- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 26 1 2012
Mae dau brosiect yng Nghymru'n rhannu mwy na £15.2 miliwn a ddyfarnwyd gan y Gronfa Loteri Fawr i brosiectau blaengar ar draws y DU sy'n cefnogi plant ifanc y maent yn tyfu i fyny mewn amgylchiadau anodd iawn ac sy'n helpu i drawsnewid eu cyfleoedd bywyd.
Mae Barnardos Cymru a Chymdeithas Plant a Phobl Ifanc Sir Gâr ymysg y 17 o brosiectau yn y DU y dyfarnwyd grantiau iddynt o dan rownd gyntaf rhaglen Dyfodol Gwell y Gronfa Loteri Fawr, a fydd yn darparu hyd at £26 miliwn ar gyfer cefnogaeth fwy cydlynol a chynharach i deuluoedd â phroblemau lluosog a chymhleth.
| Bydd cyfleoedd am gyfweliadau, ffilmio a lluniau gyda chynrychiolwyr y Gronfa Loteri Fawr a phrosiectau ar gael ar gais drwy gysylltu â Swyddfa Wasg y Gronfa. Mae teuluoedd sydd eisoes wedi elwa o gefnogaeth debyg ar gael i siarad am eu profiadau hefyd. |
Bydd cefnogaeth gan y Gronfa Loteri Fawr yn gweld teuluoedd yn derbyn cefnogaeth unigol wedi'i theilwra gan fudiadau sector gwirfoddol lleol sy'n gweithio mewn partneriaethau gyda gwasanaethau cyhoeddus. Bydd pob partneriaeth yn derbyn hyd at £900,000 dros dair i bum mlynedd i weithio gyda theuluoedd y mae eu plant hynaf rhwng pum a deng mlwydd oed. Bydd tua 8,000 o deuluoedd yn elwa o'r rownd hon o ddyfarniadau.
Bydd y rhaglen yn gweld rhai o'r elusennau mwyaf yn cydweithio â rhai o'r mudiadau cymunedol lleiaf a gwasanaethau cyhoeddus lleol i dreialu ystod o ymyraethau teuluol. Bydd rhai prosiectau'n ymwneud â chyflwyno rhaglenni magu plant seiliedig ar dystiolaeth, ailddylunio gwasanaethau ar draws ardaloedd cyfan neu estyn allan mewn ffyrdd newydd i'r teuluoedd hynny sydd wedi'u hymyleiddio fwyaf neu anoddaf eu cyrraedd.
Gyda'u grant o £867,114, bydd Barnardos Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag Action for Children a Chyngor Dinas Caerdydd i gefnogi 500 o deuluoedd yng Nghaerdydd dros dair blynedd. Bydd prosiect Eleri project (a enwyd ar ôl merch fach aelod o dîm y prosiect a anwyd ychydig cyn cyflwyno'r cais) yn cefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd gyda'r anghenion mwyaf cymhleth y maent yn aml mewn perygl o gael eu cylchdroi o gwmpas y system ddarpariaeth. Bydd y gefnogaeth yn grymuso'r teuluoedd i gymryd rheolaeth a newid eu bywydau, a helpu i drawsnewid bywydau.
Meddai Sally Jenkins, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Barnardos Cymru a Chydlynydd Prosiect Eleri: "Mae gwasanaethau cymunedol sylfaenol sy'n helpu i atal plant a theuluoedd bregus rhag profi anawsterau'n rhan allweddol o sicrhau nad ydym yn storio problemau ar gyfer cymdeithas yn y dyfodol. Mae gan y sector gwirfoddol rôl bwysig i'w chwarae wrth estyn allan i blant a theuluoedd ag anghenion lluosog, ac osgoi gwaethygu fel y bydd angen ymyrraeth a chefnogaeth fwy costus yn y dyfodol.
“Mae'r prosiect yma'n enghraifft dda o ddwy elusen plant sydd wedi'u hen sefydlu'n cydweithio yng Nghymru, gan gynllunio ar gyfer y dyfodol gyda'r nod o wneud gwir wahaniaeth i fywydau teuluoedd. Mae ymyrraeth gynnar i blant sy'n profi anawsterau'n hollbwysig, a than nawr mae'r pwyslais wedi bod ar ddarparu cefnogaeth ar gyfer plant hyn a'r rhieni. Golygodd hyn y bu'n rhaid i rai teuluoedd aros nes bod eu problemau'n fwy difrifol cyn cael y gefnogaeth yr oedd ei hangen arnynt."
