Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

15 miliwn o resymau pam fo iechyd meddwl o bwys yng Nghymru

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
28 2 2007
Bydd rhaglen newydd gwerth £15 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr yn hyrwyddo adsefydlu ac annibyniaeth pobl â phroblemau iechyd meddwl difrifol yng Nghymru ac yn cefnogi’r rheini sydd mewn risg mwyaf o gyflawni  hunanladdiad.

Ddydd Mawrth, 27 Chwefror, bydd cynrychiolwyr o amryw gyrff iechyd meddwl yng Nghymru yn dod ynghyd yn y Galeri yng Nghaernarfon, Gogledd Cymru, i lansio rhaglen newydd y Gronfa Loteri Fawr ‘Iechyd Meddwl'. (Os am gyfleoedd lluniau, ffilmio neu gyfweld, gweler diwedd y datganiad).

Bydd un o blith pedwar oedolyn yn profi problemau iechyd meddwl rhywbryd yn ystod eu hoes ac un o blith deg plentyn angen cymorth proffesiynol ar gyfer anhwylder iechyd meddwl. Effeithir ar un o bob 20 o bobl dros 65 â dementia hefyd. Pobl â phroblemau iechyd meddwl yw rhai o’r bobl fwyaf difreintiedig mewn cymdeithas ac yn aml maent yn profi amddifadedd lluosog.  Mae nifer yn ynysig, a chyda hunan-barch isel a dyheadau isel. Ychwanegir at eu cyflwr gan y stigma, y diffyg dealltwriaeth a’r gwahaniaethu maent yn eu hwynebu yn ddyddiol.

Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn lansio’r rhaglen Iechyd Meddwl i gefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl difrifol i fyw bywydau cyflawn yn eu cymunedau a lleihau’r achosion o ail byliau neu argyfyngau. Ynghyd â chefnogi prosiectau sy’n codi ymwybyddiaeth ynghylch salwch meddwl, bydd y rhaglen yn cynorthwyo i wella mynediad at gefnogaeth briodol i'r rheini sydd fwyaf wrth risg o broblemau iechyd meddwl difrifol neu hunanladdiad.

Enghraifft berffaith ar gyfer pobl a fydd yn elwa o’r rhaglen newydd hon yw Gerwyn Jenkins, 65 mlwydd oed o Lanelli, Sir Gaerfyrddin. Gwyddai Gerwyn ers yn 14 mlwydd oed bod rhywbeth yn bod ar ei ymddygiad. Ond dim ond yn 28 mlwydd oed, pan ddechreuodd weld seiciatrydd cafwyd bod Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol arno – anhwylder  seiciatrig a nodweddir yn gyffredin â meddyliau obsesiynol, trallodus, ymwthiol a gorfodaethau perthnasol, megis tasgau neu arferion, sy’n ceisio niwtraleiddio’r obsesiynau. Mae’r cyflwr wedi effeithio’n ddirfawr ar fywyd Gerwyn. Dywedodd Gerwyn: “Rydych chi’n gwirio pethau ddwywaith neu'n fwy. Er enghraifft, os ydych chi’n gadael y tŷ i fynd i’r gwaith, fe ewch chi’n ôl sawl gwaith i weld a ydych chi wedi cloi’r drws. Mae’n effeithio ar bob agwedd ar eich bywyd. Gwaethygodd y cyflwr yn fawr pan oeddwn yn gweithio. Daeth popeth yn obsesiwn a byddwn yn gwirio pethau drosodd a throsodd eto. Roedd yn achosi straen gan y byddwn yn mynd i mewn i’r gwaith yn gynt, yn gadael yn hwyrach ac yn cymryd dwywaith yr amser i gwblhau’r tasgau. Mae’n gosod llawer o straen arnoch chi ac wrth i chi flino mae’r cyflwr yn gwaethygu gan nad oes gennych yr egni i ymladd yn ei erbyn. Byddwn yn teimlo’n flinedig, yn nerfus ac yn teimlo dan bwysau cyson. Dyna pryd mae’n gafael arnoch chi a gwneud i chi deimlo'n isel eich ysbryd.”

