- Area:
- Cymru
- Programme:
- Pawb a'i Le
- Release date:
- 2 5 2008
Bydd pobl sy’n dioddef ag afiechyd ar yr ysgyfaint yng Nghymru yn derbyn mwy o gefnogaeth i reoli eu cyflwr a bydd miloedd o Sgowtiaid ifanc ar draws y wlad yn elwa o hyfforddiant, diolch i hwb ariannol o £3 miliwn, a gyhoeddir heddiw trwy raglen Pawb a’i Le y Gronfa Loteri Fawr.
Bydd cyfanswm o £3,195,150 yn cael ei rannu rhwng un ar bymtheg o brosiectau ar draws Cymru, sy’n anelu at ddwyn pobl ynghyd i wneud cymunedau yn gryfach ac i wella amgylcheddau gwledig a threfol.
Diolch i’w dyfarniad o £245,427, bydd Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yn rhedeg prosiect sy’n anelu at gyrraedd mwy o bobl sy’n byw gydag afiechyd ysgyfaint hirdymor a gwanychol a’u gofalwyr yng Nghymru, gan eu cefnogi i sicrhau’r wybodaeth y mae ei hangen arnynt i reoli eu cyflwr a gwella eu hansawdd bywyd. Trwy gyflwyno grwpiau cefnogi cyfoedion newydd, 'Breathe Easy', o fewn ardaloedd lle fo niferoedd mawr yn dioddef ag afiechyd ar yr ysgyfaint, bydd y prosiect yn bodloni anghenion cleifion a gofalwyr trwy ddarparu cefnogaeth a gwybodaeth ynghylch afiechyd ar yr ysgyfaint a budd-daliadau lles. Bydd grwpiau Breathe Easy newydd a chyfredol yn cael eu cefnogi i ddod ynghyd a galluogi aelodau i ddod o hyd i ffyrdd o reoli eu cyflwr a mynd i'r afael â’u problemau gyda’i gilydd. Bydd aelodau’r grŵp yn cael eu hyfforddi a'u cefnogi i ddylanwadu’n weithredol ar wasanaethau resbiradol yn lleol ac yn genedlaethol yng Nghymru.
Gyda’u dyfarniad o £142,218, bydd Cyngor Sgowtiaid Cymru yn rhedeg prosiect allgymorth ‘Arwain y Ffordd’, a fydd yn cyflogi cydlynwyr gwirfoddol i recriwtio a hyfforddi 360 o wirfoddolwyr ar draws Cymru a fydd yn eu tro yn cyflwyno rhaglen Sgowtiaid yn uniongyrchol i tua 1350 o bobl ifanc. Bydd y gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi fel Arweinwyr, Arweinwyr Cynorthwyol ac Ymddiriedolwyr i fod yn rhan o dîm cefnogi hanfodol yn cyfrannu at gynaladwyedd y grwpiau sgowtiaid a sefydlir o’r newydd.
Eir i'r afael â’r problemau y mae ffoaduriaid neu geiswyr lloches benywaidd yn eu hwynebu yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe, diolch i'r £247,411 a ddyfarnwyd i Oxfam. Bydd y prosiect yn gweithio mewn partneriaeth gyda Sefydliadau Ffoaduriaid Cymunedol o fewn dinasoedd a bydd yn cynnwys darparu canolfannau galw i mewn a gweithgareddau i ostwng unigedd cymdeithasol. Bydd merched yn cael eu hyfforddi i ddod yn hyrwyddwyr ar gyfer eu cymunedau ac yn eiriolwyr ar gyfer gwell gwasanaethau i fodloni anghenion penodol y buddiolwyr targed. Bydd y prosiect hefyd yn cynnig hyfforddiant ar gyfer darparwyr gwasanaeth rheng flaen fel eu bod hwy’n gallu ystyried rhyw'r person yn well wrth gynllunio a chyflwyno gwasanaethau ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Dywedodd Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd Pwyllgor Pawb a’i Le, Janet Reed, wrth gyfeirio at effaith bositif y bydd y dyfarniadau yn ei gael ar gymunedau ledled Cymru: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru. Mae Pawb a’i Le yn gwireddu ein haddewid o ddefnyddio arian y Loteri i adfywio ac ailfywhau cymunedau, mynd i'r afael ag anfantais ar ei ben a gadael etifeddiaeth barhaus. Rwy’n siŵr y bydd y dyfarniadau hyn yn cael effaith bositif ar fywydau cymaint o bobl yn y gymuned a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”
Mae rhaglen Pawb a’i Le gwerth £66 miliwn yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 a £1 miliwn i ystod eang o brosiectau cymunedol. Am wybodaeth bellach ynghylch rhaglen Pawb a’i Le a sut y gallwch wneud cais am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch gyfleuster chwilio penodol i ‘Gymru’.
Am wybodaeth bellach am y prosiectau a sut i gael manylion cyswllt yr unigolion a sefydliadau sy’n gysylltiedig, cysylltwch â Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr ar y rhifau isod.
Cliciwch yma i lwytho rhestr lawn o brosiectau a ariannwyd heddiw (dogfen Word)
- 38KB
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwn i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Ffôn Testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion:
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 250,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags