Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

£50k i newid bywydau ar gael gan y Loteri! Sut byddech chi'n gwario fe?

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
13 3 2013

Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu pedwar dyfarniad gwych o £50,000 yng Nghymru wrth i'r gystadleuaeth ariannu ar y teledu, Miliynau'r Bobl, lansio ar gyfer 2013.

Gallai prosiectau cymunedol fod â'r cyfle o gael gafael ar yr arian cyhyd ag y gall ymgeiswyr ddarbwyllo eu cymuned trwy ddarllediad ar newyddion ITV Cymru bod eu syniad yn deilwng i dderbyn y wobr.

Mae Miliynau'r Bobl yn gystadleuaeth deledu flynyddol a redir gan y Gronfa Loteri Fawr sy'n ariannu prosiectau cymunedol a fydd yn gwella bywydau pobl leol. Eleni mae 4 dyfarniad o hyd at £50,000 ar gael ym mhob un o'r 19 ardal newyddion rhanbarthol ITV ar draws y DU. 

Mae'r gystadleuaeth yn agor i geisiadau heddiw (13 Mawrth 2013). Ym mis Hydref bydd rhestr fer o'r syniadau gorau'n cael ei dewis a bydd yn rhaid i'r sawl y tu ôl iddynt annog eu cymunedau i gefnogi eu cynigion wrth iddynt gael eu darlledu ar newyddion rhanbarthol ITV. Bydd y sawl sy'n derbyn y nifer uchaf o bleidleisiau trwy bleidlais dros y ffôn yn ennill yr arian i roi eu cynlluniau ar waith.

Mae pecynnau ymgeisio ar gael yn www.peoplesmillions.org.uk, a'r terfyn amser ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw 12 hanner dydd ar ddydd Llun 13 Mai 2013.

Mae'r gystadleuaeth, sydd bellach yn ei wythfed flwyddyn, wedi dyfarnu bron £1.7 miliwn yng Nghymru i 32 o brosiectau teilwng. Mae ystod helaeth o brosiectau cymunedol wedi cael eu hariannu gan gynnwys parc chwarae newydd sbon ar gyfer tref Dolgellau yng ngogledd Cymru, prosiectau i leihau pentyrrau mawr o wastraff bwyd yng nghanolbarth Cymru, adnewyddu hen neuadd y gweithwyr yn ne Cymru a phrosiect i ddarparu cyfleoedd i ddeuddeg o bobl ifanc weithio ar safle adeiladu byw ac ennill sgiliau mewn amgylchedd adeiladu.

Meddai Cyfarwyddwr Cronfa Loteri Fawr Cymru, John Rose: “Mae Miliynau'r Bobl yn ffordd wych o wneud gwahaniaeth yn eich ardal, p'un a yw'n ymwneud â mynd i'r afael â phroblem neu fater lleol, neu ymateb i angen am wasanaeth neu gefnogaeth mewn rhan benodol o'ch cymuned.

“Y cyhoedd fydd yn pleidleisio ar bwy sy'n derbyn yr arian, felly mae angen i'r syniadau ennyn diddordeb y cyhoedd a'u darbwyllo i bleidleisio. Mae'n hwyl rhyfeddol ac yn gyfle gwych i chi roi eich cymuned ar y map a symbylu cefnogaeth ar gyfer rhywbeth rydych yn frwd o'i blaid. Byddwn yn annog pawb sy'n frwd o blaid ble maen nhw'n byw i ystyried sut i wario £50,000 ac anfon eu syniadau atom cyn gynted â phosib."

Meddai Adam Crozier, Prif Weithredwr ITV: "Mae ITV wrth ei fodd bod Miliynau'r Bobl yn dod yn ôl, gan roi cyfle i grwpiau a chymunedau wella bywydau pobl leol. Eleni, gyda bron £4m ar gael edrychwn ymlaen at weld rhai problemau cyffrous yn datblygu o freuddwyd i fod yn realiti".

Trwy Miliynau'r Bobl eleni, mae cyfanswm o £3.8 miliwn ar gael ar gyfer 76 o brosiectau ar draws y DU. Mae'r gystadleuaeth wedi dyfarnu dros £27.8 miliwn mewn arian Loteri i 523 o brosiectau ar draws y DU ers iddi gael ei lansio yn 2005.

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 029 20 678 207 
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk
Dilynwch y Gronfa Loteri Fawr ar Twitter: www.twitter.com/LoteriFawrCymru #CLF
Dilynwch Miliynau'r Bobl ar Twitter gan ddefnyddio:  #pplsmillions

Dyddiadau Miliynau'r Bobl 2013
• 12 hanner dydd 13 Mai 2013: Terfyn amser ymgeisio
• Rhan olaf Hydref 2013: Cyhoeddi'r rhestr fer
• 25-28 Tachwedd 2013: Wythnos bleidleisio
 

Nodiadau i Olygyddion
• Mae Miliynau'r Bobl yn fenter y Gronfa Loteri Fawr mewn partneriaeth ag ITV
• Trwy Miliynau'r Bobl bydd y Gronfa Loteri Fawr yn gwneud 76 dyfarniad o hyd at £50,000 i brosiectau newydd a fydd yn gwella mannau lleol neu fywydau pobl yn y gymuned.
• Mae Miliynau'r Bobl wedi rhoi cyfle i'r cyhoedd bleidleisio dros y prosiectau lleol a ddylai dderbyn arian achosion da'r loteri ers iddo lansio yn 2005.
• Mae mudiadau gwirfoddol a chymunedol newydd a phresennol, awdurdodau lleol a chyrff iechyd i gyd yn gymwys i ymgeisio.
• Rhifau pleidleisio dros y ffôn - fel blynyddoedd blaenorol, bydd ITV a'r Gronfa Loteri Fawr yn defnyddio rhif cost isel. Nid yw ITV a'r Gronfa'n gwneud elw o'r rhifau pleidleisio dros y ffôn.
• Mae’r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf arian achosion da y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am ddyrannu 40% o'r arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol.
• Sefydlwyd y Gronfa’n swyddogol gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.




Tags

Themâu

  • Cymunedau Cryfach

Categori

  • Cynnwys y cyhoedd
ADBORTH