Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Dyfarniad Mawr i Helpu Troseddwyr i Oresgyn Rhwystrau Anweladwy

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
28 3 2012

Mae prosiect blaengar yn Ne Cymru sydd â'r nod o atal carcharorion presennol a newydd eu rhyddhau rhag aildroseddu yn dathlu'r newyddion heddiw ei fod wedi derbyn grant o fwy na £3 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr.

At ei gilydd dyfarnwyd £3,137,466 i Garchar Ei Mawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr i redeg ei brosiect Invisible Walls sydd â'r nod o weithio gyda throseddwyr a'u teuluoedd yn ystod eu dedfryd ac ar ôl cael eu rhyddhau i atal aildroseddu a materion lluosog a chymhleth eraill.

Dros y pedair blynedd nesaf bydd y prosiect yn cydweithio â throseddwyr, eu teuluoedd a'u plant trwy becyn o ymyraethau sy'n cynnwys rhaglenni magu plant a pherthnasoedd arbenigol i'r teulu cyfan, cyngor ar dyled teuluol, hyfforddiant ac addysg, cyngor a chefnogaeth ar dai, iechyd a ffitrwydd corfforol a chefnogaeth wrth symud tuag at gyflogaeth.

Mae Carchar y Parc, a reolir gan G4S ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn cydnabod nad yw cyn-droseddwyr yn parhau i elwa o'r gefnogaeth y gwnaethant ei derbyn drwy raglenni ymyrraeth ar ôl cael eu rhyddhau o'r carchar.

Daw'r prosiect hwn yn syth yn sgil y prosiect peilot llwyddiannus a ariannwyd gyda bron £50,000 gan y Gronfa Loteri Fawr yn 2010. Bydd grant y Gronfa Loteri Fawr yn ariannu cynllun datblygu a'r partneriaethau sector gwirfoddol, statudol a phreifat y mae eu hangen i ddarparu'r gefnogaeth.

Gan amlygu pwysigrwydd y prosiect, meddai Syr Adrian Webb, Cadeirydd Cronfa Loteri Fawr Cymru ac Aelod Bwrdd y DU: “Bydd y prosiect Invisible Walls yn gweld cefnogaeth ddwys yn cael ei rhoi i  garcharorion a'u teuluoedd, yn y carchar ac ar ôl eu rhyddhau er mwyn helpu gydag ailsefydlu ac i atal y cylch cythreulig o aildroseddu.  Mae atal yn well ac yn rhatach na gwella, ac mae cronfa gynyddol o dystiolaeth, os yw ymyraethau ataliol yn effeithiol, y gallwn i gyd wario llai o arian ar wasanaethau megis carchardai, gofal meddygol aciwt ac ailsefydlu ar ôl cyffuriau."

Mae'r ariannu ar gyfer y prosiect yn rhan o Efelychu ac Arloesedd, rhaglen ariannu ledled y  DU sydd â'r nod o ddefnyddio rhwydweithiau a phrofiad ariannu'r Gronfa Loteri Fawr i dargedu problemau cymdeithasol y mae eu gwreiddiau'n ddwfn. Dros bum mlynedd bydd y rhaglen yn ariannu mentrau strategol sy'n gweithio mewn meysydd o angen a nodwyd ac yr ymchwiliwyd iddynt yn ofalus.

Meddai Corin Morgan-Armstrong, Uwch Reolwr yng Ngharchar Ei Mawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc, “Diolch i'r Gronfa Loteri Fawr, mae gan Garchar Ei Mawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc y cyfle bellach i ddechrau ar gam rhoi ar waith a chyflwyno'r prosiect cyffrous ac unigryw hwn.”

“Bydd Invisible Walls yn ceisio cynnwys, cefnogi a symbylu carcharorion trwy ein 'Huned Ymyraethau Teuluol', yr uned gyntaf o’r fath ac, ar hyn o bryd yr unig uned sydd wedi'i theilwra ar gyfer troseddwyr gwryw, lle byddant yn gweithio'n unigol ac mewn grwpiau i ganolbwyntio'n gyfan gwbl ar bwysigrwydd y sgiliau y mae eu hangen i drwsio, datblygu a chynnal perthnasoedd teuluol iach.”

"Bydd y prosiect hefyd yn ceisio cynnwys, cefnogi a symbylu partneriaid a theuluoedd y carcharorion unigol hyn er mwyn iddynt hwy gymryd rhan yn rhagweithiol yn y prosiect hwn hefyd. Dengys tystiolaeth gref y buddion pendant y mae gwaith sy'n canolbwyntio ar deuluoedd yn eu creu o ran lleihau aildroseddu, yn enwedig pan fo'n gweithio gyda'r teulu cyfan a nid y troseddwr yn y carchar yn unig.”

“Mae Invisible Walls yn anelu at weithio gyda'r unigolyn, y teulu a'r gymuned a'u cefnogi er mwyn lleihau'r tebygolrwydd y bydd carcharorion yn dychwelyd i droseddu a charchar ar ôl eu rhyddhau, ac mae hefyd yn gwella ansawdd bywydau rhai o'r bobl fwyaf difreintiedig yn ein cymunedau, ac felly y cymunedau eu hunain. Y gobaith hefyd yw y bydd y gweithgarwch penodol hwn yn helpu i darfu ar droseddu rhwng y cenedlaethau, sydd ynddo'i hun yn gweld nifer anghyfartal o fechgyn ifanc yn Ne Cymru dilyn eu tadau i fyd troseddu, y llysoedd a'r carchar.”

Fel rhan o'r ariannu, mae Barnardo’s Cymru ymysg y mudiadau a fydd yn darparu agwedd ymyraethau teuluol y prosiect Invisible Walls mewn partneriaeth â G4S yng Ngharchar EM y Parc. Bydd y gwaith hwn yn cyflwyno rhaglenni cefnogi magu plant a theuluol i helpu wrth ddatrys y materion negyddol a all ddylanwadu ar aelodau teuluoedd pan aiff rhywun i'r carchar.    

Gan groesawu'r newyddion am yr ariannu, meddai Cyfarwyddwr Barnardo’s Cymru, Yvonne Rodgers: "Pan aiff rhiant i'r carchar, gall effeithio'n ddifrifol ar y rhai sydd wedi'u gadael ar ôl. Croesawn y newyddion heddiw fel cam ymlaen sylweddol wrth ddatblygu gwasanaethau i helpu plant i oresgyn yr anawsterau y maent yn eu hwynebu pan fydd mam neu dad yn cael ei anfon i'r carchar."

“Mae cyswllt cryf rhwng rhieni yn y carchar a chanlyniadau negyddol i blant. Mae'r risg o ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu dramgwyddus tua tair gwaith yn fwy ar gyfer plant carcharorion o'i gymharu â'u cymheiriaid, ac maen nhw'n fwy na dwywaith yn fwy tebygol o fod â phroblemau iechyd meddwl. Mae bron dau draean o fechgyn gyda thad sydd wedi cael ei erlyn yn mynd ymlaen i droseddu os nad ydym yn ymyrryd. Yn ein profiad ni, darparu cefnogaeth i'r teulu cyfan yw'r ffordd orau o sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer plant sydd â rhiant yn y carchar."

Ychwanegodd: “Trwy fethu â lleddfu'r effaith ar blant o garcharu rhieni, rydym yn methu â thorri'r cylch - nid yn unig o ymddygiad troseddol, ond hefyd o sbectrwm cyfan o ganlyniadau gwael i blant. Mae angen i ni gydweithio i gynnig cefnogaeth i blant a theuluoedd carcharorion.”

Y FFEITHIAU:

  • Amcangyfrifir bod gan 160,000 o blant yn y DU riant yn y carchar[i]
  • Mae hyn yn fwy na dwywaith y nifer o blant mewn gofal a thros chwe gwaith y nifer o blant ar y gofrestr amddiffyn plant[ii]
  • Mae teuluoedd carcharorion yn agored i ansefydlogrwydd ariannol, tlodi, dyled ac aflonyddwch potensial i'w sefyllfa dai ac amcangyfrifir mai'r gost bersonol i deulu a pherthnasau carcharor yn £175 y mis[iii]
  • Amcangyfrifir bod 45 y cant o garcharorion yn colli cysylltiad â'u teuluoedd [iv]
  • O'i gymharu â'u cymheiriaid, mae tair gwaith yn fwy o risg y bydd plant carcharorion yn cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddol neu'n dioddef o broblemau iechyd meddwl a chanlyniadau andwyol eraill[v]
  • Mae 65 y cant o fechgyn gyda rhiant sydd wedi'i erlyn yn mynd ymlaen i droseddu [vi]

I gael mwy o wybodaeth am y Gronfa Loteri Fawr a sut y gallwch chi ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch y cyfleuster chwilio penodol i Gymru.

Further Information

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Oswyn Hughes 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100 miliwn yr wythnos mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
  • Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £27 biliwn wedi’i godi a mwy na 370,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
  • Mae Carchar Ei Mawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc yn garchar Categori B lleol sy'n cynnwys 1200 o oedolion gwryw (ag euogfarn yn unig), troseddwyr ifanc (ag euogfarn ac yn y ddalfa) a phobl ifanc (ag euogfarn ac yn y ddalfa). Agorodd y carchar ym mis Tachwedd 1997 fel yr unig garchar preifat yng Nghymru. Fe'i rheolir gan G4S ar ran y Gwasanaeth Carchar.
  • Mae'r carchar yn cyflogi 700 o aelodau staff (ac eithrio isgontractwyr), y mae llawer ohonynt wedi'u recriwtio o'r ardal leol. Mae Carchar Ei Mawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc yn cynnig cyfundrefn flaengar a heriol o fewn amgylchedd modern. Mae ystod o weithgareddau'n anelu at roi'r sgiliau allweddol angenrheidiol i droseddwyr leihau'r risg o aildroseddu ar ôl eu rhyddhau.

Troednodiadau
[i] Yn seiliedig ar Niven, S a Stuart, D (2005) Resettlement outcomes on release from prison in 2003. Canfyddiadau Ymchwil y Swyddfa Gartref, rhifyn 248, Llundain, y Swyddfa Gartref.
[ii] SCIE (2008) Children’s and families resource guide 11: Children of prisoners: Maintaining Family Ties.
[iii] Smith, R et al, (2007) Poverty and disadvantage among prisoners’ families, Caerefrog: JRF
[iv] Nacro (2000) The forgotten majority Llundain: Nacro
[v] SCIE (2008) Children’s and families resource guide 11: Children of prisoners: Maintaining Family Ties. Llundain: SCIE
[vi] Uned Eithrio Cymdeithasol (2002) Reducing the risk of reoffending by ex-prisoners. Llundain: Swyddfa'r Cabinet.


Tags

Buddiolwyr

  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Pobl Ifanc
  • Ariannu gwell
  • Iechyd a lles
  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
ADBORTH