- Area:
- Cymru
- Programme:
- Arian i Bawb Cymru
- Release date:
- 27 11 2012
Mae grŵp marchogaeth i bobl anabl a phrosiect i gefnogi dynion â phroblemau iechyd meddwl ymysg yr ystod o grwpiau a mudiadau sy'n rhannu bron chwarter miliwn o bunnoedd a ddyfarnwyd gan rhaglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr heddiw.
At ei gilydd bydd 62 o brosiectau cymunedol ledled Cymru'n rhannu'r £231,218 a ddyfarnwyd o dan rownd ddiweddaraf y rhaglen grantiau bach, Arian i Bawb (rhestr lawn y dyfarniadau ar ddiwedd y datganiad. Cysylltwch ag Oswyn Hughes i gael disgrifiadau llawn o'r prosiectau).
Mae cefnogaeth ar gyfer pobl fregus a'r rhai sydd ag anawsterau dysgu ac anableddau yng Nghymru o dan y rownd ddiweddaraf. Yng Ngorllewin Cymru, bydd Cymdeithas Marchogaeth i'r Anabl Gogledd Sir Benfro a Cheredigion yn defnyddio eu £5,000 i osod caban newydd yn eu pencadlys ym Mwlch-y-groes ble maent yn darparu sesiynau marchogaeth ar gyfer pobl anabl. Gan ddarparu ar gyfer pob oedran, mae'r grŵp yn cynnal sesiynau wythnosol er mwyn i 18 o bobl anabl fynd ar gefn ceffylau a merlod yn ystod y tymor ysgol. Mae'r grŵp wedi bod yn gweithredu ers mwy na 40 mlynedd ac yn defnyddio caban fel pencadlys ar gyfer eu gweithgareddau. Caban ail-law oedd hwn pan y caffaelwyd gan y grŵp deng mlynedd yn ôl, ac mae bellach mewn cyflwr gwael a heb fod yn ddiogel.
A hithau wrth ei bodd â'r ariannu, meddau Mrs Virginia Gristwood, Cadeirydd Cymdeithas Marchogaeth i'r Anabl Gogledd Sir Benfro a Cheredigion: “Ni fyddai modd i ni gael yr uned newydd yma heb yr ariannu, a 'dw i ddim yn gwybod beth y byddem wedi'i wneud hebddo. Rydym yn cadw ein holl gyfarpar yn yr uned a dyna ble rydyn ni'n cwrdd cyn mynd allan ar y ceffylau. Mae hefyd yn ardal gymdeithasu lle rydym yn eistedd ac yn cael paned."
“Mae'r prosiect hwn yn newid bywydau pobl ag anableddau mewn llawer o ffyrdd gwahanol. Mae mynd ar gefn ceffyl yn eu helpu i wella'u cydlyniant a'u cydbwysedd ac yn cynyddu cryfder eu cyhyrau. Mae hefyd yn eu helpu wrth wella'u hyder. I rai ohonynt, dyna'r unig ymarfer corfforol y maen nhw'n ei wneud, yn ogystal â'r cyfle i gymdeithasu y tu allan i'r ysgol. Mae hefyd yn lleihau unigedd ac yn eu galluogi i wneud ffrindiau a chwrdd â phobl newydd."
Trwy'r prosiect Another Step Forward bydd The Wallabies (Grŵp Cefnogi Dynion) ym Merthyr Tudful yn defnyddio'u dyfarniad o £840 i drefnu cyfres o wibdeithiau i ddynion sy'n wynebu problemau iechyd meddwl. Bydd y gwibdeithiau'n rhoi cyfle iddynt gwrdd â phobl newydd a gwella'u hunanhyder. Mae aelodau'r grŵp i gyd yn profi problemau salwch meddwl, gan wneud iddynt deimlo'n unig yn gymdeithasol ac yn agored i byliau o iselder.
Un person sydd wrth ei fodd â'r ariannu yw, Lester Chang, 67 oed, dyn post wedi ymddeol. Fel Trysorydd y grŵp, mae'n un o’r deuddeg aelod sy'n cwrdd bob wythnos i gynnig cefnogaeth i'w gilydd. Mae Lester yn dioddef o glefyd deubegwn, clefyd y siwgr ac arthritis sy'n golygu ei fod yn ei chael hi'n anodd mynd allan.
“Mae gennym i gyd broblemau iechyd meddwl ac rydym yn cefnogi ein gilydd," mae Lester yn esbonio.
“Mae llawer o grwpiau cefnogi wedi cau yn yr ardal ac roedd hynny'n bryder i ni. Roeddem am barhau i gefnogi ein gilydd a chymdeithasu a dyna pam y gwnaethom ymgeisio am yr ariannu hwn. Mae hynny'n bwysig iawn i ni fel grŵp. Bydd y gwibdeithiau hyn yn rhoi rhywbeth i'r aelodau anelu amdano ac edrych ymlaen ato."
Mae prosiectau sy'n dathlu amrywiaeth, yn hyrwyddo dealltwriaeth ddiwylliannol, integreiddio, cydweithio a chyfeillgarwch hefyd yn rhannu'r dyfarniadau diweddaraf. Yn ardal Pillgwenlli, Casnewydd, bydd grant o £4,765 yn galluogi mudiad Ta'aleem Alnyssa i sefydlu'r prosiect Gweithwyr Achosion Cymunedol Rheng Flaen - canolfan gynghori ar gyfer menywod o gymunedau du, lleiafrifoedd ethnig, ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Mae ardal Pillgwenlli yn gartref i lawer o ddiwylliannau gwahanol ac mae Ta'aleem Alnyssa yn un o nifer bach iawn o grwpiau lleol sy'n agored i fenywod o bob diwylliant ac yn cynnwys cymysgedd o sawl ethnigrwydd gwahanol gan gynnwys Somalïaidd, Swdanaidd, Pacistanaidd, Yemenaidd a Congolaidd. Mae menywod yn y mudiad yn siarad nifer o ieithoedd gwahanol gan gynnwys Saesneg, Cymraeg, Arabeg, Bengaleg, Wrdw, Ffrangeg a Somalïeg.
Mae aelodau o'r grŵp yn uchel eu parch ac ymddiriedaeth o fewn eu cymunedau lleol a gelwir arnynt yn aml i gynnig cyngor a chefnogaeth i bobl ag ystod eang o broblemau gan nad oes unrhyw gysyniad diwylliannol o fewn eu cymunedau o fynd at asiantaethau allanol am gyngor. Bydd y grŵp yn sefydlu gwasanaeth cynghori wythnosol anffurfiol iawn ond proffesiynol a redir o ganolfan gymunedol leol y mae'r menywod yn gyfarwydd â hi.
Gan amlygu pwysigrwydd y prosiect, meddai Mrs Ghada Yassin, Cadeirydd y grŵp Ta'aleem Alnyssa: “Bydd y grant yn creu buddion gwirioneddol ar gyfer menywod o'r gymuned BME. Y duedd yw gofyn i gymdogion a chyfeillion am gyngor, ac mae diffyg parodrwydd i fynd at fudiadau statudol neu wirfoddol. Un o'r problemau pennaf yw iaith. Mae ein grŵp yn cefnogi pobl mewn naw iaith wahanol.
Heb brosiectau fel hyn, byddai'n anodd i fenywod yn y gymuned ymdrin â'u problemau. Mae'n ymwneud â rhoi hyder i'r menywod hyn. Efallai ei fod yn beth syml i rai ohonom ni, ond mae angen cefnogaeth ar lawer o'r menywod hyn gyda phethau sylfaenol ac nid ydynt yn gwybod ble i fynd am gyngor a chefnogaeth.
Ychwanegodd: Bydd y prosiect hwn yn cynorthwyo menywod sydd yn aml yn dioddef o rwystrau iaith a diwylliannol difrifol i gael mynediad at gyngor a fydd yn helpu gyda'u problemau a'u cefnogi i ddechrau hyfforddiant neu gyflogaeth, a hefyd rhoi cyfle iddynt gymdeithasu a chael gwybod pa wasanaethau sydd ar gael iddynt yn lleol."
Bydd pobl ifanc ledled Cymru'n gallu cynyddu eu hyder hefyd a dysgu sgiliau newydd diolch i gefnogaeth gan y Gronfa Loteri Fawr. Bydd Ymddiriedolaeth y Tywysog yn gwario £5,000 ar ymgysylltu â thua 60 o bobl ifanc ddifreintiedig ar draws De Cymru, gan eu helpu i ailgydio mewn cymdeithas a dysgu sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol. Yng Nghaerdydd, bydd mudiad A LEAP Limited yn defnyddio eu £4,965 i hyfforddi pobl ifanc mewn sgiliau cyngor a chefnogaeth. Yna byddant yn cael eu cefnogi i gymhwyso eu sgiliau newydd trwy gymryd rhan mewn gweithredu cymunedol yn eu cymunedau. Ac yn Amlwch ar Ynys Môn, bydd Geidiau 1af Amlwch yn gwario eu dyfarniad o £2,810 ar daith weithgareddau pedair noson i wersyll Geidiau yn Swydd Gaer, lle byddant yn dysgu sgiliau newydd sydd â'r nod o gynyddu eu hunanhyder a'u hannibyniaeth.
Bydd prosiectau sydd â'r nod o gynyddu mynediad a chyfranogiad hefyd yn elwa o'r dyfarniadau diweddaraf. Gyda'u dyfarniad o £5000 bydd Ymddiriedolaeth Datblygu Corneli a'r Cylch yng Nghorneli, Pen-y-bont ar Ogwr, yn sefydlu caffi rhyngrwyd newydd, gan ddarparu canolbwynt ar gyfer y gymuned ynghyd ag ystod o gyfleoedd hyfforddiant a gwirfoddoli. A bydd digon yn digwydd ar y sgrîn arian yn Sir Gâr wrth i Ysgol Gymunedol Cae'r Felin anelu at wario eu £5,000 ar redeg clwb ffilmiau allgyrsiol. Cynhelir sesiynau wythnosol gydag arbenigwr ffilmiau dros gyfnod o chwe mis.
Meddai Gareth Williams, Rheolwr Rhaglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Mae Arian i Bawb yn cael effaith gadarnhaol ledled Cymru. Mae'r arian yn helpu sefydlu grwpiau, cymdeithasau a chlybiau, gan hyrwyddo dysgu, cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli a helpu adeiladu cymunedau cryfach.”
Mae'r ffurflen gais ar gael yn Gymraeg a Saesneg a gellir ei lawrlwytho o www.arianibawb.org.uk neu dros y ffôn ar 0845 4 10 20 30.
Rhestr lawn o ddyfarniadau a gyhoeddwyd heddiw yng Nghymru.
Mwy o Wybodaeth
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 029 2067 8207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
• Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100,000 y diwrnod mewn arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
• Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
• Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags