Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Pobl Ifanc ar Ffo i Elwa o Bron i £4 Miliwn o Arian y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru

Area:
Cymru
Programme:
Pawb a'i Le
Release date:
15 2 2013

Mae prosiect i fynd i'r afael â pham mae plant a phobl ifanc yn mynd ar goll dro ar ôl tro ynghyd â phrosiect i ddarparu cyrsiau hunanreoli iechyd meddwl a chefnogaeth ar gyfer carcharorion gwryw ymysg y grwpiau i rannu bron £4 miliwn a ddyfarnwyd gan y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru heddiw.

At ei gilydd bydd 19 o brosiectau ledled Cymru'n rhannu'r £3,994,774 a ddyfarnwyd trwy raglen Pawb a'i Le y Gronfa Loteri Fawr heddiw. Yn ogystal â darparu cefnogaeth hanfodol i'r bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas, mae llawer o'r prosiectau a ariennir o dan y rownd ddiweddaraf yn anelu at wella hyder, sgiliau a chyflogadwyedd pobl mewn cymunedau ledled Cymru (rhestr lawn ar ddiwedd y datganiad).

Gyda'r £543,202 a ddyfarnwyd iddynt, bydd asiantaethau amddiffyn plant yng Ngwent yn creu both plant ar goll a fydd yn gweithio ar draws rhanbarth Gwent. Bydd y cynllun yn dod â gweithwyr o'r gwasanaethau cyhoeddus ynghyd i ymyrryd yn gynnar er mwyn cael gwybod pam mae pobl ifanc yn mynd ar goll. Amcan y prosiect yw darparu ymateb aml-asiantaeth pan fydd plant yn rhedeg i ffwrdd er mwyn lleihau achosion a risg o fynd ar goll, ac i wella canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc.

Meddai Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Lywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant: "Mae'n newyddion gwych bod y prosiect hwn yn cael ei gefnogi gan y Gronfa Loteri Fawr. Mae gan wasanaethau cyhoeddus rôl hollbwysig i'w chwarae wrth gefnogi'r bobl fwyaf anghenus yn ein cymdeithas. Trwy gydweithio mewn ffyrdd newydd bydd y prosiect hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lawer o bobl ifanc yng Ngwent a bydd hefyd yn enghraifft o arfer da ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru.

Meddai Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent a Chadeirydd Bwrdd y prosiect, Jeff Farrar: "Rwy’n gwbl argyhoeddedig bod ein hymagwedd o ddod ynghyd ar draws gwasanaethau cyhoeddus i dorri’r cylch ar gyfer plant ar goll yn wirioneddol flaengar. Bydd yn gosod y safon o ran sut rydym yn ymateb i bob person bregus. Mae llawer o waith caled wedi’i wneud i wireddu hyn a hoffwn ddiolch yn benodol i’r bobl ifanc sydd wedi profi’r trawma o fod ar goll a’n helpu ni i ddiwygio’r gwasanaeth.”

A chyda'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod cyfraddau hunanladdiad yng Nghymru wedi codi 30% dros ddwy flynedd i'r lefel uchaf ers 2004, bydd prosiect arloesol a redir gan Y Sefydliad Iechyd Meddwl yn gwario £220,546 ar ddarparu cyrsiau hunanreoli iechyd meddwl a grwpiau cefnogi cymheiriaid ar gyfer carcharorion gwryw yng Ngharchar y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd grwpiau cefnogi'n cael eu sefydlu yn y carchar ac mewn lleoliadau allanol pan fydd carcharorion yn gadael y carchar. Bydd y prosiect yn gwerthuso'r gwasanaeth i archwilio ei effeithiolrwydd gyda'r nod o'i efelychu mewn lleoliadau carchar eraill.

Yng Ngogledd Cymru, mae Home-Start Sir Ddinbych yn helpu teuluoedd gyda phlant bach yn yr ardal i ddelio gyda heriau bywyd, ac mae'n cefnogi rhieni wrth iddynt ddysgu i ymdopi, gwella'u hyder a chreu bywydau gwell ar gyfer eu plant. Bydd grant o £219,899 bellach yn eu galluogi i estyn eu gwasanaethau i gynnwys nosweithiau a phenwythnosau. Bydd hyn yn helpu i atal teuluoedd gyda phlant rhwng pump ac un ar ddeg oed rhag cyrraedd y pwynt argyfwng. Bydd y prosiect hefyd yn hyrwyddo magu plant cadarnhaol a gwella'r defnydd o wasanaethau cymunedol lleol. 

Ac mewn prosiect a anelir at helpu'r amgylchedd a gwella sgiliau ac addysg pobl ifanc 14 - 18 oed sydd wedi cael eu gwahardd o'r ysgol, bydd Wastesavers Charitable Trust Limited yn defnyddio'u dyfarniad o £160,934 i redeg y prosiect PEAK. Mae Wastesavers yn grŵp ailgylchu cymunedol nid er elw sy'n rhedeg ystod o wasanaethau yn ne-ddwyrain Cymru. Trwy'r prosiect PEAK, maen nhw'n gweithio gydag ysgolion lleol i ddarparu amgylchedd gwaith a dysgu ar gyfer pobl ifanc sydd am gael profiad ymarferol y tu allan i sefyllfa ffurfiol yr ystafell ddosbarth.

Dros dair blynedd bydd y prosiect yn galluogi'r prosiect i ehangu ei ardal wasanaeth i gwmpasu Casnewydd a Thorfaen i gyd a chynnig ei wasanaethau i ysgolion a mudiadau newydd. Yn ogystal â'r gweithgareddau presennol y maen nhw'n eu darparu megis cynnal a chadw beiciau, gwaith saer, coginio, TG a sesiynau ymwybyddiaeth cyffuriau ac alcohol - bydd y prosiect bellach yn darparu gweithgareddau garddwriaeth, sgiliau bywyd, bwyta'n iach, gwaith plwmio ac addurno, celf a chrefft, ymwybyddiaeth iechyd rhywiol, ffotograffiaeth, cerddoriaeth a chyfryngau digidol.

Yn amlygu pwysigrwydd y rhaglen Pawb a'i Le, meddai Gareth Newton, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: "Mae rhaglenni fel Pawb a'i Le'n gwneud gwahaniaeth i fywydau cynifer o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru. Mae'n cyflwyno ar ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol i adfywio ac adnewyddu cymunedau, mynd i'r afael yn uniongyrchol ag anfantais a gadael etifeddiaeth a fydd yn parhau.”

Mae'r rhaglen Pawb a'i Le yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 ac £1 miliwn ar gyfer amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol. I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen a sut y gallwch chi ymgeisio am ariannu, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk

Rhestr lawn y dyfarniadau

Blaenau Gwent  – 1 Grant gwerth £248,941

Home-Start Blaenau Gwent

 

Blaenau Gwent

Bydd y prosiect yn cefnogi teuluoedd trwy ystod o wasanaethau newydd. Bydd gwasanaeth seibiant i deuluoedd yn cynorthwyo teuluoedd sydd mewn perygl o chwalu, gan roi saib i rieni a chan weithio gyda'r plant i fynd i'r afael ag anghenion cefnogaeth a adnabuwyd. Bydd pobl yn eu harddegau a rhieni ifanc yn gallu hygyrchu cefnogaeth wedi'i theilwra a chwe rhaglen cefnogi teuluoedd er mwyn i rieni a phlant gymryd rhan mewn cyfleoedd newydd i ddatblygu hyder a sgiliau, gwella iechyd a lles a mynd yn ddinasyddion actif yn eu cymuned.

£248,941

Pen-y-bont ar Ogwr - 1 Grant gwerth £220,546

Y Sefydliad Iechyd Meddwl

 

Carchar y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr

Bydd y prosiect yn darparu cyrsiau hunanreolaeth iechyd meddwl a grwpiau cefnogi cymheiriaid ar gyfer carcharorion gwryw yng Ngharchar y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr.   Bydd grwpiau cefnogi cymheiriaid yn cael eu sefydlu yn y carchar ac mewn lleoliadau allanol pan fydd pobl yn gadael y carchar. Bydd y prosiect yn cwblhau gwerthusiad o'r gwasanaeth i archwilio effeithiolrwydd, gyda'r nod o'i efelychu mewn carchardai eraill.

£220,546

Caerdydd – 3 Grant gwerth £501,017

Age Concern Caerdydd a Bro Morgannwg Cyfyngedig

Caerdydd 100%

 

 

Bydd y prosiect hwn dros 3 blynedd yn darparu mynediad i wybodaeth ariannol ar gyfer pobl hŷn yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Bydd y mudiad yn gweithio gyda phobl hŷn i'w helpu i hygyrchu gwybodaeth a chyngor, rheoli eu cyllid a mwyafu eu hincwm.

£164,130

Sherman Cymru

 

Cyngor Dinas Caerdydd

Dros dair blynedd bydd y prosiect yn darparu gweithgareddau creadigol ar gyfer pobl ddifreintiedig gyda neu heb anableddau. Bydd y prosiect yn gwella hyder, llythrennedd a chyfathrebu yn ogystal â chynorthwyo gyda chydlyniant y gymuned ac integreiddio. Bydd y prosiect wedi'i leoli yn Theatr Sherman.

£211,395

Sefydliad Addysg Barhaus i Oedolion Cenedlaethol (Cymru a Lloegr)

Caerdydd 75% Abertawe 25%

Bydd y prosiect dwy flynedd hwn yn ymgysylltu ag oedolion o grwpiau diwylliannol gwahanol i wella'u dealltwriaeth o'u diwylliannu ei gilydd a diwylliant Cymru, a gwella'u sgiliau Saesneg. Bydd y prosiect yn gweithio mewn partneriaeth â Beyond the Border Storytelling Festival yn adrodd storïau traddodiadol o bob cwr o'r byd.

£125,492

Sir Ddinbych – 1 Grant gwerth £219,899

Home-Start Sir Ddinbych

 

Sir Ddinbych

Bydd Home Start Sir Ddinbych yn estyn gwasanaethau i nosweithiau a phenwythnosau.  Bydd y prosiect yn darparu cefnogaeth a arweinir gan wirfoddolwyr i deuluoedd sydd â phlant 5-11 oed. Bydd hyn yn eu hatal rhag cyrraedd y pwynt argyfwng, yn hyrwyddo magu plant cadarnhaol a gwella'r defnydd o wasanaethau cymunedol lleol.

£219,899

Casnewydd – 2 Grant gwerth £87,269

Wastesavers Charitable Trust Limited

 

Casnewydd

Bydd Wastesavers yn ehangu ei raglen addysg yng Nghasnewydd sy'n cynnig addysg ymarferol i bobl ifanc 14-18 oed sy'n cael eu gwahardd o'r ysgol.  Dros dair blynedd bydd y prosiect yn ehangu ei ardal wasanaeth i gwmpasu Casnewydd a Thorfaen i gyd, yn ehangu ei weithgareddau ac yn cynnig ei wasanaethau i ysgolion a mudiadau newydd. 

£160,934

Rhwydwaith Cymunedol Y Gaer

 

Ward y Gaer, Casnewydd

Bydd y prosiect yn cyflogi rheolwr canolfan a cydlynydd gwirfoddolwyr rhan-amser i ddatblygu a rheoli gweithgareddau newydd a chyfredol yn y ganolfan gymunedol yn ward y Gaer, Casnewydd.

£174,762

Abertawe – 2 Grant gwerth £113,930

Cyrenians Cymru Cyf

Abertawe

Dros ddwy flynedd bydd y prosiect hwn yn darparu cefnogaeth i geiswyr lloches a ffoaduriaid yn ardal Abertawe. Ymysg y gefnogaeth a ddarperir mae bwyd, cyfleusterau ar gyfer prydau mewn grŵp a gwersi Saesneg. Bydd cyfleoedd gwirfoddoli hefyd ar gael ar gyfer y ffoaduriaid a cheiswyr lloches o fewn y gymuned ehangach er mwyn cefnogi integreiddio.

£33,238

Canolfan Pobl Fyddar Abertawe

Abertawe

 

Bydd Canolfan Pobl Fyddar Abertawe'n ehangu ei gweithgareddau yn Abertawe i gynnig mwy o wasanaethau i'r gymuned fyddar ac i'r gymuned ehangach hefyd

£80,692

Torfaen – 1 Grant gwerth £273,786

Woodlands Field Limited

 

Cyngor Sir Torfaen

Bydd y prosiect 3 blynedd yn darparu adeilad parhaol yn Nhorfaen a fydd yn darparu gweithgareddau ieuenctid, cyfleoedd hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol ar gyfer y rhai sy'n tangyflawni mewn system addysg draddodiadol neu sy'n ddifreintiedig oherwydd amgylchiadau personol.

£273,786

Lleoliadau Lluosog/ Cymru gyfan – 7 Grant gwerth £2,067,209

BulliesOut

Caerdydd (25%), Bro Morgannwg (20%), Castell-nedd Port Talbot (10%), Pen-y-bont ar Ogwr (20%) ac Abertawe (25%)

Bydd y prosiect, a leolir yng Nghaerdydd, yn cyflwyno gweithdai cynyddu ymwybyddiaeth, cefnogi pobl ifanc i fod yn llysgenhadon, ac yn datblygu rhwydwaith mentora cymheiriaid i hyrwyddo'r prosiect  a chreu buddion ar gyfer 3,660 o bobl ar draws ardaloedd Caerdydd, Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe.

£171,814

 

Clubs for Young People Wales

 

Ar draws de Cymru

Bydd y prosiect yn cyflogi Rheolwr Datblygu Busnes i gynghori a chefnogi clybiau ieuenctid sy'n aelodau er mwyn iddynt fod yn fwy cynaliadwy. Adnabuwyd 40 clwb ledled Cymru sy'n profi anhawster ar hyn o bryd wrth sicrhau cynaladwyedd tymor hir.

£177,173

 

Canolfan Plant Jig-So

Ceredigion 50%, Sir Gâr 30%, Sir Benfro 20%.

 

Bydd y prosiect hwn dros dair blynedd yn darparu gwasanaethau allgymorth cynyddol, cefnogaeth i deuluoedd a datblygu ymwybyddiaeth o dlodi a chefnogaeth ar draws Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro.

£238,689

Small Woods Association

Aberystwyth 20%, Treherbert 20%, Port Talbot 20%, Ynys Môn 20%, Wrecsam 20%.

Bydd Cymdeithas Small Woods yn cyflwyno prosiect i 1660 o bobl yn Aberystwyth, Treherbert, Ynys Môn, Castell-nedd Port Talbot a Wrecsam sydd â chyflyrau cronig y galon, gyda'r nod o wella'u ffitrwydd corfforol a lles meddyliol. Cyflawnir hyn trwy raglen o weithgareddau a gynhelir gan fudiadau partner mewn amgylcheddau coetir.

£249,000

Sefydliad y Deillion Caerdydd Corfforedig

Cymru Gyfan

 

 

Bydd Sefydliad y Deillion Caerdydd yn rhedeg prosiect dros dair blynedd ar draws Cymru a fydd yn creu buddion ar gyfer hyd at 8000 o unigolion dall ac â nam ar y golwg.  Bydd y prosiect Cymru gyfan yn darparu gwybodaeth, eiriolaeth, cyngor a hyfforddiant i wella bywydau pobl ddall ac â nam ar y golwg yng Nghymru.

£497,436

 

Mardi Gras Lesbiaidd Hoyw, Deurywiol a Thrawsryw Caerdydd yng Nghymru

Wedi'i leoli yng Nghaerdydd, yn gwasanaethu Caerdydd, Casnewydd, Abertawe, Merthyr Tudful, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot, Torfaen, Sir Fynwy, Pen-y-bont ar Ogwr a Blaenau Gwent

Bydd y prosiect yn ariannu datblygiad Mardi Gras Caerdydd. Bydd y prosiect yn galluogi'r mudiad i benodi ei aelod staff cyntaf i hyrwyddo'r ŵyl er mwyn sicrhau bod grwpiau anodd eu cyrraedd y gymuned LGBT yn cael eu cefnogi. Bydd hefyd yn anelu at ymgysylltu â'r gymuned ehangach. Trwy wneud hyn mae'n gobeithio cynyddu ymwybyddiaeth, gwella cydlyniant a lleihau troseddau casineb. 

£189,895

Heddlu Gwent

 

Wedi'i leoli ym Mhont-y-pŵl, yn gweithio ar draws Gwent.

 

Bydd Heddlu Gwent yn creu both plant coll aml-asiantaeth ar gyfer rhannu gwybodaeth ac asesu risg. Bydd hefyd yn comisiynu gwasanaeth annibynnol i weithio gyda phob plant sydd wedi rhedeg i ffwrdd ar ôl iddynt ddychwelyd, ac yn darparu mentora gan gymheiriaid, eiriolaeth a chyfryngu teuluol ar gyfer pawb dan sylw.

£543,202

Wrecsam - 1 Grant gwerth £13,750

Neuadd Pentref Marchwiail

 

 

Marchwiail, Wrecsam

Bydd y grant datblygu cyfalaf yn talu ffioedd proffesiynol, arolwg rhywogaethau a ddiogelir a datblygu cynlluniau ar gyfer adnewyddu neuadd y pentref gan arwain at 16 o weithgareddau rheolaidd ychwanegol. Bydd y gwaith yn cynnwys to newydd, ailadeiladu estyniad, system wresogi a gosodiad trydan newydd, toiledau a chegin fodern a gwelliannau cyffredinol i'r adeilad cyfan gan gynnwys cwrdd â safonau'r Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.

£13,750

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Ben Payne:  029 2067 8224
Cyswllt y tu allan i oriau: 07500 951 707
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735                           Ffôn testun:    0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion
• Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100,000 y diwrnod mewn arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
• Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
• Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.



 


Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Plant
  • Pobl Ifanc
  • Troseddwyr Carcharorion a Chyn-droseddwyr

Themâu

  • Plant a phobl ifanc
  • Adnabod a diwallu angen
  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Iechyd a lles

Categori

  • Adfywio
  • Cynnwys y cyhoedd
ADBORTH