- Area:
- Cymru
- Programme:
- Pawb a'i Le
- Release date:
- 14 10 2008
O arian ar gyfer llyfrgell deganau symudol yng Ngogledd Cymru i arian ar gyfer ailddatblygu canolfan gelfyddydau poblogaidd yn y De, mae ystod o brosiectau ar draws y wlad yn elwa o gyfran o dros £2.3 miliwn, a gyhoeddir heddiw trwy raglen Pawb a’i Le y Gronfa Loteri Fawr.
Mae cyfanswm o £2,334,044 wedi'i ddyfarnu i dri ar ddeg prosiect ar draws Cymru, y mae pob un ohonynt yn anelu at ddwyn pobl ynghyd i wneud cymunedau yn gryfach ac i wella amgylcheddau gwledig a threfol (rhestr lawn o brosiectau ar ddiwedd y datganiad).
Mewn prosiect sy’n gorchuddio siroedd Ceredigion, Gwynedd a Phowys, bydd y Gymdeithas Strôc yn gwario eu dyfarniad o £249,649 ar sefydlu dau grŵp strôc ym mhob sir er budd groeswyr strôc, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Bydd y grwpiau hyn yn canolbwyntio ar weithgareddau byw’n iach ac atal strôc, darparu cyngor ar fudd-daliadau a lles, a bydd yn codi ymwybyddiaeth o strôc yn y gymuned trwy addysgu aelodau’r teulu a’u gofalwyr.
Yng Ngogledd Cymru, bydd Fforwm Blynyddoedd Cynnar Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gwario eu dyfarniad o £246,241 ar lyfrgell teganau symudol. Bydd y prosiect yn darparu gwasanaeth llyfrgell teganau am ddim ar gyfer rhieni yn ardaloedd gwledig Conwy. Bydd rhieni yn gallu benthyg teganau i’w defnyddio yn eu cartref eu hunain gyda’u plant. Er mwyn annog defnydd ar y llyfrgell a’r offer, bydd y prosiect yn cynnal sesiynau ‘aros a chwarae’ bob pythefnos yn y cymunedau y maent yn gobeithio eu cyrraedd.
Yng Nghaerdydd, bydd Canolfan y Celfyddydau Chapter yn defnyddio’r £71,469 a dderbyniodd ar ail gyfnod y prosiect £3.8 miliwn mwy i ailddatblygu ac ehangu ar y gofodau cyhoeddus ac artistig yn y ganolfan. Bydd yr arian gan y Gronfa Loteri Fawr yn cael ei wario ar ddarparu dau ofod ar gyfer gweithgareddau cymunedol yn adeilad ysgol Old Canatonian High. Bydd yr ystafelloedd newydd yn cynnig gofod cyfarfod a chyfranogi cwbl hygyrch i holl sectorau’r gymuned.
Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y rhaglen Pawb a’i Le, dywedodd Janet Reed, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd y Pwyllgor Pawb a'i Le: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru. Mae’n gweithredu ar ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri i adfywio ac ailfywhau cymunedau, mynd i'r afael ag amddifadedd ar ei ben a gadael etifeddiaeth barhaus. Rwy’n siŵr y bydd y prosiect hwn yn cael effaith bositif ar fywydau cymaint o bobl yn y gymuned a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”
Mae rhaglen Pawb a’i Le gwerth £66 miliwn yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 a £1 miliwn ar gyfer ystod eang o brosiectau cymunedol. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhaglen Pawb a’i Le a sut y gallwch ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddio cyfleuster chwilio penodol 'Cymru'.
Rhestr lawn o brosiectau:
| Prosiect | Leoliad | Chrynodeb | Swm |
| Noddfa Chapel Community Project Ltd | Pen-y-bont ar Ogwr | Bydd y prosiect yn gweithio mewn partneriaeth gyda darparwyr gwasanaeth perthnasol i ddarparu ystod o wasanaethu, cymorth, hyfforddiant a gweithgareddau ar gyfer cymuned Caerau, Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd y gwasanaethau a’r gefnogaeth yn cynnwys grŵp Rhieni a Phlant, cyfleuster galw i mewn ar gyfer y rhai rhwng 16 a 25 mlwydd oed a chefnogaeth ar gyfer pobl sydd eisiau dychwelyd at gyflogaeth. Bydd cyfleuster meithrinfa ar gael er mwyn i rieni gael mynediad at yr holl gefnogaeth a gwasanaethau sydd ar gael. | £203,477 |
| Neuadd Saint Cattwg Community Hall | Ardaloedd Gelligaer a Phenybryn, Caerffili | Gydag arian y Gronfa Loteri Fawr, bydd y prosiect yn cyflogi Mentor/Rheolwr TGCh llawn amser newydd i redeg y caffi syber a bydd hefyd yn rhwydweithio gyda sefydliadau allanol i ddatblygu prosiectau newydd a pharhau i ddarparu help a chefnogaeth i ddefnyddwyr. | £111,751 |
| Canolfan y Chapter | Caerdydd | Bydd Canolfan Celfyddydau y Chapter yn gwario’r £71,469 y bydd yn ei dderbyn ar ail gyfnod y prosiect £3.8 miliwn mwy i ailddatblygu ac ehangu ar y gofodau cyhoeddus ac artistig yn y ganolfan. Bydd yr arian gan y Gronfa Loteri Fawr yn cael ei wario ar ddarparu dau ofod ar gyfer gweithgareddau cymunedol yn adeilad ysgol Old Canatonian High. Bydd yr ystafelloedd newydd yn cynnig gofod cyfarfod a chyfranogi cwbl hygyrch i holl sectorau’r gymuned. | £71,469 |
| Canolfan Gymunedol Brynaman | Sir Gaerfyrddin | Bydd y prosiect yn cyflogi Swyddog Datblygu a Gweinyddwr i ddatblygu rhaglen o weithgareddau i fodloni anghenion y gymuned a adnabuwyd trwy ymgynghoriad. Bydd y gweithgareddau yn cynnwys clwb cinio ar gyfer pobl hŷn, cangen yr undeb gredyd, gweithgareddau byw’n iach gan gynnwys dosbarthiadau maeth, dosbarthiadau coginio ar gyllideb a ffitrwydd, sgiliau rhieni, addysg i oedolion, cymorthfeydd cyngor a gweithgareddau yn ôl i'r gwaith gan gynnwys hyfforddiant (megis TG a hylendid bwyd), cyfleoedd gwirfoddoli a gweithdai ymarferol (megis sgiliau ysgrifennu CV a chyfweld). | £238,248 |
| Canolfan i Deuluoedd Llandysul | Llandysul, Ceredigion | Bydd y prosiect yn cyflwyno gwasanaethau a gweithgareddau newydd, a fydd yn hyrwyddo cymorth addysgol, cymdeithasol ac ymarferol i deuluoedd a phobl hŷn yn Llandysul. Bydd y gweithgareddau a’r gwasanaethau yn cynnwys darparu cyrsiau achrededig a heb eu hachredu, strategaethau cymunedol a gweithgareddau cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn. | £124,880 |
| Pwyllgor Cymdeithasol Pandy Tudur | Pandy Tudur ger Llanrwst | Bydd y prosiect yn ailwampio ac yn ymestyn ar festri capel i ddarparu neuadd gymunedol amlddefnydd. | £96,273 |
| Abergele Youth Action Ltd | Abergele, Conwy | Bydd y prosiect yn datblygu gwasanaeth cynnwys yr ieuenctid yn gweithredu fel caffi TGCh a Rhyngrwyd i wella sgiliau bywyd, mynediad at gyflogaeth, hyfforddiant a chyswllt positif yn y gymuned. | £245,659 |
| Fforwm Blynyddoedd Cynnar Cyngor Sir Bwrdeistref Conwy | Cyngor Bwrdeistref Conwy | Bydd y prosiect yn darparu Llyfrgell Deganau a darpariaeth sesiwn Chwarae ar gyfer rhieni a phlant ym Mwrdeistref Sirol Conwy. | £246,241 |
| Cyngor Sir y Fflint | Kinnerton, Sir y Fflint | Bydd y prosiect yn adfywio cyfleusterau cyfredol sydd wedi’u hesgeuluso er mwyn gwneud y parc cyfredol yn addas i bob oed ac i ddatblygu’r parc yn fan i'r pentref cyfan ei fwynhau. Bydd y Grant o £130,000 dros flwyddyn yn cael ei wario ar dirlunio, offer chwarae, cyfleusterau chwaraeon, plannu a seddi. | £130,000 |
| Deudraeth Cyf | Penrhyndeudraeth a’r ardal gyfagos | Bydd y prosiect yn cyflwyno ystod amrywiol o gyrsiau gan gynnwys gwefan ddwyieithog, sy’n galluogi defnyddwyr i astudio mewn lleoliad ac amser sy’n gyfleus iddynt. Bydd y prosiect yn helpu’r rheini sy’n gallu cael mynediad at hyfforddiant yn y ganolfan, yn enwedig pobl anabl, gofalwyr a’r rheini heb fynediad at drafnidiaeth. Bydd yn cofnodi sesiynau hyfforddi unigol a byddant ar gael ar wefan y prosiect. Bydd defnyddwyr heb fynediad at y rhyngrwyd yn gallu derbyn yr hyfforddiant trwy CD Rom. | £249,051 |
| Interplay (Integrated Play and Leisure Project) | Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot | Bydd y prosiect yn dwyn plant a phobl ifanc anabl a'r rhai nad ydynt yn anabl ynghyd er mwyn mwynhau cyfleoedd hamdden gyda’i gilydd. Mae’r prosiect yn cynnwys pum prif elfen: gwaith ieuenctid yr haf, diwrnodau gweithgaredd, hamdden, ymgynghoriaeth ieuenctid a chlwb ieuenctid. | £207,346 |
| Cyngor Dinas a Sir Abertawe | Abertawe | Bydd y prosiect yn darparu cyfleusterau chwarae symudol ar gyfer plant rhwng 5 a 14 oed sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig. Bydd hefyd yn darparu hyfforddiant ar gyfer oedolion a rhieni mewn gwaith chwarae. | £160,000 |
| Y Gymdeithas Strôc | Powys 33%, Ceredigion 33%, Gwynedd 33% | Bydd y prosiect hwn yn sefydlu chwech o grwpiau strôc yng Ngwynedd, Powys a Cheredigion (dau grŵp ym mhob ardal) er budd goroeswyr strôc, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Bydd y grwpiau hyn yn canolbwyntio ar weithgareddau byw’n iach ac atal strôc, cyngor ar fudd-daliadau a lles, codi ymwybyddiaeth o strôc yn y gymuned trwy addysgu aelodau’r teulu a’u gofalwyr. | £249,649 |
Gwybodaeth Pellach
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760171431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £22 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 300,500 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags