- Area:
- Cymru
- Programme:
- Arian i Bawb Cymru
- Release date:
- 26 6 2012
Mae grwpiau sy'n trefnu digwyddiadau i ddathlu'r Gemau Olympaidd a rhai eraill sy'n cefnogi pobl ag anawsterau dysgu ymysg y sawl sy'n elwa o'r rownd ddiweddaraf o arian Loteri.
At ei gilydd bydd 89 o brosiectau cymunedol ledled Cymru'n rhannu'r £328,117 a ddyfarnwyd o dan rownd ddiweddaraf Arian i Bawb, rhaglen grantiau bach y Gronfa Loteri Fawr (rhestr lawn y dyfarniadau ar ddiwedd y datganiad).
Bydd Chapter Cyfyngedig yng Nghaerdydd yn derbyn £4,450 i gynnal gwyl gymunedol i ddathlu Llundain 2012, a bydd Cymdeithas Radio Amatur Y Barri ym Mro Morgannwg yn defnyddio'r £4,795 a ddyfarnwyd iddi i brynu cyfarpar radio newydd er mwyn i bobl leol goffáu'r gemau.
Ac yn parhau â'r thema Olympaidd, bydd Cymdeithas Tenantiaid a Thrigolion Woods Row a Cambrian Court yn Sir Gâr yn derbyn £4,400 i ariannu taith i Lundain ar ôl y gemau i edrych o gwmpas y stadiwm.
Meddai Hannah Firth, Pennaeth Celfyddydau Byw a Gweledol yn Chapter: “Mae'r dyfarniad gan raglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr wedi galluogi Chapter i ddathlu gweithgareddau diwylliannol a chreadigol gyda chymunedau lleol ar raddfa na fyddai'n bosib fel arall.”
Bydd Lylac Ridge yn Rhisga, Caerffili, yn defnyddio peth o'i £4,717 i fynd yn ganolfan hyfforddi City and Guilds cofrestredig. Mae'n darparu gwasanaeth therapi anifeiliaid ar gyfer mwy na 300 o blant 6-11 oes sydd ag anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu. Bydd cyflyrau megis awtistiaeth, ADHD, dyslecsia a dyspracsia'n elwa o'r gwasanaeth, a fydd yn gweld pobl yn trin ac yn rhyngweithio ag anifeiliaid gan gynnwys asynnod bach, ceirw, moch, geifr a tsintsilas. Mae'r prosiect yn gweithio ar ymchwil gyda Chanolfan Ddarganfod Prifysgol Cymru, Casnewydd, sy'n anelu at ddarparu tystiolaeth ar fuddion y math hwn o therapi.
Meddai Rheolwr Addysg Anifeiliaid Lylac Ridge, Stacey Blunt: “Bydd y cofrestriad yn ein galluogi ni i gynnig achrediad NVQ i'n dysgwyr sydd â mynediad i'r ganolfan nad oes ganddynt y cyfle i gaffael cymwysterau fel arfer.”
Bydd Action First Plus yng Nghaerdydd yn derbyn £5,000 i sefydlu rhaglen fentora ar gyfer pobl ifanc ag anableddau dysgu ac, yn aros yn y brifddinas, bydd Ymddiriedolaeth Innovate Cyf yn defnyddio £4,971 i ddatblygu caffi menter gymdeithasol newydd i roi cyfleoedd hyfforddiant a phrofiad gwaith i bobl anabl.
Meddai Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Innovate, Ron Woods: "Rydym wrth ein boddau â'r newyddion. Bydd y caffi'n cynnig cyfle gwych i hyfforddi pobl ag anableddau dysgu a phobl ag anawsterau iechyd meddwl, gan gynnig profiad gwaith hynod werthfawr a'r cyfle i ddysgu sgiliau newydd mewn arlwyo a manwerthu."
Bydd Grwp Cyswllt Cymunedol Ystradgynlais ym Mhowys yn derbyn £4,700 ar gyfer grwp cefnogi a anelir at aelodau teulu goroeswyr trais rhywiol.
Yng Ngwynedd bydd Radio Ysbyty Gwynedd (Darlledu Ysbytai Arfon) yn gwario £4,193 ar ddarparu gwasanaeth darlledu 24 awr, a bydd Ysgol Melyd yn Sir Ddinbych yn derbyn £3,791 i osod campfa awyr agored ar dir yr ysgol.
Meddai Gareth Williams, Rheolwr Rhaglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Mae Arian i Bawb yn cael effaith gadarnhaol ledled Cymru. Mae'r arian yn helpu sefydlu grwpiau, cymdeithasau a chlybiau, gan hyrwyddo dysgu, cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli a helpu adeiladu cymunedau cryfach.”
Gellir lawrlwytho ffurflen ymgeisio'r rhaglen, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, ei chwblhau a'i dychwelyd yn uniongyrchol drwy e-bost i'r Gronfa Loteri Fawr. Mae hefyd ar gael ar ffurf copi caled. Mae ffurflenni ymgeisio ar gael drwy fynd i www.arianibawb.org.uk neu ofyn amdani trwy ffonio 0845 4 10 20 30.
Rhestr lawn y dyfarniadau
- 100KB
Mwy o Wybodaeth
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 224
Cyswllt y tu allan i oriau: 07500 951 707
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu £100,000 bob dydd mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
- Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags