- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 21 10 2011
Bydd prosiectau chwarae a ariennir gyda dros £13 miliwn o arian achosion da'r Loteri Genedlaethol yn helpu plant ar draws Cymru i ddathlu gwyliau'r hanner tymor yr wythnos nesaf trwy gynnal ystod lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau am ddim.
Rhwng 24 - 28 Hydref, bydd prosiectau a ariennir trwy ffrwd 'Chwarae Plant' gwerth £13 miliwn y rhaglen Teuluoedd Iach gwerth £20 miliwn y Gronfa Loteri Fawr yn helpu plant ar draws Cymru i fwynhau eu gwyliau. Mae rhaglen Chwarae Plant y Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu ariannu i brosiectau sy'n annog mwy o blant i fwynhau gweithgareddau awyr agored a chreu mentrau chwarae a chyfleusterau newydd.
Un prosiect fydd yn cymryd mantais lawn ar wyliau hanner tymor fydd Tri-County Play Association. Diolch i'w dyfarniad o £902,821 gan y Gronfa Loteri Fawr yn 2010, mae'r prosiect wedi bod yn darparu cyfleoedd chwarae mynediad agored i blant mewn wyth ward ar draws Merthyr Tudful, Caerffili a Blaenau Gwent. Wedi'u cefnogi gan dimau o weithwyr chwarae a gwirfoddolwyr, mae’r cynllun wedi prynu fan chwarae ac mae'r prosiect yn cynnig cyfleoedd i blant gymryd rhan yn y gweithgareddau mewn amgylcheddau awyr agored ac yn hyrwyddo ffordd o fyw iach ac ystod eang o brofiadau. Bydd y prosiect yn cynnal cyfoeth o weithgareddau trwy gydol cyfnod hanner tymor (
gweler rhestr lawn ar ddiwedd y datganiad
- 38KB).
Un person sy'n dyst i fuddion y prosiect yw mam i ddau, Justine Percy: “Mae'r Cynllun Chwarae hwn yn fendith yn ystod gwyliau'r ysgol," dywed Justine.
"Mae am ddim, sy'n fonws, ac mae'n rhoi cyfle i blant a rhieni gwrdd a chwarae yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae'r cyfarpar o safon dda ac yn amrywiol ac mae'r plant yn cael cyfle i wneud gweithgareddau corfforol yn ogystal â gweithgareddau creadigol. Maen nhw yma ym mhob tywydd ac mae fy mhlant wedi mwynhau yn fawr ac yn edrych ymlaen at chwarae pan ddaw'r fan chwarae."
Wrth annog plant o'r tair sir i gymryd rhan, dywedodd Sara Johnston o'r Tri-County Play Association: “Credwn fod hawl y plentyn i ddewis chwarae yn rhydd yn hanfodol bwysig i ddatblygiad y plentyn a'r gymuned yn gyffredinol. Rydym yn cynnal yr hawl hwn trwy weithio i sicrhau bod hawl y plentyn i gyfleoedd chwarae o ansawdd o fewn eu cymuned yn cael ei gwerthfawrogi a'i hyrwyddo ar draws ardal y tair sir."
Wrth sylwi ar yr effaith gadarnhaol y mae'r cynllun Chwarae Plant yn ei chael ar blant a'u teuluoedd mewn cymunedau ledled Cymru, dywed Cyfarwyddwr Cronfa Loteri Fawr Cymru, John Rose: “Trwy ein cynllun Chwarae Plant rydym yn cymryd camau cadarnhaol i gynnal iechyd cenedlaethau'r dyfodol drwy hyrwyddo ffyrdd o fyw iach ac actif ymysg plant a theuluoedd. Mae'n wych gweld bod ein prosiectau yn cynnig cymaint i blant ei wneud y tu hwnt i oriau ysgol. Mae ein hymrwymiad i blant a phobl ifanc yng Nghymru yn amlwg yn y ffaith ein bod wedi dyfarnu ymron i £40 miliwn i brosiectau sydd o fudd uniongyrchol iddynt ers 2006.”
Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd chwarae ar ddatblygiad pobl ifanc, dywed Marianne Mannello, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwarae Cymru: "Mae chwarae a darpariaeth chwarae’n bwysig wrth sicrhau bod gennym blant hapus, iach a chadarn yn ein cymunedau. Mae chwarae'n rhan hanfodol a phwysig o fywydau plant. Mae'n rhaid i ni beidio â'i anwybyddu. Mae gan bob plentyn a pherson ifanc ar draws y byd hawl i'r amser i chwarae yn ei ffordd ei hun, mewn lleoedd sy'n ddigon diogel, gyda'u ffrindiau.”
Am wybodaeth bellach am y Tri-County Play Association a sut y gallwch chi elwa o'r prosiect, cysylltwch â 01685 353963 neu ewch i'w tudalen Facebook. Eu henw ar twitter yw - @Tri_County_Play.
I gael mwy o wybodaeth am y Gronfa Loteri Fawr, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddio’r cyfleuster chwilio.
Mwy o Wybodaeth
Swyddfa’r Wasg y Gronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grantiau’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron i £1 miliwn yr wythnos mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
- Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd iechyd, addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £26 biliwn wedi’i godi a mwy na 330,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags