Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Aber Valley Water Play feature yn ennill pleidlais y cyhoedd ac arian y Loteri

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
30 11 2007
Mae prosiect Aber Valley Water Play Feature yn Senghennydd ar ben eu digon heddiw ar ôl iddynt ennill cyfran o £80,000 o arian achosion da gan gystadleuaeth ranbarthol Miliynau’r Bobl y Gronfa Loteri Fawr.

Pleidleisiodd gwylwyr ITV Cymru dros y prosiect i ennill y dyfarniad yn dilyn cystadleuaeth gyffrous benben am bleidlais y gymuned a’i darlledwyd ar Nos Fercher ar newyddion rhanbarthol ITV Cymru.

Enillodd Aber Valley Water Play Feature, sy’n cael ei redeg gan Bartneriaeth Cymunedau Aber Valley galonnau - a chyfran fwy o’r bleidlais gyhoeddus - wedi i wylwyr ddarganfod mwy am y prosiect.  

Bydd y grŵp yn gwario’r arian ar newid y cyfleuster pwll padlo sydd yno eisoes ond nad sy’n cael ei ddefnyddio ym Mharc Lles Senghennydd, gyda system chwarae dŵr integredig awtomataidd sydd wedi ei gynllunio i stimiwleiddio plant o bob gallu yn cynnwys plant sydd ag anableddau.  

Mae hi’n achos dathlu hefyd i brosiect Ailwampio/Adnewyddu Gladstone, ym Mhenarlâg, Sir y Fflint, a ddaeth yn ail yn wreiddiol yn eu cystadleuaeth benben am ddyfarniad Nos Iau. Fodd bynnag, derbyniodd Ailwampio/Adnewyddu Gladstone y pumed swm uchaf o bleidleisiau yn y rhanbarth, ac fel y prosiect gorau yn yr ail safle, maent yn derbyn £64,860 o grant gan y Gronfa Loteri Fawr.  

Bydd y prosiect Ailwampio/Adnewyddu Gladstone, sy’n cael ei redeg gan Gyngor Sgowtiaid Ardal Clwyd, yn gwario’r arian ar ddiweddaru’r ganolfan sgowtio er budd y gymuned leol a grwpiau sgowtio sy’n ymweld â Gogledd Ddwyrain Cymru, gan alluogi cyfleoedd i fwynhau gweithgareddau awyr agored mewn amgylchedd ddiogel, cyffyrddus ac wedi’i reoli.

Eleni gwelwyd pum grant yn cael eu dyfarnu i sefydliadau cymunedol yn y rhanbarth gyda chyfanswm o £323,660 a chyda dros 30,000 o wylwyr ITV Cymru yn taro pleidlais.

Mae trydedd flwyddyn Miliynau’r Bobl rhanbarthol yn awr ar ben, ac ar ôl wythnos gyffrous o gystadlu, mae 90 grant gyda gwerth o £6.42 miliwn wedi eu dyfarnu i brosiectau ledled y DU gyda dros 550,000 o bleidleisiau wedi eu cofrestru gan y cyhoedd.   

Pob nos yr wythnos yma mae dau brosiect lleol wedi eu harddangos ar newyddion rhanbarthol ITV mewn brwydr benben i ddiogelu pleidleisiau’r cyhoedd a dyfarniad gan y Gronfa Loteri Fawr. Nid i enillwyr pob nos yn unig yr oedd dyfarniadau eleni yn mynd, ond aeth un wobr fonws ym mhob rhanbarth* ITV i’r prosiect yn yr ail safle oedd â’r mwyaf o bleidleisiau.  

Dywedodd Huw Vaughan Thomas, Cadeirydd Cymru Cronfa Loteri Fawr: “Hyd yma’r wythnos hon, rydym wedi gweld grantiau yn cael eu dyfarnu i brosiectau mor arloesol â phrosiect i greu gardd goffa ar gyfer cymuned leol hyd at ddiweddaru canolfan gymunedol, gan arddangos yr amrediad enfawr o fuddion y gall Miliynau’r Bobl ei wneud i gymunedau.  Gyda’r pleidleisio yn awr ar ben, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd y cyfle i godi’r ffôn a chefnogi eu prosiect lleol. Yr wythnos yma, mae 5 grŵp achosion da a’u cymunedau ledled Cymru yn elwa’n fawr o’r gystadleuaeth gyffrous yma.”

Dywedodd Elis Owen, Rheolwr Gyfarwyddwr a Rheolydd Rhaglenni ITV Cymru: “Un o’n prif gryfderau yw ein gallu i gysylltu â phobl leol am faterion cymunedol.  Eleni eto mae ein rhaglen newyddion rhanbarthol wych yn gofyn i’r cyhoedd benderfynu pa brosiectau cymunedol lleol sydd fwyaf haeddu cefnogaeth y Loteri a chyda’r dyfarniadau rhanbarthol mwyaf hyd yn hyn ar gael, mae Miliynau’r Bobl yn siŵr o gael effaith barhaol.”

Bydd yr wythnos nesaf 3 - 7 Rhagfyr yn gweld y gystadleuaeth ‘People’s £50 million Lottery Giveaway’ yn cael ei ddarlledu ar ITV1 ble bydd pedwar prosiect o bwysigrwydd cenedlaethol yn cystadlu am bleidlais y cyhoedd i ennill dyfarniad enfawr o £50 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr. Y pedwar prosiect sy’n wynebu pleidlais y cyhoedd yw: Eden Project: The Edge; Sustrans’ Connect2; Sherwood: The Livng Legend a’r Black Country Urban Park.

Bydd llinellau ffôn pleidleisio ar agor ar Ddydd Gwener 7fed Rhagrfyr am 9am. Gallwch bleidleisio yn awr yn www.thepeoples50million.org.uk

Gwybodaeth pellach

Swyddog y Wasg Cronfa Loteri Fawr- Oswyn Hughes:02920 678 207
Cyswllt y Tu Hwnt i Oriau:07760171431
Cyswllt y Wasg ITV: Sally Holmes ar 08448 810 202
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Ers lansio Miliynau’r Bobl yn 2005, nod y gystadleuaeth yw ariannu prosiectau sy'n gwella ansawdd bywyd cymunedau lleol drwy weddnewid yr amgylchedd lleol. Eleni mae prosiectau sy’n cynnig cyfleoedd neu gyfleusterau er mwyn mwynhau’r amgylchedd lleol hefyd wedi’u hychwanegu at y meini prawf ariannu.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £2 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob 24 awr ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws y DU bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Rhifau ffôn pleidleisio – Yn yr un modd â’r arfer, bydd ITV a’r Gronfa Loteri Fawr yn defnyddio rhifau ffôn cost isel. Nid yw ITV na'r Gronfa Loteri Fawr yn gwneud elw o'r rhifau ffôn pleidleisio.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004.
  • Ar 1 Rhagfyr 2006 sefydlwyd y Gronfa Loteri Fawr yn swyddogol gan y Senedd ac ar yr un pryd fe gymerodd gyfrifoldebau gweddilliol Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (Y Gronfa Gymunedol) y Gronfa Cyfleoedd Newydd, a’r Comisiwn Mileniwm a ddiddymwyd. Mae’r Gronfa yn adeiladu ar brofiad ac arfer gorau'r cyrff cyfun er mwyn symleiddio ariannu’r ardaloedd hynny sy’n gorgyffwrdd ac i sicrhau bod arian y Loteri yn cynnig y gwerth gorau posibl am arian.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Pobl Ifanc
  • Yr Amgylchedd
ADBORTH