Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Cyn-Forwr yn Cofio Antur y Môr Mawr ar un o Longau Cyflymaf y Byd

Area:
Cymru
Programme:
Arwyr yn Ôl
Release date:
5 3 2013

Bu’n hwylio ar un o longau cyflymaf y cyfnod yn ystod yr Ail Ryfel Byd a helpodd hyn ef a’i gyd-aelodau yn y Llynges Frenhinol i oroesi’r bygythiad parhaus o gael eu taro gan dorpidos llongau tanfor y gelyn. Mewn rhyfel lle teithiodd o Fôr y Gogledd i’r Iwerydd a’r Môr Tawel, bu’n dyst i gyflwr trist Carcharorion Rhyfel y Cynghreiriaid oedd wedi cael eu dal gan y Japaneaid yn Singapore ac fe ddathlodd ddiwedd y Rhyfel mewn steil yr ochr arall i’r byd yn ystod parêd mawr yn Sydney, Awstralia.

Nawr, diolch i ddyfarniad gan raglen Arwyr yn Ôl 2 y Gronfa Loteri Fawr, bydd John Clifford Williams, sy’n 87 oed, o Fetws Gwerful Goch ger Corwen, Gogledd Cymru, yn ymweld â glannau’r Môr Tawel unwaith eto i ddwyn i gof y rôl a chwaraeodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ac mae’r Gronfa Loteri Fawr yn cyhoeddi heddiw y bydd cyn-aelodau’r lluoedd arfog o’r Ail Ryfel Byd yn awr yn gallu gwneud cais am arian loteri ar gyfer ail ymweliad coffaol dan y rhaglen Arwyr yn Ôl 2.
 
Mae dros £25 miliwn wedi cael ei ddyfarnu ers 2004 i dros 52,000 o gyn-aelodau’r lluoedd arfog o’r Ail Ryfel Byd, gweddwon, gŵyr a gwragedd a gofalwyr o bob rhan o’r wlad er mwyn iddynt allu teithio o fewn y DU, i Ffrainc, yr Almaen, y Dwyrain Canol, y Dwyrain Pell a thu hwnt. O heddiw ymlaen, bydd y cyn-aelodau hyn yn gallu gwneud cais am gyllid am yr ail dro.

Mae John Williams yn un o 830 o gyn-aelodau’r lluoedd arfog o Gymru sy’n gwneud neu sydd eisoes wedi gwneud teithiau ingol i fannau lle buont yn gwasanaethu neu’n rhan o’r ymladd. Roedd bywyd yn un antur fawr i John pan gafodd ei alw i’r Llynges Brydeinig fel Telegraffydd yn 17 oed ym 1942. Roedd Telegraffyddion yn defnyddio cod Morse i gyfathrebu, ac roedden nhw’n gwbl hanfodol ar y môr ac yn cael eu defnyddio i drosglwyddo negeseuon cyfrinachol mewn cod rhwng y Cynghreiriaid.

Blasu Antur am y Tro Cyntaf
 “A minnau’n ddwy ar bymtheg oed, dyma oedd cychwyn antur fawr i mi,” mae’n cofio. “Roeddwn i’n gyffrous iawn pan ymunais â’r Llynges. Yn naturiol, roeddwn i’n ofni am fy mywyd gan wybod ein bod yn hwylio ar draws y cefnforoedd gyda chymaint o longau tanfor o gwmpas. Roedd hwylio allan o ddociau Lerpwl mewn storm ar ddiwrnod o aeaf yn brofiad ynddo’i hun.”

Cwblhaodd John ei hyfforddiant fel Telegraffydd ar Ynys Manaw a chafodd ei drosglwyddo i
Plymouth. Fodd bynnag, aeth yr ymosodiadau ar yr harbwr gan awyrennau bomio’r Almaen mor ddifrifol nes iddo orfod mynd yn ôl i Ynys Manaw i fod yn ddiogel.

“Roedd rhaid i ni gysgodi ddwywaith yn ystod y bomio yn Plymouth,” esbonia John.

“Aeth pethau cynddrwg nes iddyn nhw fy anfon yn ôl i Ynys Manaw yn y diwedd.”

Byw gyda’r Gelyn
Roedd llawer o’r carcharorion rhyfel gafodd eu dal gan y Cynghreiriaid yn cael eu cadw ar Ynys Manaw.

“Roedd llawer o’r carcharorion Ffasgaidd yn cael eu cadw mewn llociau ar y Promenâd yn Douglas,” meddai John.

“Roedden ni wedi ein lleoli nesaf atyn nhw a bydden ni’n pasio eu lloc bob dydd pan oedden ni’n mynd ar ymarferion hyfforddi. Roedd yn deimlad od iawn pan oedden ni’n eu pasio nhw i feddwl ein bod yn cael ein hyfforddi i ymladd yn erbyn beth roedden nhw’n ei edmygu mewn ffordd.”

“Roedd rhai o’r stormydd a brofasom wrth hwylio yn ôl ac ymlaen i Ynys Manaw’n anferth a’r tonnau’n enfawr. Weithiau byddai’r cwch fwy neu lai ar ei hochr.”

Ymuno â’r Llong Gyflym - Dominion Monarch
Yn y diwedd, ymunodd John â’i long newydd, y Dominion Monarch, gan baratoi i hwylio am y Môr Tawel. Pan gafodd ei hadeiladu, y Dominion Monarch oedd y leiner fodur fwyaf pwerus o’i math yn y byd. Yn gyn long fordaith foethus, cafodd ei gwagio’n llwyr a gosodwyd arfogaeth ysgafn ynddi ar ôl iddi gael ei meddiannu gan y Llynges Frenhinol fel llong filwyr. Yn ystod y Rhyfel fe gariodd dros 29,000 o bersonél milwrol Americanaidd a Phrydeinig a daeth â miloedd o filwyr wedi’u hanafu adref.  Cofia John fod ei chyflymder yn rhoi ymdeimlad o hyder iddi wrth gyfeirio ei chriw oddi wrth y perygl yn ystod ymosodiadau torpido potensial gan longau tanfor y gelyn.

“Fe hwylion ni ar draws yr Iwerydd mewn confoi tuag at Efrog Newydd ac yna fe dorron ni i ffwrdd a hwylio drwy’r Caribî tuag at Gamlas Panama, ac roedd hynny’n brofiad rhyfeddol. Roedden ni’n teimlo’n unig iawn wedyn heb neb i’n gwarchod ar ôl gadael y confoi ond roedden ni’n dibynnu ar gyflymder ein llong. Roedd yn un o ddim ond chwech o longau yn y byd allai deithio’n gynt na llong danfor. Roedd hynny’n ein calonogi’n fawr.”

Cawsant eu diddanu gan Lynges yr Unol Daleithiau yng Nghamlas Panama cyn hwylio drwodd i’r Môr Tawel.

“Erbyn hyn roedd y Japaneaid wedi cael eu hymlid yn ôl yn y Môr Tawel oedd yn ei gwneud hi’n haws i ni groesi,” medd John.

“Ar un achlysur, ar y ffordd i Awstralia, roedd llong danfor Japaneaidd gerllaw ac roedd rhaid i ni ollwng ffrwydrynnau tanddwr i geisio’i dinistrio. Fy rôl i fel Telegraffydd oedd cyfathrebu negeseuon rhwng llongau America a Phrydain.”

Yr Ochr Draw i’r Byd
Pan gyrhaeddon nhw Awstralia, canfu’r tîm meddygol fod John wedi cael tonsilitis pan oedd yn blentyn a mynnodd y Meddyg ei fod yn mynd i Sydney i gael torri ei donsiliau’n iawn.

“Wedyn fe roddon nhw bythefnos o wyliau i mi yn Awstralia ac fe es i Adeilaide a Melbourne, lwc pur mewn ffordd. Wedyn fe roddon nhw waith i mi mewn Canolfan Drwsio o eiddo’r Llynges, yn cysylltu gyda’r llynges Americanaidd oedd yn dod i mewn i gael trwsio llongau. Roeddwn ar y tir wedyn am weddill y Rhyfel.”

Cyfarfu John a phriodi ei wraig gyntaf yn Awstralia a fydd o byth yn anghofio’r dathlu fu yn Sydney pan ddaeth y rhyfel i ben.

“Wna’i byth anghofio’r Parêd Dathlu Buddugoliaeth yna yn Sydney,” meddai.

“Roedd yn brofiad gwych i fod yn martsio gyda phawb o holl wledydd gwahanol y cynghrair a gyda’r holl dâp ticio’n dod i lawr. Dydw i erioed wedi llwyddo i gael gafael ar ffotograff o’r Parêd Dathlu yn Sydney ac rydw i wedi gwneud popeth o fewn fy ngallu i gael un. Byddwn wrth fy modd yn cael ffotograff o’r parêd yna, ond rydw i wedi methu gyda phob ymdrech.”

Y Rhyfel yn Brathu
Daeth realiti’r rhyfel i frathu John pan stopion nhw yn Singapore ar y ffordd yn ôl i’r DU o Awstralia i godi carcharorion rhyfel y Cynghreiriaid oedd wedi cael eu dal yn gaeth gan y Japaneaid.

“Roedden nhw’n edrych fel sgerbydau,” esbonia.

“Fe fwriodd hynny fi’n galed. Fe roddon ni iwnifforms milwrol newydd iddyn nhw oedd yn hongian arnyn nhw. Dim ond croen ac asgwrn oedden nhw a dydw i erioed wedi anghofio hynny.”

Clywodd John hefyd fod un o’i ffrindiau agosaf yng Nghorwen wedi cael ei ladd yn y Rhyfel ac yn fuan fe sylweddolodd na fyddai byth yn gallu gweld ei ffrind eto.

Mae’n ei gyfrif ei hun yn un o’r rhai ffodus: “Fe ges i Ryfel da ac roedd yn brofiad ffodus iawn i mi,” dywed.
 
“Cyflymder y llong wnaeth ein hachub bron yn bendant. Roedden ni’n gofyn uffern o lot ohoni heb warchodaeth y confoi i groesi’r Iwerydd a’r Môr Tawel. Wrth edrych yn ôl nawr, dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi hoffi gwneud hynny mewn llong araf. Roedd y Japaneaid yn gwbl ddidostur yn dinistrio a suddo llongau’r cynghreiriaid.”

Wrth amlygu pwysigrwydd y rhaglen Arwyr yn ôl 2, dywedodd Cyfarwyddwr Cronfa Loteri Fawr Cymru, John Rose: “Mae’n bleser ac yn anrhydedd gwirioneddol i gyhoeddi y gall cyn-aelodau o’r lluoedd arfog o’r Ail Ryfel Byd o bob rhan o Gymru sydd eisoes wedi bod ar ymweliad coffaol Arwyr yn Ôl bellach gael eu cefnogi i wneud taith arall i fan lle buon nhw’n ymladd neu’n gwasanaethu. Maen nhw’n rhoi gwybod i ni pa mor bwysig yw’r ymweliadau hyn iddyn nhw – boed yn daith i Gofadail Llundain ar Sul y Cofio, ymweliad i draethau Normandi neu deithiau i fynwentydd rhyfel yn y Dwyrain Pell. Mae’r profiadau y maen nhw’n eu dwyn i gof yn ein hatgoffa na ddylem byth gymryd yn ganiataol yr heddwch a sicrhawyd ar gyfer pob un ohonom gan y genhedlaeth hon a’r ddyled sydd arnom ni iddynt am y rhyddid rydym yn ei fwynhau a’i werthfawrogi heddiw.”

Mae lluniau o John Clifford Williams, o’r gorffennol a rhai heddiw, ar gael: cysylltwch ag Oswyn Hughes yn swyddfa’r wasg y Gronfa Loteri Fawr ar 02920 678 207.
                                                                                                                     
Mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi estyn ei rhaglen Arwyr yn Ôl 2 i alluogi cyn-aelodau'r lluoedd arfog i wneud cais am gyllid ar gyfer mynd ar ail deithiau.  Bydd dyddiad cau'r rhaglen bellach yn ddiwedd 2015.  Bydd hyn yn sicrhau fod cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog o’r DU, Ynysoedd y Sianel a Gweriniaeth Iwerddon sydd eisoes wedi derbyn arian ers i’r rhaglen gychwyn yn 2009 yn cael ail gyfle i wneud cais am grant tuag at gostau teithio a llety i’w galluogi i fynd ar deithiau’n ôl i fannau ar draws y byd lle buon nhw’n gwasanaethu, neu i wneud ymweliad coffaol yn y DU. Am fanylion cysylltwch â: Llinell Gymorth Arwyr yn Ôl: 0845 00 00 121 neu ewch i www.biglotteryfund.org.uk/heroesreturn

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Oswyn Hughes 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735                          
Ffôn testun:   0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion
• Mae’r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf arian achosion da'r Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am ddyrannu hanner yr arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol.
• Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r rhai mwyaf anghenus, ac wedi bod yn dosbarthu grantiau ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac achosion elusennol ar draws y DU ers mis Mehefin 2004. Sefydlwyd y Gronfa’n swyddogol gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
• Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £29 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd


Tags

Math o fudiad

  • Unigolyn

Buddiolwyr

  • Cyn-filwyr

Themâu

  • Adnabod a diwallu angen

Categori

  • Cynnwys y cyhoedd
ADBORTH