- Area:
- Cymru
- Programme:
- Pawb a'i Le
- Release date:
- 21 12 2012
Mae llawer wedi gweld yr hyn sydd gan egin entrepreneuriaid ifainc i'w gynnig ar raglenni megis Young Apprentice ar y BBC. Ond gyda'r ffigurau diweddaraf yn parhau i ddangos yr erys diweithdra ymysg pobl ifanc yng Nghymru'n ystyfnig o uchel ac uwchben cyfartaledd y DU, mae prosiect yng ngogledd Cymru bellach yn anelu at harneisio addewid pobl ifanc trwy adeiladu canolfan fenter newydd i helpu pobl ifanc i ddatblygu eu mentrau cymdeithasol eu hunain a darparu profiad a chyfleoedd cyflogaeth ar eu cyfer.
Mae'r prosiect, a redir gan Gymdeithas Tai Clwyd Cyfyngedig yn Sir Ddinbych ymysg y 12 o brosiectau ym mhob cwr o Gymru sy'n rhannu'r £2,916,970 a ddyfarnwyd trwy raglen Pawb a'i Le y Gronfa Loteri Fawr heddiw. Mae llawer o'r prosiectau a ariennir o dan y rownd ddiweddaraf yn anelu at wella hyder, sgiliau a chyflogadwyedd pobl mewn cymunedau ledled Cymru (rhestr lawn ar ddiwedd y datganiad).
Gyda'r £421,000 a ddyfarnwyd iddynt, bydd, Cymdeithas Tai Clwyd yn adeiladu Canolfan Menter Ieuenctid newydd yn Ninbych fel rhan o brosiect gwerth miliwn o bunnoedd. Bydd y ganolfan newydd ac arloesol, sy'n uchafbwynt i ddeng mlynedd o waith datblygu, yn cynnwys swyddfeydd newydd; cyfleusterau galw heibio, ardaloedd hyfforddiant a mannau cefnogaeth a gwasanaeth i bobl ifanc a ddarperir gan ddarparwyr ac asiantaethau allweddol eraill. Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys lle i ddatblygu mentrau cymdeithasol a chyfleoedd profiad gwaith.
Bydd y ganolfan hefyd yn darparu lleoedd er mwyn i bobl ifanc ddifreintiedig gael mynediad i wasanaethau a chefnogaeth, ac ar yr un pryd ymwneud â gweithgareddau sy'n eu grymuso ac a fydd yn eu galluogi i symud ymlaen a chynyddu eu sgiliau er mwyn sicrhau dyfodol gwell ar gyfer eu hunain. Bydd y gweithgareddau'n troi o gwmpas goresgyn rhwystrau, cynyddu hyder a sgiliau sylfaenol a gweithio tuag at gyfleoedd dysgu, menter a chyflogaeth pellach. Bydd y prosiect yn cyflogi Rheolwr Canolfan i ddatblygu perthnasoedd â phartneriaid eraill ac i ddatblygu profiadau cyflogaeth, prentisiaethau a mentrau cymdeithasol a reolir ac a redir gan grwpiau o bobl ifanc.
Gyda'r cyhoeddiad diweddar y bydd caledi ym Mhrydain yn parhau tan o leiaf 2018, mae Alwyn Llwyd, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Clwyd, yn credu bod ariannu ar gyfer prosiectau fel hwn yn hollbwysig o ran datblygu twf mewn diwydiant a gwella sgiliau, hyder a chyflogadwyedd pobl ifanc.
Meddai: “Bydd y Ganolfan Menter Ieuenctid yn darparu lleoedd er mwyn i bobl ifanc ddifreintiedig gael mynediad i wasanaethau a chefnogaeth, ac ymwneud â gweithgareddau sy'n eu grymuso ac a fydd yn eu galluogi i symud ymlaen a chynyddu eu sgiliau. Bydd y gweithgareddau'n troi o gwmpas goresgyn rhwystrau, cynyddu hyder a datblygu sgiliau sylfaenol er mwyn hygyrchu cyfleoedd dysgu, menter a chyflogaeth pellach.
“Dyma brosiect cyffrous ar gyfer y partneriaid a budd-ddeiliaid allweddol ac mae ganddo gefnogaeth lawn gan y gymuned. Hoffem fynegi diolchiadau mawr i'r Gronfa Loteri Fawr am rannu ein gweledigaeth a dyfarnu'r grant hwn i Dai Clwyd."
Mae prosiectau eraill a ariennir heddiw yn anelu at ddarparu cyngor a chefnogaeth i helpu'r rhai mwyaf difreintiedig mewn cymdeithas. Gyda'u grant o £223,004, bydd Recovery Cymru yn rhedeg y prosiect ‘Making Recovery Real’ i gefnogi pobl sy'n ailsefydlu ar ôl problemau gyda chyffuriau ac alcohol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Cyflawnir hyn trwy sefydlu cymuned cefnogi ailsefydlu gydfuddiannol a arweinir gan gymheiriaid lle gall aelodau ehangu eu rhwydweithiau cymdeithasol, cael cyngor ac arweiniad a chynyddu eu hunan-barch.
Yn esbonio pwysigrwydd y prosiect, meddai Sarah Vaile o Recovery Cymru: Bydd y grant hwn yn cael effaith sydyn ac uniongyrchol ar ein haelodau, ein gwirfoddolwyr a'n partneriaid, yn ogystal â darparu etifeddiaeth sy'n parhau ar gyfer dyfodol ein cymuned 'llawr gwlad' sy'n tyfu. Rydym i gyd y gyffrous am ddyfodol cefnogaeth ailsefydlu gydfuddiannol a arweinir gan gymheiriaid ar gyfer pobl sy'n goresgyn problemau cyffuriau, alcohol a chysylltiedig yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg."
Ac mewn prosiect sy'n cwmpasu Cymru gyfan, bydd y mudiad Llyfrau Llafar Cymru Cyf yn gwario'u £142,410 ar wella a datblygu ei wasanaeth o ddarparu llyfrau a phapurau newydd siarad i bobl â namau ar y golwg ar draws Cymru. Cyflawnir hyn trwy recordio, cadw a dosbarthu llyfrgell o lyfrau sain Cymraeg a Saesneg-Cymraeg yn helaethach ledled Cymru i gyrraedd croestoriad ehangach o ddefnyddwyr.
Ac mae rhodd Nadolig wych ar y gorwel ar gyfer cymuned Trefyclawdd ym Mhowys ar ffurf grant o dros £116,000 (£116,971) er mwyn i brosiect Ffenics Trefyclawdd adeiladu parc amlddiben awyr agored newydd sbon ar gyfer sgwteri, beiciau a sglefyrddiau gyfagos ag ardal chwarae bresennol i blant.
A hwythau wrth eu boddau â'u grant ysgubol ar adeg y Nadolig, meddai Lynsey Price o Brosiect Ffenics Trefyclawdd: "Bydd y prosiect hwn yn cyflwyno cyfleusterau a chyfleoedd hamdden gwell ar gyfer pobl ifanc yn ein hardal. Bydd y parc sglefyrddio a BMX yn cael ei adeiladu'n unol â dyheadau pobl ifanc leol ac yn cynnig lle dynodedig am ddim i gymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden awyr agored.
“Rydym yn gyffro i gyd ar gyfer y cyfleoedd y bydd y prosiect hwn yn eu cyflwyno, ac wrth ein boddau bod y Gronfa Loteri Fawr wedi cydnabod anghenion ein pobl ifanc, sy'n haeddu darpariaeth well yn eu cymuned leol.”
Yn amlygu pwysigrwydd y rhaglen Pawb a'i Le, meddai Gareth Newton, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: "Mae rhaglenni fel Pawb a'i Le'n gwneud gwahaniaeth i fywydau cynifer o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru. Mae'n cyflwyno ar ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol i adfywio ac adnewyddu cymunedau, mynd i'r afael yn uniongyrchol ag anfantais a gadael etifeddiaeth a fydd yn parhau.”
Mae'r rhaglen Pawb a'i Le yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 ac £1 miliwn ar gyfer amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol. I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen a sut y gallwch chi ymgeisio am ariannu, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk
Rhestr lawn y dyfarniadau
Mwy o Wybodaeth
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Ben Payne: 02920 678 224
Cyswllt y tu allan i oriau: 07500 951 707
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
• Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100,000 y diwrnod mewn arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
• Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
• Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags