Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

£3.4m i Helpu Troseddwyr Ifanc a Gadawyr Gofal Ifanc i fynd Ar y Blaen

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
25 9 2012

Mae rhaglen ariannu newydd gwerth £3.4 miliwn sy'n lansio heddiw eisiau cefnogi pobl ifanc sy'n gadael gofal a phobl ifanc sy'n troseddu yng Nghymru i wella'u cyfle o gael cyflogaeth a mynediad i ddysgu neu hyfforddiant pellach.

Gyda'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod diweithdra ymysg pobl ifanc yng Nghymru'n parhau'n ystyfnig o uchel ac yn uwchben cyfartaledd y DU (Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol), croesewir lansiad y rhaglen Ar y Blaen newydd gwerth £3.4 miliwn i helpu'r grwp mwyaf bregus hwn o bobl ifanc gan y Gronfa Loteri Fawr a Llywodraeth Cymru.

Yn lansio heddiw (25 Medi, 2012) yn y prosiect Learning 4 Life yng Nghaerdydd a redir gan yr elusen ddigartref Llamau, mae'r rhaglen Ar y Blaen am ymgysylltu, paratoi a symbylu'r rhai sy'n gadael gofal a throseddwyr ifanc rhwng 16 a 18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) i ymgymryd â lleoliad gwaith chwe mis a gefnogir â thâl. Nod y rhaglen yw gwella'u cyfleoedd o symud ymlaen at gyflogaeth gynaliadwy neu ddysgu/hyfforddiant pellach trwy gynyddu eu cyflogadwyedd.

Mae Ar y Blaen yn rhaglen ariannu nad yw'n dod o'r Loteri a gyflwynir trwy'r Gronfa Fawr ac sy'n cael ei ariannu trwy arian sydd wedi aros yn segur mewn cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu ar draws y DU ers 15 mlynedd neu fwy. Mae'r ffordd y mae'r arian yn cael ei wario yng Nghymru wedi cael ei phennu gan Gyfarwyddiadau Polisi a roddwyd i'r Gronfa Loteri Fawr gan Lywodraeth Cymru.

Gyda diweithdra ymysg pobl ifanc yn y DU yn dal uwchben un miliwn, dywedodd Jeff Cuthbert, Dirprwy Weinidog dros Sgiliau yn Llywodraeth Cymru, a fydd yn siarad yn y lansiad heddiw, fod rhaglenni fel Ar y Blaen yn hanfodol o ran annog mwy o bobl ifanc fregus i ymwneud â'r gwaith.

“Mae nifer y bobl ifanc fregus 16-18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn bwysig i Lywodraeth Cymru," meddai.

“Ar gyfer rhai o'r bobl ifanc hyn, mae'r amser y maent yn ei dreulio y tu allan i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn cael effaith negyddol sylweddol ar eu bywydau yn y dyfodol - gan effeithio ar eu gallu i gystadlu am swyddi ac ennill bywoliaeth dda, yn ogystal â'u lefelau iechyd, cymhelliad a hunan-barch. Yn ei dro mae hyn yn cael effaith arnom ni i gyd."

“Trwy'r rhaglen Ar y Blaen byddwn yn helpu rhai o'n pobl ifanc fwyaf diamddiffyn i gael mynediad i gyflogaeth yng Nghymru. Heb weithredu pwrpasol nawr i sicrhau bod gan y bobl ifanc hyn sgiliau digonol i'w galluogi i gystadlu'n llwyddiannus am swyddi, maen nhw'n debygol o wynebu dyfodol di-waith gyda'r anfanteision cymdeithasol, economaidd ac iechyd cysylltiedig."

Gan amlygu pwysigrwydd yr ariannu, meddai Aelod Pwyllgor Cronfa Loteri Fawr Cymru, Gareth Newton, a fydd hefyd yn siarad yn y lansiad: “Troseddwyr ifanc a phobl ifanc sy'n gadael gofal sydd wedi'u dadrithio neu'u datgysylltu o ddysgu a chyflogaeth yw'r aelodau mwyaf difreintiedig o'n cymdeithas. Dyna pam mae'n bwysig i gael rhaglenni fel Ar y Blaen, sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth hanfodol wedi'u teilwra iddynt.”

“Mae angen mwy o gefnogaeth ar bobl ifanc fregus i ddechrau mewn gwaith na rhai eraill, a bydd cynnig cefnogaeth a hyfforddiant wedi'u teilwra yn eu symbylu ac yn eu helpu i gyflawni'u potensial llawn.”

Bydd Ar y Blaen yn ariannu un grant o hyd at £3.4 miliwn ar gyfer prosiect Cymru gyfan a arweinir gan y trydydd sector sy'n para am ddwy flynedd. Mae'n rhaid i'r prosiect gynnig cyfleoedd lleoliad gwaith â thâl ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector, wedi'u cynnig ar yr isafswm cyflog cenedlaethol yn unol â'u hoedran, i bobl ifanc 16 i 18 oed.

Mae'n rhaid i'r prosiect ddarparu cefnogaeth fentora a phersonol i bobl ifanc fel y bo'n briodol i'w hanghenion er mwyn mwyafu buddion y lleoliad gwaith pan fydd angen hwn cyn, yn ystod ac ar ôl y lleoliad gwaith 6 mis.

Ar ôl i ddeunyddiau ymgeisio gael eu rhyddhau heddiw, bydd dau ddigwyddiad briffio'n cael eu cynnal yng Nghymru yn ystod mis Hydref 2012 er mwyn i ddarpar bartneriaid ddechrau gweithio ar y cyd. Mae'n rhaid i ymgeiswyr i'r rhaglen gwblhau proses gofrestru ar-lein erbyn dydd Mercher 12 Rhagfyr 2012 ac mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau llawn erbyn dydd Iau 21 Chwefror 2013.

Mae nodiadau arweiniad a ffurflenni ymgeisio ar gyfer Ar y Blaen ar gael i'w lawrlwytho o heddiw drwy fynd i www.cronfaloterifawr.org.uk. I gael mwy o wybodaeth am Ar y Blaen, anfonwch e-bost i: aryblaen@cronfaloterifawr.org.uk neu ffoniwch y llinell ymholiadau ar 0300 123 0735.

Mwy o Wybodaeth

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Oswyn Hughes 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Dilynwch y Gronfa ar Twitter: www.twitter.com/biglotterywales
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/biglotteryfundwales  
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100,000 y diwrnod mewn arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
  • Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn gyfrifol am ddosbarthu 46 y cant o'r arian a godir gan y Loteri Genedlaethol. Ein cenhadaeth yw dod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r bobl fwyaf anghenus.
  • Mae Deddf y Loteri Genedlaethol 2006 yn rhoi caniatâd i ni drin arian nad yw'n dod o'r Loteri yn ogystal ag arian Loteri. Rydym yn gwneud hyn drwy weithredu o dan enw y Gronfa Fawr.
  • Ariennir y rhaglen Ar y Blaen gan arian sydd wedi gorwedd yn segur mewn cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu yn y DU ers 15 mlynedd neu fwy.  Mae'r ffordd yr ydym yn gwario'r arian hwn wedi cael ei phennu gan Gyfarwyddiadau Polisi a roddwyd i'r Gronfa Loteri Fawr gan Lywodraeth Cymru.  Datblygwyd y rhaglen hon i ddiwallu'r angen a nodwyd yn y Cyfarwyddiadau hynny.
  • Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.


Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Pobl Ifanc
  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
ADBORTH