- Area:
- Cymru
- Programme:
- Arian i Bawb Cymru
- Release date:
- 24 1 2013
SAIN AR GAEL: Mark Rutherford o Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol De Powys
yn esbonio pam mae'r ariannu'n bwysig. Cliciwch yma i wrando ar Mark. I drefnu
cyfweliad gyda Mark, ffoniwch Oswyn Hughes ar 029 2067 8207 neu
e-bostiwch oswyn.hughes@cronfaloterifawr.org.uk
Bydd mwy o fywydau'n cael eu hachub mewn cymunedau yng Nghymru gan i unedau Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol hollbwysig fod ymysg yr ystod o grwpiau ledled Cymru sy'n rhannu bron £330,000 a ddyfarnwyd gan raglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr heddiw.
At ei gilydd bydd 88 o brosiectau cymunedol ledled Cymru'n rhannu'r £329,787 a ddyfarnwyd o dan rownd ddiweddaraf y rhaglen grantiau bach, Arian i Bawb (rhestr lawn y dyfarniadau ar ddiwedd y datganiad. Cysylltwch ag Oswyn Hughes i gael disgrifiadau llawn o'r prosiectau).
Diolch i'w dyfarniad o £5,000 bydd Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol De Powys yn ehangu'r ardal y maent yn ei gwasanaethu. P'un a yw'n bobl sy'n dioddef o ataliad y galon, profi anawsterau anadlu neu wedi dioddef o anafiadau yn yr aelwyd, mae gwirfoddolwyr Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol wedi'u hyfforddi i fynd i sefyllfaoedd brys y mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi derbyn galwad amdanynt a darparu gofal nes bod yr ambiwlans yn cyrraedd. Wedi'i sefydlu ychydig dros ddeunaw mis yn ôl, mae Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol De Powys wedi mynd o nerth i nerth. Ar hyn o bryd mae'r grŵp yn gwasanaethu ardaloedd Aberhonddu a Phont Senni a bydd bellach yn ehangu i gwmpasu Crucywel a'r Gelli Gandryll trwy hyfforddi deuddeg ymatebwr brys ychwanegol yn ddiweddarach eleni.
Bydd y grant gan y Gronfa Loteri Fawr yn ariannu peiriannau diffibrilio, bagiau ymateb meddygol a dillad diddos newydd, a bydd y cyfarpar ychwanegol hefyd yn eu galluogi i sefydlu cynllun Cychwyn Calon a chyflwyno hyfforddiant cynnal bywyd gwerthfawr i'r cyhoedd.
Sefydlodd Mark Rutherford, Swyddog Gwarant Gweithrediadau yng Ngwersyll y Fyddin, Pont Senni ger Aberhonddu y tîm Ymatebwyr Cyntaf sy'n gwasanaethu ardal Aberhonddu. Mae'n gwybod yn iawn pa mor bwysig y mae'r Unedau Ymatebwyr Cyntaf. Un prynhawn roedd Mark a'i gymheiriaid yn chwarae pêl-droed yng ngwersyll y fyddin pan lewygodd un o'r chwaraewyr a dioddef ataliad y galon (Astudiaeth Achos).

Roedd Mark yn gallu darparu diffibrilio a dadebru (CPR) cyn bod yr ambiwlans yn cyrraedd. Cafodd y claf, Penswyddog y Gwersyll, yr Uwchgapten Ed Mahony, ei hedfan i'r ysbyty gan Ambiwlans Awyr Cymru ac aeth ymlaen i wella'n gyfan gwbl.
Yn amlygu pwysigrwydd y dyfarniad gan Arian i Bawb, meddai Mark: “Byddai wedi cymryd blynyddoedd yn hytrach na misoedd i godi'r arian yma, felly rydym yn ddiolchgar iawn i'r Gronfa Loteri Fawr am eu dyfarniad. Bydd modd bellach i ni anfon mwy o bobl allan ar alwadau ymateb brys. Cwblhaodd pum gwirfoddolwr newydd eu hyfforddiant y penwythnos diwethaf ac erbyn hyn mae deg ohonom ni'n gweithio yn yr ardal. Mae gennym bump arall sydd am gael eu hyfforddi."
"Mae gwasanaethau fel hyn yn hanfodol mewn sir wledig fel Powys a'r gobaith yw y gallwn gyrraedd claf o fewn y pum munud hollbwysig. Bydd mwy o fywydau'n cael eu hachub, yn enwedig os ydynt yn dioddef ataliad y galon. Nid yw 70% yn goroesi oherwydd y bwlch amser. Os gallwch gyrraedd rhywun o fewn pum munud mae cyfle 80% o'u dadebru. Petai gennym Ymatebwr Cyntaf gwirfoddol ar bob stryd byddai hynny'n wych a byddai mwy o fywydau'n cael eu hachub."
Yn Ystalyfera, Castell-nedd Port Talbot, mae Grŵp Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol Pontardawe hefyd wedi derbyn £3,717 i brynu peiriannau diffibrilio a bagiau ymateb newydd. Bydd y grŵp yn recriwtio gwirfoddolwyr ychwanegol a fydd yn gostwng amserau ymateb yn yr ardal a bydd yn gweithio tuag at ddarparu gwasanaeth 24 awr trwy gydol y flwyddyn.
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru'n recriwtio Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol ar hyn o bryd. Os teimlwch y gallwch chi wneud gwahaniaeth i’ch cymuned, ewch i www.ambulance.wales.nhs.uk i lawrlwytho ffurflen.
Mae'r grantiau eraill a ddyfarnwyd yn cynnwys un i Ysgol Gynradd Sirol Owen Jones yn Llaneurgain, Sir y Fflint, a fydd yn dod â darn segur o dir yn ôl i ddefnydd trwy greu ysgol goedwig ac ardal natur a fydd yn cynnwys gardd goetir, potiau llysiau mawr, blychau nythu, twnnel bwa helyg ac arwyddion i adnabod planhigion, coed a bywyd gwyllt. Ac fel un o saith o brosiectau i rannu bron £25,000 a ddyfarnwyd yng Ngwynedd, bydd Gisda Cyfyngedig yn agor Canolfan Wybodaeth newydd yng Nghaernarfon, y byddant yn ei defnyddio i gyflwyno gwasanaethau cefnogi i bobl ifanc fregus i bobl ifanc 16-25 oed.
Mae cefnogaeth hefyd i bobl fregus a'r rhai sydd ag anawsterau ac anableddau dysgu yng Ngorllewin Cymru a Bro Morgannwg. Yn Sir Gâr bydd CYCA Cymru Ltd yn Llanelli yn sefydlu gwasanaeth i gefnogi pobl ifanc fregus ac wedi'u heithrio'n gymdeithasol 14-16 oed sy'n profi anawsterau emosiynol ac ymddygiadol diolch i'r £4,982 a ddyfarnwyd iddynt. Ac ym Mro Morgannwg, bydd mudiad Valeplus (Cymru) a Valeplus Extra yn gwario'u dyfarniad o £4,927 ar agor caffi yn Stryd Fawr Y Barri a'i ddefnyddio i ddarparu cyfleoedd hyfforddi ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.
Meddai Gareth Williams, Rheolwr Rhaglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Mae Arian i Bawb yn cael effaith gadarnhaol ledled Cymru. Mae'r arian yn helpu sefydlu grwpiau, cymdeithasau a chlybiau, gan hyrwyddo dysgu, cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli a helpu adeiladu cymunedau cryfach.”
Mae'r ffurflen gais ar gael yn Gymraeg a Saesneg a gellir ei lawrlwytho o www.arianibawb.org.uk neu dros y ffôn ar 0845 4 10 20 30.
