- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 5 4 2013
|
CYFLE TYNNU LLUNIAU / CYFWELIADAU / FFILMIO
BETH: Lansiad clwb ceir trydan cymunedol cyntaf Cymru erioed a dadorchuddio'r car trydan newydd at ddefnydd y gymuned rhwng 4pm a 5pm ar ddydd Sul Ebrill 7
PWY: Bydd aelodau allweddol y prosiect ac aelodau'r gymuned leol ar gael i roi sylwadau a chyfweliadau
LLEOLIAD: Neuadd Goffa Trefdraeth, Stryd y Gorllewin, Trefdraeth, Sir Benfro, SA42 0TF
POBL GYSWLLT: I gael mwy o fanylion neu i drefnu bod yn bresennol a chynnal cyfweliadau, cysylltwch â Vicky Moller yng Ngrŵp Cymunedol Cilgwyn trwy E-bost: vickymoller@btinternet.com Ffôn: 01239 820 971
|
Bydd y clwb ceir trydan cymunedol cyntaf erioed yng Nghymru'n dathlu ei lansiad swyddogol yr wythnos hon ac yn dadorchuddio ei gerbyd trydan llesol i'r amgylchedd cyntaf y bydd modd i'r gymuned gyfan elwa ohono.
Diolch i bron £25,000 a ddyfarnwyd gan raglen Pentref SOS y Gronfa Loteri Fawr, mae Grŵp Cymunedol Cilgwyn ger Trefdraeth, Sir Benfro, wedi prynu cerbyd trydan newydd sbon ac wedi sefydlu clwb cludiant trydan cymunedol newydd ym mhentref Cilgwyn.
Rhwng 4pm a 5pm yn Neuadd Goffa Trefdraeth ar ddydd Sul Ebrill 7, gwahoddir trigolion Cilgwyn, Trefdraeth a'r cylch yn Sir Benfro i lansiad swyddogol Clwb Ceir Trefdraeth a gweld y car trydan Nissan Leaf newydd a fydd ar gael i'r gymuned gyfan ei defnyddio mewn cynllun rhannu ceir arloesol newydd.
Gyda'r nod o leddfu'r angen am ail geir neu geir nas defnyddir, a chan gynnig cynllun cludiant amgen, bydd modd i drigolion lleol neilltuo'r car trydan newydd ar-lein neu dros y ffôn am bris cychwynnol o £2.50 yr awr a phum ceiniog y milltir. Bydd rhaglen feddalwedd yn cyfrifo'r hyn y mae arnynt ac agorir y car gan ddefnyddio cerdyn smart. Bydd telemetreg fewnol yn bwydo arddull yrru pob cwsmer yn ôl i ddiogelu bywyd y batri.
Bydd y fenter yn cynhyrchu incwm o ffioedd aelodaeth a chodi tâl fesul milltir, a gaiff ei ail-fuddsoddi yn y prosiect i'w wneud yn hunangynhaliol. Mae gan y Nissan Leaf newydd banel solar ar y to hefyd i gyfrannu at y pŵer. Gellir ei wefru o soced domestig ac yn swyddogol gall y car gyrraedd 100 milltir ar ôl pob gwefriad. Mae gwefru cyflym eisoes ar gael mewn trefi gerllaw fel Hwlffordd, a disgwylir iddo gael ei osod yn fuan mewn trefi ac ar lwybrau eraill yn lleol.
Mae'r grŵp hefyd yn ceisio creu cyswllt rhwng gwefru a phŵer adnewyddadwy dros ben. Yng Nghilgwyn bydd yn manteisio ar ynni gwynt sbâr o dyrbin, yn enwedig gyda'r nos. Ac yn Nhrefdraeth, bydd yn defnyddio ynni solar sbâr a gynhyrchir gan baneli ar do Neuadd Goffa Trefdraeth. Mae ail gar trydan i fod i gyrraedd yn fuan, gyda cherbydau eraill i ddilyn os aiff y galw yn uwch nag argaeledd.
Gobaith sefydlwyr y clwb yw bod y cynllun hwn yn llwyddiant ysgubol ac y bydd clybiau ceir llesol i'r amgylchedd tebyg yn cael eu sefydlu ledled Cymru a'r tu hwnt.
Yn esbonio pwysigrwydd y prosiect, meddai Ysgrifennydd Grŵp Cymunedol Cilgwyn, Vicky Moller: "Mewn cymunedau gwledig fel ni, mae'r defnydd o geir a pherchnogaeth arnynt yn embaras gan ei fod mor eithafol. Ac mae nifer y bysiau sy'n dod trwy Gilgwyn yn lleihau. Rydym yn hynod o gyffrous, mae gwir angen amdano.”
"Mae'r dref agosaf, Trefdraeth, dair milltir i ffwrdd, dwy filltir o bellter yw'r llwybr bws ac mae'n dod bob awr a dim o gwbl gyda'r hwyr ac ar ddydd Sul. Gan hynny, mae pobl yn amharod i deithio os nad oes ganddynt rywun a all roi lifft iddynt. Mae'r prosiect hwn yn datrys y broblem mewn ffordd sy'n llesol i'r amgylchedd ac yn darparu gwasanaeth rhannu ceir rhatach a chyfleus."
Yn edrych ymlaen at y lansiad a dadorchuddiad mawr y Nissan Leaf newydd sbon, ychwanegodd Vicky: “Gallai bron bob cymuned yng Nghymru gynhyrchu'r tanwydd i yrru eu ceir eu hunain gydag ynni adnewyddadwy. Yr hyn sy'n hynod gyffrous am hyn yw ei fod yn dod â pherchnogaeth ar geir o fewn cyrraedd pawb. Pwy na all fforddio £5 y mis? Nid oes unrhyw filiau, treth neu yswiriant. Wrth gwrs, perchnogaeth a rennir ydyw, ond mae hyn yn arwain at y peth arloesol arall ynghylch ein clwb ceir, bydd yn annog rhannu lifft."
Ychwanegodd: “Mae'r Clwb Ceir Trydan yn caniatáu defnydd llawn o gar gan y gymuned, yn gwneud ceir sy'n llesol i'r amgylchedd o'r safon uchaf yn fforddiadwy. Wrth i berchnogaeth ar geir a chostau gyrru godi, bydd poblogrwydd clybiau ceir a thrydan fel tanwydd yn cynyddu'n wirioneddol yn y dyfodol. Mae gan geir trydan un mantais mawr. Gallwn ni wneud trydan, ni allwn wneud tanwydd ffosil. Mae hynny'n ddadl bendant ac yn allweddol o ran dargyfeirio o lwybr dinistrio'r amgylchedd."
Ers i'r peli Loteri Genedlaethol cyntaf gael eu rholio allan ym 1994, mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu dros £45 miliwn i fwy na 760 o brosiectau yng Nghymru sy'n helpu cymunedau i leihau effaith eu hôl troed carbon a gwella bywydau'r bobl fwyaf anghenus.
Yn amlygu pwysigrwydd prosiectau ariannu sy'n mynd i'r afael ag effaith newid hinsawdd, meddai Cyfarwyddwr Cronfa Loteri Fawr Cymru, John Rose: "Er ein bod yn gwerthfawrogi mai mater byd-eang yw hwn y mae angen ymdrin ag ef ar raddfa lawer fwy eang, mae prosiectau fel hwn yn dangos y gall pawb wneud cyfraniad cadarnhaol at leihau effaith eu hôl troed carbon. Rydym am weld mwy o gymunedau'n lleihau eu hôl troed carbon ac yn addasu i ganlyniadau newid hinsawdd. Yn y pen draw rydym am sicrhau bod yr arian a ddyfarnwn yn cael effaith sylweddol dros yr hir dymor ac yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r amgylchedd a bywydau pobl ledled Cymru."
I gael mwy o wybodaeth am Glwb Ceir Trefdraeth, anfonwch e-bost i cilgwyn@ecocymru.org neu ffoniwch 01239 820971.
Ac i gael mwy o wybodaeth am y Gronfa Loteri Fawr a sut y gallwch ymgeisio am ariannu, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk
Mwy o Wybodaeth:
Ben Payne - Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 029 2067 8224
Cyswllt y tu allan i oriau: 07500 951 707
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735 Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk
Gofyn cwestiwn i'r Gronfa Loteri Fawr yma: http://ask.biglotteryfund.org.uk/cymorth/wales/
Dilynwch y Gronfa Loteri Fawr ar Twitter: www.twitter.com/loterifawrcymru
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/biglotteryfundwales
Nodiadau i Olygyddion
• Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100,000 y diwrnod mewn arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
• Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
• Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags