- Area:
- Cymru
- Programme:
- Arian i Bawb Cymru
- Release date:
- 19 2 2013
Bydd teganau mwnci'n gweithredu fel eilydd ar gyfer plant ysgol pan fyddant i ffwrdd o'r dosbarth gyda thiwmor yr ymennydd neu salwch difrifol arall diolch i brosiect sy'n cael ei lansio yng Nghymru am y tro cyntaf.
At ei gilydd bydd 43 o brosiectau cymunedol ledled Cymru'n rhannu'r £164,203 a ddyfarnwyd o dan rownd ddiweddaraf Arian i Bawb, rhaglen grantiau bach y Gronfa Loteri Fawr (rhestr lawn y dyfarniadau ar ddiwedd y datganiad. Cysylltwch â Ben Payne i gael disgrifiadau prosiect llawn).
Yn lansio ar draws Cymru, bydd Brain Tumour Buddies yn derbyn £5,000 ar gyfer ei gynllun Monkey Buddies. Bydd y grŵp yn darparu 'citiau mwnci' a grëwyd gan Love, Chloe Foundation (USA) sy'n cynnwys y tegan mwnci mawr fel eilydd ar gyfer yr ystafell ddosbarth ynghyd â phrimat llai i aros gyda phlentyn sydd â diagnosis o diwmor yr ymennydd neu salwch difrifol arall, gan gynnwys mathau eraill o ganser a chyflyrau niwrolegol.
Bydd y citiau'n cynnwys siwrnal, albwm lluniau, camera tafladwy, bathodyn, ysgrifbinnau a phensiliau ynghyd â bag y mae'r mwnci'n ei gludo i'r ysgol er mwyn i'r plentyn a'i gyfeillion gyfnewid nodiadau a lluniau yn ystod unrhyw absenoldeb.
A bydd pecyn i athrawon yn cynnwys adnoddau i helpu esbonio'r hyn sy'n digwydd i'r plentyn, darparu mwy o ddealltwriaeth o diwmor yr ymennydd ac amlinellu'r heriau a wynebir yn ystod ac ar ôl y driniaeth.
Meddai Natalya Jagger, o Brain Tumour Buddies: "Mae diagnosis o salwch difrifol yn aml yn golygu amser i ffwrdd o'r ysgol. Gall fod yn ddiwrnod yma ac acw neu efallai wythnosau neu fisoedd ar y tro - gall hwn fod yn anodd i blant ac i'w cymheiriaid yn y dosbarth. Bydd citiau mwnci'n rhoi cyfle i blant barhau i gymryd rhan ac aros mewn cysylltiad â'i gilydd.
“Gobeithiwn gynnal cysylltiadau gydag ysbytai a mudiadau yng Nghymru sy'n trin plant â thiwmor yr ymennydd a salwch difrifol eraill er mwyn i ni gyrraedd cynifer o blant â phosib, a'u helpu i gynnal perthynas wych gyda'u hathrawon a'u cymheiriaid yn y dosbarth.”
Datgelodd arolwg o rieni, gweithwyr meddygol proffesiynol a gweithwyr cymdeithasol a gyflawnwyd gan y prosiect angen gwirioneddol i'r plant a'u cymheiriaid gadw mewn cysylltiad.
"Helpodd yr arolwg i ni ddeall yr anawsterau y mae plant sydd wedi cael diagnosis o diwmor yr ymennydd a mathau eraill o ganser yn eu profi pan fydd yn rhaid iddynt dreulio llawer o amser i ffwrdd o'r ysgol a'u ffrindiau," ychwanegodd Natalya. "Roeddem hefyd yn gallu cael gwell dealltwriaeth o'r ffyrdd y gallem gefnogi athrawon yn ystod salwch y claf a chynlluniau'r disgybl ar gyfer dychwelyd i'r ysgol."
Ymysg y grwpiau eraill sy'n elwa o'r rownd ariannu diweddaraf mae A Different Beat, a fydd yn defnyddio £4,990 i gyflwyno 28 o weithdai synhwyraidd i oedolion, pobl ifanc a phlant ag anawsterau dysgu ym Mhowys a Sir Fynwy. Bydd y sesiynau'n gwella cyfathrebu, hyder, ymddygiad a datblygu sgiliau echddygol a gwybyddol.
Meddai Lynn Kay o A Different Beat: "Bydd yn ein galluogi ni i ddarparu gweithdai cerdd amlsynhwyraidd ar gyfer pobl na allent wneud gweithgareddau celf byw oherwydd cyfuniad o dlodi, unigedd gwledig ac anableddau."
Bydd Rhondda Breast Friends (RBF) yn Rhondda Cynon Taf yn derbyn £4,910 i ddarparu gwasanaethau cwnsela, diwrnod maldodi a gwibdaith gymdeithasol i fenywod sydd wedi cael diagnosis o ganser y fron, a bydd Coleg Iâl yn Wrecsam yn derbyn £5,000 i sefydlu gwasanaeth sain ddigidol newydd i bobl ddall ac â golwg rhannol, i'w hysbysu am ddiweddariadau teithio, newyddion lleol a materion lleol yn null cylchgrawn.
Meddai rheolwr y ganolfan Rhondda Breast Friends Christina Ryan: “Bydd y grant yn rhoi cyfle unigryw i ni gyrraedd cynulleidfa ehangach a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r hyn y mae RBF yn ei gynnig. Ar ben hynny, bydd yr ariannu hefyd yn ein galluogi i ddarparu sesiynau therapi a chwnsela cynyddol i'n haelodau, ynghyd â'u cynorthwyo nhw gyda chostau cludiant.
"Mae rhai o'n haelodau'n gaeth i'r tŷ bellach oherwydd eu salwch ac nid oes cludiant ganddynt, felly gallwn barhau i ddarparu cludiant bellach, gan eu galluogi i fynychu cyfarfodydd deufisol yn ein canolfan yn Y Porth. Bydd yr ariannu'n golygu y gallwn barhau â'r gefnogaeth y mae angen mawr amdani ar gyfer ein haelodau."
Bydd Ysgol Gynradd Meadowlane yng Nghaerdydd yn gwario £2,481 ar glwb ar ôl ysgol Clever Chefs i hyrwyddo deiet iach, ac wrth i Ddydd Gŵyl Dewi ddod yn nes, bydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth yng Ngheredigion yn derbyn £2,258 i gynnal parêd ar 1 Mawrth.
Meddai Gareth Williams, Rheolwr Rhaglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Mae Arian i Bawb yn cael effaith gadarnhaol ledled Cymru. Mae'r arian yn helpu sefydlu grwpiau, cymdeithasau a chlybiau, gan hyrwyddo dysgu, cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli a helpu adeiladu cymunedau cryfach.”
Mae'r ffurflen gais ar gael yn Gymraeg a Saesneg a gellir ei lawrlwytho o www.arianibawb.org.uk neu dros y ffôn ar 0845 4 10 20 30.
Rhestr lawn y dyfarniadau
|
Mudiad
|
Lleoliad
|
Dyfarniad
|
|
Mudiad
|
Lleoliad
|
Dyfarniad
|
|
Meithrinfa Morlo
|
Ynys Môn
|
£5,000
|
|
Tal-y-llyn Holdings Ltd
|
Gwynedd
|
£4,675
|
|
Cylch Meithrin Aberffraw
|
Ynys Môn
|
£4,000
|
|
A Different Beat
|
Sir Fynwy
|
£4,990
|
|
Canolfan Gymunedol Talbot
|
Pen-y-bont ar Ogwr
|
£4,150
|
|
Calan DVS
|
Castell-nedd Port Talbot
|
£4,800
|
|
Little Fingers Kidz Club
|
Pen-y-bont ar Ogwr
|
£3,900
|
|
Tanyard Youth Project Limited
|
Sir Benfro
|
£5,000
|
|
Eglwys y Bedyddwyr Emanuel
|
Caerffili
|
£2,650
|
|
Cylch Llenyddol Bro Ddyfi
|
Powys
|
£880
|
|
Cyngor Cymuned Maesycwmer
|
Caerffili
|
£2,430
|
|
Gweithredu Cymunedol Machynlleth a'r Cylch
|
Powys
|
£1,902
|
|
Cymdeithas Pensiynwyr Ystrad Mynach
|
Caerffili
|
£1,660
|
|
Rhondda Breast Friends
|
Rhondda Cynon Taf
|
£4,910
|
|
Neuadd Pentref Marshfield
|
Caerdydd
|
£4,284
|
|
Sefydliad y Deillion Caerdydd Corfforedig
|
Rhondda Cynon Taf
|
£1,560
|
|
Ysgol Gynradd Meadowlane
|
Caerdydd
|
£2,481
|
|
Cyfeillion Coleg Cymunedol Tonypandy
|
Rhondda Cynon Taf
|
£4,980
|
|
Ambassadors for Change
|
Caerdydd
|
£4,852
|
|
Spectacle Theatre Limited
|
Rhondda Cynon Taf
|
£3,550
|
|
Clwb Cinio Talyllychau a Llansawel
|
Sir Gâr
|
£4,780
|
|
Cymorth Menywod Cwm Cynon
|
Rhondda Cynon Taf
|
£3,735
|
|
Neuadd Gyhoeddus Evans
|
Sir Gâr
|
£4,800
|
|
Pensiynwyr Gurnos
|
Abertawe
|
£1,100
|
|
Cwiltwyr Talacharn
|
Sir Gâr
|
£5,000
|
|
U3A Y Bontfaen
|
Bro Morgannwg
|
£1,350
|
|
Clwb y Castell
|
Sir Gâr
|
£4,968
|
|
Achubwyr Bywyd Y Rhws
|
Bro Morgannwg
|
£5,000
|
|
Cylch Meithrin Llanddewi-Brefi
|
Ceredigion
|
£4,457
|
|
Cymdeithas Gweithwyr Ymddeol Cwmbrân
|
Torfaen
|
£2,500
|
|
Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth
|
Ceredigion
|
£2,258
|
|
Grŵp Cymunedol Plasty Llanyrafon
|
Torfaen
|
£4,480
|
|
Menter Iaith Bro'r Creuddyn
|
Conwy
|
£4,950
|
|
Cymdeithas y Geidiau, Cylch Ystradgynlais
|
Cymru
|
£2,492
|
|
Cymdeithas Eirianfa
|
Sir Ddinbych
|
£3,457
|
|
Brain Tumour Buddies
|
Cymru
|
£5,000
|
|
Mostyn and District Arts and Handicrafts Club
|
Sir y Fflint
|
£2,301
|
|
Barnabas Associates (C&NW)
|
Wrecsam
|
£5,000
|
|
Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Rector Drew
|
Sir y Fflint
|
£5,000
|
|
Calon Communications Limited
|
Wrecsam
|
£4,698
|
|
Canolfan Gymdeithasol Llannor
|
Gwynedd
|
£4,223
|
|
Clybiau y Tu Allan i'r Ysgol Victoria
|
Wrecsam
|
£5,000
|
|
|
|
|
Coleg Yale
|
Wrecsam
|
£5,000
|
Mwy o Wybodaeth:
Ben Payne - Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 029 2067 8224
Cyswllt y tu allan i oriau: 07500 951 707
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735 Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.biglotteryfund.org.uk
Gofyn cwestiwn i'r Gronfa Loteri Fawr yma: http://ask.biglotteryfund.org.uk/cymorth/wales/
Dilynwch y Gronfa ar Twitter: www.twitter.com/loterifawrcymru
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/biglotteryfundwales
Nodiadau i Olygyddion
• Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100,000 y diwrnod mewn arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
• Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
• Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £29 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags