- Area:
- Cymru
- Programme:
- Topic:
- mynd i'r afael ag unigedd gwledig
gwerthuso pentref sos
- Release date:
- 3 12 2012
Mae cynllun cludiant trydanol cymunedol yn Ne Cymru a busnes arlwyo teithiol yng Ngogledd Cymru ymysg y mentrau gwledig sy'n derbyn grantiau o hyd at £50,000 gan y Gronfa Loteri Fawr heddiw i weddnewid eu hardaloedd.
At ei gilydd mae wyth cymuned ledled Cymru'n rhannu'r £324,218 a ddyfarnwyd gan gynllun Pentref SOS y Gronfa Loteri Fawr. Amcan Pentref SOS yw ysbrydoli adfywio gwledig ar draws y DU a chefnogi cymunedau gwledig a allai fod yn profi anawsterau gyda materion megis unigedd, poblogaeth sy'n heneiddio, a chau amwynderau lleol (rhestr lawn y prosiectau ar ddiwedd y datganiad).
Mae'r grantiau rhwng £10,000 a £50,000 ar gael i helpu cymunedau gwledig gyda phoblogaeth o lai na 3,000 i ddatblygu cynlluniau ar gyfer prosiectau mentrus sy'n diwallu anghenion lleol neu'n gwella gwasanaethau i bobl leol. O siopau a thafarndai cymunedol i gynlluniau ynni neu gludiant, prosiectau crefftau neu fwyd, mae amrywiaeth o grwpiau wedi cael eu hariannu o dan y cynllun Pentref SOS.
Bydd un o ddau brosiect a ariennir yn Sir Benfro, Grŵp Cymunedol Cilgwyn ym mhentref Cilgwyn ger Trefdraeth yn rhedeg y prosiect EVini Shared Electric Vehicles powered by our renewables gyda'r £24,600 a gynigiwyd iddynt. Bydd y grŵp yn defnyddio'r ariannu i brynu fan a char trydanol i sefydlu both cludiant trydanol cymunedol a fydd yn darparu cyfleuster rhannu ceir ar gyfer y gymuned.
Bydd hyn yn lleddfu'r angen am ail geir neu geir nad ydynt yn cael eu defnyddio, ac yn cynnig mynediad i gynllun cludiant i bawb nad oes ganddynt fynediad iddo ar hyn o bryd. Bydd y fan yn cael ei ddefnyddio i gludo nwyddau a chynnyrch ffres o leoliadau o gwmpas y rhanbarth, a bydd ynni adnewyddadwy yn cael ei ddefnyddio i ailwefru'r cerbydau. Bydd y fenter yn cynhyrchu incwm o ffioedd aelodaeth a chodi tâl fesul milltir, a gaiff ei ail-fuddsoddi yn y prosiect i'w wneud yn hunangynhaliol.
Yn amlygu pwysigrwydd y prosiect ac esbonio sut y bydd yn gweithio, meddai, Vicky Moller, Cydlynydd y Prosiect a Chadeirydd Grŵp Cymunedol Cilgwyn: "Rydym yn hynod o gyffrous, mae gwir angen amdano. Mae cludiant yn broblem enfawr yn y cefn gwlad ac mae nifer y bysus sy'n dod trwy Gilgwyn yn isel dros ben."
"Mae'r dref agosaf, Trefdraeth, dair milltir i ffwrdd, dwy filltir o bellter yw'r llwybr bws, ac mae'n dod bob awr a dim o gwbl gyda'r hwyr ac ar ddydd Sul. Gan hynny, mae pobl yn amharod i deithio os nad oes ganddynt rywun a all roi lifft iddynt. Mae'r prosiect hwn yn datrys y broblem mewn ffordd sy'n llesol i'r amgylchedd ac yn darparu gwasanaeth rhannu ceir rhatach a chyfleus."
Yn hygyrch i bawb, bydd aelodau'r gymuned leol yn defnyddio'r cerbydau trydanol naill ai fel gyrwyr neu deithwyr, a bydd y prosiect yn cynhyrchu incwm trwy ffioedd aelodaeth a thaliadau fesul milltir. Bydd y cerbydau'n cael eu lleoli'n gyfleus yn agos i gartrefi pobl a bydd aelodau'n gallu neilltuo'r ceir ar-lein hefyd. Bydd y ceir hefyd yn defnyddio tanwydd o ynni gwyrdd lleol a gynhyrchir gan dyrbinau gwynt, paneli solar a thrydan o ddŵr, ac o ynni adnewyddadwy dros ben na defnyddir gan y neuadd bentref leol.
"Cafwyd cryn gyffro yn y gymuned ac mae llawer o bobl yn ymatal rhag prynu ceir ar hyn o bryd gan eu bod yn aros i weld a fydd hyn yn diwallu eu hanghenion," meddai Vicky.
Cynigiwyd ariannu i ddau brosiect yng Ngwynedd, Gogledd Cymru hefyd. Bydd un o'r prosiectau, Clwb Pêl-droed Llanllyfni, ger Caernarfon, yn defnyddio eu £27,951 i sefydlu Cwt Cwcio Llanllyfni - busnes arlwyo teithiol a fydd yn darparu prydau iach fforddiadwy o safon ar gyfer y gymuned ac yn cynyddu cyfraniadau at yr economi leol. Bydd y grŵp hefyd yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc ddysgu buddion paratoi cynnyrch o ffynonellau lleol o'r cychwyn cyntaf. Bydd y fenter yn cynhyrchu incwm trwy ddarparu gwasanaethau arlwyo ar gyfer digwyddiadau a chyfarfodydd ochr yn ochr â'r gwasanaeth arferol, a gaiff ei ail-fuddsoddi yn y prosiect i'w wneud yn hunangynhaliol.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r pentref wedi colli ei siopau, swyddfa'r post a'r dafarn, gan adael bwlch mawr yn y gymuned. Mae hyn wedi arwain at ddirywiad mewn rhyngweithio o fewn y gymuned gan nad oes unrhyw le i gwrdd yn rheolaidd. Ymdrinnir â hyn gan y gwasanaeth arlwyo teithiol a fydd yn darparu bwyd cynnes wedi'i gynhyrchu'n lleol am brisiau rhesymol, dwywaith yr wythnos yn y lle cyntaf, gyda'r nod o symbylu mwy o ddigwyddiadau cymdeithasol.
Ac yntau wrth ei fodd â'r ariannu, meddai Darren Thomas, un o aelodau'r gymuned sydd y tu ôl i'r prosiect: "Rydym yn gobeithio y bydd y prosiect hwn yn darparu llwyfan i ni ddatblygu cymuned Llanllyfni a'r cylch o safbwynt economaidd. Mae hefyd yn gyfle euraidd i ddatblygu mwy o ysbryd cymunedol yn y pentref trwy greu cyswllt rhwng ein prosiect a phobl leol.”
“Mae angen cymuned gynaliadwy ar Lanllyfni, a dyma dechrau'r cynlluniau. Byddwn yn defnyddio adnoddau lleol sydd eisoes yn bodoli, megis y Neuadd Goffa, a fydd yn cynnwys yr oergell a'r rhewgell i storio ein cynnyrch. Byddwn hefyd yn defnyddio cydweithfeydd bwrdd a chynnyrch ffermydd lleol."
“Dyma ran o'n cynllun i godi arian ar gyfer ystod o brosiectau cymunedol ac ar gyfer bothau cymunedol megis y Clwb Pêl-droed a'r Neuadd Goffa y mae angen rhoi sylw iddynt ar frys.”
Ychwanegodd: “Bydd cyfranogiad y gymuned yn rhan annatod o'r prosiect hwn. Y rhai a fydd yn defnyddio'r gwasanaethau yw aelodau o'r gymuned leol, a bydd pobl ifanc yn cael cyfleoedd i ddysgu sgiliau achrededig newydd i wella'u cyflogadwyedd. Rydym yn edrych ymlaen at gychwyn arni a chynyddu'r momentwm nawr."
Meddai Cyfarwyddwr Cronfa Loteri Fawr Cymru, John Rose: "Rydym wrth ein boddau â medru cyhoeddi ariannu ar gyfer rhai prosiectau hynod o arloesol heddiw, sy'n dystiolaeth o'r cryfder a'r creadigrwydd sy'n bodoli mewn cymunedau gwledig ym mhob cwr o Gymru. Dyma gyfle unigryw i'r prosiectau hyn ddechrau mentrau a redir gan y gymuned, adfywio eu hardal leol a helpu i wrthdroi'r duedd tuag at ddirywiad gwledig."
I gael mwy o wybodaeth a chymorth gyda sefydlu menter wledig, ewch i wefan Pentref SOS www.villagesos.org.uk/cy Am fwy o wybodaeth am yr ariannu sydd ar gael gan y Gronfa Loteri Fawr, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk
Rhestr Lawn y Prosiectau yng Nghymru.
Mwy o Wybodaeth
Fflur Lawton- Big Lottery Fund Press Office: 02920 678 237
Out of Hours Contact: 07717 513 418
Public Enquiries Line: 08454 102030
Textphone: 0845 6021 659
Full details of the Big Lottery Fund programmes and grant awards are available at: www.biglotteryfund.org.uk
Notes to Editors
• In Wales, the Big Lottery Fund is rolling out around £100,000 a day in Lottery good cause money, which together with other Lottery distributors means that across Wales most people are within a few miles of a Lottery-funded project.
• The Big Lottery Fund, the largest of the National Lottery good cause distributors, has been rolling out grants to health, education, environment and charitable causes across the UK since its inception in June 2004. It was established by Parliament on 1 December 2006.
• Since the National Lottery began in 1994, 28p from every pound spent by the public has gone to Good Causes. As a result, over £28 billion has now been raised and more than 383,000 grants given out across the arts, sport, heritage, charities, health, education and the environment.
Tags