- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 27 3 2012
Mae prosiect sy'n helpu cymunedau Cymru i fynd i'r afael ag effaith newid hinsawdd yn derbyn £620,000 heddiw.
Bydd Cymdeithas yr Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru (DTA Wales) yn defnyddio'r arian ar gyfer ei brosiect Renew Wales sy'n anelu at annog cynaladwyedd ar draws y wlad.
Mae'r arian yn cael ei ddyfarnu trwy Gamau Cynaliadwy - rhaglen ariannu nad yw'n dod o'r Loteri sy'n cael ei gyflwyno trwy'r Gronfa Fawr ac sy'n cael ei hariannu gan arian sydd wedi bod yng nghwsg mewn cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu ar draws y DU am 15 mlynedd neu'n fwy. Mae'r modd y mae’r arian yn cael ei wario yng Nghymru wedi'i bennu gan gyfarwyddiadau polisi a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru i'r Gronfa Loteri Fawr.
Bydd DTA Wales yn helpu 200 o gymunedau i ymateb i newid hinsawdd trwy gyngor, hyfforddiant a chymorth mentora gyda ffocws penodol ar dlodi tanwydd, pobl nad oeddynt yn gysylltiedig â gweithgareddau newid hinsawdd o'r blaen ac ardaloedd gyda phoblogaeth pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig uchel.
Bydd gweithgareddau sydd wedi'u targedu at grwpiau megis clybiau rygbi, Sefydliadau’r Merched, mudiadau ieuenctid a chymdeithasau tai, yn cynnwys datblygu adnoddau ynni adnewyddadwy cymunedol, sefydlu clybiau bwyd lleol, sicrhau defnydd cynaliadwy ar dir ac adeiladau, sefydlu mentrau cymunedol a chysylltu ysgolion a busnesau gyda gweithredu newid hinsawdd.
Dywedodd Ken Shaw, Pennaeth Menter Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru, a fydd yn cyflwyno'r prosiect gyda phartneriaid megis y Ganolfan Dechnoleg Amgen, Mentor Môn a Green Renewable Wales: “Bydd y prosiect yn manteisio ar gyfoeth y wybodaeth gynaladwyedd yng Nghymru - gan gysylltu unigolion profiadol, medrus ac ymroddedig gyda chymunedau nad ydynt wedi dod i gysylltiad blaenorol â'r symudiad cynaladwyedd i ddatblygu cynlluniau gweithredu newid hinsawdd, a rhoi eu syniadau ar waith. Gan ganolbwyntio ar fentora a chymorth, bydd y prosiect yn ysbrydoli, yn cysylltu ac yn rhannu gyda thon newydd o gymunedau y wybodaeth a'r profiad y mae arloeswyr yn y maes wedi'u sicrhau."
Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd yr ariannu a gyhoeddir heddiw, dywed Cyfarwyddwr Cymru'r Gronfa Loteri Fawr, John Rose: "Bydd Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru yn helpu i gyfarparu cymunedau â gwybodaeth, sgiliau a galluoedd gwell i alluogi iddynt gymryd camau i fynd i'r afael ag achosion newid hinsawdd, meithrin gwydnwch tuag at newid yn yr hinsawdd a byw mewn ffordd fwy cynaliadwy.
“Rydym eisiau gweld mwy o gymunedau yn gostwng eu hôl troed carbon ac yn addasu i ganlyniadau newid hinsawdd. Bydd y ddysg o'r rhaglen hon hefyd yn cael ei defnyddio i hysbysu polisïau newid hinsawdd a datblygiad cynaliadwy yn y dyfodol. Yn y pen draw, bydd yr arian hwn yn cael effaith hir dymor arwyddocaol ac yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r amgylchedd a bywydau pobl ar draws Cymru."
Ychwanegodd Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy John Griffiths: "Rwyf wrth fy modd bod y prosiect llwyddiannus yn un sy'n cael ei gyflwyno gan bartneriaeth o grwpiau cymunedol llawr gwlad sydd wedi arloesi wrth alluogi i'w cymunedau eu hunain gymryd camau ar newid hinsawdd. Byddant bellach yn derbyn yr adnoddau cywir er mwyn iddynt ysbrydoli cymunedau ar draws Cymru gyda'u hegni, eu brwdfrydedd a'u penderfyniad i wneud gwahaniaeth."
Fe'i lansiwyd ym mis Medi'r llynedd, ac mae'r rhaglen Camau Cynaliadwy yn anelu at gefnogi cymunedau ar draws Cymru i ostwng allyriadau carbon trwy ddatblygu sgiliau, newid ymddygiad pobl a hyrwyddo datblygiad cynaliadwy ehangach. O ganlyniad, bydd cymunedau yn ennill y sgiliau angenrheidiol i gymryd camau i fynd i'r afael ag achosion a chanlyniadau newid hinsawdd. Y rhaglen Camau Cynaliadwy yw'r rhaglen ariannu Cyfrifon Cwsg gyntaf i'w lansio yng Nghymru. Bydd ffrwd yn canolbwyntio ar bobl ifanc yn cael ei lansio yn ddiweddarach eleni.
Newid Hinsawdd - Ffeithiau Cymru:
- Ar draws gwahanol rannau o Gymru disgwylir i'r tymereddau cyfartalog blynyddol godi rhwng 2 a 4°C erbyn y 2080au.
- Rhagfynegir y bydd y cynnydd cymharol yn lefel y môr o amgylch Cymru (o ystyried newidiadau lefel tir) yn 36cm erbyn y 2080au.
- Mae cynnydd yn lefel y môr yn y dyfodol o amgylch arfordir Cymru yn debyg o arwain at erydiad arfordirol mwy difrifol, gyda digwyddiadau o lifogydd yn fwy tebygol yn ardaloedd arfordirol isel.
Ffynhonnell: Newid Hinsawdd: ei effaith ar Gymru
Mwy o Wybodaeth
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 227
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron i £100,000 y dydd mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
- Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu hanner yr arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol. Ein cenhadaeth yw dod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r bobl fwyaf anghenus.
- Mae Deddf y Loteri Genedlaethol 2006 yn caniatáu i ni drin arian nad yw'n dod o'r Loteri yn ogystal ag arian y Loteri. Rydym yn gwneud hyn trwy weithredu fel y Gronfa Fawr.
- Ariennir y rhaglen Camau Cynaliadwy gan arian sydd wedi bod yng nghwsg mewn cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu ar draws y DU am 15 mlynedd neu'n fwy. Mae'r ffordd yr ydym yn gwario'r arian hwn yng Nghymru wedi'i bennu gan Gyfarwyddiadau Polisi a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru i'r Gronfa Loteri Fawr. Mae'r rhaglen hon wedi'i datblygu i fodloni'r angen a adnabuwyd yn y cyfarwyddiadau hynny.
- Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £27 biliwn wedi’i godi a mwy na 370,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags