- Area:
- Cymru
- Release date:
- 4 3 2013
Mae bachgen 16 oed o Gasnewydd a newidiodd ei fywyd ar ôl cael ei wahardd o'r ysgol ymysg y rhai sy'n dysgu sgiliau newydd ac yn elwa o dros £45 miliwn a ddyfarnwyd gan y Gronfa Loteri Fawr i ystod o brosiectau sy'n mynd i'r afael ag effaith newid hinsawdd yng Nghymru.
Newid hinsawdd yw un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r byd heddiw. I helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol yn ystod Wythnos Hinsawdd (4 - 10 Mawrth), mae'r Gronfa Loteri Fawr yn amlygu sut mae'r £45 miliwn y mae wedi'i ddyfarnu i fwy na 760 o brosiectau yng Nghymru'n helpu cymunedau i leihau effaith eu hôl troed carbon ac yn gwella bywydau pobl ar yr un pryd.

Mae'r Gronfa Loteri Fawr hefyd yn galw ar grwpiau cymunedol amgylcheddol ac elusennau ledled Cymru i ddefnyddio'r Wythnos Hinsawdd fel cyfle euraidd i ddenu gwirfoddolwyr i gefnogi eu prosiectau trwy gofrestru unrhyw gyfleoedd gwirfoddoli ar eu map rhyngweithiol www.cronfaloterifawr.org.uk/welsh/climateweek
Mae Billy Foley, sy'n 16 oed ac yn hanu o Gasnewydd ymysg y nifer o bobl o ardaloedd Casnewydd a Thorfaen i elwa o brosiect a redir gan y grŵp ailgylchu Ymddiriedolaeth Elusennol Wastesavers (gallwch weld fideo Billy yma http://youtu.be/S2FGJqqdnRE ).
Yn ogystal â chefnogi Cyngor Dinas Casnewydd gyda'u casgliadau ailgylchu ymyl y ffordd, mae Wastesavers hefyd yn rhedeg y prosiect PEAK, sy'n gweithio gydag ysgolion lleol i ddarparu amgylchedd gwaith a dysgu ar gyfer pobl ifanc sydd am gael profiad ymarferol y tu allan i sefyllfa ffurfiol yr ystafell ddosbarth. Mae'r prosiect yn cynnig cyrsiau megis cynnal a chadw beiciau, gwaith saer, TG a sesiynau ymwybyddiaeth cyffuriau ac alcohol. Gall pobl ifanc ar y prosiect gael profiad gwaith er mwyn paratoi ar gyfer y byd gwaith.
Roedd Billy Foley yn 14 oed pan ddaeth i Wastesavers am y tro cyntaf ar ôl cael ei wahardd o'r ysgol. Bu'n chwarae triwant y rhan fwyaf o'r amser ac roedd mewn trafferth yn rheolaidd. Fodd bynnag, diolch i'r gefnogaeth a'r cyfleoedd y mae wedi'u derbyn o'r prosiect PEAK, prin ei fod wedi colli diwrnod gyda Wastesavers ac mae wedi dysgu ystod o sgiliau trosglwyddadwy megis gwaith saer; mae wedi ennill cymwysterau iechyd a diogelwch ac mae ganddo uchelgais o fynd i'r coleg y flwyddyn nesaf.

Yn amlygu'r effaith gadarnhaol y mae'r prosiect wedi'i chael ar ei fywyd hyd yma, meddai Billy: “Roeddwn yn arfer mynd i drafferth pan oeddwn yn lolian o gwmpas gyda grwpiau mawr a phethau fel 'na. Doedden nhw ddim yn gallu rheoli fi yn yr ysgol ond yma maen nhw wedi helpu fi llawer. Mae fy nheulu yn hoffi'r ffaith fy mod i'n dod yma gan iddyn nhw wybod fy mod yn gwneud yn dda o'i gymharu â phan yr oeddwn yn yr ysgol. Rwy'n ymddwyn yn well oherwydd ei fod yn rhywle i fynd yn lle peidio â mynd i'r ysgol a chreu helynt. Rwyf wedi ennill cymwysterau hefyd."
Yn esbonio sut mae'r prosiect yn creu buddion ar gyfer yr amgylchedd ac yn helpu pobl ifanc fel Billy ar yr un pryd, meddai Ian Pearce, tiwtor y prosiect PEAK: “Mae rhan o'n gwaith yn ymwneud â dod o hyd i hen feiciau a chael y bobl ifanc i'w trwsio nhw. Rydym yn dysgu'r ffordd iawn i'w wneud e iddyn nhw ac maen nhw'n ennill cymwysterau ar sail hynny. Rydym yn rhedeg nifer o brosiectau eraill megis gwaith saer. Gydag ysborion pren sy'n cael eu rhoi i ni, byddan nhw'n adeiladu'r cyfryw bethau â dynion pot blodau a blychau adar sydd wedyn yn cael eu gwerthu ymlaen. Maen nhw i'w weld yn mwynhau e. Rydym ni'n cael llawer o chwerthin, llawer o wenu, ac wrth gwrs maen nhw'n ennill cymwysterau hefyd."
Ymrwymiad MAWR i'r Amgylchedd:
O ddyfarniadau bach o £5,000 ar gyfer mentrau lleol i grantiau hyd at filiwn o bunnoedd sydd ag effaith sylweddol, mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu ariannu i ystod o brosiectau sy'n canolbwyntio ar yr amgylchedd ledled Cymru, gan gynnwys y canlynol:
• Grŵp Cymunedol Cilgwyn, Sir Benfro - Dyfarniad o £24,600 i brynu fan a char trydanol i sefydlu clwb cludiant trydanol cymunedol a fydd yn darparu cyfleuster rhannu ceir ar gyfer y gymuned.
• The Federation of City Farms and Community Gardens (FCFCG), Cymru gyfan - Dyfarniad o £600,000 i gefnogi cymunedau Cymru trwy roi mynediad i dir tyfu er mwyn lleihau effaith newid hinsawdd.
• Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, Glyn Ebwy - Dyfarniad o £250,000, i redeg y prosiect Pobl a Bywyd Gwyllt, sy'n gweithio gyda gwirfoddolwyr yng Ngwarchodfa Natur y Dyffryn Distaw yng Nghwm Ebwy Uchaf. Mae'n darparu profiad o weithio mewn cadwraeth ar gyfer grwpiau o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth (NEET) i gynyddu eu sgiliau ymarferol a'u helpu i weithio'n well fel tîm i gyflawni nod.
• Y Ganolfan Technoleg Amgen, Machynlleth, Powys - Dyfarniad o £409,979 i uwchraddio arddangosiadau, arddangosfeydd ac elfennau rhyngweithiol sy'n gysylltiedig ag Ynni a Phŵer, Gwastraff ac Ailgylchu a'u harddangosiad Cartref Cyfan. Mae'r prosiect yn galluogi ymwelwyr i ddeall effaith amgylcheddol eu gweithgareddau eu hunain ac yn eu hannog i wneud newidiadau i'w ffordd o fyw feunyddiol.
Yn amlygu pwysigrwydd prosiectau ariannu sy'n mynd i'r afael â newid hinsawdd, meddai Cyfarwyddwr Cronfa Loteri Fawr Cymru, John Rose: "Er ein bod yn gwerthfawrogi mai mater byd-eang yw hwn y mae angen ymdrin ag ef ar raddfa lawer fwy eang, mae'r prosiectau rydym wedi'u hariannu ar lefel leol a rhanbarthol yng Nghymru'n dangos y gall pawb wneud cyfraniad cadarnhaol at leihau effaith eu hôl troed carbon."
“Rydym am roi gwybodaeth, sgiliau a galluoedd gwell i gymunedau er mwyn eu galluogi i weithredu i fynd i'r afael ag achosion newid hinsawdd, cynyddu gwydnwch wrth wynebu newid hinsawdd a byw mewn ffordd fwy cynaliadwy. Rydym am weld mwy o gymunedau'n lleihau eu hôl troed carbon ac yn addasu i ganlyniadau newid hinsawdd. Yn y pen draw rydym am sicrhau bod yr arian a ddyfarnwn yn cael effaith sylweddol dros yr hir dymor ac yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r amgylchedd a bywydau pobl ledled Cymru."
Newid Hinsawdd - Y Ffeithiau i Gymru:
• Mae Cymru'n debygol o wynebu cynnydd mewn tymheredd rhwng 2.0 a 2.5°C erbyn 2050
• Mae'n debygol y bydd ymchwydd yn lefel y môr yn arwain at erydu arfordirol mwy difrifol, ynghyd â llifogydd mewn ardaloedd o iseldir ger yr arfordir.
• Rhagfynegir y bydd yr ymchwydd cymharol yn lefel y môr (gan ystyried newidiadau yn lefel y tir) yn 36cm erbyn y 2080au
• Ar draws Cymru rhagfynegir y bydd maint cyfartalog y glaw yn yr haf yn gostwng rhwng 10% a 40% erbyn y 2080au, gyda'r cynnydd mwyaf yn debygol o fod yn ne-orllewin Cymru
• Ar draws Cymru rhagfynegir y bydd maint cyfartalog y glaw yn y gaeaf yn gostwng rhwng 0% a 30% erbyn y 2080au, gyda'r cynnydd mwyaf yn debygol o fod yn ne-orllewin Cymru
Ffynhonnell: Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd
http://wales.gov.uk/docs/desh/publications/101006ccstratfinalcy.pdf
I gael mwy o wybodaeth am y Gronfa Loteri Fawr a sut i ymgeisio am ariannu, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk/welsh
Mwy o Wybodaeth:
Oswyn Hughes – Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 029 2067 8207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735 Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk
Gofyn cwestiwn i'r Gronfa Loteri Fawr yma: http://ask.biglotteryfund.org.uk/cymorth/wales/
Dilynwch y Gronfa ar Twitter: www.twitter.com/loterifawrcymru
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/biglotteryfundwales
Nodiadau i Olygyddion
• Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100,000 y diwrnod mewn arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
• Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
• Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags