Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Dyfarniad o £900,000 i wella cyfleoedd bywyd plant yng ngogledd Cymru

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
5 3 2012

Heddiw mae prosiect yng ngogledd Cymru sy'n cefnogi plant y maent yn tyfu i fyny mewn amgylchiadau anodd iawn yn derbyn bron £900,000 gan y Gronfa Loteri Fawr.

Dyfarnwyd £863,832 i brosiect Teulu Ni Mantell Gwynedd Cyf o dan y rhaglen Dyfodol Gwell a fydd yn darparu hyd at £26 miliwn ar gyfer cefnogaeth fwy cydlynol a chynharach i deuluoedd ag anghenion lluosog a chymhleth.

Bydd cefnogaeth gan y Gronfa Loteri Fawr yn gweld teuluoedd yn derbyn cefnogaeth unigol wedi'i theilwra gan fudiadau sector gwirfoddol lleol sy'n gweithio mewn partneriaethau gyda gwasanaethau cyhoeddus. Bydd pob partneriaeth yn derbyn hyd at £900,000 dros dair i bum mlynedd i weithio gyda theuluoedd y mae eu plant hynaf rhwng pum a deng mlwydd oed.

Bydd y rhaglen yn gweld rhai o'r elusennau mwyaf yn cydweithio â rhai o'r mudiadau cymunedol lleiaf a gwasanaethau cyhoeddus lleol i dreialu ystod o ymyraethau teuluol. Bydd rhai prosiectau'n ymwneud â chyflwyno rhaglenni magu plant seiliedig ar dystiolaeth, ailddylunio gwasanaethau ar draws ardaloedd cyfan neu estyn allan mewn ffyrdd newydd i'r teuluoedd hynny sydd wedi'u hymyleiddio fwyaf neu anoddaf eu cyrraedd.

Gyda'i grant, bydd yr elusen Mantell Gwynedd Cyf, yn gweithio mewn partneriaeth â Barnardo’s Cymru, Groundworks, SNAP Cymru, Cartref Bontnewydd, Action for Children a Chyngor Gwynedd, yn cefnogi 120 o deuluoedd yn ardaloedd gwledig y sir dros dair blynedd. Nod y prosiect yw helpu teuluoedd nad ydynt wedi derbyn ymyrraeth o'r blaen ynghyd â'r rhai sydd wedi derbyn cymorth y mae angen cefnogaeth ychwanegol arnynt i atal atgyfeiriadau yn y dyfodol.

Bydd anghenion addysgol, cymdeithasol ac economaidd teuluoedd yn cael eu hasesu ac yna byddant yn cael eu cyfeirio i wasanaethau priodol. Bydd yr ariannu hefyd yn cefnogi cynlluniau i wella sgiliau magu plant gyda phwyslais penodol ar weithio gyda thadau i wella'u perthynas gyda'u plant.

Ymysg y nodweddion eraill mae cyngor, cwnsela a phrofiadau cysylltiedig â'r amgylchedd megis garddio, pysgota, cerdded a dringo.

Meddai Carwyn Humphreys o Mantell Gwynedd Cyf: “Bydd y prosiect ‘Teulu Ni’ yn darparu cefnogaeth gydlynol ac wedi'i theilwra ar gyfer nifer o deuluoedd yng Ngwynedd. Bydd yn darparu cyfleoedd i asiantaethau lluosog weithio ar y cyd i sicrhau'r canlyniadau gorau ar gyfer y teuluoedd hyn".

Gan amlygu pwysigrwydd yr ariannu, meddai Syr Adrian Webb, Cadeirydd Cronfa Loteri Fawr Cymru ac Aelod Bwrdd y DU: "Rydym i gyd yn gwybod bod cyfleoedd bywyd plant yn cael eu heffeithio gan y sefyllfa y maent yn cael eu geni ynddi. Mae rhai teuluoedd yn delio â phroblemau cymhleth megis tai gwael, diweithdra hir dymor, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol a phroblemau iechyd amrywiol. Problemau i oedolion yw'r rhain yn bennaf ond mae ganddynt effaith ddifrifol ar fywydau eu plant.

“Mae plant sy'n byw o fewn y teuluoedd hyn ac o'u cwmpas yn tueddu i wneud yn waeth yn yr ysgol a dioddef o iechyd gwaeth, ac yn aml maent yn tyfu i fyny gyda phroblemau tebyg eu hunain. I wella cyfleoedd bywyd y plant hynny, mae angen darparu cefnogaeth gydlynol ar draws y teulu cyfan.”

Ychwanegodd:  "Mae'r rhaglen hon yn ymwneud ag arloesedd a dod o hyd i ffyrdd llwyddiannus a chost-effeithiol o helpu'r teuluoedd hynny fel nad yw eu problemau'n dwysáu ac yn troi'n argyfwng. Bydd y gwerthusiad trwyadl sy'n rhan o'r gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod yr hyn a ddysgwn yn creu buddion ar gyfer plant a'u teuluoedd ymhell y tu hwnt i'r prosiectau eu hunain."

Meddai Naomi Eisenstadt, dylunydd gwreiddiol y rhaglen Cychwyn Cadarn ac un o'r arbenigwyr a helpodd y Gronfa Loteri Fawr i ddylunio'r rhaglen Dyfodol Gwell: "Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig am y rhaglen Dyfodol Gwell yw y bydd yn canolbwyntio ar blant rhwng pum a deng mlwydd oed, sydd o ran cefnogaeth yn aml yn cael eu hanghofio ar hyn o bryd.

“Mae'r oedran ysgol gynradd yn gam hollbwysig mewn plentyndod pan ellir cywiro problemau o hyd cyn iddynt fynd yn annatod. Os gallwch gyrraedd plant yn y grwp oedran hwn, mae cyfle da o hyd o drawsnewid eu bywydau a rhoi dyfodol gwell iddynt. Rwyf wrth fy modd fod y Gronfa Loteri Fawr wedi gwneud yr ymrwymiad hwn ac rwy'n siwr y bydd yn gwneud gwir wahaniaeth."

Mwy o Wybodaeth

Oswyn Hughes – Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 227
Cyswllt y tu allan i oriau:  07500 951707
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu tua £100,000 bob dydd mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
  • Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £27 biliwn wedi’i godi a mwy na 370,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Plant
  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Pobl Ifanc
ADBORTH