Rhestr lawn y dyfarniadau
|
Mudiad
|
Lleoliad
|
Dyfarniad
|
|
Mudiad
|
Lleoliad
|
Dyfarniad
|
|
Canolfan Esceifiog Gaerwen
|
Ynys Môn
|
£3,148
|
|
WASPS
|
Merthyr Tudful
|
£4,980
|
|
Ysgol Gymraeg Morswyn
|
Ynys Môn
|
£5,000
|
|
Inspirations
|
Merthyr Tudful
|
£600
|
|
Cwmni Sefydledig Prichard Jones Cyf
|
Ynys Môn
|
£960
|
|
Tintern Recreation Centre and Village Hall
|
Sir Fynwy
|
£5,000
|
|
Ysgol Gatholig y Santes Fair
|
Ynys Môn
|
£5,000
|
|
Grŵp Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol Pontardawe
|
Castell-nedd Port Talbot
|
£3,717
|
|
Cymdeithas Trigolion Llys Peacehaven
|
Blaenau Gwent
|
£582
|
|
Plwyf Ystalyfera
|
Castell-nedd Port Talbot
|
£4,630
|
|
Stitch in Time
|
Blaenau Gwent
|
£698
|
|
Y Clwb Cyfeillgarwch
|
Castell-nedd Port Talbot
|
£5,000
|
|
Clwb Bechgyn a Merched Wyndham
|
Pen-y-bont ar Ogwr
|
£4,500
|
|
Sefydliad y Merched Ynysfach
|
Castell-nedd Port Talbot
|
£4,351
|
|
Sussed Wales
|
Pen-y-bont ar Ogwr
|
£4,100
|
|
Making Environments New and Desirable
|
Castell-nedd Port Talbot
|
£4,430
|
|
Every Link Counts
|
Pen-y-bont ar Ogwr
|
£4,412
|
|
Cyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol Bae Abertawe
|
Castell-nedd Port Talbot
|
£3,521
|
|
Mudiad
|
Lleoliad
|
Dyfarniad
|
|
Mudiad
|
Lleoliad
|
Dyfarniad
|
|
Canolfan Esceifiog Gaerwen
|
Ynys Môn
|
£3,148
|
|
WASPS
|
Merthyr Tudful
|
£4,980
|
|
Ysgol Gymraeg Morswyn
|
Ynys Môn
|
£5,000
|
|
Inspirations
|
Merthyr Tudful
|
£600
|
|
Cwmni Sefydledig Prichard Jones Cyf
|
Ynys Môn
|
£960
|
|
Tintern Recreation Centre and Village Hall
|
Sir Fynwy
|
£5,000
|
|
Ysgol Gatholig y Santes Fair
|
Ynys Môn
|
£5,000
|
|
Grŵp Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol Pontardawe
|
Castell-nedd Port Talbot
|
£3,717
|
|
Cymdeithas Trigolion Llys Peacehaven
|
Blaenau Gwent
|
£582
|
|
Plwyf Ystalyfera
|
Castell-nedd Port Talbot
|
£4,630
|
|
Stitch in Time
|
Blaenau Gwent
|
£698
|
|
Y Clwb Cyfeillgarwch
|
Castell-nedd Port Talbot
|
£5,000
|
|
Clwb Bechgyn a Merched Wyndham
|
Pen-y-bont ar Ogwr
|
£4,500
|
|
Sefydliad y Merched Ynysfach
|
Castell-nedd Port Talbot
|
£4,351
|
|
Sussed Wales
|
Pen-y-bont ar Ogwr
|
£4,100
|
|
Making Environments New and Desirable
|
Castell-nedd Port Talbot
|
£4,430
|
|
Every Link Counts
|
Pen-y-bont ar Ogwr
|
£4,412
|
|
Cyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol Bae Abertawe
|
Castell-nedd Port Talbot
|
£3,521
|
|
Plant Tybie
|
Sir Gâr
|
£4,980
|
|
Clwb Cymdeithasol Llys Linden
|
Rhondda Cynon Taf
|
£4,470
|
|
Neuadd Lisburne
|
Ceredigion
|
£5,000
|
|
Canolfan Gymunedol Pontyclun
|
Rhondda Cynon Taf
|
£4,716
|
|
Cylch Chwarae Sain Padarn
|
Ceredigion
|
£4,469
|
|
Cymdeithas Hanes Lleol Llantrisant a'r Cylch
|
Rhondda Cynon Taf
|
£3,404
|
|
Grŵp Tyfwyr Graigfechan
|
Sir Ddinbych
|
£5,000
|
|
Parti Cyngerdd Neuadd Baywood
|
Abertawe
|
£2,200
|
|
Cymdeithas Pensiynwyr Pen Y Ffordd
|
Sir y Fflint
|
£1,390
|
|
Grŵp Lleol RSPB Gorllewin Morgannwg
|
Abertawe
|
£1,230
|
|
Ysgol Gynradd Sirol Owen Jones
|
Sir y Fflint
|
£4,731
|
|
Swansea Sew & So's
|
Abertawe
|
£1,287
|
|
Academi Codwyr Hwyl Deva
|
Sir y Fflint
|
£1,776
|
|
Clwb Te
|
Abertawe
|
£1,655
|
|
Profiad Ar Ôl Ysgol Estyn
|
Sir y Fflint
|
£4,993
|
|
Tŷ T.O.P.I.C
|
Abertawe
|
£600
|
|
Geidiau Sir y Fflint a'r Cylch
|
Sir y Fflint
|
£760
|
|
Clwb y Tu Allan i'r Ysgol Palmerston
|
Bro Morgannwg
|
£4,780
|
|
Clwb Ar Ôl Ysgol Croes Atti
|
Sir y Fflint
|
£4,310
|
|
Valeplus (Cymru) a Valeplus Extra
|
Bro Morgannwg
|
£4,927
|
|
Ymddiriedolaeth Plas Derw Cyf
|
Sir y Fflint
|
£4,540
|
|
Cymdeithas Pensiynwyr Pleasant Court
|
Torfaen
|
£4,194
|
|
Cymdeithas Gymunedol Edern
|
Gwynedd
|
£3,275
|
|
Grŵp Achyddiaeth Thornhill
|
Torfaen
|
£3,722
|
|
Y Neuadd Goffa Penygroes
|
Gwynedd
|
£1,450
|
|
Needles & Pins
|
Torfaen
|
£1,052
|
|
Age Cymru Gwynedd a Môn
|
Gwynedd
|
£5,000
|
|
Cymdeithas Rhandiroedd Pontnewynydd
|
Torfaen
|
£4,999
|
|
Cyfeillion Hen Ysgol Llangwnnadl
|
Gwynedd
|
£1,519
|
|
Mynediad i Gwnsela Cymru
|
Cymru
|
£4,988
|
|
Ysgol Y Berwyn
|
Gwynedd
|
£5,000
|
|
Ffederasiwn Sefydliadau'r Merched Morgannwg
|
Cymru
|
£4,710
|
|
Gisda Cyfyngedig
|
Gwynedd
|
£5,000
|
|
Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru
|
Cymru
|
£5,000
|
|
Cyngor Cymuned Llanllechid
|
Gwynedd
|
£3,500
|
|
Cynghrair Menter ac Addysg Cyfyngedig
|
Wrecsam
|
£4,940
|
|
Grŵp Gwragedd Aberfan
|
Merthyr Tudful
|
£1,900
|
|
Clwb y Tu Allan i'r Ysgol Y Parc, Llai
|
Wrecsam
|
£4,830
|
Mwy o Wybodaeth:
Oswyn Hughes – Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 029 2067 8207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735 Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk
Gofyn cwestiwn i'r Gronfa Loteri Fawr yma: http://ask.biglotteryfund.org.uk/cymorth/wales/
Dilynwch y Gronfa ar Twitter: www.twitter.com/loterifawrcymru
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/biglotteryfundwales
Nodiadau i Olygyddion
• Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100,000 y diwrnod mewn arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
• Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
• Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad i hyn mae dros £29 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags