Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Hwb Mawr i ddathliadau’r Jiwbî

Area:
Cymru
Programme:
Arian i Bawb Cymru
Release date:
23 2 2012

Mae grwpiau sy'n trefnu digwyddiadau i ddathlu Jiwbilî'r Frenhines a rhai eraill sy'n cefnogi prosiectau amgylcheddol ymysg y sawl sy'n elwa o'r rownd ddiweddaraf o arian y Loteri Genedlaethol.

At ei gilydd bydd 57 o brosiectau cymunedol ledled Cymru'n rhannu'r £238,625 a ddyfarnwyd o dan rownd ddiweddaraf Arian i Bawb, rhaglen grantiau bach y Gronfa Loteri Fawr (rhestr lawn y dyfarniadau ar ddiwedd y datganiad).

Bydd Cosh Callout yn Sir Benfro yn defnyddio ei £3,896 i drefnu pum digwyddiad cymunedol i ddathlu'r Jiwbilî ym mis Mehefin, gan gynnwys ffair ysgol, parti stryd a Gemau Olympaidd Brenhinol, a bydd Cyngor Tref Trefyclawdd ym Mhowys yn derbyn £3,700 i ariannu dathliad tebyg mewn canolfan gymunedol.

Ym Mlaenau Gwent, mae Made in Tredegar yn derbyn £4,956 i roi cyfle i bobl leol wneud ddwy ffilm fer am eu profiadau o fyw yn yr ardal, ac yn y sir gerllaw, bydd Clwb Cadwraeth Môr Torfaen a'r Cylch yn defnyddio £5,000 i brynu bad chwyddadwy er mwyn iddynt helpu i lanhau morlinau.

Bydd Swallow Laryngectomy Club yng Nghaerdydd yn derbyn £1,847 i fynd ag aelodau sy'n ailsefydlu ar ôl llawdriniaeth tynnu'r laryncs ar ymweliadau i gynyddu eu hyder, a bydd Cymdeithas Ffotograffiaeth Tybie yn Sir Gâr yn gwario £3,620 ar greu taflen am ddiwylliant Cymreig.

Mae beicwyr yng Ngwynedd ar fin elwa o grant o £1,262 i ariannu gwasanaeth rhentu beiciau o ganolfan Caban Cysgu Gerlan ym Methesda ac ar thema llesol i'r amgylchedd debyg, bydd CBC Ten Green Bottles Powys yn derbyn £4,950 i sefydlu canolfan ym  Maesyfed i ddangos i bobl leol sut i drin yr amgylchedd yn dda mewn ffordd gost-effeithiol.

Mae grantiau hefyd yn cael eu dyfarnu i grwpiau sy'n creu buddion ledled Cymru. Ymysg y rhain mae Grwp Dystroffi'r Cyhyrau Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a fydd yn gwario £5,000 ar sefydlu rhwydwaith cefnogi i ddioddefwyr ifanc a Ffibrosis yr Ysgyfaint Cymru, a fydd yn derbyn £3,0900 i gynyddu ymwybyddiaeth o’r clefyd anadlu.

Ar gyfer bob awr y mae pobl yn ei rhoi i'w cymuned byddant yn derbyn credyd amser yn gyfnewid sy'n rhoi mynediad iddynt i amser rhydd mewn digwyddiadau cymdeithasol, addysgol neu ddiwylliannol sy'n cefnogi'r cynllun.

Meddai Gareth Williams, Rheolwr Rhaglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Mae Arian i Bawb yn cael effaith gadarnhaol ledled Cymru. Mae'r arian yn helpu sefydlu grwpiau, cymdeithasau a chlybiau, gan hyrwyddo dysgu, cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli a helpu adeiladu cymunedau cryfach.”

Gellir lawrlwytho ffurflen ymgeisio'r rhaglen, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, ei chwblhau a'i dychwelyd yn uniongyrchol drwy e-bost i'r Gronfa Loteri Fawr. Mae hefyd ar gael ar ffurf copi caled.

Mae ffurflenni ymgeisio ar gael drwy fynd i www.arianibawb.org.uk neu ffonio 0845 4 10 20 30.

Rhestr lawn o ddyfarniadau a gyhoeddwyd heddiw yng Nghymru 
- 58KB

Mwy o Wybodaeth

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 224
Cyswllt y tu allan i oriau:  07500 951 707
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu £100,000 bob dydd mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
  • Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £26 biliwn wedi’i godi a mwy na 330,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol

Themâu

  • Iechyd a lles
ADBORTH