Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

100 miliwn o resymau i ieuenctid Cymru Gymryd eu Cyfle

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
23 5 2008
Mae prosiectau ar hyd a lled Cymru yn ymuno yn nathliad y Gronfa Loteri Fawr, wrth i'r sefydliad dorri trwy’r trothwy o ddyfarnu £100 miliwn o arian tuag at ddatblygu gweithgareddau pellach ar gyfer pobl ifanc ar draws y wlad.

O dan y rownd ddiweddaraf o’r rhaglen Dyma dy Gyfle, y Gronfa Loteri Fawr,  mae dwsin o brosiectau – wedi ei datblygu gan y bobl ifanc eu hunain - yn rhannu cyfanswm o £47,193. Nod y Gronfa yw helpu  pobl ifanc Cymru i wneud newidiadau positif i'w bywydau.

Mae'r dyfarniadau diweddaraf yn benllanw ar bedair blynedd o ariannu gan y Gronfa Pobl Ifanc ac mae'n hyrddio'r Gronfa Loteri Fawr y tu hwnt i'r trothwy o ddyfarnu £100 miliwn o arian i raglenni a phrosiectau sydd wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer pobl ifanc Cymru.

Boed hynny’n £50 miliwn i ailwampio ac adeiladu cyfleusterau Addysg Gorfforol a chwaraeon ar gyfer ysgolion a chymunedau, £6 miliwn i ddatblygu gwasanaethau allgymorth a chefnogaeth ar gyfer pobl ifanc wedi dieithrio ac ymddieithrio, neu £20 miliwn i hyrwyddo bwyta iachach ac ymarfer ar gyfer plant a theuluoedd, mae’r Gronfa Loteri Fawr wedi bod yn weithredol iawn erioed wrth gefnogi pobl ifanc yng Nghymru.

Dros yr haf, bydd yr arian gan Dyma dy Gyfle yn helpu deuddeng o brosiectau i gynnig gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc o ystod o wahanol gefndiroedd. Nod y prosiectau a ariannir heddiw yw galluogi pobl ifanc ddatblygu eu sgiliau, mynegi eu hunain mewn ffyrdd newydd a chreadigol a chynnig cyfleoedd na fyddai nifer yn gallu eu mwynhau fel arall.

Trwy sefydlu prosiect rhandiroedd wythnosol gyda’r £4,905 a ddyfarnwyd iddynt, bydd Prosiect Ieuenctid Dinbych yng Ngogledd Cymru yn dwyn pobl ifanc gwaharddedig yn ôl i gyswllt â’u cyfoedion a rhoi synnwyr perthyn iddynt yn eu cymuned. Yng Ngwynedd, bydd Cynllun Ieuenctid Pwllheli yn gwario eu £4,599 ar brosiect i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth mewn cyfleuster galw i mewn newydd ar gyfer pobl ifanc, a bydd grŵp Bboy yng Nghasnewydd, De Cymru, yn defnyddio eu dyfarniad i alluogi i oddeutu 150 o bobl ifanc gymryd rhan mewn penwythnos o weithdai dawns stryd, hip- hop, DJ, MC a graffiti ym Mharc Sgowtiaid Islwyn. Ym Mhowys, Canolbarth Cymru, bydd ffermwyr ifanc yn profi hwyl diolch i £1,033 a ddyfarnwyd i Glwb Ffermwyr Ifanc Beulah ym Meulah.

Bydd yr arian yn cael ei wario ar brosiect i gynnig gweithgareddau antur i'r bobl ifanc, gan gynnwys Sesiwn Cwrs Her Awyr Agored a thaith i sglefrio iâ. Trwy wario £4,992 ar benwythnos o weithgareddau preswyl ar gyfer 30 o bobl ifanc, bydd Menter Chwarae Plant Bonymaen ym Monymaen, Abertawe, yn cynnig gweithgareddau’r haf a gweithdai ar gyfer aelodau hŷn y grŵp, a fydd yn annog meithrin sgiliau tîm a hyder.

Nid yw diwedd y Gronfa Pobl Ifanc yn golygu diwedd ar ariannu pobl ifanc yng Nghymru. Wrth i'r Gronfa Loteri Fawr ddatblygu ei rhaglenni newydd i'r dyfodol, gall prosiectau sy'n cefnogi pobl ifanc barhau i ymgeisio am rhwng £500 a £5,000 o dan raglen Arian i Bawb Cymru, a rhwng £5,001 a £1 miliwn o dan y rhaglen Pawb a'i Le, y mwyaf o holl raglenni’r Gronfa Loteri Fawr.

Wrth ystyried effaith y Gronfa Pobl Ifanc a thynnu sylw at bwysigrwydd prosiectau Dyma dy Gyfle, dywedodd Mike Theodoulou, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd Pwyllgor y Gronfa Pobl Ifanc: “Dros y blynyddoedd rydym wedi helpu miloedd o bobl ifanc i wireddu eu potensial a gwneud cyfraniad positif tuag at eu cymuned. Bydd y prosiectau a ariannir heddiw yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu gwersi newydd gwerthfawr, i fod yn greadigol, datblygu sgiliau newydd a chyffrous a mynegi eu hunain o fewn amgylchedd diogel.”

Ychwanegodd: “Nid yw hwn yn ddiwedd ar gyfnod. Mae’r drws yn parhau ar agor ac, wrth i ni ddatblygu rhaglenni newydd i'r dyfodol, gall prosiectau sy'n helpu pobl ifanc barhau i ymgeisio am arian trwy’r rhaglen Arian i Bawb Cymru – y rhaglen fwyaf erioed gan y loteri i’w lansio yng Nghymru.”

Lawr lwytho rhestr lawn o brosiectau a ariannwyd heddiw (dogfen Word) 
- 35KB

Am wybodaeth bellach am y Gronfa Loteri Fawr a sut y gall eich grŵp wneud cais am arian, ymwelwch â gwefan y Gronfa Loteri Fawr www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch gyfleuster chwilio penodol i ‘Gymru’. Fel arall, cewch ffonio swyddfa’r Gronfa Loteri Fawr ar 01686 611 700.

Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Ffôn Testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da'r Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 280,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Pobl Ifanc
ADBORTH