Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Dioddefwyr Llifogydd a Chyn-Filwyr yng Nghymru’n Rhannu Arian Mawr Gwerth £3.7M

Area:
Cymru
Programme:
Pawb a'i Le
Release date:
12 4 2013

Bydd dioddefwyr cymuned a ddifrodwyd gan lifogydd yn Sir Ddinbych yn cael eu cefnogi i ailsefydlu yn eu cartrefi a bydd personél presennol a blaenorol y lluoedd arfog yn derbyn cymorth hanfodol y mae ei angen arnynt yn Sir Gâr i ddelio â materion iechyd meddwl, diolch i dros £3.7 miliwn a ddyfarnwyd gan y Gronfa Loteri Fawr i grwpiau a phrosiectau cymunedol yng Nghymru heddiw. 

At ei gilydd bydd 14 o brosiectau ledled Cymru'n rhannu'r £3,780,570 a ddyfarnwyd trwy raglen Pawb a'i Le y Gronfa Loteri Fawr. Yn ogystal â darparu cefnogaeth hanfodol i'r bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas, mae llawer o'r prosiectau a ariennir o dan y rownd ddiweddaraf yn anelu at wella hyder, sgiliau a chyflogadwyedd pobl mewn cymunedau ledled Cymru (rhestr lawn ar ddiwedd y datganiad).

Estyn Allan i Ddioddefwyr Llifogydd
Yn dilyn diwrnodau o law trwm ym mis Tachwedd 2012 bu'n rhaid i drigolion cannoedd o gartrefi yn Sir Ddinbych ffoi pan orlifodd yr afonydd Elwy a Chonwy, gan achosi difrod mawr a dinistrio bywydau. Wrth i gartrefi foddi o dan y dŵr, bu'n rhaid i gannoedd o drigolion symud i lety dros dro pan oedd eu haelwydydd yn sychu. Nid oedd gan lawer yswiriant cartref a misoedd ar ôl y trychineb, mae cryn nifer o deuluoedd yn dal mewn tryblith yn sgil y difrod a achoswyd gan y llifogydd ac yn ei chael hi'n anodd sefyll ar eu traed eto.

Erbyn hyn, diolch i grant o £141,524 gan y Gronfa Loteri Fawr, bydd modd i Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (DVSC) gydlynu pecyn cefnogaeth i alluogi dioddefwyr y llifogydd i ailsefydlu yn eu cartrefi.  Bydd pum mudiad partner presennol yn darparu'r gefnogaeth amrywiol y mae ei hangen ar drigolion y 420 o gartrefi a effeithiwyd. Bydd cefnogaeth a chwnsela emosiynol yn cael eu darparu gan Mind ac Age Concern Canol Gogledd Cymru, cynnal a chadw ymarferol gan Gofal a Thrwsio a chyngor a chefnogaeth gan Gyngor ar Bopeth a'r Siop Cyngor ar Fudd-daliadau.

Yn esbonio'r gwahaniaeth cadarnhaol y bydd yr ariannu'n ei wneud i fywydau pobl sy'n cael eu heffeithio gan y llifogydd, meddai Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, John Watkin: “Rydym wrth ein boddau i glywed y dyfarnwyd yr ariannu hwn i gefnogi pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd ym mis Tachwedd y llynedd. Bydd y gefnogaeth yn ein galluogi i ddarparu ystod o wasanaethau sy'n cynnwys trwsio eiddo, cyngor ar les, cyngor ac arweiniad ariannol a gwybodaeth am sut i gael mynediad i roddion a grantiau."

"Bydd modd hefyd i ni gynnig gwasanaethau cwnsela a bod yn gyfaill. Bydd hyn yn rhoi ystod o wasanaethau y mae angen mawr amdanynt i drigolion lleol i'w helpu i ailsefydlu yn eu cartrefu ac i ailgydio yn eu cymuned leol."

Cefnogaeth i Gyn-bersonél y Lluoedd Arfog
Mae llawer o bersonél sydd wedi profi gwrthdaro a'r rhai sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd yn y lluoedd arfog yn ei chael hi'n anodd i addasu i fywyd fel sifiliaid ar ôl dychwelyd adref. Yn aml gall hyn fod yn anodd i'r unigolyn a'i deulu ymdopi ag ef. Mae rhai o'r problemau cymhleth y gall fod yn rhaid i deuluoedd ddelio â nhw'n cynnwys ystod eang o faterion iechyd meddwl a all, wrth gwrs, gynnwys Anhwylder Straen Ôl-drawmatig. 

Dyna pam y bydd LINKS Workshop yn Sir Gâr yn gwario'u dyfarniad o £193,955 ar y prosiect Joined up LINKING a fydd yn darparu gwasanaeth cefnogi wedi'i deilwra ar gyfer milwyr a chyn-filwyr ynghyd â'u teuluoedd. Wedi'i leoli yn Llanelli ac yn cynnwys Sir Gâr i gyd, bydd Joined up LINKING yn cyflwyno gwasanaeth allgymorth a chefnogaeth i ddarparu sesiynau ar faterion megis rheoli dicter a chynyddu hyder yn ogystal â chynnig sgiliau newydd neu ailennyn rhai sydd wedi'u hanghofio. Bydd y prosiect hefyd yn sefydlu grwpiau cefnogi ac yn cynnig cyrsiau ailhyfforddi i gyn-filwyr. Amcangyfrifir y bydd tua 100 o unigolion a 30 o fudiadau'n elwa o'r prosiect. (Mae siaradwyr Cymraeg ar gael ar gyfer cyfweliadau a ffilmio).

Yn amlinellu pwysigrwydd yr ariannu, meddai Cydlynydd y Prosiect,  Susie Hamill: "Bydd y prosiect hwn yn cynnig gwasanaeth hynod o gynhwysfawr i gyn-filwyr, personél sydd wedi gadael y lluoedd arfog a'u teuluoedd a hefyd teuluoedd y rhai sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd. Byd hwn yn wasanaeth sy'n gweddu i gefnogaeth arall y gallent fod yn ei derbyn. Mae'r prosiect hwn yn unigryw, mae'n seiliedig mewn cymuned ac yn wasanaeth hanfodol oherwydd, er bod yna rai gwasanaethau sy'n gweithio gyda chyn-filwyr, mae eu hadnoddau wedi'u gorestyn ac amcan LINKS yw llenwi'r bwlch. Diolch i'r grant rhyfeddol hwn gan y Gronfa Loteri Fawr bydd modd i ni gynnig ystod o gefnogaeth leol i'r rhai y mae arnynt ei hangen."

Ychwanegodd: "Rydym eisoes wedi derbyn nifer o gyfeiriadau gan gyn-filwyr a'u teuluoedd. Gall fod cryn dipyn o densiwn pan fydd milwyr yn dychwelyd adref, a llawer o straen teuluol o ganlyniad i hynny. Gall y pwysau hyn ar y teulu fod yn fawr, ac yn anffodus weithiau, yr effaith yw bod teulu neu briodas yn chwalu. Mae hwn yn wasanaeth pwysig felly, ac nid oes unrhyw beth sy'n debyg iddo ar hyn o bryd. Mae angen i ni wneud y gwaith hwn er mwyn i ni ymgysylltu'n ystyrlon â'r garfan fregus ond haeddiannol hon." 

Ychwanegodd Huw Edwards, y newyddiadurwr, cyflwynydd a darllenwr newyddion o Gymru sydd wedi ennill BAFTA, y mae hefyd yn un o Noddwyr LINKS: “Roeddwn wrth fy modd â dysgu y dyfarnwyd y grant hwn i LINKS i weithio gyda'r rhai sydd wedi gwasanaethu neu sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd yn y Lluoedd Arfog.”

“Fel yr ydym i gyd yn gwybod, mae ymwybyddiaeth gynyddol o'r materion y mae pobl yn eu hwynebu wrth ddychwelyd adref ac rwy'n hynod o ddiolchgar y bydd modd bellach i LINKS ddarparu gwasanaeth ymatebol ac wedi'i deilwra i'r grŵp o bobl haeddiannol hwn.”
 
Canol y sylw yn Y Trallwng
Ac yng nghanolbarth Cymru, bydd Grŵp Sgowtiaid 1af Clives Own Y Trallwng yn gwario eu dyfarniad o hanner miliwn o bunnoedd (£499,358) ar ddymchwel yr hen Gwt Sgowtiaid adfeiliedig a chodi cyfleuster cymunedol newydd sbon ar gyfer Y Trallwng a'r cylch. Yr amcan yw estyn y defnydd o'r adeilad i ystod eang o grwpiau cymunedol ar gyfer gweithgareddau addysg, cefnogi'r gymuned a chymdeithasol.                 

Bydd ystod o weithgareddau hyfforddi'n cael eu datblygu ar gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth a'r rhai sy'n ddi-waith hir dymor. Bydd hefyd yn darparu both gwybodaeth a man cyfarfod ar gyfer mudiadau cefnogi.

Yn amlygu pwysigrwydd y rhaglen Pawb a'i Le, meddai Gareth Newton, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: "Mae rhaglenni fel Pawb a'i Le'n gwneud gwahaniaeth i fywydau cynifer o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru. Mae'n cyflwyno ar ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol i adfywio ac adnewyddu cymunedau, mynd i'r afael yn uniongyrchol ag anfantais a gadael etifeddiaeth a fydd yn parhau.”

Mae'r rhaglen Pawb a'i Le yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 ac £1 miliwn ar gyfer amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol. I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen a sut y gallwch chi ymgeisio am ariannu, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk

Rhestr lawn y dyfarniadau:

 

Blaenau Gwent – 1 Grant gwerth £250,000

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Blaenau Gwent

 

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn gweithio gyda Barnardo's i gyflwyno prosiect dwy flynedd i helpu hyd at 100 o bobl ifanc anabl i oresgyn rhwystrau i gymryd rhan yn llawn yn mywyd y gymuned ym Mlaenau Gwent.

£250,000

 

Caerffili – 1 Grant gwerth £393,676

Pwyllgor Rheoli Neuadd Pentref Tir-y-Berth

CF82 8AJ

Amcan y prosiect un flwyddyn hon yw ailadeiladu neuadd pentref Tir-y-Berth, Caerffili. Defnyddir y cyfleuster i ddatblygu gweithgareddau i'r gymuned gyfan ac yn benodol plant a phobl ifanc.

£393,676

Sir Gâr – 1 Grant gwerth £193,955

Lynx Workshop

 

Wedi'i leoli yn Llanelli ac yn gwasanaethu Sir Gâr

Amcan y prosiect yw darparu gwasanaeth cefnogi iechyd meddwl i bobl â salwch meddwl ac yn benodol cyn-filwyr a'u teuluoedd yn Llanelli a Sir Gâr. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys gwasanaeth Allgymorth, cefnogaeth wrth lenwi ffurflenni, budd-daliadau a chyngor ar dai, cefnogaeth gyda lles emosiynol, rheoli dicter, cynyddu hyder, cefnogaeth wrth gofrestru gyda meddygon a deintyddion, grŵp cefnogi, dosbarthiadau celf a chrefft a chyrsiau ailhyfforddi. Bydd y prosiect yn creu buddion ar gyfer 100 o bobl a 30 o fudiadau.

£193,955

Ceredigion – 1 Grant gwerth £24,598

Cyngor Tref Aberystwyth

Aberystwyth

Mae'r prosiect ar gyfer grant i ddatblygu rhan ddiffaith o dir segur fel 'plaza gwyrdd' a pharc sglefyrddio i ddarparu amwynder cymunedol awyr agored sy'n cysylltu Tref Aberystwyth ag ardal Cymunedau'n Gyntaf gynt Penparcau a Gorllewin Aberystwyth. Bydd y gweithgareddau, sy'n cynnwys sglefyrddio, llwybrau celf gyhoeddus, campau awyr agored a gweithgareddau amgylcheddol, o fudd i bob oedran. Mae'r grant blwyddyn ar gyfer costau datblygu cyfalaf gan gynnwys costau a ffioedd proffesiynol.

£24,598

Conwy – 1 Grant gwerth £498,891

Aberconwy Mind

 

Llandudno, Conwy

Amcan y prosiect, a leolir yn Llandudno, yw gwella ansawdd bywyd y rhai sy'n profi problemau iechyd meddwl trwy ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli, profiad gwaith a chyflogaeth trwy ddatblygu menter gymdeithasol. Bydd y prosiect yn darparu caffi cymunedol, ardal arddangos celf a chrefft ac unedau busnes bach. Disgwylir i 300 o bobl elwa dros dair blynedd.

£498,891

Sir Ddinbych – 1 Grant gwerth £141,524

DVSC

 

Wedi'i leoli yn Rhuthun, yn gwasanaethu Sir Ddinbych

Bydd DVSC yn cydlynu pecyn cefnogaeth i alluogi dioddefwyr llifogydd 2012 i ailsefydlu yn eu haelwydydd. Bydd pum mudiad partner presennol yn darparu'r gefnogaeth amrywiol y mae ei hangen ar drigolion y 420 o gartrefi a effeithiwyd. Bydd cefnogaeth a chwnsela emosiynol yn cael eu darparu gan Mind ac Age Concern Dyffryn Clwyd, cynnal a chadw ymarferol gan Gofal a Thrwsio a chyngor a chefnogaeth gan Gyngor ar Bopeth a'r Siop Cyngor ar Fudd-daliadau.

£141,524

Sir y Fflint – 1 Grant gwerth £119,010

Gofal a Thrwsio Sir y Fflint Cyf

 

Sir y Fflint

 

Bydd y prosiect yn lleddfu tlodi tanwydd ar gyfer pobl hŷn dros 60 oed ac oedolion anabl sy'n byw mewn llety sector preifat yn Sir y Fflint. Bydd dau weithiwr achos penodedig yn gweithio gydag unigolion i fynd i'r afael â thri ffactor tlodi tanwydd, sef prisiau tanwydd, lefelau incwm a thai sy'n aneffeithlon o ran ynni.

£119,010

Casnewydd – 1 Grant gwerth £51,300

Pobl yn Gyntaf Casnewydd

 

Casnewydd

Dros 3 blynedd bydd y prosiect yn sefydlu fforwm sy'n cynnwys pobl ag anableddau dysgu sy'n byw yng Nghasnewydd a fydd yn ymchwilio i wasanaethau a chyfleusterau cymunedol er mwyn herio profiadau negyddol.

£51,300

 

Powys – 1 Grant gwerth £499,358

Grŵp Sgowtiaid 1af Clives Own Y Trallwng

 

SY21

Bydd y prosiect yn dymchwel y cwt sgowtiaid presennol nad yw'n addas i'r diben bellach ac mewn cyflwr gwael, ac yn adeiladu canolfan newydd i ddarparu cyfleuster cymunedol i'r Trallwng a'r cylch, yn benodol ward Oldford (ardal Cymunedau'n Gyntaf gynt).

£499,358

Abertawe - 1 Grant gwerth £215,918

Cwmni Buddiant Cymunedol Cerdd, Celf a Dawns Abertawe

Wedi'i leoli yn Abertawe (75%) a bydd hefyd yn gwasanaethu CNPT (15%) a Phen-y-bont ar Ogwr (10%)

Bydd y prosiect 3 blynedd newydd hwn yn creu tîm newyddion a rhaglenni dogfen o wirfoddolwyr. Bydd yn darparu hyfforddiant recordio fideo, cynhyrchu a chyhoeddi newyddion cymunedol. Ei amcan yw gwella sgiliau, hyder a hunan-barch pobl, a chreu gwasanaeth cyfryngau a newyddion cymunedol hunangynhaliol. Bydd y prosiect yn gweithio gyda 924 o unigolion ac 8 o fudiadau yn Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot, gan dargedu'n bennaf pobl ifanc NEET 18-25 oed a phobl dros 44 oed.

£215,918

 

Torfaen – 1 Grant gwerth £249,997

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

NP4, NP44, NP6  - 90%

Pobl côd post NP arall - 10%

Amcan y prosiect Wisdom Bank yw harneisio profiad a sgiliau pobl yn y grŵp oedran 45 i 65 er budd ehangach cymuned Torfaen. Cyflawnir hyn trwy ddatblygu 'Banc Doethineb' ar y we i ddarparu cyngor a mentora ar-lein, rhyngweithiol ac un i un mewn amgylchedd preifat diogel. Targedir cefnogaeth gychwynnol at entrepreneuriaeth, cefnogaeth gyflogaeth i bobl ifanc NEET, gadawyr gofal, cefnogaeth i ofalwyr ac i bobl â chyflyrau iechyd hir dymor, yn enwedig clefyd y siwgr.

£249,997

Lleoliadau Lluosog / Cymru gyfan – 2 Grant gwerth £904,027

Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Gogledd Cymru Cyf

 

Yn gwasanaethu Gogledd Cymru

 

Bydd y prosiect yn sefydlu rhwydwaith cymunedol ar draws Gogledd Cymru sy'n galluogi mudiadau cydraddoldeb a hawliau dynol i gael llai cryfach wrth ddylanwadu ar ddarparu polisïau a gwasanaethau a datblygu cydlyniad gwell. Bydd y prosiect yn estyn mynediad i unigolion, gyda mwy o wasanaethau a chefnogaeth ar gael.

£499,173

Gofal Canser Marie Curie

Ledled Cymru

Bydd y prosiect yn cefnogi'r rhai sy'n gofalu am berthnasoedd, cyfeillion neu gymdogion ar ddiwedd bywyd, trwy gyfres o weithdai i gynnig cefnogaeth, arweiniad a chyngor gan arbenigwyr a chymheiriaid.

£404,854

 

 

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Oswyn Hughes 029 2067 8207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735                           Ffôn testun:    0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion
• Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100,000 y diwrnod mewn arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
• Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
• Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.


Tags

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Cyn-filwyr
  • Pobl â phroblemau iechyd meddwl
  • Teuluoedd
  • Pobl Ifanc
  • Heb fod Mewn Addysg Cyflogaeth neu Hyfforddiant

Themâu

  • Cynyddu sgiliau a hyder
  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
ADBORTH