Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Carnau Caredig: Ceffylau Dinas Abertawe yn Helpu Camddefnyddwyr Sylweddau

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
10 1 2013

Mae prosiect arloesol sy'n defnyddio ceffylau mewn ardaloedd trefol i helpu camddefnyddwyr sylweddau i ailsefydlu yn Abertawe a phrosiect i helpu cannoedd o gyn-droseddwyr benywaidd i ymgyfarwyddo â'u cymunedau eto ymhlith yr ystod o grwpiau ledled Cymru i rannu mwy na £2.2 miliwn a ddyfarnwyd heddiw gan y Gronfa Loteri Fawr.

Bydd pum prosiect ledled Cymru yn rhannu'r £2,263,024 a ddyfarnwyd trwy'r rhaglen Awydd am Arloesi, sy'n dyfarnu grantiau rhwng £20,000 ac £1 miliwn i gefnogi prosiectau penodol sy'n profi ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol datblygol a phresennol (rhestr lawn ar ddiwedd y datganiad).

Gyda'u grant o bron £795,000 (£793,893), mae Cyrenians Cymru Cyf yn bwriadu darparu’r ‘Community Horse and Pony Scheme’ (CHAPS), canolfan geffylau newydd a redir gan y gymuned yn Abertawe sy'n ceisio mynd i'r afael â materion ynglŷn â chlymu a gadael ceffylau, ac ar yr un pryd cefnogi pobl ddi-waith, camddefnyddwyr sylweddau a phobl ifanc sydd wedi dadrithio yn y gymuned.

Mae gan Grŵp Gwalia tua 600 o gartrefi yn ardal Blaenymaes, Abertawe, ac wedi gweld problem ceffylau mewn ardaloedd trefol yn effeithio ar unigolion a’r gymuned ehangach. Mae pryderon am yr anifeiliaid eu hunain hefyd, yn enwedig mewn tywydd oer, pan geir achosion o geffylau’n marw o oerfel. Mae caethiwed i heroin hefyd wedi cynyddu 180% yn y tair ‘mlynedd diwethaf. Mae’r ddwy broblem wedi rhoi straen ariannol cynyddol ar y llywodraeth leol.

I ymdrin â’r problemau hyn bydd CHAPS yn cynnwys bloc stablau i 20 o geffylau ac yn darparu chwe cham hyfforddi dros y tair blynedd ar gyfer dros 1,200 o bobl fregus yn y gymuned, gan gynnwys camddefnyddwyr sylweddau. Bydd y prosiect yn cyflwyno cyrsiau achrededig ac anachrededig gan gynnwys ystod o gyrsiau rheoli ceffylau a choetiroedd a sgiliau bywyd sylfaenol. Yn ystod yr ail flwyddyn, bydd y prosiect hefyd yn mabwysiadu pum merlen ar gyfer marchogaeth ac yn cyflwyno microfusnesau cadw gwenyn a ffermio mwydod.

Yn amlygu'r angen am y prosiect, meddai'r Cydlynydd Marchnata a Phartneriaethau gyda Cyrenians Cymru, Polly Stone: “Bydd y prosiect yn ymdrin â pherchnogaeth ar geffylau mewn ardaloedd trefol, ceffylau wedi'u gadael a materion lles, gan ddefnyddio ceffylau ar yr un pryd i gynorthwyo gyda therapi ac ailsefydlu camddefnyddwyr sylweddau, yn enwedig y rhai sy'n gaeth i heroin.  Mae'r defnydd o heroin a pherchnogaeth ar geffylau mewn rhannau trefol o Abertawe wedi cynyddu'n gyflym dros y tair blynedd diwethaf."

"Mae CHAPS yn ddull arloesol o ymgysylltu â phobl efallai nad ydynt yn hygyrchu gwasanaethau hanfodol. Yr amcan hir dymor fydd sefydlu stablau a chanolfan farchogaeth a arweinir gan y gymuned a fydd hefyd yn rhoi cyfleoedd i bobl eraill gymryd rhan mewn ystod o hyfforddiant, mentrau a gweithgareddau awyr agored. Yn gweithio gydag amrywiaeth o asiantaethau bydd CHAPS yn creu ymagwedd newydd at ymdrin â phroblemau sy'n ymwneud â niwsans ceffylau, diogelwch cymunedol, cyffuriau ac eithrio cymdeithasol - gan arwain at gydlyniant cymunedol gwell a gwell lles i bobl ac anifeiliaid bregus.”
  
Ac mewn prosiect sy'n cwmpasu Cymru gyfan, bydd Gibran UK Ltd yn gwario eu dyfarniad o £398,795 ar gynorthwyo oddeutu 650 o gyn-droseddwyr benywaidd yng Nghymru i ymgyfarwyddo â'u cymunedau eto trwy fentora cymheiriaid, mynediad i dechnoleg newydd a chefnogaeth 24 awr dros y ffôn. Bydd 150 o gyn-droseddwyr eraill yn cefnogi'r prosiect trwy gefnogaeth gan gymheiriaid a bydis. Y rhain fydd menywod sy'n gyn-droseddwyr y maent wedi ymgyfarwyddo'n llwyddiannus â'u cymunedau.

Ym mis Mai 2012 roedd 242 o fenywod yn y ddalfa a 1,948 ar brawf yng Nghymru. Nododd arolygiad ar y cyd gan Arolygiaethau Ei Mawrhydi y Gwasanaeth Prawf a'r Gwasanaeth Carchar fod troseddwyr benywaidd neu fenywod mewn perygl o droseddu'n grŵp sy'n wynebu anfanteision lluosog ac anghenion cymhleth. Mae'r rhain yn cynnwys problemau iechyd meddwl, cyffuriau ac alcohol a cheisio hunan-niweidio a lladd eu hunain. Nododd Ymddiriedolaeth Prawf Cymru fod cludiant, diffyg arian, diffyg sianeli cyfathrebu a gofal plant yn broblemau sylweddol ar gyfer menywod yng Nghymru sydd mewn perygl o aildroseddu.

Yn esbonio pwysigrwydd y prosiect, meddai Gill Hurley,  Rheolwr Gyfarwyddwr Gibran UK: “Bydd y prosiect yn galluogi cyn-droseddwyr benywaidd i helpu eu hunain a mynd i'r afael ag achosion craidd aildroseddu. Bydd y mentor cymheiriaid a'r cyn-droseddwyr yn cael benthyg cyfrifiadur tabled dros dro. Trwy ymyraethau gostwng aildroseddu ar Skype a theclynnau â llaw, bydd y prosiect yn gwella lles menywod ac yn taclo unigedd. Bydd hyn yn disodli cyfathrebu wyneb yn wyneb a chost cael y ddau unigolyn ynghyd.”

“Mae ymchwil wedi dangos bod menywod eisiau cefnogaeth 24 awr y tu allan i oriau swyddfa arferol, a bod angen mwy o wybodaeth arnynt am ymgyfarwyddo pan fyddant yn y carchar. Dangosodd hefyd fod menywod yn gwerthfawrogi cefnogaeth gan gymheiriaid yn fawr a bod angen mwy o gyswllt rheolaidd arnynt."

"Bydd gwerthusiad trwyadl yn cael ei gyflawni, gyda chanfyddiadau wedi'u lledaenu i ymarferwyr a gwneuthurwyr polisi allweddol."

Ychwanegodd: “Byddwn yn gweithio gyda menywod nad oes ganddynt broblemau cyffuriau ac alcohol actif. Fel arall, byddai'r menywod hyn yn cwympo trwy'r bylchau yn y ddarpariaeth. Fel arfer mae gan gyn-droseddwyr sy'n fenywod anghenion cymhleth; bydd rhai o'r anghenion hynny wedi arwain at gyflawni troseddau. Yn gyffredinol bydd y rhain yn cynnwys dyledion, tai, perthnasoedd; bydd llawer o fenywod hefyd wedi cael eu cam-drin. Gwyddwn fod y gefnogaeth un i un ynghyd â diwrnodau grŵp rheolaidd â thema, yn annog menywod i gredu bod newid yn bosib."

Gan amlygu pwysigrwydd y prosiectau a ariannwyd a chan annog mwy o grwpiau i ymgeisio am ariannu o dan y drydedd rownd, meddai Aelod Pwyllgor Cronfa Loteri Fawr Cymru a Chadeirydd y Pwyllgor Awydd am Arloesi, Graham Benfield: “Mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi'i hymrwymo i ddod â gwir welliannau i'r cymunedau mwyaf anghenus, ond mae'n cydnabod nad yw dulliau presennol o ddiwallu anghenion yn gweithio bob tro, a bod rhai anghenion yn newydd, heb fod yna unrhyw ffordd o fynd i'r afael â nhw. Dyna pam rydym wedi lansio Awydd am Arloesi yng Nghymru. Fel bod y prosiectau a ariennir heddiw yn ei ddangos, gall helpu i droi'r syniadau mawr a newydd sydd gan bobl yn realiti.”

Ychwanegodd:  “Neges syml sydd gennym - os oes gan grŵp neu fudiad syniad newydd ac arloesol ar gyfer prosiect sy'n darparu atebion newydd a gwell i broblemau cymdeithasol sydd wedi bodoli ers tro neu sy'n newydd ddod i'r amlwg - yn bendant rydym eisiau clywed oddi wrthynt.”

Bydd y drydedd rownd a'r rownd derfynol ar gyfer ceisiadau i'r rhaglen yn cael ei chyhoeddi'n ddiweddarach eleni. I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen Awydd am Arloesi a sut y gallwch ymgeisio am ariannu, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk

Rhestr lawn y prosiectau:

Gwynedd - 1 Grant gwerth £465,114

Cyngor ar Bopeth Gwynedd a De Ynys Môn

 

Meeting Advice Needs of Rural Gwynedd

Bydd y prosiect yn ymdrin â'r anghydbwysedd rhwng darparu cyngor a gwybodaeth yn ardaloedd mwyaf anghysbell Gwynedd a'r ardaloedd mwy trefol. Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy uned symudol a thechnoleg ddigidol, gydag aseswr Porth fel pwynt cyswllt cyntaf.

£465,114

Abertawe - 1 Grant gwerth £793,893

Cyrenians Cymru Cyf

 

Community Horses and Pony scheme (CHAPS)

Bydd y prosiect yn ymdrin â pherchnogaeth ar geffylau mewn ardaloedd trefol, ceffylau wedi'u gadael a materion lles, ynghyd â'r cynnydd mewn unigolion sy'n camddefnyddio sylweddau, yn enwedig heroin, yn Abertawe. Bydd canolfan geffylau'n cael ei sefydlu i ddarparu ar gyfer ceffylau ar dennyn ac i ddarparu ystod o hyfforddiant ar gyfer perchnogion ceffylau, trigolion lleol a chamddefnyddwyr sylweddau.

£793,893

 

 

Cymru Gyfan – 3 Grant gwerth £1,004,017

HAFAL

 

Canolfan Adferiad Hafal

Dros bedair blynedd bydd y prosiect yn ymchwilio i yn datblygu ac yn sefydlu ysbyty annibynnol blaengar newydd i bobl â salwch meddwl difrifol yn Ne Cymru wedi'i redeg gan ac ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth.

£281,524

Gibran UK Ltd

Gibran CONNECT

Bydd y prosiect yn galluogi 650 o gyn-droseddwyr benywaidd yng Nghymru i helpu eu hunain trwy hygyrchu cefnogaeth sydd â'r nod o fynd i'r afael ag achosion craidd troseddu. Bydd y prosiect yn gwella ymdeimlad menywod o les trwy fynd i'r afael ag unigedd gan ddefnyddio technoleg weledol a chefnogaeth gwnsela 24/7. Bydd 150 o gyn-droseddwyr eraill yn cefnogi'r prosiect trwy gefnogaeth gan gymheiriaid a bydis.

£398,795

Grŵp Tŷ Warren, Dartington

 

 

 

 

Rhaglen wrth-fwlio KiVa yng Nghymru

Bydd y prosiect yn gweithredu ac yn gwerthuso rhaglen gwrth-fwlio gyda phlant 7-11 oed, yn gweithio gydag athrawon a rhieni mewn 20 ysgol gynradd ar draws Cymru i ostwng cyfraddau bwlio ac erlid. Mae KiVa yn rhaglen wrth-fwlio ysgol gyfan seiliedig ar dystiolaeth a ddatblygwyd yn y Ffindir. Mae KiVa yn cynnwys gweithgareddau i bob disgybl yn yr ysgol i atal a mynd i'r afael ag achosion o fwlio. Mae'r rhaglen yn cynnwys 10 gwers dwy awr fisol i ddisgyblion ym mlynyddoedd 3-6. Mae'r gwersi'n cynnwys trafodaeth, ffilmiau fideo ac ymarferion a wneir mewn parau ac mewn grwpiau bach. Maen nhw'n cynnwys pynciau ar ystod o faterion sy'n ymwneud â rhyngweithio mewn grwpiau a phwysau o fewn grwpiau, mecanweithiau a chanlyniadau bwlio, ffurfiau gwahanol ar fwlio ac yn benodol, yr hyn y gall y myfyrwyr ei wneud gyda'i gilydd i fynd i'r afael â bwlio a chefnogi cymheiriaid sy'n cael eu herlid.

£323,698

Mwy o Wybodaeth

Oswyn Hughes – Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 029 2067 8207
Cyswllt y tu allan i oriau:  07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735                  
Ffôn testun:    0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

• Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu tua £100,000 bob dydd mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
• Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
• Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

 

 

 


Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Camddefnyddwyr Sylweddau

Themâu

  • Yr Amgylchedd
  • Iechyd a lles
  • Cefnogi Newidiadau Cadarnhaol

Categori

  • Cynnwys y cyhoedd
ADBORTH