- Area:
- Cymru
- Programme:
- Pawb a'i Le
- Release date:
- 14 10 2008
Bydd gwasanaethau a gweithgareddau newydd yn cael eu cyflwyno i hyrwyddo cefnogaeth addysgol, gymdeithasol ac ymarferol i deuluoedd a phobl hŷn ar ystâd dai yng Ngheredigion, diolch i ddyfarniad o bron i £125,000, a gyhoeddwyd heddiw o dan y Gronfa Loteri Fawr.
Mae Canolfan Deulu Llandysul, sydd wedi ei lleol ar ystâd dai The Beeches yn Llandysul, wedi derbyn dyfarniad o £124,880 o dan raglen Pawb a’i Le y Gronfa Loteri Fawr, sy’n amcanu i ddod a phobl ynghyd i wneud cymunedau yn gryfach ac i wella amgylcheddau gwledig a threfol.
Wedi ei sefydlu wyth mlynedd yn ôl, mae Canolfan Deulu Llandysul yn gyfleuster galw i mewn cymunedol sy’n rhoi cefnogaeth, gweithgareddau a gwasanaethau i deuluoedd sy’n byw yn ardal Llandysul. Mae’n le ble y gall plant, gofalwyr, rhieni ac aelodau eraill y teulu gwrdd yn anffurfiol i rannu profiadau â’i gilydd a threulio amser hollbwysig â’i gilydd. Bydd yr arian gan y Gronfa Loteri Fawr yn helpu’r ganolfan i ddarparu cyfleodd a gwasanaethu ychwanegol, a gweithgareddau i deuluoedd, pobl hŷn a thrigolion yr ardal.
Mae’r ganolfan wedi ei lleoli filltir o ganol y dref, sydd heb unrhyw ganolfannau gwaith nag asiantaethau cynghori yno sy’n golygu nad oes ddim llawer o fynediad at gymorth, cyngor na chefnogaeth. Yn ychwanegol, dangosodd Adolygiad Cymunedol fod yr ardal yn wynebu amrediad eang o faterion a phroblemau yn cynnwys unigedd gwledig, diffyg buddsoddiad, swyddi cyflog isel a sgil isel, lefelau uchel o ddifreintedd cymdeithasol a chymdeithas sy’n heneiddio, sy’n cael effaith ar wasanaethau lleol.
Fel ateb, bydd arian y Gronfa Loteri Fawr yn helpu’r ganolfan i gynnig amrediad o wasanaethau a gweithgareddau newydd yn cynnwys cyrsiau magu plant, gofal plant, sesiynau cynghori, hyfforddiant, gweithgareddau chware, dosbarthiadau Cymraeg, sgiliau sylfaenol iaith a rhifedd, bwyta’n iach, dosbarthiadau TGCh a gweithgareddau cymdeithasol. Bydd y ganolfan yn cynyddu ei oriau agor o dri diwrnod a hanner i bum diwrnod yr wythnos. Bydd tiwtor hefyd y rhoi cefnogaeth TGCh a rhyngrwyd i bobl hŷn.
Bydd y prosiect yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau hyfforddi eraill i ddarparu modiwlau wedi’i hachredu i bobl na all fynychu Prifysgol neu Goleg AB oherwydd ymrwymiadau gofal plant a chyfyngiadau teithio.
Yn hapus iawn â’r dyfarniad, dywedodd Christine Adams o Ganolfan Deulu Llandysul: “Trwy ddarparu cyfleoedd hyfforddi, gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth a gweithgareddau cymdeithasol i bobl sy’n wynebu unigedd gwledig, byddwn yn ymbweru pobl i ddysgu sgiliau newydd, ennill cymwysterau a chael mynediad at wybodaeth a fydd yn cael eu defnyddio yn y tymor hir. Bydd y gefnogaeth, gwasanaethau a gweithgareddau yn galluogi pobl leol i adfywio eu hardal leol, gan helpu i wneud eu cymunedau yn gryfach, yn fwy diogel a mwy deniadol.”
Gan ganolbwnsio pwysigrwydd y rhaglen Pawb a’i Le, dywedodd Aelod Pwyllgor y Gronfa Loteri Fawr a Chadeirydd y Pwyllgor Pawb a’i Le, Janet Reed: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau llawer iawn o bobl mewn cymunedau ledled Cymru. Mae’n cyflwyno ar ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri i adfywio ac ailfywhau cymunedau, taclo anfantais yn uniongyrchol a gadael etifeddiaeth barhaol. Rwy’n siŵr y bydd y prosiect yma yn cael effaith bositif ar fywydau nifer o bobl yn y gymuned ac y bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod."
Mae’r rhaglen £66 miliwn Pawb a’i Le yn dyfarnu grantiau o rhwng £5,001 a £1 miliwn i amrediad eang o brosiectau cymunedol. Am wybodaeth bellach am raglen Pawb a’i Le a sut y gallwch chi ymgeisio am arian, ewch i’n gwefan www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch y cyfleuster chwilio penodol i Gymru.
Gwybodaeth Bellach
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760171431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £22 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 300,500 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags