Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Hwb £4 miliwn o arian Loteri i gymunedau Cymru

Area:
Cymru
Programme:
Pawb a'i Le
Release date:
18 10 2007
Mae prosiect i weddnewid adeilad segur yn ganolfan gymunedol fywiog a system gyfrifiadurol newydd i leihau ofn trosedd ymhlith nifer o brosiectau ledled y wlad i elwa o hwb ariannol o £4 miliwn, a gyhoeddir heddiw o dan raglen Pawb a’i Le y Gronfa Loteri Fawr.

O Flaenau Ffestiniog yng Ngogledd Cymru, i Ferthyr Tudful yn y De, mae deunaw o brosiectau cymunedol ar draws y wlad yn elwa o’r £3,991,729, sy’n anelu at ddwyn pobl ynghyd i wneud cymunedau yn gryfach ac i wella amgylcheddau gwledig a threfol (rhestr lawn o brosiectau ar gael ar ddiwedd y datganiad).

Ym Mlaenau Ffestiniog, Gwynedd, bydd Menter Moelwyn yn gwario eu dyfarniad o £25,000 ar ddatblygu eu cynlluniau i ailwampio Neuadd Farchnad Fictorianaidd yn yr hen dref chwareli llechi. Y nod yn yr hirdymor yw gweddnewid yr adeilad segur a darparu canolfan gynhwysfawr i'r celfyddydau perfformio a gweledol er mwyn i bobl leol ac ymwelwyr eu mwynhau. Byddai’r cyfleuster yn cynnig canolfan gymdeithasol, ddiwylliannol ac addysgiadol i'r gymuned.

Byddai’r prosiect yn cynnwys oriel, theatr/sinema/man perfformio, a bar caffi gydag ail ofod perfformio, ystafelloedd addysg ar gyfer celf a TG, ac ystafell ymarfer gerddorol gyda chyfleuster recordio. Byddai ystafell glwb bwrpasol ar gyfer y rhai yn eu harddegau yn darparu ar gyfer y grŵp oed hwn sy’n cael eu tangynrychioli a byddai'n ceisio meithrin eu diddordeb yn y celfyddydau.

Dywedodd Alan Norton, Ymddiriedolwr gyda Menter y Moelwyn sydd yn ymhyfrydu yn y cyfle i ddatblygu’r cynlluniau ymhellach: “Mae hwn yn brosiect y bydd y gymuned gyfan yn elwa ohono ac mae meddwl am y potensial y gallwn ei gyflawni gyda'r adeilad hwn yn anhygoel. Ein cynllun yw defnyddio’r celfyddydau i ddatblygu pobl a sgiliau ac mae hwn yn un o’r prosiectau sy’n ffurfio rhan o strategaeth hirdymor ar gyfer adfywio Blaenau Ffestiniog. Mae’r gymuned gyfan yn cydweithio ar hwn. Rydym yn gyffrous iawn ynghylch arian y loteri er mwyn datblygu’r prosiect a byddem hyd yn oed yn fwy cyffrous pe bai modd i ni wireddu’r prosiect. Byddai’r cyfleuster yn cael ei ddefnyddio i dynnu sylw at ddiwylliant Cymru a’r dref a rhoi rhywbeth i dwristiaid â’r ardal ei wneud pan fyddant yma."

Taclo trosedd yn y gymuned yw’r brif flaenoriaeth i Gymdeithas Gwarchod y Gymdogaeth Merthyr Tudful yn Ne Cymru.  Byddant yn gwario eu £136,430 ar system Ringmaster ar gyfer cymunedau sydd yn dioddef o ofn trosedd, neu sy’n dioddef o drosedd.   Mae’r system Ringmaster yn gyfrifiadur, sy’n dal bas data o gysylltiadau ar gyfer cynlluniau gwarchod y Gymdogaeth ledled sir Merthyr Tudful.   Gall y system anfon negeseuon llais i’r cymdeithasau Gwarchod y Gymdogaeth cymunedol am drosedd yn eu hardal, gan helpu pobl i fod yn fwy ymwybodol o drosedd.    Bydd yn helpu i gydlynu a chreu cysylltiadau rhwng grwpiau cymunedol, yr Heddlu ac aelodau cymunedol.   

Bydd y prosiect yn darparu help, cyngor a gwybodaeth am weithgarwch trosedd cyfredol, a fydd yn helpu i atal trosedd, cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd am batrymau trosedd, darparu gwybodaeth am bobl a cherbydau a hysbysebu cyfarfodydd Gwarchod Cymdogaeth, meddygfeydd heddlu a digwyddiadau gweithredu cymunedol.

Gan ddatgan ei hapusrwydd am dderbyn y dyfarniad, dywedodd Cadeirydd Cymdeithas Gwarchod y Gymdogaeth Merthyr Tudful, Hilary Doyle: “ Dim ond hyn a hyn y gall gwirfoddolwyr ei wneud, felly mae cael y system newydd yma yn hwb sylweddol i’r sefydliad a’r gymuned.  Dros y blynyddoedd, rydym wedi cyflawni canlyniadau gwych ac wedi gwneud ein cymunedau yn llefydd gwell i fyw. Bydd y system yn helpu i wneud pethau yn hyd yn oed gwell.”

 

Wrth gyfeirio at yr effaith bositif y bydd y dyfarniadau yn eu cael ar gymunedau ledled Cymru, dywedodd Janet Reed, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd Pwyllgor Pawb a'i Le:  “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru. Mae Pawb a’i Le yn gwireddu ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri i adfywio ac i ailfywhau cymunedau, mynd i'r afael ag anfantais ar ei ben a gadael etifeddiaeth barhaus. Rwy’n siŵr y bydd y dyfarniadau hyn yn cael effaith bositif ar fywydau llawer o bobl yn y gymuned a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”

Mae’r rhaglen Pawb a’i Le gwerth £66 miliwn yn dyfarnu grantiau rhwng £5001 a £1 miliwn i ystod eang o brosiectau cymunedol. Am wybodaeth bellach am raglen Pawb a’i Le a sut y gallwch wneud cais am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch gyfleuster chwilio penodol i ‘Gymru’.

Am wybodaeth bellach am y prosiectau a sut i gael manylion cyswllt yr unigolion a’r sefydliadau sy’n gysylltiedig, cysylltwch â swyddfa’r wasg Cronfa Loteri Fawr ar y rhifau isod.

Rhestr lawn o brosiectau:

SefydliadLleoliad Crynodeb prosiectSwm
Prosiect Dyslecsia CymruTref Aberteifi, Caerfyrddin, Hwlffordd, Llandrindod Wells a Sir y FflintBydd y prosiect yn rhedeg cyrsiau hyfforddiant a gweithdai i ddysgu pobl ifanc gyda dyslecsia ac anawsterau dysgu eraill, a’u rheini / neiniau a theidiau / gofalwyr, sut i ddatblygu sgiliau sylfaenol yn y cartref drwy weithio gyda grwpiau teuluol.  Bydd canolfan gyngor/weinyddu hefyd yn cael ei hagor yng Ngheredigion.£94,790
Menter y MoelwynBlaenau FfestiniogMae’r grant yn Grant Datblygu Cyfalaf i alluogi paratoi cynlluniau a darluniau terfynol, cyflwyno ceisiadau cynllunio a pharatoi les ddrafft gyda Chyngor Gwynedd i alluogi cyflwyniad cais llawn i’r Gronfa Loteri Fawr am grant Cyfalaf i ailwampio Neuadd y Farchnad ym Mlaenau Ffestiniog ar gyfer defnydd £25,000
Cymdeithas Gwrachod y Gymdogaeth Merthyr TydfilMerthyr TydfilMae’r prosiect i sefydlu system Ringmaster mewn cymunedau sydd yn dioddef o ofn trosedd, neu sydd yn ddioddefwyr trosedd.  Mae system Ringmaster yn gyfrifiadur sy’n gweithio ar ei ben eu hun, sy’n dal bas data o gysylltiadau ar gyfer Gynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth ledled y sir a bydd yn darparu cymorth, cyngor a gwybodaeth am weithgaredd troseddol cyfredol, gan helpu i atal troseddu a gwella cysylltiadau cymunedol.  £136,430
Biwro Cyngor Ar Bopeth Castell Nedd a’r ArdalWedi ei leoli yng Nghastell Nedd Port Talbot, yn targedu 5 ward Cymunedau’n Gyntaf a 2 ward wledigBydd y prosiect yn cyflwyno gwasanaeth cynghori mewn 7 cymuned leol gan ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth. Bydd ciosgau cyngor gwybodaeth yn cael eu sefydlu i gysylltu i wasanaethau biwro gyda chynghorwyr yn cael ei hyfforddi i gyflwyno gwasanaeth cyngor digidol. Bydd bydis cymunedol gwirfoddol lleol yn cael eu hyfforddi i gynnig cymorth ac arweiniad a bydd cynghorwyr gwirfoddol yn cael eu hyfforddi i ddarparu gwaith cynghori parhaol dros y ffon, negeseuon ac e-bost.£248,707
Canolfan Gymunedol Tsieinëeg Casnewydd eCasnewydd a’r ardal gyfagosDarpariaeth cyfleuster galw-i-mewn i alluogi’r Gymuned Tsieinëeg i gael mynediad at gymorth/cyngor/cefnogaeth a’u cyfeirio at wasanaethau addas£159,914
Newlink CymruCasnewydd, De Cymru  Bydd y prosiect yn datblygu gwasanaeth gwybodaeth cyffuriau Du a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghasnewydd gan ganiatáu gwell gwybodaeth gymunedol a gwybodaeth o ataliad a thriniaeth.   £241,070
Usk House (Powys) LtdAberhonddu, PowysBydd y prosiect yn prynu bws mini newydd ac yn talu am yrrwr a hebryngydd i nôl a danfon cleifion dydd i ag o’r hosbis. Bydd y bws a’r gyrrwr hefyd ar gael i’r cynllun Dial-a-Ride lleol ac i’r cartrefi nyrsio lleol ar gyfer teithiau fin nos a phenwythnos achlysurol. £121,532
Ysgol Gynradd Blaen-gwawrWedi ei leoli yn Aberdâr, Rhondda Cynon TafBydd y prosiect yn datblygu darn o dir braenar rhwng y cartref gofal preswyl ar gyfer pobl hŷn ac Ysgol Gynradd.  Bydd y tir yn cynnwys gwelyau rhandir, llwybrau ac amffitheatr glaswelltog.  Bydd hyn yn galluogi pobl hŷn a phlant i wella cysylltiadau trwy drin planhigion gyda’i gilydd, gan greu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithiad a pherfformiadau.£49,982
Cymdeithas Lles Cymunedol Cwmparc Cwmparc, Rhondda Cynon TafBydd y prosiect yn gwella gwaith y Gymdeithas drwy annog byw’n iach, ailwampio’r caffi cymunedol, cynnydd mewn cyfleusterau gofal plant, man parc antur awyr agored Cwmparc a chynnydd yn y nifer o ddosbarthiadau analwedigaethol a chyrsiau hyfforddiant.  £302,740
Dinas a Cyngor Abertawe  Dinas a Cyngor Abertawe  Bydd y prosiect yn gweithio gyda phlant ac oedolion o gymunedau lleiafrifoedd ethnig ac ymofynwyr noddfa i integreiddio a’u cynnwys mewn darpariaeth chwarae mynediad agored.  £72,555
Canolfan Co Op Cymunedol Tsieinëeg Abertawe  Abertawe a’r ardal gyfagos  Bydd y prosiect yn hyrwyddo ffyrdd o fyw iachach ar gyfer y gymuned Tsieinëeg.  £133,942
Partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf Ystad Thompson Street Ystad Thompson Street, BariBydd y prosiect yn datblygu amrediad o weithgareddau, gweithdai a chyrsiau  cymdeithasol, addysgol a chymunedol i blant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed sy’n byw ar Ystâd Thompson Street a Castlelands 1 is ward yn y Bari. £92,720
Cyngor Bro MorgannwgPen y Bont, Caerdydd, Merthyr Tydfil, Castell Nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Bro Morgannwg  Mae’r prosiect yn rhaglen Grŵp Arwain yn cael ei weithredu rhwng yr holl asiantaethau sydd yn gweithio gyda phobl ifanc bregus rhwng 4 ac 11 mlwydd oed a’u teuluoedd yn Ne Cymru, yn gweithredu yn y saith ardal ALl sydd o fewn ardal Heddlu De Cymru. Bydd y prosiect yn datblygu ffyrdd newydd o weithio gyda phlant a’u teuluoedd, gyda’r nod o atal plant rhag datblygu ymddygiad gwrth gymdeithasol neu gymryd rhan mewn ymddygiad troseddol.£994,529
Groundwork Pen y Bont a Castell Nedd Port Talbot  Pen y Bont, Castell Nedd Port Talbot a Bro MorgannwgBydd y prosiect yn darparu addysg amgylcheddol i ysgolion er mwyn codi ymwybyddiaeth a mabwysiadau ymarferion i leihau materion adnoddau.  Bydd yn canolbwyntio ar gadwraeth dŵr ag egni ynghyd â lleihau gwastraff. £250,000
Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol   Bydd y prosiect yn gwasanaethu Cymru gyfan  Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar dri phrif faes o waith: Menter Cymunedol - helpu i sicrhau adfywiad cynaliadwy cymunedau drwy gryfhau gallu gerddi a ffermydd sy’n cael eu rheoli yn lleol trwy fentrau a gaiff eu rheoli yn gymunedol.  Cynhwysiad cymunedol - cefnogi datblygiad gerddi a ffermydd cymunedol yng Nghymru fel ‘hybiau cymhwysol o gymunedol lleol’ sy’n hwyluso ac yn mabwysiadu cysylltiadau cymunedol ac yn helpu i greu cymunedau iachach gyda gwell cysylltiadau.   Troi Llwyd yn Wyrdd - cefnogi datblygiad gwell amgylcheddau a chymunedau lleol drwy arddio a ffermio cymunedol.   £171,686
Cymdeithas Epilepsi Cymru CyfWedi ei leoli yn Wrecsam, yn gwasanaethu Cymru Mae’r prosiect i ehangu’r gwasanaeth gwaeth maes sy’n bodoli eisoes i gyrraedd mwy o gymunedau lleol yng Nghymru.  Bydd yn sefydlu mwy o grwpiau hunan gymorth i dorri lawr ar unigrwydd cymdeithasol, a bydd yn darparu pwynt o addysg a chefnogaeth. Bydd yn creu cyfleoedd gwirfoddoli o fewn grwpiau lleol ac yn sefydlu cysylltiadau cymunedol gyda sefydliadau gwirfoddol a statudol.  £248,000
Hanes LlandochMae’r prosiect yn canolbwyntio ar St.Dogmaels, Sir Benfro Mae Hanes Laddoch wedi cael ei sefydlu i ailfywhau cymuned: ardal wledig ddifreintiedig yng nghornel gogledd orllewin Sir Benfro.  Bydd hyn yn cael ei wneud drwy bwysleisio treftadaeth, hanes a diwylliant yr ardal, i greu eu hunain i fod yn atyniad i gynyddu refeniw i'r ardal a darparu cyfleoedd addysgol a hyfforddiant, trwy adnoddu a staffio canolfan addysg a gwybodaeth.  £249,782
Canolfan Enfys Penley Penley, WrecsamBydd y prosiect yn darparu cartref parhaol i’r Ganolfan Enfys a llety ar gyfer gweithgareddau cymunedol ar gyfer Penley ar ardal gyfagos.  £398,350

Gwybodaeth pellach

Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd:  08454 102 030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i'r Loteri Genedlaethol gychwyn ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 250,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Iechyd a lles
  • Pobl Ifanc
ADBORTH