Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

£2 miliwn o ariannu'n gamp fawr I bobl fregus yng nghymru

Area:
Cymru
Programme:
Pawb a'i Le
Release date:
14 10 2011

Mae gofalwyr sy'n edrych ar ôl pobl â salwch ac anableddau tymor hir yng Ngogledd Cymru a menywod a phlant a effeithir gan gam-drin domestig yng Nghymoedd De Cymru ymysg y rhai a fydd yn elwa o ystod o brosiectau sy'n rhannu mwy na £4 miliwn a ddyfarnwyd gan y Gronfa Loteri Fawr heddiw.

At ei gilydd, mae £2,394,151 yn cael ei ddosbarthu drwy'r rhaglen Pawb a'i Le i gefnogi 11 o brosiectau ar draws Cymru, y maent i gyd yn ceisio dod â phobl ynghyd i gryfhau cymunedau a gwella amgylcheddau gwledig a threfol (Cliciwch yma i weld rhestr lawn y dyfarniadau yng Nghymru a gyhoeddwyd heddiw 
- 43KB
).

Tybir bod dros 20,000 o ofalwyr cofrestredig yn Sir y Fflint yn unig. Bydd dyfarniad o dros hanner miliwn o bunnoedd (£555,081) i North East Wales Carers Information Services (NEWCIS) bellach yn eu galluogi i redeg prosiect newydd i greu buddion ar gyfer gofalwyr dros 18 oed yn Sir y Fflint, Gogledd Cymru, sy'n gofalu am rywun â salwch neu anabledd tymor hir. Bydd yn darparu gwasanaethau gofal dydd, gofal seibiant tymor byr ac mewn argyfwng, eiriolaeth gofalwyr a grwpiau cefnogi gofalwyr arbenigol. Bydd ffocws hefyd ar ofalwyr sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig gwledig, yn enwedig ar arfordir Sir y Fflint.

Un person yn ei dyled am byth i NEWCIS diolch i'w cefnogaeth yw Di Weed, 57 oed o Ben-y-ffordd ger Bwcle, Sir y Fflint. Mae Di wedi gofalu am ei thad, sy'n dioddef o glefyd Alzheimer, ers dros wyth mlynedd, a gwnaeth hefyd ofalu am ei mam nes y bu farw yn drist fis Tachwedd y llynedd. Heb gefnogaeth gan NEWCIS, mae Di yn benderfynol y byddai wedi "chwalu" o dan y straen. (mae astudiaeth achos ar gael i'r cyfryngau ar gais)

“Roeddwn eisoes yn gofalu am fy nhad ac yn gweithio oriau anghymdeithasol i fedru gwneud popeth, meddai.

Pan gafodd fy mam ei tharo gan strôc, roedd yn amhosib i mi wneud y ddau beth a bu'n rhaid i mi roi'r gorau i'r gwaith. Dyna pam mae NEWCIS mor bwysig. Maen nhw wedi bod yn wych ac wedi rhoi cymaint o gefnogaeth a chyngor i mi. Mi fyddai wedi bod yn amhosib i mi fod yn ofalwr am gymaint o amser heb eu cefnogaeth ragorol nhw. Er eich bod yn gyfyngedig iawn o ran yr hyn y gallwch ei wneud pan fyddwch yn gofalu am rywun, mae NEWCIS yn eich galluogi i fwrw 'mlaen ag agweddau arferol ar fywyd. Rhoddodd gyfle i mi ennill cymwysterau cyfrifiadurol ac maent yn cynnal ystod o ddosbarthiadau dysgu gydol oes gwahanol."

(Mae Di Weed ar gael ar gyfer cyfweliadau / cyfleoedd cyfweliad a thynnu lluniau drwy ffonio Oswyn Hughes ar y rhif ar ddiwedd y datganiad)

Meddai Claire Sullivan, Cydlynydd Gwasanaethau Gofalwyr yn NEWCIS: “Mae'n gyffrous iawn ac mae'r ariannu wedi creu gwefr o gyffro drwy gydol ein mudiad a'r gymuned ofalwyr. Bydd y prosiect yn ein galluogi i adnabod gofalwyr sydd wedi bod yn gofalu ers tro, a gweithio gyda nhw i leddfu'r unigedd a rhoi gwasanaethau newydd iddynt. Mae hyn yn rhoi cyfle i ni gyflwyno gwasanaeth penodedig ar gyfer hyd yn oed yn fwy o ofalwyr sy'n gofalu am rywun sydd â chyflwr hir dymor. Rydym mewn cyswllt â thua 3,500 o ofalwyr a gobeithiwn gefnogi hyd yn oed yn fwy nawr. Mae'r arian hwn yn golygu bellach y byddwn yn gallu llenwi'r bylchau yn y ddarpariaeth a helpu pobl nad oes ganddynt unrhyw gefnogaeth ar hyn o bryd, y maent eisiau parhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain gyda'u perthnasau agos y maent yn gofalu amdanynt."

Mae dwy fenyw bob wythnos yn cael eu lladd gan eu partner neu gyn-bartner yng Nghymru a Lloegr ac mae plentyn yn dyst i 90% o achosion o gam-drin domestig yn ôl yr ystadegau diweddaraf gan Gymorth Menywod Cymru. Serch hynny mi fydd mwy o gefnogaeth i fenywod a phlant sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig yng Nghwm Cynon, De Cymru diolch i grant o bron £100,000 (£95,975) a ddyfarnwyd i Gymorth Menywod Cwm Cynon yn Aberdâr. Derbyniodd y grwp 265 o alwadau ffôn gan fenywod â lefelau angen gwahanol y llynedd. Roedd rhai ohonynt eisiau llety lloches ac roedd eraill am gael eu hailgartrefu yn y gymuned. Bydd yr ariannu'n galluogi'r grwp i gefnogi pum deg o fenywod eraill yn ardal Cwm Cynon bob blwyddyn.

Gan amlygu pwysigrwydd yr ariannu, meddai Mrs Eirlys Whitney, y Cydlynydd Gwirfoddolwyr gyda Chymorth Menywod Cwm Cynon: "Ni yw'r unig wasanaeth o'r fath yn yr ardal ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig. Rydym yn derbyn llawer o gyfeiriadau yma a bydd yr ariannu hwn yn ein helpu i dalu am Weithiwr Cefnogi Cymunedol ychwanegol. Byddwn yn gallu helpu llawer mwy o fenywod yn yr ardal y bu'n rhaid iddynt ddianc rhag cam-drin domestig sy'n amrywio o gorfforol i feddyliol i ariannol a hyd yn oed rhywiol. Mae gennym bobl sydd wedi cael eu cloi i ffwrdd a'u hatal rhag gweld eu teuluoedd. Fel arfer mae yna effaith ddilynol fawr ar y plant yn y sefyllfa hefyd. Yn ein lloches mae gennym fenywod o rannau eraill o'r wlad ond yn bennaf byddwn yn cefnogi menywod yng Nghwm Cynon gyda'r arian hwn."

Ac yn dilyn blynyddoedd o ymgyrchu a chodi arian yn ddiflin, mae sglefrwyr yn nhref Hwlffordd, Sir Benfro yn llythrennol yn neidio o lawenydd yn sgil y newyddion bod eu breuddwyd o adeiladu barc sglefrio modern yn y dref o'r diwedd yn mynd i gael ei gwireddu diolch i hwb ariannol o bron £430,000 (£427,312) gan y Gronfa Loteri Fawr i Haverfordwest Skatepark Association (HSA). Ar ôl ei agor bydd y parc yn denu pobl o bob cwr o Sir Benfro a'r tu hwnt, ac yn rhoi lle iddynt gwrdd, rhannu profiadau ac ymarfer y gamp o'u dewis, p'un a ydynt yn ifanc neu'n hen, yn ddechreuwyr neu'n arbenigwyr.

Mewn prosiect sy'n cwmpasu Powys, bydd Ymddiriedolaeth Tir Cwm Harry yn gwario'r £229,603 a ddyfarnwyd iddi ar dîm i gefnogi buddiolwyr i ddatblygu sgiliau garddwriaeth, tyfu eu bwyd eu hunain a chymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a chymunedol.

Fel menter gymdeithasol, mae Cwm Harry yn cefnogi cynhyrchwyr bwyd lleol drwy gynnig marchnad ar gyfer eu cnydau. Bydd y mudiad hefyd yn datblygu hyfforddiant ac adnoddau i gefnogi grwpiau cymunedol i ddatblygu, cynnal a pharhau â'u safleoedd tyfu bwyd eu hunain.  

Gan amlygu pwysigrwydd y rhaglen Pawb a'i Le, meddai Aelod Pwyllgor Cronfa Loteri Fawr Cymru a Chadeirydd y Pwyllgor Pawb a'i Le, Gareth Newton, "Mae rhaglenni fel Pawb a'i Le'n gwneud gwahaniaeth i fywydau cynifer o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru. Mae'n cyflwyno ar ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol i adfywio ac adnewyddu cymunedau, mynd i'r afael yn uniongyrchol ag anfantais a gadael etifeddiaeth a fydd yn parhau.”

Mae'r rhaglen Pawb a'i Le yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 ac £1 miliwn ar gyfer amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol. I gael gwybod mwy am y rhaglen Pawb a'i Le a sut y gallwch chi ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk 
- 43KB

Mwy o Wybodaeth

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Oswyn Hughes 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun:  0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion:

  • Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £1 miliwn yr wythnos mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
  • Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £26 biliwn wedi’i godi a mwy na 330,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Iechyd a lles
  • Pobl Ifanc
ADBORTH