- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 2 4 2012
Mae'r mudiad Gweithredu dros Blant yn rhannu mwy na £1.7 miliwn a ddyfernir gan y Gronfa Loteri Fawr heddiw i redeg dau brosiect arloesol yng Nghymru a fydd yn cefnogi plant ifanc sy'n cael eu magu o dan amgylchiadau anodd iawn ac yn helpu i weddnewid eu cyfleoedd bywyd.
Trwy'r rhaglen Dyfodol Gwell, sy'n cynnig hyd at £26 miliwn ar gyfer cymorth mwy cydgysylltiedig a chynt i deuluoedd gyda phroblemau lluosog a chymhleth, mae Gweithredu dros Blant wedi derbyn dau grant gwerth cyfanswm o £1,799,873 i redeg prosiectau yn ardaloedd penodol yng Ngogledd a De Cymru.
Bydd cefnogaeth y Gronfa Loteri Fawr yn gweld teuluoedd, y mae eu plant hynaf rhwng pump a deg mlwydd oed, yn cael cynnig cymorth wedi'i deilwra gan fudiadau'r sector gwirfoddol yn lleol trwy weithio mewn partneriaeth gyda gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd un dyfarniad gwerth £899,873 yn galluogi i Weithredu dros Blant gynnal Denbighshire Bridge Project (Pontio'r Bwlch mewn Ymyrraeth Gynnar), prosiect tair blynedd newydd a fydd yn cael ei gyflwyno ar draws Sir Ddinbych, Gogledd Cymru, a fydd o fudd i tua 240 o deuluoedd.
Mae'r prosiect yn anelu at wella cyrhaeddiad addysgiadol, lles emosiynol a pherthnasau teuluol trwy ymyrraeth gynnar ddwys i deuluoedd bregus yn nalgylch chwe ysgol gynradd yn y Sir. Bydd y prosiect yn cyflwyno cymorth un-i-un a gwaith grwp i helpu teuluoedd i reoli ymddygiadau plant yn well er mwyn gwella diogelwch plant a'u presenoldeb yn yr ysgol, gan ostwng yr angen am ymyrraeth bellach.
Bydd pecyn cymorth rhianta wedi’i gydlynu gan ystod o bartneriaid yn cael eu cyflwyno yn y cartref, yn y gymuned ac yn yr ysgol, gan ganolbwyntio ar gyflawni newidiadau graddol. Bydd hyn yn mynd i'r afael â phynciau megis rhianta gwell, rheolaeth ariannol a meithrin hunan-barch, a hefyd cynyddu cysylltiadau rhwng y cartref a'r ysgol trwy annog rhieni ar y safle at ddibenion ac eithrio trafod materion addysg. Bydd hyn yn galluogi i deuluoedd ddatblygu perthnasau positif gydag athrawon a gweithredu trefnau sy'n annog presenoldeb yn yr ysgol.
Bydd £900,000 pellach ar gyfer Gweithredu dros Blant yn galluogi iddynt i redeg Prosiect Connecting Families Gweithredu dros Blant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, De Cymru. Bydd y prosiect yn cefnogi tua 150 o deuluoedd trwy gyflwyno cymorth wedi'i dargedu i deuluoedd gyda phlant a rhieni i wella eu bywydau ac atal materion teuluol rhag dwysau i bwynt argyfwng sy'n gofyn am ymyrraeth statudol.
Bydd gweithiwr allweddol yn cael ei benodi i weithio gyda theuluoedd yng nghartref y teulu er mwyn adnabod ymyraethau addas a datblygu Cynllun Teuluol. Bydd y gweithiwr allweddol yn cydlynu'r ymyraethau yn unol â'r Cynllun Teuluol i wneud newidiadau positif i'r plentyn a'i deulu.
Bydd ymyraethau cynnar pwrpasol yn cynnwys: Therapi Canolbwyntio ar Ddatrysiad Cryno, Therapi Ymddygiadol Gwybyddol; Cyfweld Cymhellol; Rhaglen Brofedigaeth a thechnegau Rheoli Ymddygiad. Bydd yr ymyraethau cynnar yn cynnwys: ymdopi â rhieni â materion iechyd meddwl, ymdopi â rhieni sy'n camddefnyddio sylweddau, hunan-barch, profedigaeth a cholled a cham-drin domestig.
Bydd gweithwyr gofal plant ar gael i gyflwyno sesiynau rhyngweithiol i blant a hynny yn unigol neu mewn grwpiau, gan gynnwys chwarae uniongyrchol, drama, celf a chrefft a cherddoriaeth a bydd tîm o weithwyr rhianta ar gael i weithio gyda rhieni mewn grwpiau neu ar sail un-i-un i gynnig cymorth a chyngor trwy addasu rhaglenni rhianta cyfredol i ddarparu gwasanaethau ar gyfer plant oed ysgol gynradd.
Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd yr ariannu, dywed Syr Adrian Webb, Cadeirydd y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru ac Aelod Bwrdd y DU: "Rydym i gyd yn gwybod bod cyfleoedd bywyd plant yn cael eu heffeithio gan y sefyllfa y maent yn cael eu geni ynddi. Mae rhai teuluoedd yn ymdopi â materion cymhleth fel tai gwael, diweithdra hirdymor, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol ac amryw broblemau iechyd. Problemau i oedolion yw'r rhain yn bennaf ond maen nhw'n cael effaith ddifrifol ar fywydau plant.
“Mae plant sy'n byw o fewn y teuluoedd hyn ac o'u cwmpas yn tueddu i wneud yn waeth yn yr ysgol a dioddef o iechyd gwaeth, ac yn aml maent yn tyfu i fyny gyda phroblemau tebyg eu hunain. I wella cyfleoedd bywyd y plant hynny, mae angen darparu cefnogaeth gydlynol ar draws y teulu cyfan.”
Ychwanegodd: "Mae'r rhaglen hon yn ymwneud ag arloesiad a chanfod ffyrdd llwyddiannus, cost effeithiol o helpu'r teuluoedd hynny, fel nad yw eu problemau yn dwysau yn argyfwng. Bydd y gwaith gwerthuso trylwyr sy'n cyd-fynd â'r gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei ddysgu o fudd i blant a'u teuluoedd ymhell y tu hwnt i'r prosiectau eu hunain."
Mwy o Wybodaeth
Fflur Lawton- Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 237
Cyswllt y tu allan i oriau: 07717 513 418
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron i £100,000 y dydd mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
- Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £27 biliwn wedi’i godi a mwy na 370,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags