Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

£17.5m. . . A Mwy: Cymorth Mawr i Daclo Digartrefedd yng Nghymru

Area:
Cymru
Release date:
25 2 2013

Mae dyn o Abertawe a oedd yn arfer bod yn ddigartref ac a ddysgodd i ddarllen ei lyfr cyntaf yn 44 oed ymysg y rhai sydd wedi elwa o fwy na £17.5 miliwn a ddyfarnwyd gan y Gronfa Loteri Fawr i brosiectau sydd â'r nod o fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru.

Yn byw yn Hostel Dinas Fechan y Wallich yn Abertawe, roedd gan Alan Penfold, sydd bellach yn 45 oed, sgiliau llythrennedd cyfyngedig, ac roedd yn dioddef o hyder a hunan-barch hynod o isel ac yn amharod i adael ei ystafell i gymdeithasu â phobl eraill. Profodd Alan blentyndod anodd a threuliodd y rhan fwyaf o'i ieuenctid yn gofalu am aelod o'r teulu, gan olygu na chafodd y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyffredin plentyndod. Ond diolch i'r gefnogaeth a dderbyniodd gan y prosiect Streets Ahead a redir gan yr elusen ddigartref, The Wallich, mae Alan wedi llwyddo i drawsnewid ei fywyd a chynyddu ei sgiliau bywyd a'u hyder ar hyd y ffordd.

Ar ôl derbyn cymorth i ymarfer a gwella ei sgiliau darllen ac ysgrifennu, ymunodd Alan â'r llyfrgell y llynedd a llwyddodd i ddarllen ei lyfr cyntaf erioed – The Cat in the Hat gan Dr Seuss. Ac ym mis Rhagfyr 2012, dyfarnwyd Gwobr Cyflawniad Defnyddiwr Gwasanaeth Cymorth Cymru iddo fel cydnabyddiaeth o'i gynnydd a'i gyflawniadau, ac mae bellach yn bwriadu dilyn gyrfa yn y Sector Gofal yn helpu pobl sydd wedi profi'r un peth ag ef.

Mae Streets Ahead yn un o fwy na 120 o achosion sydd i elwa o fwy na £17.5 miliwn a ddyfarnwyd gan y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru ers 1994 i brosiectau sydd naill ai'n darparu cyngor a chefnogaeth neu'n anelu at fynd i'r afael â digartrefedd.
 
“Roedd yn anodd mynd i'r sesiwn Streets Ahead gyntaf, a ches i'r elfen gwaith grŵp yn anodd iawn, ond roeddwn yn benderfynol o wneud newidiadau yn fy mywyd ac amlinellais set o nodau gyda'r staff," meddai Alan.  

“Cafodd y rhain eu cofnodi ar gynllun dysgu unigol ac roeddent yn cynnwys gwella fy llythrennedd a'm hyder, dysgu sut i goginio, gwella fy ffitrwydd, goresgyn fy ofyn o grwpiau a thorfeydd, a pharatoi fy hun ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol trwy ennill cymwysterau.”

Enillodd Alan ei dystysgrif gyntaf mewn TGCh o fewn wythnos, a roddodd hwb i'w hyder i astudio ar gyfer amrywiaeth o wobrau a chymwysterau eraill. I wella ei ffitrwydd dechreuodd fynd i sesiynau campfa wythnosol a helpais i sefydlu Clwb Rhedeg Cymunedol, The Wheezels. Ym mis Medi 2012 fe redodd Ras 10k Bae Abertawe a chododd dros £200 mewn nawdd i helpu cefnogi gweithgareddau'r prosiect Streets Ahead yn y dyfodol. Symudodd yn llwyddiannus i lety annibynnol a gynorthwyir ym mis Medi 2011 ac erbyn hyn mae'n mwynhau'r annibyniaeth o fyw ar ei ben ei hun.

"Mae fy hyder wedi gwella'n bendant ers cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol ac rwy'n fodlon rhoi cynnig ar unrhyw beth sy'n brofiad newydd a chadarnhaol," meddai Alan, yn wên i gyd.

"Rwy'n mwynhau cefnogi cymheiriaid yn wirioneddol ac rwyf bellach yn gobeithio dilyn gyrfa yn y Sector Gofal. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl staff a chymheiriaid yn Streets Ahead am roi cyfle i mi gymryd rhan mewn pethau na chredais y gallwn gymryd rhan ynddynt.  Rwy'n hynod o gyffrous am y dyfodol.”

Yn ôl y ffigurau diweddaraf a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru, mae digartrefedd yng Nghymru wedi cyrraedd uchafbwynt pum mlynedd gydag arbenigwyr yn amlygu'r hinsawdd economaidd wael a thangyflenwad o dai fforddiadwy fel rhan o'r broblem. Ond p'un a yw'n grant bach o £2,500 er mwyn i Eglwys Sant Catrin ym Mhontypridd gynnal nosweithiau ffilm rheolaidd i bobl ddigartref neu grant bach o fwy na hanner miliwn o bunnoedd i fudiad Digartref Ynys Môn ddarparu llety a chefnogaeth tai arbenigol ar gyfer pobl ifanc ddigartref ar Ynys Môn – mae'r Gronfa Loteri Fawr yn helpu'r prosiectau y mae'n eu hariannu i wneud gwir wahaniaeth rhyfeddol i fywydau'r rhai y mae angen ei hariannu arnynt.

Yn amlygu pwysigrwydd yr ariannu, meddai Cyfarwyddwr Cronfa Loteri Fawr Cymru, John Rose: “Wedi gweithio i'r Gronfa Loteri Fawr am bron deng mlynedd, rwyf wedi gweld o lygad y ffynnon trwy rai o'r prosiectau gwych a gefnogwn sut y gall digartrefedd ddigwydd i unrhyw un a sut mae stori pawb yn wahanol. Heb unrhyw arwydd ar y gorwel bod y dirywiad economaidd yn gwella, sylweddolwn yn ystod y cyfnod economaidd anodd hwn fod angen ein cymorth yn fwy nag erioed ar brosiectau sy'n darparu cefnogaeth i bobl ddigartref neu'n mynd i'r afael ag achosion craidd digartrefedd.   A'r hyn sy'n bwysicach na maint yr arian a ddosbarthwn yw'r effaith gadarnhaol y mae'r arian a ddyfarnwn yn ei chael ar fywydau'r bobl a'r cymunedau mwyaf anghenus.”

Ychwanegodd:  Trwy ychwanegu gwerth at y gefnogaeth a’r cyngor a ddarperir gan ein prosiectau a mudiadau statudol a gwirfoddol eraill yng Nghymru, credaf y gallwn i gyd weithio gyda'n gilydd i wneud gwahaniaeth mawr wrth fynd i'r afael â digartrefedd."

Digartrefedd yng Nghymru - Y Ffeithiau:
• Dengys ystadegau diweddar gan Lywodraeth Cymru (Rhagfyr 2012) y dywedodd fwy na 19,000 o bobl nad oes ganddynt unrhyw le i fyw, cynnydd o 27% o'r flwyddyn flaenorol.
• Dangosodd ffigurau fod cynghorau ym mhob cwr o Gymru wedi derbyn 19,530 o alwadau am gymorth yn ystod y 12 mis cyn mis Mawrth 2012 a bod y ffigurau wedi codi am yr ail flwyddyn yn olynol.
• Yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol, deliodd y 22 awdurdod lleol yng Nghymru â 15,324 o achosion o ddigartrefedd.
• Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, derbyniodd gweinidogion fod 6,515 o bobl yn ddigartref yng Nghymru.
• Mae'r ffigurau hefyd yn awgrymu y gwariwyd mwy nag £8m ar lety dros dro yn ystod y cyfnod hwnnw, gan gynnwys unrhyw daliad budd-dal tai a wneir gan lywodraeth y DU.
• Mae canran yr aelwydydd sy'n dod i Shelter Cymru yn wynebu'r bygythiad y bydd eu tai'n cael eu hadfeddiannu o ganlyniad i fethu â thalu'r morgais wedi treblu dros y pedair blynedd diwethaf ac mae nifer y bobl yng Nghymru sy'n hawlio cymorth gan Gynghorau ar gyfer digartrefedd hefyd wedi codi am yr ail flwyddyn yn olynol.
• Y llynedd deliodd Shelter Cymru â bron 17,000 o broblemau tai yng Nghymru, gan tal digartrefedd mewn 89% o'r achosion hynny.
• Yn 2011 – 2012, cefnogodd The Wallich fwy na 4,300 o bobl ddigartref a bregus ar draws Cymru – 800 ohonynt yn cysgu yn yr awyr agored.

I gael mwy o wybodaeth am y Gronfa Loteri Fawr a sut y gallwch ymgeisio am ariannu, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk

Mwy o Wybodaeth:
Oswyn Hughes – Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 029 2067 8207
Cyswllt y tu allan i oriau:  07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735                     Ffôn testun:    0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk

Gofyn cwestiwn i'r Gronfa Loteri Fawr yma: http://ask.biglotteryfund.org.uk/cymorth/wales/
Dilynwch y Gronfa ar Twitter: www.twitter.com/loterifawrcymru
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/biglotteryfundwales 

Nodiadau i Olygyddion
• Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100,000 y diwrnod mewn arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
• Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
• Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.


Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Pobl Ddigartref

Categori

  • Cynnwys y cyhoedd
ADBORTH