- Area:
- Cymru
- Release date:
- 15 9 2008
Lansiodd arbenigwr garddio rheolaidd Radio 2, Terry Walton, ganolfan arddwriaethol newydd yr wythnos hon i gefnogi pobl ag anableddau dysgu yn Rhondda Cynon Taf.
Diolch i grant o £150,184 gan y Gronfa Loteri Fawr yn 2005, mae ‘Drive’, sefydliad sy’n cynnig gwasanaethau cymorth i bobl gydag anableddau dysgu, wedi gallu gwireddu ei freuddwyd o adeiladu canolfan arddwriaethol bwrpasol a fydd yn cynnig buddion anferth i bobl ag anableddau dysgu yn y sir.
Cafodd Terry Walton, yr arbenigwr rhandiroedd ar Sioe Jeremy Vine ar Radio 2, gwmni'r Cynghorydd Mike Forey, Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau i Oedolion yn Rhondda Cynon Taf i lansio ‘Drive', y Prosiect Garddwriaethol newydd yn Nhal-y-garn, sydd wedi cymryd tair blynedd i ffrwythloni.
Mae gan yr adeilad newydd o bren, a gynlluniwyd gan Bartneriaeth Pentan yng Nghaerdydd a’i adeiladu gan Log Cabin UK, ystod o nodweddion sy’n gyfeillgar i'r amgylchedd sy’n gweddu i ganolfan arddwriaethol organig. Bydd y prosiect, sydd wedi’i leoli mewn amgylchedd gwledig yn agos at Bontyclun, yn fan deniadol i weithio ynddi sydd o fewn cyrraedd hawdd i'r bobl y bydd yn eu gwasanaethu.
Mewn partneriaeth hir sefydledig gydag Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Rhondda Cynon Taf, mae ‘Drive' wedi cyflwyno gweithgareddau hyfforddi cyflogaeth pwysig. Bydd cwblhau’r prosiect garddwriaethol yn cynnig cyfleuster hyfforddi parhaol gyda gwell mynediad a fydd yn cynnig cyfleoedd i ystod gynyddol o bobl.
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Rhondda Cynon Taf wedi arwain wrth ddatblygu cyfleoedd hyfforddi cyflogaeth a phrofiadau gwaith gwirioneddol i bobl gydag anableddau dysgu; mae 'Drive' wedi chwarae rôl allweddol yn hyn ac mae cwblhau'r adeilad garddwriaethol newydd yn cynrychioli cyfnod allweddol wrth nodi parhad y bartneriaeth hon - mae ‘Drive' yn ymrwymedig i ddatblygu gwasanaethau sy'n cynnig cyfle a datblygiad personol ar gyfer ei ddefnyddwyr gwasanaeth.
Mae’r hyfforddiant garddwriaethol a’r sgiliau cysylltiedig sydd ar gael wedi’u hachredu o dan y rhaglen NVQ City and Guilds. Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant hwn gellir cefnogi pob defnyddiwr gwasanaeth i wneud y trawsnewidiad i mewn i gyflogaeth. Wrth ddarparu’r gwasanaeth hwn bydd gan y prosiect garddwriaethol rôl bwysig i'w chwarae wrth ddarparu cyfleoedd ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu na fyddent ar gael fel arall.
Mae’r prosiect garddwriaethol yn defnyddio dulliau organig gan gynnwys cynlluniau ar gyfer compostio cyflym a bydd yn sicrhau bod cynaladwyedd yn rym gyrru yn ei holl weithgareddau. Bydd y gymuned leol hefyd yn elwa o’r prosiect fel adnodd gwybodaeth a chyfleoedd gwirfoddoli.
Wrth ymhyfrydu yn y prosiect, dywedodd Terry Walton: “Mae prosiectau o’r math hwn yn agos at fy nghalon ac rwyf bob amser wedi hyrwyddo’r buddion iechyd sydd ynghlwm â bwyta cynnyrch sydd wedi’i dyfu’n organig a chadw’n iach wrth arddio.”
Wrth drafod yr effaith bositif y bydd y dyfarniad yn ei chael ar fywydau pobl gydag anableddau dysgu, dywedodd Janet Thickpenny, Swyddog Grant y Gronfa Loteri Fawr: “Mae hwn yn adnodd gwych i'r gymuned ac i bwy bynnag sydd eisiau ymweld a phrofi’r prosiect. Mae’n bleser gallu ariannu prosiectau sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau nifer o bobl yng nghymunedau ar draws Cymru. Mae grwpiau fel y grŵp hwn yn gwneud cyfraniad anferthol wrth helpu pobl ac rwy’n falch y bydd y dyfarniad hwn yn eu helpu i wneud hyn am flynyddoedd i ddod."
Wrth ymhyfrydu o weld y ganolfan yn agor, dywedodd y Cynghorydd Mike Forey, Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau i Oedolion: “Roeddwn yn falch iawn ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf o gael mynychu agoriad y ganolfan newydd wych hon. Rydym yn falch o’n perthynas agos gyda Drive, ac mae’r Cyngor a’i ragflaenwyr wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â hwy am dros 20 mlynedd wrth ddatblygu cyfleoedd hyfforddi cyflogaeth a phrofiadau gwaith gwirioneddol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu."
Ychwanegodd: “Yn anffodus, mae’n weddol hawdd i bobl gydag anableddau dysgu ddod yn arunig ac wedi’u heithrio o gymdeithas heb gefnogaeth briodol ar gyfer eu hanghenion a chyfleoedd iddynt ffynnu. Nid yn unig mae hyn yn anghywir o safbwynt cyfiawnder cymdeithasol, ond yn wastraff anferth ar botensial o ystyried y cyfraniadau y gall y bobl hyn eu gwneud i gymdeithas. Dyna pam y bydd y cyfleuster newydd hwn a’r gwaith a fydd yn cael ei wneud mor bwysig.”
Am wybodaeth bellach ar y Gronfa Loteri Fawr a sut y gallwch ymgeisio am arian, ymwelwch â www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch gyfleuster chwilio penodol i ‘Gymru’.
Ffotograff, o’r chwith i'r dde: Y Cynghorydd Mike Forey, Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau i Oedolion; Barry Gallagher, Prif Weithredwr Drive; Janet Thickpenny, Swyddog Grantiau'r Gronfa Loteri Fawr; Lyndon Henderson, Defnyddiwr Gwasanaeth; a Terry Walton.
Gwybodaeth Pellach
Swyddog y Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030
Ffôn Testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion:
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 300,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags