Club
|
Ceredigion
|
£5,000
|
|
The Old Mill Foundation
|
Abertawe
|
£4,990
|
|
Clwb Ilar
|
Ceredigion
|
£4,335
|
|
Grŵp Cwis Canolfan Gymunedol Parc Llywelyn
|
Abertawe
|
£4,950
|
|
Henoed Felinfach A'r Cylch / Felinfach Old People's Welfare
|
Ceredigion
|
£1,630
|
|
Menter Iaith Abertawe
|
Abertawe
|
£2,349
|
|
Grŵp Coffi Llanon
|
Ceredigion
|
£3,960
|
|
2300 (St. Athan) Squadron ATC
|
Bro Morgannwg
|
£1,169
|
|
Clwb Twts, Cywion ac Adar Aeron
|
Ceredigion
|
£4,836
|
|
DIC
|
Bro Morgannwg
|
£3,834
|
|
Coetiroedd Dyfi
|
Ceredigion
|
£4,403
|
|
CSV
|
Torfaen
|
£4,928
|
|
Knit and Chat
|
Ceredigion
|
£1,080
|
|
Pontypool Retired Men's Society
|
Torfaen
|
£4,544
|
|
Ysgol Llandrillo Yn Rhos Day Care
|
Conwy
|
£5,000
|
|
Torfaen Silver Belles
|
Torfaen
|
£4,865
|
|
Youth Cymru
|
Conwy
|
£4,995
|
|
The British Youth Council
|
Cymru
|
£5,000
|
|
Trefnant Village Hall and Memorial Field
|
Sir Ddinbych
|
£2,000
|
|
Cymdeithas Gwenynwyr Cymru/ The Welsh Beekeepers' Association
|
Cymru
|
£4,550
|
|
Adran Dinbych
|
Sir Ddinbych
|
£3,040
|
|
Mid Wales Region RAF Association
|
Cymru
|
£5,000
|
|
The Monday Club
|
Sir y Fflint
|
£1,630
|
|
Cambrian Art Society
|
Cymru
|
£500
|
|
Flintshire Community Parents
|
Sir y Fflint
|
£4,980
|
|
Save The Family Limited
|
Cymru
|
£5,000
|
|
Trelawnyd Friendship Club
|
Sir y Fflint
|
£3,500
|
|
National Institute of Adult Continuing Education (England and Wales)
|
Cymru
|
£5,000
|
|
Deeside Woodturners & Carvers
|
Sir y Fflint
|
£3,515
|
|
Cylch Meithrin Bodhyfryd
|
Wrecsam
|
£3,400
|
|
Saltney Small Steps Playgroup and Playgroup Plus
|
Sir y Fflint
|
£5,000
|
|
Association of Voluntary Organisations in Wrexham
|
Wrecsam
|
£4,753
|
|
Siamas Cyf
|
Gwynedd
|
£5,000
|
|
|
|
|
Mwy o Wybodaeth:
Ben Payne - Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 029 2067 8224
Cyswllt y tu allan i oriau: 07500 951 707
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735 Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk
Dilynwch y Gronfa Loteri Fawr ar Twitter: www.twitter.com/loterifawrcymru
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/biglotteryfundwales
Nodiadau i Olygyddion
• Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100,000 y diwrnod mewn arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
• Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
• Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £29 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd
Tags