Cyrhaeddodd Gerwyn ben ei dennyn pan oedd yn 28 mlwydd oed a bu’n rhaid iddo fynd i weld seiciatrydd. Bellach mae wedi dysgu ymdopi â’r anhwylder. Dywedodd Gerwyn: “Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn bod arnaf hyd nes i mi weld seiciatrydd. Bellach rwyf wedi derbyn fod y cyflwr arnaf. Ond nid yw llawer o bobl yn sylweddoli beth sy’n bod arnynt gan nad oes digon o wybodaeth a chefnogaeth ar gael. Serch hynny, mae pethau’n gwella, yn enwedig ers i sêr byd-enwog fel David Beckham gydnabod ei fod yn dioddef ag Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol. Mae hyn yn gwaredu rhywfaint ar y stigma sydd ynghlwm wrth y cyflwr.

“Mae’n syndod faint o bobl sy’n dioddef â salwch meddwl a chyn lleied a ddeallir ynghylch anhwylderau megis Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol. Rhaid dechrau trin rhywun sydd ag Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol yn ifanc iawn, er mwyn iddynt ddysgu sut i ymdopi â’r cyflwr. Mae gan sefydliad MIND grŵp cymorth yng Nghaerdydd ac mae’n syndod faint o fyfyrwyr sy’n dod i'r sesiynau. Gobeithiaf y bydd y rhaglen newydd hon yn cynorthwyo i sefydlu rhagor o grwpiau cymorth i fodloni’r galw.”

Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y rhaglen, dywedodd Huw Vaughan Thomas, Cadeirydd y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Yn ystod ein hymgynghoriadau, roedd diffyg darpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru yn bwnc a gododd dro ar ôl tro. Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gydag arbenigwyr ym maes iechyd meddwl er mwyn darparu ffocws clir i’r rhaglen. Wrth i ni ddatblygu’r rhaglen, aethom ati i geisio deall pa faterion yr oedd ymarferwyr salwch meddwl a defnyddwyr gwasanaeth yn eu hwynebu.

“Bydd y rhaglen hon yn cael effaith arwyddocaol ar fywydau pobl sy’n dioddef â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru.  Bydd ein arian yn gwneud cyfraniad strategol pwysig i ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl ar draws y wlad, drwy gynorthwyo pobl â phroblemau iechyd meddwl a chefnogi prosiectau sy'n ceisio goresgyn y rhwystrau maent yn eu hwynebu."

Mae’r rhaglen hefyd yn ategu at Gynllun Gweithredu Iechyd Meddwl Llywodraeth Cynulliad Cymru. Wrth fynegi ei gefnogaeth i'r rhaglen, dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cynulliad Cymru, Brian Gibbons: “Dymunaf ddiolch i’r Gronfa Loteri Fawr am y cyfraniad pwysig hwn i ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymedig i sicrhau fod iechyd meddwl yn dod yn rhan gadarn o’r agenda moderneiddio. Bydd rhaglen Iechyd Meddwl y Gronfa Loteri Fawr yn darparu cefnogaeth gwerth ychwanegol a gwerthfawr iawn i lawer o fentrau sy’n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru. Yn arbennig ar gyfer y rheini sy’n gweithio i fynd i’r afael ag allgau cymdeithasol a gwahaniaethu; problemau y mae nifer o bobl yn ein cymdeithas yn dal i'w hwynebu."

GWYBODAETH BELLACH AM Y LANSIAD A'R RHAGLEN

Yn ystod y lansiad, bydd Gerwyn Jenkins o Lanelli ar gael i siarad am ei brofiadau o ymdopi â phroblemau iechyd meddwl. Bydd Hywel Williams, Aelod Seneddol Caernarfon, sy’n eiriolwr cryf dros faterion iechyd meddwl, hefyd yn siarad. Bydd y rheini sy’n mynychu’r lansiad hefyd yn gallu gweld a chlywed, am y tro cyntaf, darn o farddoniaeth a gomisiynwyd gan y Gronfa Loteri Fawr i godi ymwybyddiaeth ynghylch materion iechyd meddwl, a grëwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan y bardd ifanc o Gaerfyrddin, Catrin Dafydd.

