- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 17 12 2012
Mae prosiectau sydd â'r nod o helpu i roi llais cryfach i filoedd o bobl mewn cymunedau yng Nghymru wrth wneud penderfyniadau lleol wedi elwa o werth £11 miliwn o grantiau Loteri Genedlaethol a gyhoeddwyd heddiw.
Bydd deg Cyngor Gwirfoddol Sirol (CGS) ar draws Cymru yn defnyddio £11,342,121 gan raglen Lleisiau Lleol y Gronfa Loteri Fawr i helpu cymunedau i ddylanwadu ar wasanaethau, polisïau a phenderfyniadau sy'n effeithio arnynt er mwyn i'w hanghenion gael eu diwallu'n well (rhestr lawn ar ddiwedd y datganiad).
Mae Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) yn derbyn £1,457,107 i gefnogi deg o brosiectau yn yr ardal sy'n cefnogi ystod o grwpiau gan gynnwys pobl anabl, cymunedau BME, pobl sy'n lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryw a rhieni sengl. Wedi'i reoli mewn partneriaeth â Chanolfan Gwasanaethau Gwirfoddol y Fro (VCVS), bydd mwy na 2,300 o fuddiolwyr dros 4 blynedd.
Meddai Prif Swyddog C3SC, Shelia Hendrickson-Brown: "Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn yr ariannu hwn gan y Gronfa Loteri Fawr. Bydd yn cefnogi ein nod o weithio mewn partneriaeth i helpu i lunio gwasanaethau iechyd a dylanwadu arnynt i fod mor hygyrch a pherthnasol â phosib i bawb - yn enwedig ar gyfer pobl ag anableddau, sydd o bosib yn wynebu gwahaniaethu ac yn profi mwy o anhawster yn aml wrth dderbyn y gefnogaeth sy'n diwallu eu hanghenion orau."
Mae Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS) yn derbyn £827,667 ar gyfer wyth o brosiectau a fydd yn ymgysylltu â 4,800 o bobl, gan gynnwys gofalwyr, pobl hŷn, pobl ifanc ddigartref a phobl ag anawsterau dysgu neu nam ar y golwg.
Bydd y gweithgareddau'n cynnwys theatr gymunedol sy'n adnabod ac yn ymchwilio i ffyrdd y gall pobl ddylanwadu ar gyflwyno gwasanaethau, a phrosiect storïau symudol a fydd yn cynhyrchu storïau digidol yn archwilio bywydau'r rhai ag anghenion amrywiol.
Meddai'r Prif Swyddog, Sue Leonard: "Mae'r arian Lleisiau Lleol yn gyfle cyffrous i grwpiau sector gwirfoddol yn Sir Benfro wneud peth gwaith hynod o arloesol gyda grwpiau o bobl sy'n amharod, am ba reswm bynnag, i ymgysylltu â darparwyr gwasanaethau cyhoeddus trwy'r sianelau "arferol".
"Bydd y gwaith hwn yn cyfrannu'n sylweddol at strategaeth ymgysylltu Bwrdd Gwasanaethau Lleol Sir Benfro ac yn cynnig cyfle gwirioneddol i wneud pethau'n wahanol, gan arwain at gymunedau cryfach a gwasanaethau gwell ar gyfer pobl Sir Benfro."
Bydd dioddefwyr trais domestig, pobl oedrannus ar eu pennau eu hunain a phobl ag anhwylder niwrolegol ymysg y rhai sy'n cael mwy o ddylanwad ar ddyluniad a chyflwyniad gwasanaethau diolch i ddyfarniad o £688,316 i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO). Bydd chwe phrosiect yn grymuso 2,750 o ddinasyddion.
Bydd Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent yn gwario dros £2.8 miliwn i rymuso pobl leol i helpu cyflwyno a dylunio gwasanaethau lleol ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd a Sir Fynwy.
Yng ngogledd Cymru, bydd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy (CVSC) yn derbyn £842,999 i reoli pum prosiect sy'n galluogi ac yn annog pobl mewn grwpiau anoddach eu cyrraedd i wella cyflwyniad gwasanaethau yn eu cymunedau, a bydd Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (SCVS) yn derbyn £783,542 ar gyfer saith prosiect a fydd o fudd i 7,000 o bobl. Bydd pob prosiect yn Abertawe yn gysylltiedig â chyfranogiad yr ardal yn Rhwydwaith Dinasoedd Ewropeaidd Iach Sefydliad Iechyd y Byd.
Meddai David O’Neill, o CVSC: "Rydym wrth ein boddau o fod wedi derbyn y dyfarniad. Bydd y portffolio hwn yn galluogi unigolion a grwpiau yn ardal Conwy i ennill yr hyder a'r galluoedd i fynegi eu barn a dylanwadu'n uniongyrchol ar ddarpariaeth y gwasanaethau sy'n hollbwysig yn eu bywydau bob dydd."
Wedi'i lansio gan y canwr opera, Paul Potts, enillydd cyntaf y rhaglen realiti, Britain’s Got Talent, roedd Lleisiau Lleol yn agored i CGS ymgeisio iddi am arian ac yna gweithio mewn partneriaeth ag ystod eang o fudiadau a budd-ddeiliaid ar ran grwpiau cymunedol lleol.
“Helpodd Britain's Got Talent i mi leisio fy marn, ac mae'n wych clywed y bydd gwerth £11 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr yn cael ei ddefnyddio i helpu cymunedau Cymru i leisio eu barn hefyd," meddai Paul a enillodd y sioe ddoniau yn 2007. “Mae'n hollbwysig bod pawb yn cael y cyfle i leisio eu barn am benderfyniadau lleol sy'n effeithio arnynt. Bydd Lleisiau Lleol yn helpu grymuso pobl i lunio eu dyfodol a gwneud effaith gadarnhaol a pharhaus ar bawb."
Meddai Cyfarwyddwr Cronfa Loteri Fawr Cymru, John Rose: “Bydd yr ariannu a gyhoeddwyd heddiw yn darparu mwy o gyfle i gymunedau Cymru leisio eu barn. Mae'n ymwneud â phobl yn dweud eu dweud i ddylanwadu ar y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu cymuned ac ar eu bywydau eu hunain. Bydd Lleisiau Lleol yn eu cefnogi i fod yn fwy cynaliadwy ac yn wydn i heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn y dyfodol yn ogystal â datblygu ymdeimlad mwy cryf o gymuned."
Datblygwyd Lleisiau Lleol ar ôl i'r Gronfa Loteri Fawr gomisiynu astudiaeth o Bolisïau ac Arferion Lleisiau Dinasyddion ar draws Cymru a'r DU. Gwelodd fod polisi'r Llywodraeth dros y 10 i 15 mlynedd diwethaf wedi cydnabod buddion a phwysigrwydd cyfranogiad cymunedol a bod gwerth "sylweddol" o ran gallu dinasyddion i fedru dylanwadu ar ddylunio a chyflwyno gwasanaethau cyhoeddus.
Datgelodd canfyddiadau hefyd y gallai fod yr un mor fuddiol i ganolbwyntio nid yn unig ar yr agenda sector cyhoeddus ond hefyd ar ffyrdd o annog cymunedau i ddatblygu eu hymagweddau a'u hatebion eu hunain i anghenion y gymuned.
Ar sail y canfyddiadau hyn, bydd Lleisiau Lleol yn sicrhau y bydd modd i fwy o bobl ddylanwadu ar bolisïau a phenderfyniadau ynglŷn â gwasanaethau yn eu cymuned, bydd modd i gymunedau a darparwyr gwasanaethau gydweithio i ddylunio a chyflwyno gwell gwasanaethau a bydd gan gymunedau fwy o allu i ddatblygu a chyflwyno gwasanaethau a phrosiectau gwell. Bydd canlyniadau tymor hwy yn cynnwys gwell ymgysylltu a chymryd rhan yn y gymuned, a phobl sy'n adrodd yn fwy effeithiol am welliannau yng nghyflwyniad y gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion.
Rhestr lawn y dyfarniadau - word doc. 48 KB.
Mwy o Wybodaeth
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Ben Payne: 02920 678 224
Cyswllt y tu allan i oriau: 07500 951 707
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
• Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100,000 y diwrnod mewn arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
• Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
• Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags