- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 12 11 2007
Gall sefydliadau llawr gwlad ledled Cymru dorchi eu llewys a bwrw i mewn i weddnewid eu mannau lleol wrth i'r Gronfa Loteri Fawr gyhoeddi heddiw fod dyfarniadau hynod lwyddiannus Llefydd i Natur yn dychwelyd.
Bydd esgidiau glaw a rhawiau wrth law wrth i'r Gronfa Loteri Fawr ymuno â’r BBC i wneud gwerth £5 miliwn o grantiau gwyrdd ar gael ar gyfer yr ymgyrch Llefydd i Natur a gaiff ei harwain gan y BBC. Mae’r cynllun grant yn canolbwyntio ar bobl leol yn creu mannau lleol ar gyfer eu hunain ac ar gyfer bywyd gwyllt. O erddi cefn i barciau dinas, tir diffaith i goedwig, mae cymunedau yn newid y llefydd ble maent yn byw ac yn mynd yn agosach at natur.
Heno ar BBC2, bydd rhaglen hynod boblogaidd Autumnwatch y BBC yn cyhoeddi’r arian yma gan y Gronfa Loteri Fawr – gan annog pobl ar draws y wlad i ymgeisio am arian a chwarae rhan gyda bywyd gwyllt ym mha bynnag ffordd y dewisant.
Fel cyflwynydd rhaglenni teledu enwog megis Iolo’s Welsh Safari ar BBC Cymru a Crwydro ar S4C, does neb sy’n fwy angerddol am fywyd gwyllt a’r amgylchedd na Iolo Williams. Mae wrth ei fodd yn gwisgo ei esgidiau cerdded a’i ysbienddrych i baratoi ei hun ar gyfer taclo elfennau, tirwedd garw a bywyd gwyllt Cymru.
Gan annog pobl Cymru i ymgeisio am arian, dywedodd Iolo Williams: “Plannwch goeden, gwnewch gartrefi i adar, ystlumod neu bryfed....mae’r arian arbennig yma gan y Gronfa Loteri Fawr yn awr ar gael, ac mae llawer iawn y gallwn ni oll ei wneud. Gall eich bro leol, maes chwarae, parc neu alotiad ddod yn warchodfa natur ar gyfer y bywyd gwyllt sydd yn eich ardal gyda chymorth gan y Gronfa Loteri Fawr, felly gwnewch gais heddiw!”
Mae gweddnewidiadau gwyrdd lleol wedi blodeuo ar draws y DU yn sgil arian blaenorol Llefydd i Natur gyda dros £5 miliwn eisoes wedi’i rannu rhwng 656 o grwpiau sydd wedi ei galluogi nhw i feithrin amrediad arloesol o brosiectau amgylcheddol. Mae’r drydedd rownd yn edrych fel y bydd yn fwy poblogaidd nag erioed a bydd y rownd nesaf o gratiau’r Loteri yn creu sylfaen newydd o lefydd i natur.
Dywedodd Huw Vaughan Thomas, Cadeirydd Cymru y Gronfa Loteri Fawr: “Mae’r fenter hon wedi dal sylw pobl ar hyd a lled y DU, a disgwylir i'w phoblogrwydd godi wrth i gymaint o gymunedau deimlo effaith arian y Loteri. Mae Llefydd i Natur yn brosiectau ar raddfa weddol fach sy’n cael eu harwain gan grwpiau lleol – gyda nifer ohonynt yn derbyn cymorth gan y Loteri am y tro cyntaf.
“Gall grwpiau lleol ar draws Cymru yn awr edrych ymlaen at ganolbwyntio ymdrechion cymunedol ar wneud gwir wahaniaeth i'w hardal leol.”
Un prosiect o Gymry sydd wedi elwa o’r arian yma yw Ysgol Gynradd Gymunedol Woodlands yng Nghwmbrân, Gwent. Bydd y prosiect yn cael ei lansio yn swyddogol yr wythnos yma (Dydd Mawrth 13 Tachwedd) ac mae’r ysgol yn un o dri phrosiect yng Nghyngor Sir Torfaen i elwa o’r rhaglen. Mae eu dyfarniad o bron i £10,000 wedi cael ei wario ar drawsnewid darn o dir dyfrllyd nad oedd yn cael ei ddefnyddio mwyach yn ymyl yr ysgol i mewn i fan hyfryd a gwyrdd y gall yr ysgol a’r holl gymuned ei fwynhau.
Mae mwy o fanylion ar Lefydd i Natur ar gael yn www.bbc.co.uk/breathingplaces ac mae rhestr lawn o’r grantiau a ddyfernir drwy’r rhaglen hon ar gael yn www.cronfaloterifawr.org.uk
Gwybodaeth pellach
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr: 020920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau swyddfa: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £2 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob 24 awr ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws y DU bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 280,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Llefydd i Natur y BBC
Mae Llefydd i Natur y BBC yn ymgyrch pedair blynedd i ysbrydoli pobl i gysylltu â natur. Datblygwyd yr ymgyrch mewn partneriaeth ag ystod anferth o sefydliadau bywyd gwyllt a chadwraeth, ac mae’n annog cynulleidfaoedd newydd i chwarae eu rhan wrth wneud un peth dros natur, a rhoi'r cyfle i greu Llefydd i Natur y BBC ar draws y DU.
Mae Llefydd i Natur yn werthfawr i fywyd gwyllt a phobl. Mae’n gymuned weithredol o bobl yn eu creu, yn eu mwynhau ac yn eu cynnal.
Llefydd i Natur Dinasoedd – Lansiwyd eleni, mae 15 o ddinasoedd ar draws y DU yn dod yn fwy cyfeillgar i fywyd gwyllt. Mewn Blwyddyn o Weithredu mae miloedd o bobl yn addo gwneud ‘Un peth dros natur’ – o osod blwch adar yn yr ardd i ymuno â grŵp cadwraeth. Am fanylion llawn a gwybodaeth ynghylch pob lleoliad unigol gwiriwch y wefan www.bbc.co.uk/breathingplaces
Tags