- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 29 5 2007
Bydd y Gronfa Loteri Fawr yn tynnu sylw at ymgyrch i godi ymwybyddiaeth am faterion iechyd meddwl yng Nghymru yn un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y Gronfa Loteri Fawr ei rhaglen Iechyd Meddwl gwerth £15 miliwn yng Nghaernarfon, Gogledd Cymru, er mwyn hyrwyddo adsefydlu ac annibyniaeth pobl â phroblemau iechyd meddwl difrifol yng Nghymru a chefnogi’r rheini sydd fwyaf wrth risg o hunanladdiad. Er mwyn ategu at y rhaglen a helpu i godi ymwybyddiaeth ynghylch materion iechyd meddwl, bydd y Gronfa Loteri Fawr yn cyhoeddi ei hymgyrch ‘Mwy na Rhif’ heddiw yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru yn Sir Gaerfyrddin, De Cymru.
(Cynhelir y digwyddiad swyddogol yn stondin 116-119 y Gronfa Loteri Fawr ar faes yr Eisteddfod rhwng 12:30pm ac 1pm Dydd Mawrth, 29 Mai. Gweler diwedd y datganiad am gyfleoedd lluniau, ffilmio a chyfweld).
Dengys ystadegau y bydd un o blith pedwar oedolyn yn profi problemau iechyd meddwl rhywbryd yn ystod eu hoes ac un o blith deg plentyn angen cymorth proffesiynol ar gyfer anhwylder iechyd meddwl. Mae ‘Mwy na Rhif’ yn gyfres o fentrau y bydd y Gronfa Loteri Fawr yn eu cynnal yn ystod y flwyddyn er mwyn hysbysu pobl ynghylch cyffredinolrwydd materion iechyd meddwl, sut gallant effeithio arnom ni oll a sut y gall pob un ohonom chwarae rhan wrth ostwng y gwahaniaethu a’r mythau ynghylch y salwch. Bydd y mentrau yn cynnwys prosiectau ymchwil a bydd y Gronfa Loteri Fawr hefyd yn mynd â’r ymgyrch ar y ffordd ac yn ymweld â digwyddiadau eraill yng Nghymru trwy gydol yr haf.
Bydd materion iechyd meddwl a sut maent yn effeithio ar bobl ifanc yn un o’r prif bynciau trafod yn ystod Eisteddfod yr Urdd. Gyda 15,000 o gystadleuwyr ifanc a 100,000 o ymwelwyr â’r digwyddiad, mae’r ŵyl yn lleoliad perffaith er mwyn codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc a’u teuluoedd. Mae’n bosibl y bydd stondin y Gronfa Loteri Fawr yn noddfa berffaith i'r rheini sy’n dymuno ymlacio ar ôl straen cystadlu ar y llwyfan mawr. Trwy gydol yr wythnos, bydd y Gronfa Loteri Fawr yn hyrwyddo ffyrdd o ostwng lefelau straen drwy chwerthin cyflenwol, ymlacio a sesiynau dysgu.
Am y tro cyntaf, bydd y Gronfa Loteri Fawr yn arddangos ei chardiau Mythau a Ffeithiau, a grëwyd yn arbennig ar gyfer yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ynghylch materion iechyd meddwl. Bydd cyfres o weithiau celf a grëwyd gan ddefnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl hefyd yn cael eu harddangos a bydd cyfle i'r ymwelwyr gael gwared ar eu straen drwy fynd ag un o'r peli straen, y bydd y Gronfa Loteri Fawr yn eu dosbarthu am ddim fel rhan o'i hymgyrch, adref gyda hwy.
Heddiw (Dydd Mawrth), mae’r Gronfa Loteri Fawr yn cynnig cyfle i bobl ymlacio yn nwylo therapyddion ymlacio proffesiynol o brosiect Rural Stress Relief, sydd wedi’i leoli yn Abertawe. Derbyniodd y grŵp £5,000 o dan raglen Arian i Bawb Cymru a byddant yn cynnig tylino’r dwylo, y gwddf a thylino pen Indaidd ar y stondin drwy'r dydd.
Yn ogystal â’r therapi cyflenwol fydd ar gael, bydd y rheini a fydd yn mynychu hefyd yn gallu gweld a chlywed darn o farddoniaeth a gomisiynwyd gan y Gronfa Loteri Fawr er mwyn codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl, a grëwyd yn arbennig ar gyfer yr ymgyrch ‘Mwy na Rhif’ gan fardd ifanc o Gaerfyrddin, Catrin Dafydd. Bydd Catrin, sydd hefyd wedi’i henwebu ar gyfer Llyfr y Flwyddyn, yn cynnal gweithdai gyda phobl ifanc yn ystod y flwyddyn i'w helpu i ddatblygu eu sgiliau creadigol a bydd ei barddoniaeth hefyd yn cael ei defnyddio yng nghyhoeddiadau’r Gronfa Loteri Fawr yn ystod y flwyddyn fel rhan o’r ymgyrch ymwybyddiaeth.
Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd codi ymwybyddiaeth ynghylch materion iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc yng Nghymru, dywedodd un o siaradwr gwadd y digwyddiad, Rheolwr Gwasanaethau Hafal, yn Sir Gaerfyrddin, Evan Thomas: "Rhaid gwella ansawdd y gwasanaethau sydd ar gael i bobl ifanc gyda phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru a newid y ffordd yr ydym yn eu trin ar gyfer amryw gyflyrau. Rydym wrth ein bodd bod y Gronfa Loteri Fawr wedi neilltuo £15 miliwn tuag at iechyd meddwl yng Nghymru a bydd yr ymgyrch hon yn helpu i godi ymwybyddiaeth a dileu peth o’r stigma sy’n gysylltiedig.
Dros y blynyddoedd gwelwyd gwelliannau mawr yn y dulliau a ddefnyddir i drin dioddefwyr. Serch hynny, mae angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth a pharatoi cymdeithas i dderbyn pobl gyda phroblemau iechyd meddwl. Dylai addysgu ein pobl ifanc ynghylch iechyd meddwl a sut i ymdopi ag ef fod yn rhan o gwricwlwm yr ysgol. Y cynharaf y byddwn yn dysgu’r plant amdano, y mwyaf o wybodaeth y bydd ganddynt. Bydd hyn yn helpu i gael gwared ar y stigma a’r rhagdybiaethau sydd ynghlwm wrth y salwch a’u harfogi â’r wybodaeth berthnasol y mae ei hangen arnynt er mwyn adnabod ac ymdopi â’r symptomau yn fwy effeithiol.”
Wrth esbonio pwysigrwydd ymgyrch ‘Mwy na Rhif’, dywedodd Huw Vaughan Thomas, Cadeirydd y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Dangosodd ein hymgynghoriadau bod bwlch gwirioneddol yn y ddarpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru a dyna pam yr oedd yn bleser gennym lansio ein rhaglen Iechyd Meddwl yn gynharach eleni.
"Serch hynny, roeddem eisiau gwneud mwy felly penderfynasom lansio’r ymgyrch ‘Mwy na Rhif' i redeg ochr yn ochr â'r rhaglen er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch materion iechyd meddwl yng Nghymru. Mae digwyddiadau cenedlaethol fel yr Eisteddfod yn denu miloedd o ymwelwyr a chystadleuwyr bob blwyddyn, sy’n rhoi’r llwyfan perffaith i ni gysylltu gydag aelodau’r cyhoedd a rhannu gwybodaeth.”
Ychwanegodd: “Bwriad ein presenoldeb yn y digwyddiad hwn yw gwella gwybodaeth a dealltwriaeth pobl ynghylch y materion y mae ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl yng Nghymru yn eu hwynebu. A pha well lle i godi ymwybyddiaeth ynghylch y materion y mae pobl ifanc yn eu hwynebu nag ym mhrif ŵyl gelfyddydol ieuenctid Ewrop?”
Bydd gwybodaeth am y rhaglen Iechyd Meddwl a’n holl raglenni eraill ar gael ar ein stondin. I'r rheini na fydd yn gallu bod yn bresennol ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk
Am wybodaeth bellach am gyfleoedd cyfweld, lluniau a ffilmio, cysylltwch ag Oswyn Hughes yn swyddfa wasg y Gronfa Loteri Fawr neu drwy e-bost neu ar y rhifau isod.
Gwybodaeth Pellach
CYFLEOEDD TYNNU LLUNIAU, FFILMIO A CHYFWELD:
Digwyddiad: Cyhoeddi ymgyrch ‘Mwy na Rhif' yn Eisteddfod yr Urdd
Dyddiad/Amser: Dydd Mawrth 29 Mai 2007 (12:30 – 1pm)
Lleoliad: Stondin y Gronfa Loteri Fawr (116-119) Maes Sioe'r Siroedd Unedig, Sir Gaerfyrddin
Lluniau/Ffilmio: Bydd y bardd Catrin Dafydd, Evan Thomas o Hafal, ymwelwyr yn derbyn therapi cyflenwol, y therapyddion a chynrychiolwyr dwyieithog o’r Gronfa Loteri Fawr oll ar gael ar gyfer cyfleoedd ffilmio, cyfweld a lluniau. Bydd lluniau wedi'u comisiynu o’r digwyddiad hefyd ar gael am ddim o wneud cais i Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr.
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Tu hwnt i oriau swyddfa: 07760 171431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030 Llinell Destun: 0845 6021 659
Ceir manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grantiau’r Gronfa Loteri Fawr ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £2 filiwn mewn arian achosion da y Loteri bob 24 awr ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws y Deyrnas Unedig bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004.
- Ar 1 Rhagfyr 2006 sefydlwyd y Gronfa Loteri Fawr yn swyddogol gan y Senedd ac ar yr un pryd cymerodd gyfrifoldebau gweddilliol Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (Cronfa Gymunedol), Cronfa Cyfleoedd Newydd, a’r Comisiwn Mileniwm a ddiddymwyd. Mae’r Gronfa yn adeiladu ar brofiad a dulliau gweithredu gorau’r cyrff sydd wedi’u cyfuno er mwyn symleiddio ariannu'r ardaloedd hynny lle maent yn gorgyffwrdd ac i sicrhau fod arian Loteri yn gwneud y defnydd gorau posibl o arian.
Tags