Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Gorau’r gorllewin i ymweliad bwrdd y Loteri â Chymru

Area:
Cymru
Release date:
17 7 2008
Bu Bwrdd DU y Gronfa Loteri Fawr yn ymweld â De Orllewin Cymru yr wythnos hon i weld sut mae arian y loteri yn gwneud newidiadau positif i fywydau miloedd o bobl yn y cymunedau hynny.

Daeth Aelodau Bwrdd a chynrychiolwyr, yn cynnwys Cadeirydd DU y Gronfa Loteri Fawr, Syr Clive Booth i siroedd Abertawe a Chaerfyrddin ar ddydd Llun, Gorffennaf 14eg, i ymweld â rhai o’r tirnodau mwyaf eiconig sydd wedi eu cefnogi gan y Loteri Genedlaethol, ond hefyd rhai o’r prosiectau llai, mwy arloesol sydd wedi eu datblygu diolch i gefnogaeth gan y Gronfa Loteri Fawr.   

Ers i’r Loteri Genedlaethol gael ei sefydlu, mae’r Gronfa wedi dyfarnu dros £92 miliwn i brosiectau sydd o fudd i bobl yn Abertawe a Sir Gaerfyrddin.   Ar hyn o bryd, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn buddsoddi yn agos at filiwn o bunnoedd yr wythnos mewn prosiectau ledled Cymru sy’n gwella cymunedau ac yn cynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i’r bobl sy’n byw ynddynt.  

Gan adlewyrchu ar y croeso cynnes Cymreig a dderbyniodd y Bwrdd, dywedodd Cadeirydd Cymru y Gronfa Loteri Fawr ac aelod Bwrdd y DU, Huw Vaughan Thomas: “Rydym wedi buddsoddi swm sylweddol o arian yn y cymunedau yma ac mae’n adlewyrchiad o’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud yn yr ardal gan grwpiau bach cymunedol yn ogystal â chyrff sector cyhoeddus mawr. Roedd hwn yn gyfle gwych i ddathlu llwyddiannau Cymru ac arian y loteri, ac i rannu ein profiadau gydag eraill ar draws y DU.   Roedd yn gyfle iddynt hwy weld drostynt eu hunain sut mae arian y Gronfa Loteri Fawr yn gwella bywydau pobl a chymunedau Cymru.”

Y tirnod cyntaf, wedi’i ariannu gan y Loteri, i’r Bwrdd ymweld ag ef oedd prosiect £43 miliwn Gerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru.  Dim ond wyth mlwydd oed yw’r atyniad syfrdanol, a’i sefydlwyd gyda chymorth ariannol gan Gomisiwn y Mileniwm, ond mae eisoes yn blodeuo i fod yn un o erddi gorau Cymru.   Croesawyd yr ymwelwyr, oedd yn cynnwys aelodau o Ogledd Iwerddon, Yr Alban a Lloegr gan Rob Jolliffe, Cadeirydd y Gerddi, a gynhaliodd dderbyniad cinio iddynt ynghyd â thaith o amgylch gerddi mwyaf poblogaidd Cymru.

Trwy’r prynhawn, bu’r aelodau yn ymweld â phrosiectau a’i hariannwyd gan y Gronfa Loteri Fawr.  Yn Sir Gâr roedd cyfle i weld prosiectau megis Moving On, sy’n cael ei redeg gan Gymdeithas Plant & Phobl Ifanc Sir Gâr (dyfarnwyd £246,736 yn Hydref 2006 iddynt i hyrwyddo iechyd meddwl positif a lles ymysg pobl ifanc rhwng 10 a 14 sydd ag anawsterau iechyd emosiynol) a’r 50 Something Plus - Healthy Living Initiative sy’n cael ei redeg gan Foothold Community Specialist Ltd (yn targedu pobl dros 50 oed, dyfarnwyd £987,884 i’r prosiect ym Mehefin 2002 i annerch nifer o broblemau iechyd yn cynnwys canser, CCG/strôc, damweiniau, iechyd meddwl, crydcymalau, osteoporosis, diet, alcohol ac ysmygu ym mhump o wardiau mwyaf difreintiedig Llanelli).  

Dywedodd Tracy Pike, Rheolwraig elusen Cymdeithas Plant & Phobl Ifanc Sir Gâr: “Mae ein prosiect wedi elwa’n sylweddol o arian y loteri ac roeddem yn croesawu’r cyfle i allu arddangos ein gwaith i Fwrdd DU y Gronfa Loteri Fawr.  Byddai’n anodd iawn i brosiect fel hwn gyflwyno gwasanaethau mor hanfodol heb gymorth y Gronfa.”

Yn Abertawe, ymwelwyd â Fferm Gymunedol Abertawe i weld canlyniadau’r prosiect Grow with Us, sy’n annog gwaith gwirfoddol a chyfleoedd hyfforddiant ar y fferm ar gyfer plant sy’n byw yn ardal Fforest-fach, Abertawe.  Bu hefyd daith o amgylch y Prosiect Storm, sy’n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth GIG Abertawe ac sy’n targedu pobl ifanc rhwng 12 a 19 oed yn Abertawe sy’n anodd eu cyrraedd a bregus ac sydd ag anghenion iechyd meddwl heb eu cwrdd.  

Coronwyd yr ymweliad gyda thaith o amgylch y prosiect  £33.5 miliwn, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.  Yn swatio yng nghalon Chwarter Morwrol Abertawe, mae’r amgueddfa yn dweud stori’r diwydiant ac arloesedd yng Nghymru dros y 300 mlynedd diwethaf.

Gan adlewyrchu ar ymweliad y Bwrdd, dywedodd Syr Clive Booth, Cadeirydd DU y Gronfa Loteri Fawr, “Tra mae ein rôl fel Bwrdd yn cynnwys sefydlu cyfeiriad strategol ar gyfer y Gronfa Loteri Fawr y mae’n hollbwysig ein bod yn cymryd yr amser i dystio’r gwahaniaeth y mae arian y loteri yn ei wneud mewn cymunedau ledled y DU. Mae’r ymweliad yma â Chymru wedi ein galluogi ni i weld drosom ein hunain sut mae arian y loteri yn helpu i drawsnewid ardaloedd mewn angen a hyrwyddo gweithgaredd cymunedol.  Mae’n bwysig derbyn adborth gan y grwpiau eu hunain fel y gallwn wella ein prosesau a sicrhau fod ein harian yn cael yr effaith mwyaf yn yr hir dymor.”

Gwybodaeth pellach

Swyddfa Wasg Cronfa Loteri Fawr – Deian Creunant: 01686 611 705
Cyswllt tu allan i oriau swyddfa: 07717 513 418
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102 030
Ffôn testun:  0845 6021 659
Mae manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan:  www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion:

  • Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 250,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.  

Tags

Categori

  • Corfforaethol
ADBORTH