Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

15 miliwn o resymau pam fo Iechyd meddwl o bwys yng Nghymru

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
28 2 2007
Bydd rhaglen newydd gwerth £15 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr yn hyrwyddo adsefydlu ac annibyniaeth pobl â phroblemau iechyd meddwl difrifol yng Nghymru ac yn cefnogi’r rheini sydd mewn risg mwyaf o gyflawni hunanladdiad.

Ddydd Mawrth, 27 Chwefror, bydd cynrychiolwyr o amryw gyrff iechyd meddwl yng Nghymru yn dod ynghyd yn y Galeri yng Nghaernarfon, Gogledd Cymru, i lansio rhaglen newydd y Gronfa Loteri Fawr ‘Iechyd Meddwl'. (os am gyfleoedd lluniau, ffilmio neu gyfweld, gweler diwedd y datganiad).

Bydd un o blith pedwar oedolyn yn profi problemau iechyd meddwl rhywbryd yn ystod eu bywyd ac un o blith deg plentyn angen cymorth proffesiynol ar gyfer anhwylder iechyd meddwl. Effeithir ar un o bob 20 o bobl dros 65 â dementia hefyd. Pobl â phroblemau iechyd meddwl yw rhai o’r bobl fwyaf difreintiedig mewn cymdeithas ac yn aml maent yn profi amddifadedd lluosog.  Mae nifer yn ynysig, a chyda hunan-barch isel a dyheadau isel. Ychwanegir at eu cyflwr gan y stigma, y diffyg dealltwriaeth a’r gwahaniaethu maent yn eu hwynebu yn ddyddiol.

Bydd y rhaglen Iechyd Meddwl yn cefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl difrifol i fyw bywydau cyflawn yn eu cymunedau a lleihau’r achosion o ail byliau neu argyfyngau. Ynghyd â chefnogi prosiectau sy’n codi ymwybyddiaeth ynghylch salwch meddwl, bydd y rhaglen yn cynorthwyo i wella mynediad at gefnogaeth briodol i'r rheini sydd fwyaf wrth risg o broblemau iechyd meddwl difrifol neu hunanladdiad.

Enghraifft berffaith ar gyfer pobl a fydd yn elwa o’r rhaglen newydd hon yw Jane Williams, 56 mlwydd oed o Ddinbych, Gogledd Cymru. Bu Jane ei hun yn fuddiolwr i wasanaethau iechyd meddwl, ond bellach mae wedi ymroi ei bywyd ei hun i gynorthwyo eraill sydd wedi dioddef problemau tebyg. Mae’n un o blith niferoedd o bobl sydd wedi derbyn cefnogaeth gan sefydliad MIND Dyffryn Clwyd, a dderbyniodd £222,525 yn ddiweddar gan y Gronfa Loteri Fawr i ddatblygu ei Wasanaeth Allgymorth Gwledig.

Pan ddaeth ei phriodas gyntaf i ben, bu’n rhaid i Jane fynd i weld seiciatrydd ac fe roddwyd cyffuriau gwrthiselder iddi.  Dywedodd Jane: “Gall ddigwydd i unrhyw un, unrhyw bryd ac yn sydyn rydych chi'n teimlo na allwch chi ymdopi rhagor. Ar fy mhwynt isaf, roeddwn yn teimlo ar fy mhen fy hun, yn unig ac yn gwbl ddiwerth. Roeddwn yn beio fy hun am bopeth, gan gynnwys fy nhor-priodas. Drwy’r gefnogaeth a dderbyniais gan MIND, dechreuais deimlo fel person gwerthfawr eto ac mae’r therapi cyfannol maent yn ei gynnig yn wych.

“Mae’n cymryd amser i rywun sylweddoli eu bod yn dioddef o iselder ac fe gymerodd 12 mis i mi roi trefn ar fy mywyd eto.  Mae pobl yn ofni problemau iechyd meddwl gan na allant eu gweld. Nid yw’n rhywbeth y gellir ei drin yn hawdd, fel torri coes. Rhaid newid yr agweddau tuag at iechyd meddwl os ydym eisiau symud ymlaen. Wrth addysgu pobl yn well ynghylch iechyd meddwl y mae cael gwared ar y stigma sydd ynghlwm wrtho.”

Fe ailbriododd Jane ddeng mlynedd yn ôl a bellach mae hi’n ymroi ei hamser i ofalu am ei gŵr, sy’n dioddef â Sgitsoffrenia, ynghyd â dau o bobl eraill sy’n dioddef â’r salwch. Dywedodd Jane: “Nid yw’n rhywbeth hawdd i ymdrin ag ef, ond gyda chefnogaeth dda a phawb yn gweithio fel tîm, mae gennym fywyd da,” esboniodd. “Rwy’n gymwys i gynnig cyngor gan fy mod i wedi profi’r peth. Mae cyrff megis MIND yn dangos i chi bod pwrpas i’ch bywyd ac maent yn eich cynorthwyo i adennill eich annibyniaeth. Nid swydd yw gofalu i mi, ond ffordd o fyw.”

Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y rhaglen, dywedodd Huw Vaughan Thomas, Cadeirydd y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Yn ystod ein hymgynghoriadau, roedd diffyg darpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru yn bwnc a gododd dro ar ôl tro. Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gydag arbenigwyr ym maes iechyd meddwl er mwyn darparu ffocws clir i’r rhaglen. Wrth i ni ddatblygu’r rhaglen, aethom ati i geisio deall pa faterion yr oedd ymarferwyr salwch meddwl a defnyddwyr gwasanaeth yn eu hwynebu.

Ychwanegodd Huw: “Bydd y rhaglen hon yn cael effaith arwyddocaol ar fywydau pobl sy’n dioddef â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru.  Bydd ein arian yn gwneud cyfraniad strategol pwysig i ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl ar draws y wlad, drwy gynorthwyo pobl â phroblemau iechyd meddwl a chefnogi prosiectau sy'n ceisio goresgyn y rhwystrau maent yn eu hwynebu."

Mae’r rhaglen Iechyd Meddwl yn ategu at Gynllun Gweithredu Iechyd Meddwl Llywodraeth Cynulliad Cymru. Wrth fynegi ei gefnogaeth i'r rhaglen, dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cynulliad Cymru, Brian Gibbons: “Dymunaf ddiolch i’r Gronfa Loteri Fawr am y cyfraniad pwysig hwn i ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymedig i sicrhau fod iechyd meddwl yn dod yn rhan gadarn o’r agenda moderneiddio. Bydd rhaglen Iechyd Meddwl y Gronfa Loteri Fawr yn darparu cefnogaeth gwerth ychwanegol a gwerthfawr iawn i lawer o fentrau sy’n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru. Yn arbennig ar gyfer y rheini sy’n gweithio i fynd i’r afael ag allgau cymdeithasol a gwahaniaethu; problemau y mae nifer o bobl yn ein cymdeithas yn dal i'w hwynebu."

GWYBODAETH BELLACH AM Y LANSIAD A'R RHAGLEN

Yn ystod y lansiad, bydd defnyddiwr gwasanaeth, Gerwyn Jenkins o Lanelli, ar gael i siarad am ei brofiadau o ymdopi â phroblemau iechyd meddwl. Bydd Hywel Williams, Aelod Seneddol Caernarfon, sy’n eiriolwr cryf dros faterion iechyd meddwl, hefyd yn siarad. Bydd y rheini sy’n mynychu’r lansiad hefyd yn gallu gweld a chlywed, am y tro cyntaf, darn o farddoniaeth a gomisiynwyd gan y Gronfa Loteri Fawr i godi ymwybyddiaeth ynghylch materion iechyd meddwl, a grëwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan y bardd ifanc o Gaerfyrddin, Catrin Dafydd.

Mae’r Gronfa Loteri Fawr hefyd yn datblygu cyfres o fentrau yn ystod y flwyddyn i godi ymwybyddiaeth ynghylch materion iechyd meddwl. Bydd y mentrau yn cynnwys prosiectau ymchwil, digwyddiadau cyffredinol ac adnoddau. Thema’r mentrau fydd “Mwy na rhif" a'u nod fydd hysbysu pobl ynghylch cyffredinolrwydd materion iechyd meddwl, sut gall salwch effeithio arnom ni a sut allwn ni chwarae rhan wrth gael gwared ar y stigma.  Bydd Catrin Dafydd yn cynnal gweithdai gyda phobl ifanc i’w cynorthwyo i ddatblygu eu sgiliau creadigol a bydd eu barddoniaeth yn cael ei ddefnyddio hefyd yng nghyhoeddiadau’r Gronfa Loteri Fawr yn ystod y flwyddyn ac fel rhan o'r ymgyrch ymwybyddiaeth.

Am wybodaeth bellach am y rhaglen ‘Iechyd Meddwl’ a sut all eich grŵp wneud cais am arian, ewch i wefan y Gronfa Loteri Fawr www.cronfaloterifawr.org.uk.

Am wybodaeth bellach am y cyfleoedd cyfweld, lluniau a ffilmio, gweler isod a chysylltwch ag Oswyn Hughes yn swyddfa wasg y Gronfa Loteri Fawr neu drwy e-bost neu ar y rhifau isod.

Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Tu hwnt i oriau swyddfa: 07760171431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030
Llinell Destun:  845 6021 659
Ceir manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grantiau’r Gronfa Loteri Fawr ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

CYFLEOEDD LLUNIAU, FFILMIO NEU GYFWELD:

Digwyddiad:Lansiad Swyddogol rhaglen Iechyd Meddwl
Dyddiad:Dydd Mawrth 27 Chwefror, 2007
Amser:11:00am – 12:00pm
Lleoliad:Y Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, Gogledd Cymru LL55 1SQ
Lluniau/Ffilmio:Bydd Jane Williams ar gael ar gyfer cyfleoedd cyfweld, ffilmio a lluniau. Gwahoddir y cyfryngau i’r digwyddiad yn y Galeri hefyd a bydd cyfle i gyfweld â Chadeirydd y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru, Huw Vaughan Thomas, y bardd, Catrin Dafydd ac Aelod Seneddol Caernarfon, Hywel Williams. Bydd ffotograffau wedi’u comisiynu o’r lansiad yn cael eu tynnu ar y dydd, a byddant ar gael am ddim wrth wneud cais i swyddfa'r wasg.

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £2 filiwn mewn arian achosion da y Loteri bob 24 awr ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws y Deyrnas Unedig fod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a’i ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004.
  • Ar 1 Rhagfyr 2006 sefydlwyd y Gronfa Loteri Fawr yn swyddogol gan y Senedd ac ar yr un pryd cymerodd gyfrifoldebau gweddilliol Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (Cronfa Gymunedol), Cronfa Cyfleoedd Newydd, a’r Comisiwn Mileniwm a ddiddymwyd. Mae’r Gronfa yn adeiladu ar brofiad a dulliau gweithredu gorau’r cyrff sydd wedi’u cyfuno er mwyn symleiddio ariannu'r ardaloedd hynny lle maent yn gorgyffwrdd ac i sicrhau fod arian Loteri yn gwneud y defnydd gorau posibl o arian.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol

Themâu

  • Iechyd a lles
ADBORTH