Mae’r Gronfa Loteri Fawr hefyd yn datblygu cyfres o fentrau yn ystod y flwyddyn i godi ymwybyddiaeth ynghylch materion iechyd meddwl. Bydd y mentrau yn cynnwys prosiectau ymchwil, digwyddiadau cyffredinol ac adnoddau. Thema’r mentrau fydd “Mwy na rhif" a'u nod fydd hysbysu pobl ynghylch cyffredinolrwydd materion iechyd meddwl, sut gall salwch effeithio arnom ni a sut allwn ni chwarae rhan wrth gael gwared ar y stigma.  Bydd Catrin Dafydd yn cynnal gweithdai gyda phobl ifanc i’w cynorthwyo i ddatblygu eu sgiliau creadigol a bydd ei barddoniaeth yn cael ei ddefnyddio hefyd yng nghyhoeddiadau'r Gronfa Loteri Fawr yn ystod y flwyddyn fel rhan o'r ymgyrch ymwybyddiaeth.

Am wybodaeth bellach am y rhaglen ‘Iechyd Meddwl’ a sut all eich grŵp wneud cais am arian, ewch i wefan y Gronfa Loteri Fawr www.cronfaloterifawr.org.uk.

Am wybodaeth bellach ynghylch cyfleoedd cyfweld, lluniau a ffilmio, gweler isod a chysylltwch ag Oswyn Hughes yn swyddfa’r wasg Cronfa Loteri Fawr neu drwy e-bost neu ar y rhifau isod.

Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Tu hwnt i oriau swyddfa: 07760171431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030
Llinell Destun:  845 6021 659
Ceir manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grantiau’r Gronfa Loteri Fawr ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

CYFLEOEDD LLUNIAU, FFILMIO NEU GYFWELD:

Digwyddiad:Lansiad Swyddogol rhaglen Iechyd Meddwl
Dyddiad:Dydd Mawrth 27 Chwefror, 2007
Amser:11:00am – 12:00pm
Lleoliad:Y Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, Gogledd Cymru LL55 1SQ
Lluniau/Ffilmio:Bydd Gerwyn Jenkins ar gael ar gyfer cyfleoedd cyfweld, ffilmio a lluniau. Gwahoddir y cyfryngau i’r digwyddiad yn y Galeri hefyd a bydd cyfle i gyfweld â Chadeirydd y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru, Huw Vaughan Thomas, y bardd, Catrin Dafydd ac Aelod Seneddol Caernarfon, Hywel Williams. Bydd ffotograffau wedi’u comisiynu o’r lansiad yn cael eu tynnu ar y dydd, a byddant ar gael am ddim drwy wneud cais i swyddfa'r wasg.

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £2 filiwn mewn arian achosion da y Loteri bob 24 awr ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws y Deyrnas Unedig fod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004.
  • Ar 1 Rhagfyr 2006 sefydlwyd y Gronfa Loteri Fawr yn swyddogol gan y Senedd ac ar yr un pryd cymerodd gyfrifoldebau gweddilliol Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (Cronfa Gymunedol), Cronfa Cyfleoedd Newydd, a’r Comisiwn Mileniwm a ddiddymwyd. Mae’r Gronfa yn adeiladu ar brofiad a dulliau gweithredu gorau’r cyrff sydd wedi’u cyfuno er mwyn symleiddio ariannu'r ardaloedd hynny lle maent yn gorgyffwrdd ac i sicrhau fod arian Loteri yn gwneud y defnydd gorau posibl o arian.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol

Themâu

  • Iechyd a lles
ADBORTH