Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Prosiectau bwyd cymunedol i helpu lleihau effaith newid yn yr hinsawdd yng Nghymru

Area:
Cymru
Release date:
30 1 2013

Bydd cymunedau yng Nghymru'n cael eu cefnogi i hygyrchu tir ar gyfer tyfu i helpu i leihau effaith newid yn yr hinsawdd, diolch i gyhoeddiad heddiw o grant gwerth £600,000 gan y Gronfa Loteri Fawr.

Mae'r Ffederasiwn Ffermydd a Gerddi Cymunedol mewn Dinasoedd (FCFCG) yn derbyn y grant trwy raglen Newid Hinsawdd y Gronfa Loteri Fawr. Bydd yn defnyddio'r arian i gyflwyno prosiect Gwasanaeth Ymgynghorol Tir Cymunedol (CLAS) ar draws Cymru. Bydd CLAS yn anelu at gynyddu mynediad cymunedau i dir trwy ddarparu arweiniad a chefnogaeth arbenigol i tua 250 o brosiectau tyfu bwyd cymunedol a 100 o berchnogion tir.

Bydd tua 5,000 o bobl, sy'n ymwneud â phrosiectau megis gerddi cymunedol, ffermydd, rhandiroedd a pherllannau, yn elwa'n uniongyrchol gyda buddion anuniongyrchol gan gynnwys iechyd a lles gwella a bwyta'n iach ar gyfer tua 50,000 o bobl. Bydd hefyd yn gweld tua 75 o brosiectau newydd yn cael eu sefydlu ar draws Cymru.

Cyhoeddwyd newyddion am y grant heddiw yn nigwyddiad Prynu Tir FCFCG yng Nghanolfan Addysg Bute yng Nghaerdydd.

Meddai Katie Jones, Rheolwr Datblygu rhaglen Gymraeg FCFCG, Tyfu Pobl: “Bydd y grant gan y Gronfa Loteri Fawr yn rhoi hwb mawr i dyfu cymunedol ar draws Cymru, gan fod hygyrchu tir yn un o'r rhwystrau mwyaf y mae cymunedau'n eu wynebu wrth greu lleoedd i dyfu. Yn ogystal â helpu i ddileu rhai o'r rhwystrau hyn, bydd y Gwasanaeth Tir Cymunedol Ymgynghorol yn gweithredu fel catalydd i grwpiau cymunedol a pherchnogion tir ddod ynghyd i ddod o hyd i'r gefnogaeth y mae ei hangen arnynt i ddod â mwy o dir i mewn i ddefnydd ar gyfer tyfu. Bydd hyn yn cynnwys mwy o bobl wrth gynyddu cynhyrchu bwyd lleol yng Nghymru, gan helpu i leihau ein heffaith ar yr hinsawdd a chyfrannu at greu cymunedau mwy cynaliadwy a gwydn."

Gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd, Y Drenewydd, Bangor ac Arberth, bydd FCFCG yn cyflwyno'r gwasanaeth ymgynghorol ar draws Cymru gyda'r nod o ddylanwadu ar bolisïau yng Nghymru i wella mynediad i dir yn y dyfodol. Bydd tri o bobl yn cael eu cyflogi i gyflwyno'r prosiect gyda chefnogaeth bellach gan grwpiau buddiolwyr ac ymgynghorol.

"Bydd CLAS Cymru'n helpu cymunedau newydd i lywio trwy'r heriau sy'n gysylltiedig â dod o hyd i dir, cyd-drafod y brydles a threfnu cynllunio,“ meddai Katie. "Bydd yn cefnogi perchnogion tir sy'n ansicr ynglŷn â defnyddio tir cymunedol. O ganlyniad i hyn dylen ni weld mwy o grwpiau cymunedol yn gweithredu, a medru rhoi gwell cefnogaeth i waith gwych y prosiectau sefydledig."

Meddai John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Loteri Fawr Cymru: "Mae'r dyfarniad hwn yn helpu i ddangos ymrwymiad y Gronfa Loteri Fawr wrth gynorthwyo mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Yn ogystal â helpu i rymuso pobl i dyfu eu bwyd eu hunain, bydd yr arian hefyd yn rhoi hwb i ysbryd y gymuned ac yn gwella sgiliau a chynaladwyedd. Mae prosiectau fel hyn yn ffurfio rhan o'r jig-so ehangach i wella Cymru a'r byd ehangach ar gyfer cenedlaethau i ddod, gan gyflwyno ein cenhadaeth o helpu'r cymunedau mwyaf anghenus. 

Bydd CLAS Cymru yn ychwanegu dimensiwn arall at yr ystod o gyngor a sgiliau y mae FCFCG yn eu cynnig, a bydd yn cyfrannu at bartneriaeth arloesol newydd o'r enw Growing Together, sydd â'r nod o gynorthwyo cymunedau i godi incwm i ariannu eu prosiectau tyfu cymunedol.

Bydd yr arian gan y Gronfa Loteri Fawr hefyd yn gweddu i raglen Tyfu Pobl FCFCG yng Nghymru, sy'n cefnogi ac yn cynghori prosiectau tyfu cymunedol, gan alluogi rhannu a throsglwyddo gwybodaeth a sgiliau arfer gorau. Bydd Tyfu Pobl yn cefnogi ystod o fodelau tyfu cymunedol gan gynnwys: ffermydd/gerddi/perllannau cymunedol, rhandiroedd, amaeth a gefnogir gan y gymuned a gerddi marchnad a reolir gan y gymuned. Ariennir y rhaglen tair blynedd hon trwy Gynllun Datblygiad Gwledig Cymru, sydd ynddo'i hun wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd.

I gael mwy o wybodaeth am FCFCG yng Nghymru ewch i www.farmgarden.org.uk/wales

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Ben Payne:  02920 678 224
Cyswllt y tu allan i oriau: 07500 951 707
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735                          
Ffôn testun:    0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion
• Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100,000 y diwrnod mewn arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
• Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
• Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.


Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol

Themâu

  • Iechyd a lles
  • Yr Amgylchedd

Categori

  • Cynnwys y cyhoedd
ADBORTH