Bydd grant o £890,978 a ddyfarnwyd i Gymdeithas Plant a Phobl Ifanc Sir Gâr yn eu galluogi i redeg y prosiect Securing Futures dros bedair blynedd. Nod y prosiect, sydd i ddechrau ar 1 Mai, yw diwallu anghenion teuluoedd lle mae'r rhieni'n profi anableddau dysgu neu broblemau iechyd meddwl bach neu gymedrol. Trwy ystod o wasanaethau integredig a chyfannol wedi'u cyflwyno gan nifer o wasanaethau ac asiantaethau sydd yn y sefyllfa orau i ddiwallu anghenion cefnogi penodol, bydd y prosiect yn cefnogi 260 o deuluoedd ar draws Sir Gâr ac yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Gâr.
Gan edrych ymlaen at fwrw 'mlaen gyda'r prosiect, meddai Tracy Pike, Rheolwr o fewn Cymdeithas Plant a Phobl Ifanc Sir Gâr: "Yn yr hinsawdd economaidd bresennol rydym yn gweld mwyfwy o deuluoedd wedi'u plagio gan ddyled, sydd wedyn yn effeithio ar eu lles. Felly, trwy weithio gyda theuluoedd sydd â phroblemau iechyd meddwl lefel isel (trallod meddyliol) megis iselder a phryder ysgafn, y gobaith yw y gallwn eu hatal rhag mynd yn ystadegyn iechyd meddwl fel oedolion. Hefyd, gyda thlodi plant yn uchel ar agenda'r llywodraeth, bydd y prosiect hwn yn cefnogi'r plant yma a allai gael eu hymyleiddio oherwydd problemau eu rhieni. Yn bendant gall gweithio gyda phlant iau fod yn fwy effeithiol nag aros nes eu bod yn cyrraedd llencyndod - rhagweithiol yn lle ymatebol."
Gan amlygu pwysigrwydd yr ariannu, meddai Syr Adrian Webb, Cadeirydd Cronfa Loteri Fawr Cymru ac Aelod Bwrdd y DU: "Rydym i gyd yn gwybod bod cyfleoedd bywyd plant yn cael eu heffeithio gan y sefyllfa y maent yn cael eu geni ynddi. Mae rhai teuluoedd yn delio â phroblemau cymhleth megis tai gwael, diweithdra hir dymor, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol a phroblemau iechyd amrywiol. Problemau i oedolion yw'r rhain yn bennaf ond mae ganddynt effaith ddifrifol ar fywydau eu plant."
“Mae plant sy'n byw o fewn y teuluoedd hyn ac o'u cwmpas yn tueddu i wneud yn waeth yn yr ysgol a dioddef o iechyd gwaeth, ac yn aml maent yn tyfu i fyny gyda phroblemau tebyg eu hunain. I wella cyfleoedd bywyd y plant hynny, mae angen darparu cefnogaeth gydlynol ar draws y teulu cyfan.”....Tudalen 2//mwy i ddilyn
Ychwanegodd: "Mae'r rhaglen hon yn ymwneud ag arloesedd a dod o hyd i ffyrdd llwyddiannus a chost-effeithiol o helpu'r teuluoedd hynny fel nad yw eu problemau'n dwysáu ac yn troi'n argyfwng. Bydd y gwerthusiad trwyadl sy'n rhan o'r gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod yr hyn a ddysgwn yn creu buddion ar gyfer plant a'u teuluoedd ymhell y tu hwnt i'r prosiectau eu hunain."
Meddai Naomi Eisenstadt, dylunydd gwreiddiol y rhaglen Cychwyn Cadarn ac un o'r arbenigwyr a helpodd y Gronfa Loteri Fawr i ddylunio'r rhaglen Dyfodol Gwell: "Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig am y rhaglen Dyfodol Gwell yw y bydd yn canolbwyntio ar blant rhwng pum a deng mlwydd oed, sydd o ran cefnogaeth yn aml yn cael eu hanghofio ar hyn o bryd.
“Mae'r oedran ysgol gynradd yn gam hollbwysig mewn plentyndod pan ellir cywiro problemau o hyd cyn iddynt fynd yn annatod. Os gallwch gyrraedd plant yn y grwp oedran hwn, mae cyfle da o hyd o drawsnewid eu bywydau a rhoi dyfodol gwell iddynt. Rwyf wrth fy modd fod y Gronfa Loteri Fawr wedi gwneud yr ymrwymiad hwn ac rwy'n siwr y bydd yn gwneud gwir wahaniaeth."
Mwy o Wybodaeth
Oswyn Hughes – Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu tua £100,000 bob dydd mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
- Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £27 biliwn wedi’i godi a mwy na 370,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags