- Area:
- Cymru
- Programme:
- Pawb a'i Le
- Release date:
- 19 2 2008
Bydd fferm gymunedol yn cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddi ar gyfer plant, a bydd pobl ifanc ag anghenion arbennig yn dysgu sgiliau newydd wrth ofalu am geffylau, diolch i hwb ariannol o £3 miliwn a gyhoeddwyd heddiw o dan raglen Pawb a'i Le y Gronfa Loteri Fawr.
O Wrecsam yng Ngogledd Cymru i Abertawe yn y De, bydd un ar bymtheg o brosiectau cymunedol ar draws y wlad yn elwa o hwb ariannol o £2,971,159 sy’n anelu at ddwyn pobl ynghyd er mwyn gwneud cymunedau yn gryfach ac i wella amgylcheddau gwledig a threfol.
Yn un o blith pump o brosiectau a fydd yn derbyn arian yng Ngogledd Cymru, bydd Canolfan Farchogaeth Arbennig Clwyd yn Llanfynydd, ger Wrecsam, yn gwario £56,420 ar brosiect i alluogi pobl ifanc dros un ar bymtheg mlwydd oed sydd ag anghenion arbennig i wella eu sgiliau bywyd drwy ofalu am geffylau. Dros y blynyddoedd, mae bywydau nifer o bobl ifanc ag anableddau wedi newid yn ddramatig diolch i ddosbarthiadau a redir gan y ganolfan, a dderbyniodd Gwobr Jiwbilî Aur Unsung Heroes y Frenhines yn 2003. Mae’r elusen, a redir gan grŵp o wirfoddolwyr, yn croesawu dros 200 o bobl o bob oed yr wythnos sy'n elwa o ysgogi trwy farchogaeth, gyrru cerbyd ac uchelgais marchogaeth. Mae’r dosbarthiadau yn helpu i wella cryfder y cyhyrau, cydsymud a gallu canolbwyntio pobl ag anableddau. Drwy’r prosiect newydd hwn, bydd y cyfranogwyr yn mynychu'r Ganolfan yn rhan amser er mwyn cymryd rhan mewn rhaglen sydd wedi’i chynllunio’n benodol i dargedu sgiliau bywyd megis cyfathrebu, llythrennedd a gwaith tîm. Defnyddir ceffylau i roi fframwaith i'r rhaglen a fydd yn sail i’r gweithgareddau dysgu.
Yn y cyfamser, yn Ne Cymru, bydd Fferm Gymunedol Abertawe yn ardal Cadle’r ddinas yn gwario £147,523 i barhau ac ehangu ar ei brosiect ‘Grow With Us’ cyfredol drwy gynyddu cyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddi ar gyfer plant a phobl ifanc. Dros y blynyddoedd, mae darn o dir a oedd unwaith yn ddiffaith yng nghanol blerdwf trefol Abertawe wedi’i weddnewid yn werddon gyda chymorth blaenorol gan y Gronfa Loteri Fawr. Fe'i rhedir gan bobl leol ar gyfer pobl leol, ac mae’n fan lle gall pobl dyfu ochr yn ochr â’r cnydau a’r anifeiliaid a datblygu sgiliau newid, creu ffrindiau newydd ac wynebu heriau newydd. Bydd y grant, dros dair blynedd, yn talu am gyflogau Gweithiwr Plant a Phobl Ifanc rhan amser ac yn cynyddu oriau'r Rheolwr Prosiect cyfredol.
Ym Mhowys, yng nghanolbarth Cymru, bydd gant o £185,085 yn caniatáu i sefydliad Cefnogaeth Cymunedol Rhaeadr a’r Cylch Cyf ddarparu trafnidiaeth gymunedol i bobl sydd wedi’u hallgau yn gymdeithasol sy’n byw mewn ardaloedd gwledig o amgylch Rhaeadr. Yn swatio ymhlith copaon digyffwrdd Mynyddoedd y Cambria, wrth galon prydferthwch canolbarth Cymru, mae tref farchnad hanesyddol Rhaeadr yn baradwys wledig hyfryd. Ond fel y gwŷr pawb, mae trafnidiaeth yn anghenraid i bobl sy’n byw mewn cymuned wledig arunig, yn enwedig er mwyn cael mynediad at wasanaethau ac arbenigedd hanfodol. Bydd y prosiect hwn yn galluogi pobl i gael mynediad at grŵp lles wythnosol newydd a fydd yn annog bywydau heini iach drwy hyrwyddo diet cytbwys, ymarfer iach a chynyddu rhwydweithiau cymdeithasol. Bydd y prosiect yn cyfoethogi’r gwasanaeth bws mini sydd eisoes yn llwyddiannus, a gefnogwyd hefyd gan grant y Gronfa Loteri Fawr.
Mewn prosiect sy’n cynnwys Wrecsam, Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe, bydd y sefydliad Alltudion ar waith yn gwario eu dyfarniad o £230,943 ar brosiect i wella integreiddio pobl sydd wedi’u halltudio, drwy gynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth ffoaduriaid a thrwy ymgymryd â mentrau cynhwysiant yn y gymuned. Bydd hefyd yn ehangu ar y prosiect 'Parodrwydd i Weithio’ Alltudion ar Waith er mwyn goresgyn rhwystrau a all atal ffoaduriaid rhag sicrhau cyflogaeth. Bydd y prosiect yn cynnwys cydweithio agos gyda sefydliadau’r gymuned ffoaduriaid a bydd yn ceisio cefnogaeth gwirfoddolwyr ceiswyr lloches a ffoaduriaid i gyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth ffoaduriaid.
Dywedodd Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd Pwyllgor Pawb a’i Le, Janet Reed, wrth gyfeirio at yr effaith bositif y bydd y dyfarniadau yn ei gael ar gymunedau ledled Cymru: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru. Mae Pawb a’i Le yn cyflwyno ar ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri i adfywio ac i ailfywhau cymunedau, mynd i'r afael ag anfantais ar ei ben a gadael etifeddiaeth barhaus. Rwy’n siŵr y bydd y dyfarniadau hyn yn cael effaith bositif ar fywydau cymaint o bobl yn y gymuned a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”
Mae rhaglen Pawb a’i Le gwerth £66 miliwn yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 a £1 miliwn i ystod eang o brosiectau cymunedol. Am wybodaeth bellach am y rhaglen Pawb a’i Le a sut y gallwch wneud cais am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch y cyfleuster chwilio penodol i ‘Gymru’.
Am wybodaeth bellach am y prosiectau a sut i gael manylion cyswllt yr unigolion a sefydliadau sy’n gysylltiedig, cysylltwch â Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr ar y rhifau isod.
I lwytho rhestr llawn o brosiectau ariannwyd heddiw
- 42KB
Gwybodaeth pellach
Swyddog y Wasg y Gronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau swyddfa: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion:
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 250,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags