- Area:
- Cymru
- Programme:
- Pawb a'i Le
- Release date:
- 21 11 2012
Yn ystod ei hanes cyfoethog dros y ganrif ddiwethaf mae arwyr cerddoriaeth, teledu a ffilm wedi perfformio ar ei llwyfan. Yn adeilad o bwys hanesyddol sylweddol, mae'n gartref i enghraifft orau Cymru o theatr neu sinema Art Deco ac yn cynnal atgofion o ddynion lleol a fu farw'n drasig yn ystod y Rhyfeloedd Byd ac yn y glofeydd lleol.
Erbyn hyn, ar ôl mwy na 30 mlynedd o esgeulustra, mae'r cam cyntaf o adfer Sefydliad a Neuadd Goffa Glofeydd Celynnen yn Newbridge, De Cymru, bron wedi'i gwblhau diolch i grant o £500,000 o raglen Pawb a'i Le'r Gronfa Loteri Fawr.
Mewn prosiect adfer gwerth cyfanswm o fwy na £5.9 miliwn, bydd ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr a Chronfa Dreftadaeth y Loteri yn helpu i adael etifeddiaeth barhaus yn y gymuned trwy sicrhau y bydd yr adeiladau'n parhau i fod yn ganolbwynt i weithgarwch diwylliannol, addysgol, cymdeithasol a chymunedol dros y can mlynedd nesaf.
Yr wythnos hon, datgelodd cynllunwyr y bydd cam cyntaf y prosiect, i adnewyddu ac adfywio adeilad Sefydliad y Gweithwyr Glofeydd Celynnen, yn cael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2013. Wedi'i ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr, roedd adnewyddiad yr adeilad i fod i gael ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr eleni ond mae cynnydd wedi cael ei rwystro gan dywydd gwael. Er hynny, cyflawnwyd un o'r prif gerrig milltir cyntaf ym mis Medi pan osodwyd siafft awyru 10 troedfedd, a adeiladwyd gan grefftwr lleol i efelychu'r gwreiddiol, ar ben adeilad y Sefydliad mewn seremoni gosod carreg copa.
Wedi'i agor yn wreiddiol ym 1908, ariannwyd adeilad y Sefydliad gan grŵp o lowyr lleol a oedd am wella amwynderau cymdeithasol yr ardal. Ar ôl ei agor bydd yr adeilad ar ei newydd wedd yn cynnwys llyfrgell a chanolfan TG newydd sbon, ystafelloedd cyfarfod cymunedol ac adeilad newydd sy'n cysylltu â'r neuadd goffa gerllaw a agorodd ym 1925 i anrhydeddu aelodau'r lluoedd arfog a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae Howard Stone, Cadeirydd y prosiect wedi byw yn Newbridge ers dros pum deg mlynedd, ac ef oedd un o'r bobl leol a gamodd i'r adwy pan fygythiwyd i dynnu'r adeilad unigryw i lawr ac adeiladu maes parcio neu floc o fflatiau ar y safle: “Bwriad y prosiect hwn yw dychwelyd yr adeilad i'r diben gwreiddiol y cafodd ei adeiladu ar ei gyfer,” meddai Howard.
“Yn wreiddiol roedd y llyfrgell yn rhan o'r Sefydliad ac fe gafodd ei hadleoli i adeilad parod ar ochr arall y dref yn y 1960au. Ond nawr mae'n dod yn ôl."
Dywedwyd bod gan lyfrgell y Sefydliad y stoc orau o lyfrau o unrhyw lyfrgell yn ne Cymru. Roedd llyfrau rhifyn cyntaf niferus yma, a dysgodd llawer o lowyr i ddarllen yma - gan gynnwys fy nhad. Ystyriwyd bod y cyfryw Sefydliadau'n Brifysgolion y Cymoedd ac roedd hyd yn oed pobl fel Aneurin Bevan wedi dysgu eu hunain sut i ddarllen mewn lleoedd fel hyn.
Yn amlygu'r cynnydd a wnaed ar y prosiect hyd yn hyn, meddai Howard: “Mae tywydd gwael wedi rhwystro rhai agweddau ar y gwaith adeiladu ac wedi'n hatal ni o ran gosod lloriau ac arwynebau eraill. Er hynny, byddwn mewn sefyllfa i dynnu'r sgaffaldiau cyn bo hir ac rydym eisoes wedi dewis y gorffeniad ar gyfer y lloriau. Gobeithiwn fedru gorffen y nenfydau a waliau mewnol erbyn y Nadolig ac rydym yn bendant ar y trywydd iawn ar gyfer mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Gobeithiwn y bydd yr adeilad ar agor i'r cyhoedd o fewn wythnosau ar ôl ei gwblhau."
Dechreuodd y Rheolwr Prosiect, Rob Jackson, ymwneud â'r cynlluniau dros wyth mlynedd yn ôl ar ôl gweithio ar brosiect tebyg i adfywio Sefydliad y Glowyr Cwmaman. Mae'n edrych ymlaen at weld y drysau'n cael eu hagor i'r cyhoedd am y tro cyntaf.
“Rydym yn rhagweld y bydd y llyfrgell ar ei phen ei hun yn denu 40,000 o ymweliadau ar ben y 35,000 o ymweliadau y flwyddyn rydym eisoes yn eu cael drwy'r drysau mewn rhannau eraill o'r cyfleuster," meddai.
"Mae'n mynd i fod yn hwb go iawn i weld y lle hudolus yma yn dod yn ôl i fywyd eto a chael ei adfer i'w ogoniant gynt. Mae'r Pwyllgor wedi bod yn brwydro dros hyn ers deng mlynedd, a'r brif garreg filltir gyntaf oedd cael yr arian gan y Gronfa Loteri Fawr. Dyma'r hyn a agorodd y llifddorau o ddifrif wrth ddenu'r arianwyr eraill."
Ar ôl cwblhau adeilad y Sefydliad, bydd grant pellach o bron £3 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn cael ei wario ar ail gam y prosiect i adfer ac adnewyddu ystafell ddawnsio ac awditoriwm y Neuadd Goffa, sy'n cynnwys y sinema, yn llawn. Mae'r awditoriwm, gyda'i addurniadau moethus, wedi bod ar gau ers dros ddeng mlynedd ar hugain, ac ystyrir yn gyffredinol ei fod yn dlws cudd y mae cenhedlaeth gyfan wedi colli allan arno ers iddo gau.
Hyd yn oed yn ei gyflwr diraen presennol, mae galw o hyd am yr awditoriwm prydferth ac mae wedi cael ei ddefnyddio'n rheolaidd i fod yn gefndir i gynyrchiadau ffilm a theledu ers y tro diwethaf y cafodd ei ddefnyddio fel sinema ym 1972. Saethwyd ffilmiau megis ‘House’, ‘Very Annie Mary’ a ‘Flick’ (gyda'r seren Faye Dunaway) yn yr awditoriwm. Yn fwy diweddar, mae golygfeydd ar gyfer dramâu'r BBC, ‘Doctor Who’ a ‘Sherlock’ wedi cael eu saethu yn y ‘Memo’ ac fe'i defnyddiwyd fel un o'r lleoliadau ar gyfer ‘Shirley’, y ddrama fawr ei bri gan y BBC a ddangosodd gynnydd y gantores, y Fonesig Shirley Bassey, i enwogrwydd.
Oddi tani mae'r awditoriwm yn ystafell ddawnsio sy'n cael ei defnyddio o hyd ac fe'i disgrifir fel un o'r rhai mwyaf yng nghymoedd de Cymru. Mae llwyfan yr ystafell ddawnsio wedi darparu cefndir ar gyfer arwyr y byd cerddoriaeth ar hyd y cenedlaethau. O fandiau dawns i bync-roc, dawnsiau te i dedi-bois, ac o roc a rôl i fetel trwm - mae'r Memo wedi gweld pob arddull ffasiwn a cherddoriaeth. Mae Syr Tom Jones ymysg y rhestr hir o bobl nodedig sydd wedi perfformio ar ei llwyfan dros y blynyddoedd.
Yn y 1970au ac 80au, roedd y Memo ar y cylch cenedlaethol ar gyfer bandiau datblygol, yr aeth llawer ohonynt ymlaen i fod yn arwyr roc eu hunain. Mae'r Stranglers, Iron Maiden, Dire Straits, Motorhead a Whitesnake yn rhai'n unig o'r enwau a fu'n ysbrydoliaeth lawer o bobl leol ddechrau ymwneud â cherddoriaeth a ffurfio eu bandiau eu hunain - a'r enghraifft fwyaf nodedig o hyn yw James Dean Bradfield. Fe weithiodd y tu ôl i'r bar yn y Memo yn y 1980au ac aeth ymlaen i fod yn brif ganwr y Manic Street Preachers, a oedd yn rhan fawr o'r sîn cerddoriaeth yn y 90au.
Gan amlygu pwysigrwydd cadw a datblygu'r adeilad i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau, meddai Howard Stone: Trwy fuddsoddi mewn treftadaeth y gorffennol, byddwn yn gallu creu buddion ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn gwneud hyn trwy greu prosiect a fydd yn darparu mynediad i bawb, gan gyfoethogi profiadau diwylliannol ac addysgol pobl Newbridge a'r cylch.
"Bwriadwn sicrhau y bydd yr adeilad, unwaith eto, yn mynd yn ganolbwynt gweithgarwch ar gyfer cerddoriaeth, sinema, theatr, dysgu, treftadaeth, gweithgarwch cymunedol a mynediad i dechnoleg newydd. Dyma'n cymynrodd i genedlaethau eraill a fydd yn defnyddio'r adeilad hwn."
Bydd agoriad swyddogol yr adeiladau'n digwydd ar yr un pryd â chanmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn 2014.
Yn amlygu pwysigrwydd y rhaglen Pawb a'i Le, meddai Aelod Pwyllgor Cronfa Loteri Fawr Cymru a Chadeirydd y Pwyllgor Pawb a'i Le, Gareth Newton, "Rydym yn falch iawn o'r hyn y mae'r prosiect yma wedi'i gyflawni hyd yn hyn. Ond yr hyn sy'n bwysicach na maint yr arian a ddosbarthwn yw'r effaith gadarnhaol y mae'r arian hwn yn ei chael ar fywydau'r bobl a'r cymunedau mwyaf anghenus ledled Cymru. Y rhaglenni fel Pawb a'i Le yw'r rhai sy'n cyflwyno ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol i adfywio ac adnewyddu ein cymunedau, mynd i'r afael yn uniongyrchol ag anfantais a gadael etifeddiaeth barhaus. Rwy'n siŵr y bydd y prosiect hwn yn gwneud hynny'n union."
Mae'r rhaglen Pawb a'i Le yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 ac £1 miliwn ar gyfer amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol. I gael gwybod mwy am y rhaglen Pawb a'i Le a sut y gallwch chi ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk
Mwy o Wybodaeth
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Ben Payne: 029 2067 8224
Cyswllt y tu allan i oriau: 07500 951 707
Dilynwch y Gronfa ar Twitter: www.twitter.com/biglotterywales
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/biglotteryfundwales
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
• Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100k y diwrnod mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
• Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
• Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags