- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 5 11 2007
Bydd ieuenctid Cymru yn cael y cyfle i ddysgu am amrywiaeth gyfoethog diwylliannau eraill y byd a bydd ieuenctid anabl yn gallu cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau, diolch i hwb ariannol gan y Gronfa Loteri Fawr.
Mae pump o brosiectau a ddatblygwyd gan y bobl ifanc eu hunain yn rhannu cyfanswm o £22,032 a ddyfarnwyd drwy ffrwd Dyma dy Gyfle y Gronfa Pobl Ifanc. Mae Dyma dy Gyfle yn helpu pobl ifanc yng Nghymru rhwng 10 a 19 mlwydd oed wneud newidiadau positif i'w bywydau.
Bydd yr arian yn helpu i ddarparu gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc o ystod o wahanol gefndiroedd. Nod y prosiectau yw galluogi i bobl ifanc brofi diwylliannau eraill, datblygu eu sgiliau, mynegi eu hunain mewn ffyrdd newydd a chreadigol a chynnig cyfleoedd na fyddai nifer ohonynt yn gallu eu mwynhau fel arall.
Rydym yn byw mewn cymdeithas amlddiwylliannol ac mae’n gyfnod lle fo ehangu ar ein dealltwriaeth o ddiwylliannau’r byd yn bwysicach nac erioed. Dyna pam fod pobl ifanc o Sir Fynyw ac Abertawe wedi penderfynu dysgu am draddodiadau a gwerthoedd eraill o bob cwr o’r byd.
Gyda’r £4,715 y maent wedi derbyn, mae pobl ifanc sy’n gysylltiedig â Charter Housing Association Limited yn y Fenni, Sir Fynwy, wedi trefnu bod grŵp o Zimbabwe yn rhoi cyfres o weithdai iddynt drwy gyfrwng drama, celf, cerddoriaeth a dawns. Y nod yw eu helpu i ddatblygu dealltwriaeth ehangach o wahanol ddiwylliannau a bydd y prosiect yn diweddu gyda pherfformiad arbennig i ddathlu a fydd yn cynnwys y bobl ifanc eu hunain.
Yn y cyfamser, bydd pobl ifanc o Grŵp Gweithredu Ieuenctid Hafod yn Abertawe yn profi gwir flas o’r Dwyrain diolch i’w dyfarniad o £3,125. Bydd y prosiect yn galluogi iddynt ddysgu diwylliant a iaith Tsieinëeg Mandarin, a byddant hyd yn oed yn ymweld â Chinatown yn Llundain. Yn ychwanegol, bydd y bobl ifanc yn cael dysgu sut i fod yn DJ ac yn recordio eu gwaith eu hunain a byddant yn ymweld â gig cymysgu cerddoriaeth DJ.
Bydd pobl ifanc ag anableddau hefyd yn elwa o’r dyfarniadau arian diweddaraf. Gyda’r £5,000 maent wedi derbyn, bydd Cyngor Sir y Fflint yn integreiddio dau wahanol grŵp o bobl ifanc ym Mhenarlâg o fewn un prosiect a fydd yn creu gardd synhwyraidd er mwyn i blant ag anableddau ei fwynhau. Mewn prosiect yn cynnwys siroedd Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, bydd sefydliad Local Aid for Children and Community Special Needs yn cynnwys pobl ifanc ag anghenion arbennig mewn cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau a fydd yn eu helpu i rannu eu profiadau, meithrin cyfeillgarwch, a chael cipolwg ar anawsterau ei gilydd a rhannu strategaethau ymdopi.
Bydd pobl ifanc yn Llanilltud Fawr, Pontypridd, yn dysgu sut mae technoleg a chelf yn mynd law yn llaw, diolch i'w dyfarniad o £4,230. Bydd Cynllun Pobl Ifainc Llantwit Fardre Young People's Project yn defnyddio’r grant i ariannu prosiect sy’n cyfuno cerddoriaeth ac animeiddio. Y nod yw dysgu pobl ifanc sut i ddefnyddio TG er mwyn troi eu syniadau creadigol yn fformat animeiddio.
Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y rhaglen Dyma dy Gyfle, dywedodd Mike Theodoulou, aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd Pwyllgor y Gronfa Pobl Ifanc: “Bydd y prosiectau yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc ddysgu gwersi newydd gwerthfawr, i fod yn greadigol, datblygu sgiliau newydd a chyffrous a mynegi eu hunain mewn amgylchedd diogel. Dyma enghraifft berffaith o sut y gall symiau bach o arian wneud gwahaniaeth mawr, drwy helpu grwpiau i ddatblygu ystod o sgiliau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau."
Am wybodaeth bellach am y prosiectau a sut i gael manylion cyswllt y grwpiau a’r sefydliadau sy’n gysylltiedig, cysylltwch â swyddfa’r wasg Cronfa Loteri Fawr drwy’r e-bost neu ar y rhifau isod.
Am wybodaeth bellach am y Gronfa Loteri Fawr a sut y gall eich grŵp wneud cais am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch gyfleuster chwilio penodol i ‘Gymru’. Fel arall, cewch ffonio swyddfa’r Gronfa Loteri fawr ar 01686 611 700.
Gwybodaeth pellach
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 280,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags