Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Hwb o £3 miliwn i bawb a’i le Cymru

Area:
Cymru
Programme:
Pawb a'i Le
Release date:
10 5 2007
Mae prosiect i roi stop ar drais yn y cartref a phrosiect i adeiladu canolfan gymunedol newydd mewn pentref bach ymhlith cynlluniau ledled Cymru a fydd yn elwa o £3 miliwn mewn dyfarniadau a gyhoeddwyd gan y Gronfa Loteri Fawr heddiw.

Bydd tri phrosiect ar ddeg o bob cwr o'r wlad yn rhannu'r £3,040,741 a ddyfarnwyd o dan rownd diweddaraf rhaglen Pawb a’i Le y Gronfa Loteri Fawr. Mae gan Bawb a’i Le £66 miliwn yn y pot ar gyfer prosiectau yng Nghymru sy’n anelu at ddwyn pobl ynghyd i wneud eu cymunedau yn gryfach ac i wella eu hamgylcheddau gwledig a threfol.

Bydd dau Brosiect yng Ngogledd Cymru yn derbyn ymron i £400,000 rhyngddynt. Gyda’i £245,826, bydd Relate Gogledd Cymru yng Nghonwy yn cyflwyno rhaglenni i ddynion sy’n cyflawni trais yn y cartref ond nad ydynt wedi’u dyfarnu’n euog er mwyn eu helpu i fynd i'r afael â'u hymddygiad treisgar a'i newid. Bydd Relate hefyd yn cefnogi partneriaid benywaidd a’u plant i fynd i'r afael ag anawsterau emosiynol. Yng Ngwynedd, bydd Pwyllgor Rheoli Canolfan Prenteg yn defnyddio ei ddyfarniad £140,960 i adeiladu canolfan gymunedol newydd a gardd ar gyfer preswylwyr Prenteg, ger Porthmadog.

Bydd prosiectau ym Mlaenau Gwent a Thorfaen yn elwa o gyfanswm o £904,902 mewn dyfarniadau. Dyfarnwyd y swm mwyaf oll i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, a fydd yn gwario £654,949 i ddarparu cyfleuster newydd a adeiledir i'r diben ar gyfer cymuned Penygarn a St Cadoc. Bydd y cyfleuster yn lleoliad ar gyfer dysgu cymunedol ac yn fan cyfarfod i feithrin cydlyniad cymunedol. Gyda’r £249,953 mae wedi derbyn, bydd BTCV yn rhedeg prosiect er mwyn darparu cyngor a chefnogaeth wedi’u teilwra yn Nhorfaen a Blaenau Gwent i gyflwyno prosiectau amgylcheddol yn lleol ac adeiladu rhwydwaith o grwpiau cymunedol ‘Growing Greener’.

Bydd Women's Workshop Cardiff Training Centre Ltd, sy’n derbyn £309, 412, yn darparu hyfforddiant ar gyfer merched sy'n profi anfantais er mwyn eu galluogi i integreiddio i'r gymuned a’r gweithle, a bydd Canolfan Deuluol Pencader yn Sir Gaerfyrddin yn gwario £116,847 ar ddatblygu amryw fentrau i deuluoedd sy’n byw yn ardal Pencader.

Wedi’i leoli yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, ond yn gwasanaethu grwpiau cymunedol ar draws Gorllewin Cymru, bydd Shared Earth Trust yn gwario £227,892 i gyflenwi cyfres o weithgareddau tymhorol, amgylcheddol.  Bydd oedolion a phobl ifanc o ystod o grwpiau cymunedol sydd ynghlwm wrth gefnogi pobl ag anableddau dysgu a chorfforol yn elwa. Bydd yn hyrwyddo cynaladwyedd amgylcheddol, personol a chymdeithasol drwy ddefnyddio ymdriniaeth integredig.

Bydd tri phrosiect ym Mhowys yn elwa o dderbyn cyfanswm o £219,426. Bydd y dyfarniad mwyaf o £144,864 yn mynd i Brecknockshire Citizen Advocacy.  Wedi’i leoli yn Aberhonddu ac yn gwasanaethu Powys, bydd y prosiect yn datblygu ac yn ymestyn ar grwpiau hunan-eirioli cyfredol mewn ardaloedd ar draws y sir. Bydd rhagor o grwpiau yn cael eu sefydlu a bydd buddiolwyr yn cael eu hyfforddi i hunan-eirioli, codi hyder a sgiliau bywyd. Bydd Neuadd Bentref Llanymynech yn gwario £68,348 i adnewyddu neuadd bentref gyfredol yn y pentref gwledig.  Bydd yn cynnwys llwyfan ac awditoriwm, cwrt badminton, gofod storio diogel ar gyfer props llwyfan, systemau cadeiriau, offer chwarae ac ystafell archebu/tocynnau newydd a swyddfa.  Bydd Alexandra Hall Action Group yn Llangammarch Wells yn gwario ei ddyfarniad o £6,214 i ddatblygu cynlluniau i adnewyddu a gwella’r neuadd gyfredol, sydd mewn cyflwr gwael ar hyn o bryd.  

Bydd dyfarniad o £186,800 yn caniatáu i Dŷ Fforest Community House yn Abertawe i ddatblygu prosiect i dargedu oedolion sy’n unig yn gymdeithasol a’u hannog i gymryd rhan yn eu cymunedau lleol a’u gweithgareddau. Agwedd arall ar y prosiect yw datblygu cyfleoedd a gweithgareddau newydd ar gyfer plant a phobl ifanc, targedu plant hyd at bum mlwydd oed, a phobl ifanc rhwng 16 a 25 mlwydd oed.

Bydd dau brosiect dros Gymru gyfan hefyd yn elwa o’r dyfarniadau. Busnes craidd AbilityNet yw darparu asesiadau unigol i bobl anabl, er mwyn adnabod gyda hwy y datrysiad gorau i sicrhau mynediad at TGCh. Ar hyn o bryd mae gwasanaethau yng Nghymru yn cael eu cefnogi o ganolfannau yn Lerpwl a Bryste. Yn aml mae’n anodd i unigolion deithio i'r canolfannau hyn, yn enwedig o ardaloedd mwy pellennig Cymru. Gyda’i £249,516, bydd AbilityNet yn sefydlu canolfan Cymru ym Mlaenau Gwent ac yn defnyddio gwasanaethau TGCh a rhyngrwyd wedi’u lleoli yn lleol mewn 90 o ganolfannau mynediad cyhoeddus ar draws Cymru i leihau’r amser aros ar gyfer asesiadau i 10 diwrnod a chynyddu’n sylweddol yr asesiadau a wneir.

Yn gorchuddio Gogledd a De Cymru, bwriada Cymdeithas Dai Trothwy wario £439,160 i ddarparu lloches, hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer pobl ifanc lesbaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol drwy sefydlu cynllun llety yn y byrdymor a’r hir dymor.

Wrth gyfeirio at yr effaith bositif y bydd y dyfarniadau yn eu cael ar gymunedau ledled Cymru, dywedodd Cadeirydd Newydd y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru, Huw Vaughan Thomas:  “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl yng nghymunedau ledled Cymru. Mae Pawb a’i Le yn cyflawni ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri i adfywio ac ailfywhau cymunedau, mynd i'r afael ag amddifadedd a gadael etifeddiaeth barhaol. Rwy’n siŵr y bydd y dyfarniadau hyn yn cael effaith bositif ar fywydau llawer o bobl yn y gymuned a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”

Mae Pawb a’i Le yn dyfarnu grantiau rhwng £5001 a £1 miliwn i ystod eang o brosiectau cymunedol.  Am wybodaeth bellach ynghylch rhaglen Pawb a’i Le a sut y gallwch wneud cais am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch y cyfleuster chwilio penodol i Gymru.

Gwybodaeth pellach

Am wybodaeth bellach ar sut i gael manylion cyswllt ar gyfer prosiectau llwyddiannus neu gyfleoedd cyfweld, ffilmio a ffotograffau, cysylltwch ag Oswyn Hughes yn swyddfa wasg y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru ar y rhifau isod.

Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Tu hwnt i oriau swyddfa: 07760 171431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030
Llinell Destun:  0845 6021 659

Ceir manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grantiau’r Gronfa Loteri Fawr ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £2 filiwn mewn arian achosion da y Loteri bob 24 awr ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws y Deyrnas Unedig fod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a’i ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004.
  • Ar 1 Rhagfyr 2006 sefydlwyd y Gronfa Loteri Fawr yn swyddogol gan y Senedd ac ar yr un pryd cymerodd gyfrifoldebau gweddilliol Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (Cronfa Gymunedol), Cronfa Cyfleoedd Newydd, a’r Comisiwn Mileniwm a ddiddymwyd. Mae’r Gronfa yn adeiladu ar brofiad a dulliau gweithredu gorau’r cyrff sydd wedi’u cyfuno er mwyn symleiddio ariannu'r meysydd hynny lle maent yn gorgyffwrdd ac i sicrhau fod arian Loteri yn gwneud y defnydd gorau posibl o arian.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Yr Amgylchedd
  • Iechyd a lles
ADBORTH